‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
Your Custom Text Here
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
Adda ac Efa gan Edvard Munch (1863-1944).
EFA - Genesis 2:20-25 a 3:6-7
Lluniodd Duw Adda o lwch y tir, ac er bod digon o anifeiliaid ac ati o gwmpas, "nid da bod y dyn ar ei ben ei hun." ‘Roedd angen ‘ymgeledd cymwys’ arno. Felly, lluniodd Duw Efa allan o ochr Adda. Nid o’i droed y lluniwyd hi, iddi fod yn ddarostyngedig iddo, nac ychwaith o’i ben, iddi fod yn feistres arno, ond o’i ochr er mwyn iddynt fod yn gydradd.
Sylwch ar ymateb Adda. Dyma’r tro cyntaf inni glywed hwn yn siarad. "Dyma hi", meddai. Wrth ei fodd! Heb os ac oni bai dyma "ymgeledd cymwys. Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd" (Genesis 2:23a). Gwêl ei hunan ynddi; gwêl y berthynas annatod sydd rhyngddynt. Bellach, mae ei dynged ef ynghlwm wrth ei thynged hithau.
"Yr oedd y dyn a’i wraig ill dau yn noeth ..." Yng nghwmni eu Creawdwr mae’r ddau yn hollol ddiamddiffyn ond yn hollol ddiogel, "ac nid oedd arnynt gywilydd" (Genesis 2:25). Onid braf pe bai hon yn frawddeg glo’r stori? Dyma sut y dylai stori dda orffen bob amser! Yn anffodus, mynd ymlaen a wna hon ac wrth fynd ymlaen gwaethygu a wna pethau.
Daw'r sarff, "yn fwy cyfrwys na’r holl fwystfilod gwyllt" (Genesis 3:1). Gwyddoch yr hanes! Wedi gosod mwy o bwys ar eiriau llyfn y sarff nag ar air Duw, cymerodd Efa o ffrwyth y goeden yng nghanol yr Ardd a’i roi, hefyd, i Adda. Sylwch nad oedd angen rhyw lawer o berswâd ar Adda, "a bwytaodd yntau" yn ddigon bodlon. Na, nid hudoles oedd Efa, ac Adda druan yn ddiniwed. Mae’r ddau mor ffôl â’i gilydd, yn dilyn wrth gynffon y sarff i ganol storm o ofidiau.
CAIN ac ABEL - Genesis 4:9
Ganwyd meibion i Adda ac Efa: Cain ac Abel. Cwestiwn oesol cyfoes yw cwestiwn Cain: "Ai fi yw ceidwad fy mrawd?" Wrth drafod Genesis 1:3, gofynnodd hen athro Ysgol Sul i’w ddosbarth, sut y gellid gwybod i sicrwydd bod y nos wedi darfod a’r dydd wedi dechrau? "Efallai", meddai un aelod o’r dosbarth, "bod y nos wedi darfod a’r dydd wedi dechrau pan i chi’n gwybod, o weld anifail yn y pellter, mae dafad ydyw, ac nid ci?" "Na", atebodd yr athro. Cynigodd un arall, "Pan i chi’n gallu gweld coeden yn y pellter, a gwybod mai coeden afalau yw hi nid coeden gellyg." "Na", atebodd yr athro eto. "Wel", meddai un arall o’r disgyblion wedi syrffedu, "pryd felly?" "Pan i chi’n gallu edrych i wyneb person, a gweld mae eich brawd neu chwaer ydyw. Oherwydd os na allwch weld hynny, mae’n nos arnom."
Bore Sul am 10:30, Oedfa Foreol dan arweiniad y Parchedig Eirian Rees (Efail Isaf). Testun gwers yr Ysgol Sul yr wythnos aeth heibio oedd Iesu’n gwneud swper (Mathew 14:13-21). Y Sul hwn bydd gennym dwll mawr yn y to! (Marc 2:1-12). Liw nos (18:00), edrychwn ymlaen at gael derbyn o genadwri'r Parchedig Gethin Rhys (Cytûn). Boed bendith ar y Sul.
Byddwn fel eglwys yn gyfrifol am baratoi a gweini te i’r digartref yn y Tabernacl prynhawn Sul am 14:30.
Nos Lun (25/9; 19:00-20:30) PIMS: Taith i Lansannan a Llanrwst. Dechrau'n brydlon am 7 gan ddychwelyd toc wedi 8 am baned a chacen yn y festri.
Nos Fawrth (26/9; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’ gan ddechrau gydag Efa, Cain ac Abel. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Ateb: Dafydd am Goliath
1 Samuel 17:36
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb am 17:30.
Minny'd?'
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
Cwmni bach mentrus ddaeth ynghyd i ‘Genesis’ neithiwr.
Diben y cyfarfod oedd mynd i’r afael â diwinyddiaeth Martin Luther (1483-1546)!
Gwnaethpwyd hynny trwy gyfrwng 'Rhosyn Luther'.
Enghraifft o 'Rhosyn Luther'
Wedi mymryn o esboniad cafwyd trafodaeth frwd a buddiol cyn bwrw ati i blygu a sisyrnu’r brysur nes creu bob un ei 'Rhosyn Luther' ei hun.
Bu hwyl a chwerthin; bu dysgu a bendith.
Rhywfaint o gynnyrch 'Genesis'
Bore Sul am 10:30, Oedfa Foreol ein Gŵyl Flynyddol: Oedfa lawn fel wy! Cacen pen-blwydd a thorth o fara, heb anghofio bod angen ti ag e’ ‘to get there together’. Gweddïau’r cardiau chwarae yn arwain at homili’r Gweinidog: ‘London grace’ a gras Caerdydd. (Salm 8)
Liw nos (18:00), edrychwn ymlaen at gael derbyn o genadwri pregethwr gwadd ein Gŵyl Flynyddol - y Parchedig Denzil John. Gweinidog cadarn Eglwys Tabernacl, Caerdydd. Gwiw gennym ei groesawu atom. ‘Rydym yn gwybod y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregeth werthfawr. Gweddïwn am wenau Duw ar yr oedfa. Hyfrydwch hefyd fydd cael cwmni ein brodyr a chwiorydd o eglwysi’r ddinas nos Sul; diolch am eu cefnogaeth ohonom. Hyfryd yw pob cyfle i gyd-addoli a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth.
Nos Lun (18/9; 19:30): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol. Testun ‘Genesis' cyntaf y tymor newydd yw 'Martin Luther a'r Diwygiad Protestannaidd'.
Bore Gwener (22/9; 11:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn 'Terra Nova' cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Samuel Wells: How then shall we live? (Canterbury, 2016). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Islam and Islamist Extremism (t.3-11).