'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (10/9 am 9:30 yn y Festri).

Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.

Samariad oedd un o’r deg. ‘Doedd y clefyd ddim yn cydnabod unrhyw wahaniaeth rhwng Samariad ac Iddew - daw gofid â phobl at ei gilydd, er iddynt fod ar wahân â phellter mawr rhyngddynt â’i gilydd. Dydy Iesu chwaith ddim yn cydnabod gwahaniaethau wrth iachau. Dim ond un a ddiolchodd. Awgryma’r Gweinidog yn ei homili fore Sul (10:30) nad stori am ddiolchgarwch ac anniolchgarwch yw hon, ond stori am ufudd-dod ac anufudd-dod. Gorchmynnodd Iesu i’r deg i fynd at yr offeiriaid. Bu naw ohonynt yn ufudd. Buodd un - y Samariad - yn anufudd. Wrth yr anufudd hwn, mae Iesu’n dweud. Cod a dos ar dy hynt, dy ffydd sydd wedi dy iachau di (Luc 17:19). Iachawyd deg, achubwyd un. Efelychwn anufudd-dod bendigedig yr hwn a ddaeth yn ei ôl (17:18).

Edna St. Vincent Millay (1892-1950); Fredrick II (1712-1786); J.B. Priestly (1894-1984) a George Bernard Shaw (1856-1950); Elizabeth Peabody (1804-1894) a Michael Jordan (g.1963) - fe ddônt, bob un, i’r Oedfa Hwyrol (18:00) i i greu ohonom eglwys â only a Christ distance - trwch blewyn - rhyngom â’n gilydd ag eraill mewn ffydd, gobaith a chariad.

PIMS nos Lun (11/9; 19:00-20:30 yn y Festri): Croesawu, ffarwelio, Pitsa a Oh, the places you’ll go! gan Dr Seuss (1904-91).

Koinônia amser cinio dydd Mercher (13/9): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.

Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd: Yr Athro Wyn James: "Williams Pantycelyn: Carwr ar Grwydr" (14/9; 19:30) yng Nghapel Salem, Treganna.. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.

Babimini bore Gwener (15/9; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: Gwrthrychau ein Hoedfa fore Sul fydd calon bren, drych, llechen lân a hen Adroddiad. Wrth y bwrdd, hyfrydwch gennym, y Sul hwn eto fydd cael derbyn Tanwen i gyflawn aelodaeth o Eglwys Iesu Grist. Hefyd, cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.

Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.

Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r Oedfa.

Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.

Wedi cyfnod hapus o addoli ar y cyd, dros y Sul bydd eglwysi Cymraeg y ddinas yn cydio o’r newydd yn ei gwasanaeth a gweinidogaeth. Fel cyfrwng i wneud hynny bydd y Gweinidog yn arwain ffyddloniaid yr Oedfa Hwyrol ar bererindod i Ynys Enlli. Cofiwch, yn yr Oesoedd Canol, pan oedd yr arferiad o bererindota yn ei anterth, roedd tair pererindod i Enlli gyfwerth ag un i Rufain!

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol. Boed iddynt a’r Gweinidog amlygu’r cyfleodd sydd o’n blaen, ein hannog i gydio ynddynt, gan ymroi gyda’n gilydd i osod ein doniau at wasanaeth yr Achos, gan gymryd cyfrifoldeb o fewn yr eglwys, a chofio amdani mewn gweddi.