SALM

Salm 150

Down at y Salm olaf ac ni allem ddymuno rhagorach diweddglo i’r ‘flwyddyn waith’ hon. Salm fawr yw Salm 150 - mawr ei gweledigaeth, ond cwbl ddiwastraff ei geiriau. Gelwir ar y nef a daear i atseinio mawl i’r Duw mawr, sydd mor nerthol ei weithredoedd ac mor ogoneddus ei fawredd. Yna, gwahoddir yr offerynnau i ymuno: utgorn, nabl a thelyn, pibau a symbalau. Nid anghofir y ddawns. Cofiwn fod lle pwysig iawn, erioed, i ddawns mewn defod grefyddol! Yn olaf gelwir ar bopeth byw i foliannu’r ARGLWYDD - gyda hynny chyrhaeddwn yr haleliwia derfynol: Molwch yr ARGLWYDD!

COED YR ARDD

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

'Adam and Eve hide their Nakedness' gan Ruth Collet (1909-2001)

Y ffurfafen oedd las, yr hin oedd deg - gosodwyd dyn i ddechrau byw, yn ôl awdur Genesis, mewn gardd - gardd o drefniant Duw. Caed ynddi goed defnyddiol a dymunol, ac yn eu plith yn tyfu Pren y Bywyd a phren Gwybodaeth Da a Drwg.

Ymguddiodd Adda ac Efa o olwg Duw ymysg coed yr ardd (Genesis 3:18). Mae yna dristwch yn perthyn i’r adnod hon - tristwch yn tarddu nid dim ond o’r ffaith iddynt deimlo’r awydd i guddio, ond eu bod nhw wedi dewis cuddio ymysg coed yr ardd. Cynnyrch Duw oedd coed yr ardd, ei rodd yntau iddynt, a dyma’r ddau hun - ti a minnau - yn eu defnyddio i guddio rhagddo!

Myn y Beibl fod Duw yn cuddio rhag ei bobl. ‘Roeddwn wedi arfer meddwl fod Duw yn cuddio rhagom oherwydd ein drygioni: ...ond eich camwedd chwi a ysgarodd rhyngoch a’ch Duw, a’ch anwiredd chwi a barodd iddo guddio’i wyneb rhag gwrando arnoch (Eseia 59:2). Bellach, dw i’n credu fod Duw yn cuddio rhagom oherwydd ein bod yn dewis ymwneud â’r da mewn ffordd mor ddrwg, nes gwthio Duw oddi wrthym.

Onid, dyna ergyd Dameg y Wledd Fawr (Luc 14:15-24)? Wrth ddarllen, gwelwn mai pethau da ynddynt eu hunain a gadwodd y gwahoddedigion o’r wledd - prynu darn o dir, profi ychen newydd, priodi. Nid oedd dim yn ddrwg am yr un o’r pethau hyn. Yn wir, pethau da oeddent; ond ‘roedd defnyddio’r pethau da hyn mewn ffordd ddrwg yn ddigon i’w cadw bob un o’r Wledd fwyaf un!

Credaf fod Duw o hyd yn plannu gerddi i’w bobl, ac yn eu cyfoethogi â choed defnyddiol a dymunol, ac yn eu plith mae Pren y Bywyd a Phren Gwybodaeth Da a Drwg. Mynnwn ninnau ... o hyd fyth ... ddefnyddio ei roddion yntau i ni er mwyn cuddio rhagddo.

Sut bynnag a ddarllenwn stori Adda ac Efa - yn llythrennol, neu fel arall - rhaid cydnabod a chyhoeddi nad yw gwers y stori wedi ei dysgu o gwbl - sef mwynhau gardd Duw, heb droi cefn ar Arglwydd yr ardd.

Mynnwn y cyfle i ddod allan o fysg y coed. Cydnabyddwn o'r newydd mai Duw sydd biau ni, ac ar ei drugareddau/yr ydym oll yn byw (Elfed 1860-1953 Caneuon Ffydd 130)

'THERE'S NO 'I' IN 'TEAM''

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Mae’n ddihareb, os nad wir yn ystrydeb ym myd busnes: There’s no "I" in "team". Dyma ddatganiad sydd yn gwbl gywir pe bawn dim ond sôn am lythrennau a geiriau. Pe bawn o ddifri yn meddwl am ystyr y geiriau hyn, buasai’n rhaid cyfaddef mai anodd yw creu a chynnal tîm heb yr unigolion sydd yn perthyn iddo. Heb bob FI a oes NI?

Ar y naill law, fe all y FI ddiflannu ym mhlygion y NI fawr. Gwyddom fod nifer o bobl yr eglwys leol yn hapus ddigon i ddiflannu i’r NI fawr. Ar y llaw arall, fe all y NI cael ei lethu gan hunanbwysigrwydd ambell FI fawr. Mae ambell Lone Ranger yn creu lletchwithdod i eglwys gyfan.

Yr ateb, mae’n amlwg ddigon yw cadw FI â NI mewn tensiwn creadigol. Gweithiwn orau pan wel pob FI yn yr eglwys leol fod ganddo/ganddi gyfraniad i’r eglwys gyfan - NI. A hefyd, fod gan NI'r eglwys gyfan rywbeth i’w roi i bob FI. Pob FI a’i le, a’i lais, a’i waith, a hynny er lles y NI.

Weithiau mae’n rhaid i’r FI ildio i ewyllys y NI; adegau eraill rhaid i’r FI geisio arwain, neu dynnu’r NI i gyfeiriad newydd a bendithiol. Dyna athrylith Anghydffurfiaeth. Fel pobl Dduw ein gwaith yw cadw NI a FI mewn perffaith gynghanedd. Ein gwaith yw cynnal NI'r eglwys leol, wrth amddiffyn rhyddid a chyfraniad pob FI a berthyn i’r NI fawr hyfryd hwnnw.

SALM

Salm 148

Yn rhan olaf Salm 148 (7-14) geilw arweinydd y côr am fwy o leisiau i chwyddo’r gân. Ystyriwch y rhestr faith o adnod 7 ymlaen. Gelwir yn gyntaf ar y dreigiau (gan gynnwys y ddraig goch, siŵr iawn!) o’r dyfnderau, y tân a’r cenllysg, yr eira a’r mwg, y gwynt, y mynyddoedd, a’r coed a phob creadur i leisio’u mawl. Yna daw’r brenhinoedd a’r barnwyr ac yn olaf lleda’r arweinydd ei freichiau a galw ar bawb o bobl y byd, o’r ieuengaf i’r hynaf. Testun datganiad y côr cyfan yw oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafedig (Salm 148:13). Pwy sy’n medru canu orau yn y côr mawr hwn? Pobl Dduw wrth gwrs. Pam? Oherwydd mae pobl Dduw sy’n agos ato (Salm 148:14). Felly: Molwn yr ARGLWYDD!