CADW DRWS

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Aeth y weddi honno’n ddisylw gennyf ers blynyddoedd bellach - rhag fy nghywilydd! Gosodwyd y geiriau ar ddrws ffrynt capel Minny Street yn 2009 â ninnau nodi 175 o flynyddoedd o dystiolaeth Gristnogol yma yn y Waun Ddyfal, Caerdydd:

O! Dduw, gwna ddrws y tŷ hwn yn ddigon llydan i dderbyn pawb y mae angen cariad dynol a chymdeithas dda arnynt; yn ddigon cul i gadw allan bob eiddigedd, balchder ac ymryson. Gwna ei drothwy yn ddigon llyfn fel na fyddo’n faen tramgwydd i blant, nac i draed crwydredig, ond yn ddigon garw i gadw grym y temtiwr draw. O Dduw, gwna’r drws hwn yn borth i’th deyrnas dragwyddol di.

(Eglwys Sant Steffan, Walbrook, Llundain. Priodolir y geiriau gwreiddiol i’r offeiriad o emynydd, Thomas Ken, 1637-1711)

... dewiswn, meddai’r Salmydd gynt, gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb (Salm 84:10 WM). Sylweddolodd y Salmydd fod y lle distadlaf yn Nhŷ Dduw yn well na gorau’r byd. Digon iddo oedd bod ar y trothwy, er y gwyddai mai tu mewn yr oedd gorau’r Deml - y Drugareddfa, y cynteddau, a’r Cysegr Sancteiddiolaf. Ni chwenychai fwy na bod wrth y drws; dim ond hynny, ac ‘roedd dim ond hynny yn well na gorau’r byd i gyd.

Gwahanol yw’r syniad am Dŷ Dduw yn y Testament Newydd i’r hyn ydoedd ym meddwl y Salmydd. Carreg aelwyd yw ei sail yn y Testament Newydd, a phresenoldeb a bendith Tad yw ei ogoniant pennaf. Nid Tŷ i’r teilwng mohono, ond i’r annheilwng, yr afradlon a’r digartref. Mor bwysig felly yw gwaith y rhai sydd am gadw drws yn nhŷ fy Nuw. Anodd meddwl am waith pwysicach - hwyluso’r ffordd i eraill ddod i mewn i dderbyn croeso’r Tad. Yn wir, dyna le pawb ohonom a gafodd ei fendith Ef: wrth y drws.

Y cwestiwn pwysicaf i bob un ohonom yw hwn: a ydym yn ei gwneud yn haws neu yn anoddach i eraill i dderbyn croeso’r Tad? Holed pob un ef ei hun. A yw ein ffordd o grefydda yn rhwystr neu’n gymorth i eraill dderbyn o gariad ein Tad? Gwell ganwaith yw bod wrth y drws na bod wrthi’n ceisio diogelu cornel fach gynnes i ni ein hunain ar yr aelwyd! Yn ôl awgrym dameg y Mab Afradlon, wrth y drws y mae’r Tad hefyd; ac yno yr erys hyd nes y daw ei blant i gyd adref. Yno wrth y drws, y gwelir ei orau Ef, ei lygaid trugarog, ei lawenydd a’i groeso hael.

Wn i ddim pwy sydd biau’r geiriau, ond heriol hyfryd ydynt:

To keep God’s door -

I am not fit.

I would not ask for more

Than this -

To stand or sit

Upon the threshold of God’s House

Out of the reach of sin,

To open wide His door

To those who come,

To welcome home

His children and His poor.

SALM

Salm 146

‘Haleliwia’ yw gair cyntaf ac olaf y Salm brydferth hon: Molwch yr ARGLWYDD (Salm 146:1, 10). Ni chawn sôn y rhan hon o Lyfr y Salmau am gystudd a chyfyngder y Salmydd. Mae'r awyrgylch yn wahanol, yr awyr yn glir a Duw sy'n cael y sylw pennaf: Molwch yr ARGLWYDD. Nid yw moliant yn gyflawn oni bydd yn hawlio'r cyfan ohonom - y meddwl, y teimlad, a'r ewyllys. Os bydd ein meddwl yn effro i dreiddio dirgelwch ac ystyr ein bodolaeth; os cynhesir ein teimladau mewn cytgord dwfn, ac os symbylir ni i weithredu'n unol ag ewyllys Duw, dyna ‘Haleliwia’ go iawn.

(OLlE)

SALM

Salm 29

Yn y Salm hon gelwir arnom i foli Duw sy’n llywodraethu’r byd yn gyfan gwbl. Wedi rhoi siars i ymgrymu i’r ARGLWYDD, dyry’r Salmydd restr o’r elfennau sy’n ddarostyngedig iddo. Duw nerthol ydyw, ac ar ddiwedd y Salm gofynnai’r Salmydd yntau am nerth i fyw’n ddiogel.

Yng nghyfieithiad yr Esgobion o’r Salm hon mae effaith y cymal Llef yr ARGLWYDD ar ddechrau rhes o adnodau yn grymuso’r ymdeimlad o fawredd anhygoel Duw. Serch hynny, mae eglurder y cyfieithiadau mwy diweddar yn gymorth i ni ddeall y Salm. Mae’r pwyslais ar Dduw fel y gwir Dduw. Ef yn unig all ein bendithio. Tueddwn i fynd ar ôl 'duwiau' o bob math. Ta waeth pa enwau a roddwn ar y 'duwiau' hyn, rhaid chwilio ein ffordd o fyw a holi’n hunain o ddifri a gaiff y 'duwiau' hyn fwy o le a chyfle na’r gwir Dduw.

 

HYDDYSG ANWYBODAETH

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Mae gwybodaeth yn beryglus. Mae gwybodaeth wyddonol yn wybodaeth beryglus. Fe wyddom bellach sut i hollti’r atom a phlethu genynnau, sut i glonio bywyd a thrawsblannu organau. Ymchwilio di-ball, ac un llwyddiant yn mynnu’r llall. Ond be’ wnawn i a’r wybodaeth hon a’r gallu a ddaw yn ei sgil? Wrth gwrs fod ffin rhwng beth a ellir ei wneud a beth a ddylid ei wneud, ond ychydig iawn o warchodwyr sydd ar batrôl ar hyd y gororau.

Mae ychydig benodau cyntaf y Beibl yn adrodd hanes Duw yn gosod terfynau i wybodaeth, ac felly i allu pobl. Mae Duw yn gorchymyn i Adda ac Efa i gadw draw o bren gwybodaeth da a drwg. Mae Duw yn drysu holl gynlluniau adeiladwyr Babel. Pam? Oherwydd bod Duw yn malio amdanom, ac yn gwybod fod gwybod gormod yn angheuol i’r enaid meidrol.

Daw hyn a ni’n naturiol at fath arall o wybodaeth beryglus - gwybodaeth o Dduw. Mae’r mwyafrif llethol o bobl a fu’n ddyfal a dygn yn hel gwybodaeth am Dduw yn cyrraedd yr un casgliad: fod ein gwybodaeth ohono’n tyfu wrth gydnabod ein hanallu i wybod amdano. Fe ddown i’w adnabod yn well wrth gydnabod ein hanallu i’w adnabod.

Dros bum cant o flynyddoedd yn ôl, roedd offeiriad o’r enw Nicholas (Nicolaus Cusanus neu Nicholas o Cusa 1401 - 1464) yn hwylio yn ôl adre i’r Almaen o Gaer Cystennin. Cafodd brofiad ysgytiol o Dduw ar fwrdd y llong; profiad a newidiodd ei ffordd o feddwl a byw yn llwyr. Cafodd brofiad go iawn o’r Duw a fu, cyn hynny, yn ddim amgenach na chymysgwch o hen goel a chredo benthyg. ‘Roedd y profiad yn gwbl gyfan, gyfan gwbl tu hwnt i afael geiriau a delweddau, ond mentrodd Nicholas ysgrifennu o gwmpas y profiad yn ei gyfrol enwocaf: De Docta Ignorantia; Ar Hyddysg Anwybodaeth.

Nid darllen hawdd mo Ar Hyddysg Anwybodaeth. Mae’r gyfrol yn uwd tew o fformiwlâu mathemategol, ffigyrau geometric a therminoleg astrus ddiwinyddol. Hawdd iawn yw tagu arno. Ond, hyd yn oed wrth fras ddarllen fe ddaw prif bwyslais Nicholas i’r amlwg: Mae Duw y tu hwnt i’n gallu i’w adnabod. Mae pobl wrth geisio gwybod amdano fel tylluanod yn syllu i fyw llygad yr haul. Cawn ein dallu gan ei ogoniant bob tro, ond er waethaf hynny daliwn ati i ddal ati i syllu. Nid pechod mo hyn, meddai Nicholas, ond dyhead am Dduw, gan Dduw, i wybod yr hyn nis gwyddom. Hen newynu yn nwfn enaid pawb ohonom ydyw, hen awydd yn crynhoi yn y galon: mae gwybod am wybod mwy. Pendraw hyn , awgryma Nicholas yw hyddysg anwybodaeth. Gwybod nad ydym yn gwybod, ond dyheu am wybod yr hyn nis gwyddom.

Argyhoeddiad Nicholas yw mai’r bobl dwpaf yn y byd yw’r bobl sy’n cogio gwybod y cyfan. Mae eu hargyhoeddiad hwy am beth sydd yn wir yn magu cynnen rhyngddynt ac eraill ac yn eu rhwystro rhag dysgu unrhyw beth newydd. Dyma wybodaeth eithriadol beryglus. Mae rhaglenni newyddion y dydd yn llawn ohonynt a'i anhyddysg wybodaeth. Nid ydynt yn gwybod nad ydynt yn gwybod. Dyfeisiant inni uffern na welodd Dante namyn gysgod o’i ffyrnigrwydd hi.

Yn ôl y ffisegydd Richard Feynman, mae ansicrwydd yn rhinwedd bwysig mewn gwyddoniaeth a chrefydd. Wrth wybod nad ydych yn gwybod mae cyfle i wybod mwy. A dyna pam mae Ffenomen yn annog ac yn amddiffyn yr hyn a ddisgrifir ganddo fel athroniaeth gall o anwybodaeth - a satisfactory philosophy of ignorance - athrawiaeth sydd yn sicrhau fod drws yr hyn nis gwyddom heb ei gloi.

Nid yw hyddysg anwybodaeth yn ein diogelu rhag gwaethaf gwybodaeth beryglus, mae terfysg, rhyfel a dinistr amgylcheddol yn brawf o hynny. Ond mae hyddysg anwybodaeth yn cynnig gobaith a nod i’r rheini ohonom sydd yn chwilio ac yn wir ddyheu am yr addysg orau posib. Dechrau gwir ddoethineb yw gwybod nad ydym yn gwybod.

(OLlE)