'THERE'S NO 'I' IN 'TEAM''

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Mae’n ddihareb, os nad wir yn ystrydeb ym myd busnes: There’s no "I" in "team". Dyma ddatganiad sydd yn gwbl gywir pe bawn dim ond sôn am lythrennau a geiriau. Pe bawn o ddifri yn meddwl am ystyr y geiriau hyn, buasai’n rhaid cyfaddef mai anodd yw creu a chynnal tîm heb yr unigolion sydd yn perthyn iddo. Heb bob FI a oes NI?

Ar y naill law, fe all y FI ddiflannu ym mhlygion y NI fawr. Gwyddom fod nifer o bobl yr eglwys leol yn hapus ddigon i ddiflannu i’r NI fawr. Ar y llaw arall, fe all y NI cael ei lethu gan hunanbwysigrwydd ambell FI fawr. Mae ambell Lone Ranger yn creu lletchwithdod i eglwys gyfan.

Yr ateb, mae’n amlwg ddigon yw cadw FI â NI mewn tensiwn creadigol. Gweithiwn orau pan wel pob FI yn yr eglwys leol fod ganddo/ganddi gyfraniad i’r eglwys gyfan - NI. A hefyd, fod gan NI'r eglwys gyfan rywbeth i’w roi i bob FI. Pob FI a’i le, a’i lais, a’i waith, a hynny er lles y NI.

Weithiau mae’n rhaid i’r FI ildio i ewyllys y NI; adegau eraill rhaid i’r FI geisio arwain, neu dynnu’r NI i gyfeiriad newydd a bendithiol. Dyna athrylith Anghydffurfiaeth. Fel pobl Dduw ein gwaith yw cadw NI a FI mewn perffaith gynghanedd. Ein gwaith yw cynnal NI'r eglwys leol, wrth amddiffyn rhyddid a chyfraniad pob FI a berthyn i’r NI fawr hyfryd hwnnw.

SALM

Salm 148

Yn rhan olaf Salm 148 (7-14) geilw arweinydd y côr am fwy o leisiau i chwyddo’r gân. Ystyriwch y rhestr faith o adnod 7 ymlaen. Gelwir yn gyntaf ar y dreigiau (gan gynnwys y ddraig goch, siŵr iawn!) o’r dyfnderau, y tân a’r cenllysg, yr eira a’r mwg, y gwynt, y mynyddoedd, a’r coed a phob creadur i leisio’u mawl. Yna daw’r brenhinoedd a’r barnwyr ac yn olaf lleda’r arweinydd ei freichiau a galw ar bawb o bobl y byd, o’r ieuengaf i’r hynaf. Testun datganiad y côr cyfan yw oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafedig (Salm 148:13). Pwy sy’n medru canu orau yn y côr mawr hwn? Pobl Dduw wrth gwrs. Pam? Oherwydd mae pobl Dduw sy’n agos ato (Salm 148:14). Felly: Molwn yr ARGLWYDD!

CADW DRWS

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Aeth y weddi honno’n ddisylw gennyf ers blynyddoedd bellach - rhag fy nghywilydd! Gosodwyd y geiriau ar ddrws ffrynt capel Minny Street yn 2009 â ninnau nodi 175 o flynyddoedd o dystiolaeth Gristnogol yma yn y Waun Ddyfal, Caerdydd:

O! Dduw, gwna ddrws y tŷ hwn yn ddigon llydan i dderbyn pawb y mae angen cariad dynol a chymdeithas dda arnynt; yn ddigon cul i gadw allan bob eiddigedd, balchder ac ymryson. Gwna ei drothwy yn ddigon llyfn fel na fyddo’n faen tramgwydd i blant, nac i draed crwydredig, ond yn ddigon garw i gadw grym y temtiwr draw. O Dduw, gwna’r drws hwn yn borth i’th deyrnas dragwyddol di.

(Eglwys Sant Steffan, Walbrook, Llundain. Priodolir y geiriau gwreiddiol i’r offeiriad o emynydd, Thomas Ken, 1637-1711)

... dewiswn, meddai’r Salmydd gynt, gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb (Salm 84:10 WM). Sylweddolodd y Salmydd fod y lle distadlaf yn Nhŷ Dduw yn well na gorau’r byd. Digon iddo oedd bod ar y trothwy, er y gwyddai mai tu mewn yr oedd gorau’r Deml - y Drugareddfa, y cynteddau, a’r Cysegr Sancteiddiolaf. Ni chwenychai fwy na bod wrth y drws; dim ond hynny, ac ‘roedd dim ond hynny yn well na gorau’r byd i gyd.

Gwahanol yw’r syniad am Dŷ Dduw yn y Testament Newydd i’r hyn ydoedd ym meddwl y Salmydd. Carreg aelwyd yw ei sail yn y Testament Newydd, a phresenoldeb a bendith Tad yw ei ogoniant pennaf. Nid Tŷ i’r teilwng mohono, ond i’r annheilwng, yr afradlon a’r digartref. Mor bwysig felly yw gwaith y rhai sydd am gadw drws yn nhŷ fy Nuw. Anodd meddwl am waith pwysicach - hwyluso’r ffordd i eraill ddod i mewn i dderbyn croeso’r Tad. Yn wir, dyna le pawb ohonom a gafodd ei fendith Ef: wrth y drws.

Y cwestiwn pwysicaf i bob un ohonom yw hwn: a ydym yn ei gwneud yn haws neu yn anoddach i eraill i dderbyn croeso’r Tad? Holed pob un ef ei hun. A yw ein ffordd o grefydda yn rhwystr neu’n gymorth i eraill dderbyn o gariad ein Tad? Gwell ganwaith yw bod wrth y drws na bod wrthi’n ceisio diogelu cornel fach gynnes i ni ein hunain ar yr aelwyd! Yn ôl awgrym dameg y Mab Afradlon, wrth y drws y mae’r Tad hefyd; ac yno yr erys hyd nes y daw ei blant i gyd adref. Yno wrth y drws, y gwelir ei orau Ef, ei lygaid trugarog, ei lawenydd a’i groeso hael.

Wn i ddim pwy sydd biau’r geiriau, ond heriol hyfryd ydynt:

To keep God’s door -

I am not fit.

I would not ask for more

Than this -

To stand or sit

Upon the threshold of God’s House

Out of the reach of sin,

To open wide His door

To those who come,

To welcome home

His children and His poor.

SALM

Salm 146

‘Haleliwia’ yw gair cyntaf ac olaf y Salm brydferth hon: Molwch yr ARGLWYDD (Salm 146:1, 10). Ni chawn sôn y rhan hon o Lyfr y Salmau am gystudd a chyfyngder y Salmydd. Mae'r awyrgylch yn wahanol, yr awyr yn glir a Duw sy'n cael y sylw pennaf: Molwch yr ARGLWYDD. Nid yw moliant yn gyflawn oni bydd yn hawlio'r cyfan ohonom - y meddwl, y teimlad, a'r ewyllys. Os bydd ein meddwl yn effro i dreiddio dirgelwch ac ystyr ein bodolaeth; os cynhesir ein teimladau mewn cytgord dwfn, ac os symbylir ni i weithredu'n unol ag ewyllys Duw, dyna ‘Haleliwia’ go iawn.

(OLlE)