SALM

Salm 29

Yn y Salm hon gelwir arnom i foli Duw sy’n llywodraethu’r byd yn gyfan gwbl. Wedi rhoi siars i ymgrymu i’r ARGLWYDD, dyry’r Salmydd restr o’r elfennau sy’n ddarostyngedig iddo. Duw nerthol ydyw, ac ar ddiwedd y Salm gofynnai’r Salmydd yntau am nerth i fyw’n ddiogel.

Yng nghyfieithiad yr Esgobion o’r Salm hon mae effaith y cymal Llef yr ARGLWYDD ar ddechrau rhes o adnodau yn grymuso’r ymdeimlad o fawredd anhygoel Duw. Serch hynny, mae eglurder y cyfieithiadau mwy diweddar yn gymorth i ni ddeall y Salm. Mae’r pwyslais ar Dduw fel y gwir Dduw. Ef yn unig all ein bendithio. Tueddwn i fynd ar ôl 'duwiau' o bob math. Ta waeth pa enwau a roddwn ar y 'duwiau' hyn, rhaid chwilio ein ffordd o fyw a holi’n hunain o ddifri a gaiff y 'duwiau' hyn fwy o le a chyfle na’r gwir Dduw.

 

HYDDYSG ANWYBODAETH

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Mae gwybodaeth yn beryglus. Mae gwybodaeth wyddonol yn wybodaeth beryglus. Fe wyddom bellach sut i hollti’r atom a phlethu genynnau, sut i glonio bywyd a thrawsblannu organau. Ymchwilio di-ball, ac un llwyddiant yn mynnu’r llall. Ond be’ wnawn i a’r wybodaeth hon a’r gallu a ddaw yn ei sgil? Wrth gwrs fod ffin rhwng beth a ellir ei wneud a beth a ddylid ei wneud, ond ychydig iawn o warchodwyr sydd ar batrôl ar hyd y gororau.

Mae ychydig benodau cyntaf y Beibl yn adrodd hanes Duw yn gosod terfynau i wybodaeth, ac felly i allu pobl. Mae Duw yn gorchymyn i Adda ac Efa i gadw draw o bren gwybodaeth da a drwg. Mae Duw yn drysu holl gynlluniau adeiladwyr Babel. Pam? Oherwydd bod Duw yn malio amdanom, ac yn gwybod fod gwybod gormod yn angheuol i’r enaid meidrol.

Daw hyn a ni’n naturiol at fath arall o wybodaeth beryglus - gwybodaeth o Dduw. Mae’r mwyafrif llethol o bobl a fu’n ddyfal a dygn yn hel gwybodaeth am Dduw yn cyrraedd yr un casgliad: fod ein gwybodaeth ohono’n tyfu wrth gydnabod ein hanallu i wybod amdano. Fe ddown i’w adnabod yn well wrth gydnabod ein hanallu i’w adnabod.

Dros bum cant o flynyddoedd yn ôl, roedd offeiriad o’r enw Nicholas (Nicolaus Cusanus neu Nicholas o Cusa 1401 - 1464) yn hwylio yn ôl adre i’r Almaen o Gaer Cystennin. Cafodd brofiad ysgytiol o Dduw ar fwrdd y llong; profiad a newidiodd ei ffordd o feddwl a byw yn llwyr. Cafodd brofiad go iawn o’r Duw a fu, cyn hynny, yn ddim amgenach na chymysgwch o hen goel a chredo benthyg. ‘Roedd y profiad yn gwbl gyfan, gyfan gwbl tu hwnt i afael geiriau a delweddau, ond mentrodd Nicholas ysgrifennu o gwmpas y profiad yn ei gyfrol enwocaf: De Docta Ignorantia; Ar Hyddysg Anwybodaeth.

Nid darllen hawdd mo Ar Hyddysg Anwybodaeth. Mae’r gyfrol yn uwd tew o fformiwlâu mathemategol, ffigyrau geometric a therminoleg astrus ddiwinyddol. Hawdd iawn yw tagu arno. Ond, hyd yn oed wrth fras ddarllen fe ddaw prif bwyslais Nicholas i’r amlwg: Mae Duw y tu hwnt i’n gallu i’w adnabod. Mae pobl wrth geisio gwybod amdano fel tylluanod yn syllu i fyw llygad yr haul. Cawn ein dallu gan ei ogoniant bob tro, ond er waethaf hynny daliwn ati i ddal ati i syllu. Nid pechod mo hyn, meddai Nicholas, ond dyhead am Dduw, gan Dduw, i wybod yr hyn nis gwyddom. Hen newynu yn nwfn enaid pawb ohonom ydyw, hen awydd yn crynhoi yn y galon: mae gwybod am wybod mwy. Pendraw hyn , awgryma Nicholas yw hyddysg anwybodaeth. Gwybod nad ydym yn gwybod, ond dyheu am wybod yr hyn nis gwyddom.

Argyhoeddiad Nicholas yw mai’r bobl dwpaf yn y byd yw’r bobl sy’n cogio gwybod y cyfan. Mae eu hargyhoeddiad hwy am beth sydd yn wir yn magu cynnen rhyngddynt ac eraill ac yn eu rhwystro rhag dysgu unrhyw beth newydd. Dyma wybodaeth eithriadol beryglus. Mae rhaglenni newyddion y dydd yn llawn ohonynt a'i anhyddysg wybodaeth. Nid ydynt yn gwybod nad ydynt yn gwybod. Dyfeisiant inni uffern na welodd Dante namyn gysgod o’i ffyrnigrwydd hi.

Yn ôl y ffisegydd Richard Feynman, mae ansicrwydd yn rhinwedd bwysig mewn gwyddoniaeth a chrefydd. Wrth wybod nad ydych yn gwybod mae cyfle i wybod mwy. A dyna pam mae Ffenomen yn annog ac yn amddiffyn yr hyn a ddisgrifir ganddo fel athroniaeth gall o anwybodaeth - a satisfactory philosophy of ignorance - athrawiaeth sydd yn sicrhau fod drws yr hyn nis gwyddom heb ei gloi.

Nid yw hyddysg anwybodaeth yn ein diogelu rhag gwaethaf gwybodaeth beryglus, mae terfysg, rhyfel a dinistr amgylcheddol yn brawf o hynny. Ond mae hyddysg anwybodaeth yn cynnig gobaith a nod i’r rheini ohonom sydd yn chwilio ac yn wir ddyheu am yr addysg orau posib. Dechrau gwir ddoethineb yw gwybod nad ydym yn gwybod.

(OLlE)

SALM

Salm 140

Gelynion yw’r boen yn y Salm hon. Nid gelynion personol o angenrheidrwydd oherwydd gall y salmydd fod yn son am elynion ei bobl fel ei elynion ei hun. Ym Meibl yr Esgobion esbonnir mai Dafydd sydd yma’n cwyno am Saul ond yn wir ‘roedd gan Israel gynt gynifer o elynion ym mhob cyfnod fel nad yw’n sicr beth y dyddiad a chefndir y Salm.

Disgrifir y gelynion yn fyw iawn. Mae eu tafod yn finiog fel sarff (Salm 140:3) a’u gwenwyn fel gwenwyn gwiber. Mae eu maglau a’u rhwydi ym mhob man! Yn syml, gelynion ystrywgar a dichellgar ydynt. Er waethaf hyn, mae hyder y Salmydd yn Nuw, a guddiodd ei ben o’r blaen yn nydd brwydr (Salm 140:7b). Mae’r Salmydd yn deisyf: O! ARGLWYDD, paid â rhoi eu dymuniad i’r drygionus, paid â llwyddo eu bwriad. (Salm 140:8) Mae’r fath bosibilrwydd yn ei gynddeiriogi eilwaith (Salm 140:9-11) a rhydd fynegiant eglur i’w ddialedd. Ond, diffydd fflach ei gasineb ar unwaith a dychwel eto i bwyso’n dawel hyderus ar gyfiawnder Duw a’r cynhalith sydd i’r cyfiawn yn ei gwmni.

Y FFORDD O 'A' I 'B'

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Mae gan yr athronydd Groegaidd, Zeno o Elea (490CC-425CC) baradocs enwog. Mae Zeno’n dadlau mae cwbl amhosibl yw i berson adael un lle a chyrraedd rhywle arall!

Mae ei dystiolaeth i’r fath ddatganiad yn syml a gosgeiddig. Chi’n barod? Os mae person yn gadael pwynt A, er mwyn cyrraedd pwynt B, mae rhaid iddo, yn gyntaf deithio i bwynt, hanner ffordd rhwng A a B: pwynt C. Ond, cyn iddo gyrraedd C, mae’n rhaid iddo deithio i bwynt sydd hanner ffordd rhwng A ac C: Ch. Ond cyn iddo gyrraedd Ch, mae’n rhaid iddo deithio i bwynt hanner ffordd rhwng A ac Ch, sef D. Mae’n siŵr eich bod yn dechrau gweld rhesymeg Zeno! Fe ellir torri’r pellter rhwng dau bwynt yn hanner tro ar ôl tro, o’r herwydd ni ellir cyrraedd pwynt B o bwynt A. Mae llawer gormod o gamau ar hyd y ffordd, a phob un cam yn llai na’r llall.

Mae paradocs Zeno yn ddarlun o’n rhwystredigaeth fel pobl ffydd. Gwyddom i sicrwydd mai pobl ar daith ydym - pererinion. Gwyddom hefyd, ac eto i sicrwydd, nad teithio mohonom, ond troi a throi yn ein hunfan. Hanfod ein ffydd yw cyd-gerdded â Christ. Mae’r daith honno’n ymddangos yn enbyd o anodd i bobl fel ni. Ond, ein taith ni yw hon. Gwyddom mai pobl Iesu ydym. Gwyddom mai dim ond ar bapur mae paradocs Zeno’n gweithio. Mae pobl ffydd, mewn ffydd, yn medru’r daith o A i B.

Ar bapur, fe ellir torri’r pellter rhwng dau bwynt eto ac eto, ac eto fyth. Mewn bywyd, gellir torri’r pellter rhwng dau bwynt lawr o filoedd i gannoedd; o ddegau o filltiroedd i’r filltir; a’r filltir honno lawr i’r llathen, a lawr eto hyd nes cyrraedd maint eich troed. Ar ôl hynny, gosodwn un troed o flaen y llall, ac ymlaen â ni o A i B.

Dyma’n ffydd ni: gosod un troed o flaen y llall. Cerddwn gyda Christ gorau gallwn, gan ddal gafael, gorau gallwn ar y bobl hynny, tebyg ac annhebyg sydd hefyd wedi mentro mentro gyda Christ.

Cerddwn ymlaen - un cam bychan bach ar y tro - gan anelu at gyrraedd rhywle na ddylai o ddifri fodoli - Teyrnas Dduw. Cymodir ‘yno’ cnawd ac ysbryd, nef a daear. Fesul cam yr ydym yn teithio. Ni ddylai’r Cristion ymboeni gormod am gyrraedd. Dylem ganolbwyntio’n hytrach ar y daith, y teithio: canlyn Crist. Dilyn Crist yw’r nod i ni. Dilyn sydd ddigon. Fesul cam. Rhedeg y ras sydd bwysig, nid torri’r record.

‘Roedd gan Iesu ei rybuddion a druan ohonom oni wnawn gyfrif ohonynt. Ond gwych o beth mewn cyfnod anodd fel hwn yw sylwi iddo bwysleisio o hyd mae gwahoddiad yw ffydd yn ei hanfod; gwahoddiad i’w ddilyn ef: Canlyn fi (Mathew 9:9). Canlynwn gan wybod nad bodloni ar ddangos ffordd wnaeth Iesu Grist, ond bod yn ffordd; y ffordd i ni. Ef yw’r ffordd o bob A i bob B. Canlynwn ef.

(OLlE)

SALM

Salm 101

Gorseddu brenin yw cefndir y salm hon. Ceir ynddi amlinelliad o raglen waith y brenin newydd. Araith y brenin ydyw ar gychwyn ei deyrnasiad. Byrdwn ei araith yw’r ffordd berffaith. (Salm 101:2). Rhydd ddisgrifiad manwl ohoni gan ddatgan bydd ef yn rhodio’r ffordd honno, a bydd yn disgwyl i’w gydweithwyr yn ei wasanaeth ei rhodio hefyd. Pwysleisio ffyddlondeb a chyfiawnder a wna gan addo bod yn gywir o galon ac onest. Rhydd sylw i bethau o werth ac ni fydd croeso i’r ffôl a’r gwyrgam o galon. Bydd yn llawdrwm ar yr enllibus ac ni fydd yn goddef y ffroenuchel a’r balch. Y rhai fydd yn deyrngar i Dduw - ffyddloniaid y tir (Salm 101:6a) - a gaiff ei sylw. Ei amcan yw glanhau Jerwsalem o bob drygioni a sefydlu teyrnas ddaionus gan gychwyn gydag ef ei hun, trwy ymrwymo ei hun i geisio daioni ac ymwrthod â’r drwg.