SALM

Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel (Salm 37:3; buddiol buasai darllen adnodau 1-9).

Er mwyn nofio mae’n rhaid bwrw eich hun i’r dŵr; ymddiried eich hun i’r dyfnder cyn profi bod y dŵr yn cynnal. Nid oes geiriau i’r weddi fwyaf elfennol, meddai Colin Morris: It’s wordless. It is simply letting go, resting back, floating like a tired swimmer, trusting ... Dyna brofiad y Salmydd hefyd: Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD ac efe a’th gynnal (Salm 55:22). Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni ... (Salm 37:3).

Profiad o ddiogelwch a chael ei gynnal oedd eiddo Gobeithiol yn Taith y Pererin. Mentrodd Gobeithiol groesi’r afon ddofn, ddu. O’i chanol y mae’n galw ar ei gyfaill ar y lan: Ymwrola, fy mrawd, rwy’n teimlo’r gwaelod ac y mae’n gadarn. Gweddïwn am gael teimlo'r breichiau tragwyddol oddi tanom.

(OLlE)

DIWRNOD RHYNGWLADOL JAZZ (1)

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Hanner ‘Munud i Feddwl’ heddiw! Rhagymadrodd i’r ‘Munud i Feddwl’ go iawn ddydd Sul. Pam? Diwrnod Rhyngwladol Jazz yw dydd Sul!

Every bad situation, meddai Amy Winehouse rywdro, is a blues song waiting to happen ...

Bu sawl sefyllfa wael ...

Yn lleol a ledled byd bu gormod o lawer o sefyllfaoedd gwael. Hawdd ddigon felly, buasai canu a chyd-ganu’r blues. Nid y blues mo ffydd, ond jazz. Darfu’r blues gyda’r llef Gorffennwyd (Ioan 19:30). A phan gyflëir y gwirionedd hwnnw’n gywir a chlir, cawn ein donio â chlust i glywed jazz ffydd, gobaith a chariad y tu hwnt i sŵn y blues beunyddiol.

 ninnau’n baglu o blues i blues, daw budd a bendith o ystyried cyfieithiad J. D. Vernon Lewis o eiriau Frances R. Havergal; geiriau sydd yn dangos dawn a gallu Duw i droi’r blues yn jazz:

Gwawr wedi hirnos, cân wedi loes,

Nerth wedi llesgedd, coron 'r ôl croes;

Chwerw dry'n felys, nos fydd yn ddydd,

Cartref 'r ôl crwydro, wylo ni bydd.

Gyda’r geiriau, cofiwn yn dyner weddigar am y galarus a’r gofidus ymhell ac agos, a chofiwn hefyd mai Gwawr wedi hirnos, cân wedi loes; jazz wedi’r blues yw hanfod ein ffydd.

(OLlE)