GRYMIOL FFYDD ... DIWYD GARIAT ... YMAROS EICH GOBAITH
'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
Gan goffau eich grymiol ffydd, a’ch diwyd gariat ac ymaros eich gobaith yn ein Arglwydd Iesu Crist, rac bron Duw, sef ein Tat. (1 Thesaloniaid 1:3 Cyfieithiad William Salesbury)
‘Rydym yn diolch eleni am i Gymru, 450 mlynedd yn ôl, gael y Testament Newydd yn ei hiaith ei hun. Er nad ydym ni heddiw’n defnyddio’r cyfieithiad hwnnw, mawr yw’n dyled i William Salesbury (c. 1520 – c. 1584) a Richard Davies (c. 1505 – 1581) am ei roi i’r genedl. Ar gyfieithiad 1567 y seiliodd yr Esgob William Morgan ei gyfieithiad ef yn 1588.
Rhaid cael y Beibl yn ein hiaith ein hunain. Ni all ddweud dim wrthym oni fedrwn ddeall ei eiriau. Ond un peth yw deall y geiriau. Peth arall yw deall y neges, a chyfieuir y neges yn berffaith yn yr adnod uchod. Gellid, yn lled ddiogel awgrymu mae’r llythyr hwn gan Paul i’r eglwys yn Thesalonica yw’r llythyr cynharaf (ac eithrio llythyr Iago o bosib). Pe bawn yn gosod y Testament Newydd yn nhrefn amser, buasai’n edrych rhywbeth yn debyg i hyn: Iago - c. 51 O.C. 1 Thesaloniaid - 51-52. 2 Thesaloniaid - 53-54. Galatiaid - 55. 1 Corinthiaid - 57. 2 Corinthiaid - 57. Rhufeiniad - 57-58. Philipiaid - 62-63. Colosiaid - 62-63. Philemon - 62-63. Effesiaid - 62-63. Luc - 63. Actau - 64. 1 Timotheus - 65. Titus - 65. 2 Timotheus - 66. Marc - 66. Mathew - 67. Hebreaid- 67. 1 Pedr - 67-68. 2 Pedr - 68. Jwdas - 68. Datguddiad Ioan - 68. Ioan - 85. Epistolau Ioan - 90-95.
Pymtheg mlynedd cyn ysgrifennu’r Efengyl gyntaf, ‘roedd Paul wedi dechrau ysgrifennu ei lythyron. Mae’r llythyron cynnar hyn felly, yn mynd â ni’n nes at Iesu na hyd yn oed yr efengylau. Rhoddant ddarlun inni o’r ffordd ‘roedd yr Eglwys, ryw chwarter canrif ar ôl marw Iesu o Nasareth, yn meddwl am Grist, yn credu ynddo, ac yn ceisio’i wasanaethu. Gwelwn yn yr adnod hon - o beth allasai fod yn bennod agoriadol y Testament Newydd - mor fawr oedd Crist yng ngolwg y Cristnogion hyn. Cawn ganddynt rysáit byw’r Atgyfodiad a’r ôl Sul y Pasg: grymiol ffydd, diwyd gariat ac ymaros ein gobaith, neu os oes yn well gennych: y cwbl dych chi'n ei wneud am eich bod chi'n credu ... gwaith caled sy'n deillio o'ch cariad ... a’r gallu i ddal ati am fod eich gobaith yn sicr yn yr Arglwydd Iesu Grist (1 Thesaloniaid 1:3 beibl.net)
Bellach trown i wynebu’r Pasg Bach - Low Sunday. Mae byw'r Pasg yn hawdd ar Sul y Pasg! Bydd hi’n anos o Low Sunday ymlaen. Rhaid cydio’n dynn yn y wyrth! Sut mae gwneud hynny? Gweithgarwch ffydd, llafur cariad a dal ati i ddal ati mewn gobaith. Hyn oll gan wybod mae gwaelod a gwraidd ein gobaith yw ein Harglwydd byw a bendigedig.
(OLlE)
CYTGAN
Y mae fy nghariad yn deg a gwridog,
Yn sefyll allan ymysg deng mil.
(Caniad Solomon 5:10 BCNad)
Geiriau emyn Ann Griffiths (1776-1805) a ddaw i’r cof wrth feddwl am yr adnod hon, a gwelir eto cymaint oedd yr emynydd o dan ddylanwad Cân y Caniadau:
Rhosyn Saron yw ei enw,
gwyn a gwridog, teg o bryd;
ar ddeng mil y mae’n rhagori
o wrthrychau penna’r byd ...
Rhoddir disgrifiad manwl o brydferthwch yr anwylyd yn yr adnodau 5:10-16. Gwelir pob rhagoriaeth ynddo, a chawn yr argraff fod y ferch wedi gwirioni’n llwyr gyda’i chariad.
Y mae profiad tebyg yn dod i ran y Cristion hefyd. Nid teyrngarwch wedi ei fesur a’i bwyso yw teyrngarwch y Cristion. Teyrngarwch un sydd wedi ymgolli ydyw!
Benthycwn brofiad William Williams (1717-91) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Gwyn a gwridog, hawddgar iawn,
yw f’Anwylyd ... Amen
SALM 119 - GRAWYS 2017
Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus ... Salm 119:157a
Ar lwybr y lleiafrif y gwelir y llewyrch mwyaf ac nid ar lwybr y llawer. Annymunol i'r eithaf yw'r gwawd a deflir heddiw ar leiafrifoedd yn ein plith. Fel y dywedodd William (Deon) Inge (1860-1954): Individuals are occasionally guided by reason; crowds never.
Anffawd ac anrhydedd pob gwir ddisgybl yw cael ei erlid ar gorn ei neges. Gwych o ateb a roddes mam Evan Jones (1820-1852; sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Ieuan Gwynedd) pan glywodd fod ei mab yn cael ei regi gan gwmni o feddwon. ''Rydw i'n diolch i Dduw fy mod wedi magu plentyn sy'n ddigon da i gael ei regi', meddai.
Oherwydd rhoddwyd i chwi y fraint, nid yn unig o gredu yng Nghrist, ond hefyd o ddioddef drosto ... (Philipiaid 1:29)
WYTHNOS FAWR (7)
... weithiau, dyw pethau ddim yn iawn, a llesol yw cydnabod hynny.
Diben syml myfyrdodau’r Wythnos Fawr eleni yw hunanymholiad.
Mewn distawrwydd ystyriwch yr adnod hon o 1 Cronicl:
Ceisiwch yr ARGLWYDD a’i nerth,
ceisiwch ei wyneb bob amser.
(1 Cronicl 16:11)
Yn dawel ac ystyriol offrymwch y weddi hon:
Cofia, O! Arglwydd, y peth a weithiaist ti ynom yn hytrach na’r peth a haeddwn ni; a nyni wedi ei galw i’th wasanaeth erfyniwn arnat ein gwneuthur yn deilwng o’n galwedigaeth. Yr Arglwydd Iesu Grist, gogoniant y Goleuni Tragwyddol, a symudo bob tywyllwch o’n calonnau. Amen.
Mudandod.
Heddiw, fel teulu - fel pob teulu wedi marw anwylyd - mudan ydym. Ein byd i gyd ar gau. Ta waeth, cans yfory, cawn ganu’n rhydd.
'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD
Edrychwn ymlaen at Sul y Pasg. Cawn gyhoeddi a dathlu nad Croesnogion mohonom, ond Cristnogion! Mae gwin melfedaidd yr Atgyfodiad yn wych, wedi blas vinegar y Groglith.
Yn yr Oedfa Foreol (10:30) y Crist byw a dirgelwch y tri ‘ond’! (Luc 24:1-12) fydd testun sylw ein Gweinidog. Nid ‘gan hynny’ naturiol mor Atgyfodiad, ond ‘er hynny’ hollol annaturiol. Mae’r cysylltair bach ‘ond’ yn cyfleu hynny i’r dim. Pobl yr ‘ond’ ydym ni. Beth bynnag a fu, beth bynnag sydd, beth bynnag ddaw, yr ‘ond’ hwn yw ein gobaith: Ond, ar y dydd cyntaf o’r wythnos, ar doriad gwawr ... meddai’r dynion (mewn gwisgoedd llachar) wrthynt, "Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy’n fyw? Nid yw ef yma, ond y mae ei gyfodi.
Liw nos yn yr Oedfa Hwyrol (18:00; Cymundeb) echel pregeth Owain fydd Mathew 28:1-10 gan ganolbwyntio ar yr adnod hon: ... daeth Mair Magdalen a’r Fair arall i edrych ar y bedd. Er mwyn cariad y Crist byw, rhaid dal ati i droi fyny. Oherwydd yr Atgyfodiad mae gofyn arnom i fyw yn ddygn, yn ddyfal, yn ddiwyd er mwyn Crist, gan amlygu ei gariad yn lleol, yn genedlaethol a ledled byd. Meddai Woody Allen rhywdro fel hyn: 80% of life is showing up. Awgryma ein Gweinidog fel hyn: 95% of the Christian Life is showing up.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Hwyrol.
Dros y Sul, ac ymlaen i’r wythnos dawel hon bydded i chi Lawenydd y Pasg, sef Gobaith. Ysbryd y Pasg, sef Bywyd, a sylwedd y Pasg, sef Cariad.
YR WYTHNOS FAWR (6)
... weithiau, dyw pethau ddim yn iawn, a llesol yw cydnabod hynny.
Diben syml myfyrdodau’r Wythnos Fawr eleni yw hunanymholiad.
Mewn distawrwydd ystyriwch eiriau’r Salmydd:
Chwilia fi, ARGLWYDD, a phrofa fi,
rho brawf ar fy nghalon a’m meddwl.
(Salm 26:3)
Yn dawel ac ystyriol offrymwch y weddi hon:
Rhag y diffyg ffydd a’n rhwystra i anturio dros Dduw gan ymddiried y canlyniadau iddo ef ...
Rhag syrthio’n fyr o garu a cheisio ei ewyllys ef yn fwy na’r eiddom ein hunain ...
Gwared ni, Arglwydd. Amen.
Croes.
I Galfaria trof fy wyneb,
ar Galfaria gwyn fy myd:
y mae gras ac anfarwoldeb
yn diferu drosto i gyd;
pen Calfaria,
yno, f’enaid, gwna dy nyth.
Yno clywaf gyda’r awel
salmau’r nef yn dod i lawr
ddysgwyd wrth afonydd Babel
gynt yng ngwlad y cystudd mawr:
pen Calfaria
gydia’r ddaear wrth y nef.
Dringo’r mynydd ar fy ngliniau
geisiaf, heb ddiffygio byth;
tremiaf drwy gawodydd dagrau
ar y groes yn union syth:
pen Calfaria
dry fy nagrau’n ffrwd o hedd.
(Dyfed, 1850-1923)
... ac edrychant ar yr un a drywanwyd ganddynt. Sech.12:10a.
Rhaid edrych. O edrych fe dry fy nagrau’n ffrwd o hedd.
YR WYTHNOS FAWR (5)
... weithiau, dyw pethau ddim yn iawn, a llesol yw cydnabod hynny.
Diben syml myfyrdodau’r Wythnos Fawr eleni yw hunanymholiad.
Mewn distawrwydd ystyriwch yr adnod hon o broffwydoliaeth Eseia:
"Yn awr, ynteu, ymresymwn â’n gilydd," medd yr ARGLWYDD. "Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned â’r eira; pe baent cyn goched â phorffor fe ânt fel gwlân.
(Eseia 1:18)
Yn dawel ac ystyriol offrymwch y weddi hon:
Rhag hunan-gais ac ysbryd claear yn ein gwaith dros Grist ...
Rhag amcanion annheilwng ...
Rhag gweddïau oerllyd, heb angerdd nac aberth ...
Rhag bodloni ar deimladau ysbrydol heb weithredoedd cyfatebol ...
Gwared ni, Arglwydd. Amen.
Gwaed.
... fy ngwaed. Yfwch (Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gelwch yn dda i Mathew 26:26-30). Mae Deddf Moses yn gwahardd yfed gwaed am fod hwnnw’n cynnwys y dirgelwch o fywyd ... a dyna’r pwynt wrth gwrs!
