EMRYS, Y DDRAIG A'R GOEDEN TAMARISG

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Emrys, y ddraig a’r goeden tamarisg? Y ddraig i ddechrau. ‘Does dim tebyg i Ddraig Goch Cymru ymhlith holl faneri gwledydd byd. Dim ond Bhutan sydd â'r un arwyddlun cenedlaethol â ninnau. Serch hynny mae dreigiau Cymru a Bhutan ill dwy yn tarddu o hen deulu enwog a fu gynt yn fyd-eang. Ym Mhabilon, Persia, India, Tsiena, Affrica - yn wir, ym mhob gwareiddiad yn y byd bron - bu’r ddraig yn destun chwedl a chân, parch ac addoliad. Ceir dreigiau o lawer lliw yn yr hen chwedlau hyn, ac yn eu plith ‘roedd y ddraig goch yn amlwg yn gynnar. Cysylltid nerth swyngyfareddol â’r lliw coch am mai lliw gwaed ydoedd. Ystyrid y lliw coch yn gyfrwng bywyd a doethineb, yn arwydd o barch ac urddas.

Tardd y gair Cymraeg draig o’r gair Groeg drakôn, a olyga, ‘yr hwn a wêl ymhell’, neu ‘y cryf ei olwg’. Dwi am ganolbwyntio ar y cyntaf: Draig, drakôn: ‘yr hwn a wêl ymhell’.

Penderfynais yn ddiweddar bod rhaid gwaredu llyfrau. Mae hyn i mi, yn brofiad tebyg i dynnu dannedd! Wrth geisio gwaredu mi ddois ar draws llyfr a dderbyniais gan fy nhad adeg fy ordeinio: Erthyglau Emrys ap Iwan o dan olygyddiaeth D. Myrddin Lloyd. Cystal imi gyfaddef, aeth y llyfr yn ddisylw i raddau helaeth ar y pryd. O’r herwydd, aeth yn gwbl angof, yn hel llwch, yng nghornel tywyllaf y stydi am flynyddoedd. Am ddarganfyddiad gwerthfawr! Wrth fodio drwyddo, darganfod anerchiad gan Emrys ap Iwan ar ‘Gymraeg y Pregethwr’. Anerchiad oedd hwn i fyfyrwyr Coleg y Bala, ac mae’r geiriau nesa’ hyn wedi cydio’n dynn ynof, ac at y rhain dwi’n dod heddiw:

Y gwych yn unig a fydd fyw: am hynny ceisiwch yn hytrach anllygredigaeth na gogoniant ac anrhydedd presennol. Gwnewch eich pregethau’n gyfryw ag y bydd yn wiw gan ddynion eu darllen ymhen oesoedd ar ôl eich marw; canys wrth ymgyfaddasu i’r oesau a ddel, chwi a wnewch eich hunain yn bregethwyr cymhwysach i’ch oes eich hun.

Pan aeth Emrys i’r Bala am yr ail dro, bedair blynedd yn ddiweddarach - i ddarlithio y tro hwn - rhoddodd i’r myfyrwyr yr un wers: Ymbaratowch, meddai wrthynt, yn hytrach ar gyfer y genhedlaeth sydd yn dyfod nag ar gyfer y genhedlaeth sydd yn myned ymaith.

Onid dyna ein gwaith fel pobl ffydd? Parchu ddoe, gweithio heddiw ... er mwyn yfory. Ymgyfaddasu i’r oesau a ddel, gan ymbaratoi, ar gyfer y genhedlaeth sydd yn dod, yn hytrach nag ar gyfer y genhedlaeth sydd yn myned ymaith.

Ar ddiwedd pennod 21 o lyfr Genesis, gwelir adnod syml yn cofnodi hanes Abraham yn plannu coeden: Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beerseba, a galwodd yno ar enw’r ARGLWYDD, y Duw tragwyddol (Genesis 21:33). Plannodd goeden tamarisg yn Beerseba. ‘Roedd Abraham erbyn hyn, mewn gwth o oedran, ac nid oedd gobaith y câi ef fyth weld y goeden honno wedi tyfu i’w lawn dwf. Ond, fe gâi cenedlaethau ar ei ôl fedi o ffrwyth ei lafur, câi ei ddisgynyddion loches a chysgod dan y goeden hon. Nid darparu ar gyfer ei oes ei hun ‘roedd yr hen ŵr, ond ar gyfer yr oesau a ddel. Fel y ddraig, gwelodd Abraham ym mhell. Dangosodd ysbryd mawrfrydig, a byddai’r goeden tamarisg hon yn gofgolofn i’r ysbryd hwnnw.

Eraill a lafuriasant, a chwithau aethoch i mewn i’w llafur hwynt, meddai Iesu wrth ei ddisgyblion un tro (Ioan 4:38 WM). Mae’r geiriau yn wir am ddisgyblion pob oes. Diolchwn am lafur y bobl gynt; pobl yn gweithio yn eu cyfnod, gan ymgyfaddasu i’r oesau a ddel ac ymbaratoi, ar gyfer y genhedlaeth oedd yn dod - sef, ein cenhedlaeth ni. O’r herwydd daeth yr etifeddiaeth yn ddiogel i’n dwylo. Ein huchel fraint, ein haruchel gyfrifoldeb yw ei diogelu heddiw, wrth ymgyfaddasu nawr i’r oesau a ddel, gan ymbaratoi, ar gyfer y genhedlaeth sydd yn dod, yn hytrach nag ar gyfer y genhedlaeth sydd yn myned ymaith. Yn wleidyddol, yn economaidd, yn ddiwylliannol, yn ieithyddol, ac yn grefyddol yr ydym yn plannu coeden tamarisg. Mynnwn fanteisio ar bob cyfle i blannu’r goeden, ac fe ofala Duw am roddi’r cynnydd. Dyna ni: Emrys, y ddraig a’r goeden tamarisg.

(OLlE)

SALM

Salm 32

Yr hyn sy’n poeni’r Salmydd yn y salm hon yw ei hunan. Nid o’r tu allan y daw'r ymosodiad, fel yn rhai o’r salmau eraill, ond o’i galon ef ei hun. Er iddo ennill parch ei gyfoedion, y mae’n ymwybodol o’i wendidau. Y mae’r gwrthgyferbyniad rhwng yr hyn ydyw go iawn a’r argraff y mae’n ei roi i eraill yn aflonyddu arno. Caiff ei boeni gan ei feiau cuddiedig. Ni fedrai addef ei bechod: Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod, a minnau’n cwyno ar hyd y dydd (Salm 32:3 BCN). Ond, bu’n rhaid, a gyda’r cydnabod daeth maddeuant.

Pam yr ydym mor amharod i gydnabod ein gwendidau? Pam na fedrwn ymddiheuro am ein ffolineb? Beth bynnag bo’r rheswm, tra byddom yn ymatal, ni allwn adfer y berthynas rhyngom ni â’r sawl a frifwyd gennym. Y mae pechod sydd hen ei gydnabod yn gwahanu pobl, ond daw cyffes ac ymddiheuriad â’r rhai a wahanwyd yn agosach at ei gilydd nag erioed.

(OLlE)