SALM

Salm 95

Yng nghyfnod yr Hen Destament ‘roedd brwdfrydedd gorfoleddus ym mhresenoldeb Duw, er nad oedd yn dderbyniol gan bawb, yn beth digon cyffredin. Cofiwn fel yr enynnodd Dafydd lid ei wraig trwy ddawnsio o flaen arch y cyfamod wrth iddo’i chludo i fyny i Jerwsalem. ... yr oedd Michal merch Saul yn edrych trwy’r ffenestr, a gwelodd y brenin Dafydd yn neidio ac yn dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, a dirmygodd ef yn ei chalon (2 Samuel 6:16 BCN). Ond eithriad yw dirmyg Michal. Ar y cyfan, ‘roedd yr Israeliaid yn gwerthfawrogi brwdfrydedd crefyddol ac yn ei dderbyn fel rhan hanfodol o’u seremonïau.

Gwahoddiad yw’r salm hon, fel llawer salm arall, i’r gynulleidfa glodfori Duw a diolch iddo am ei ddaioni. Arwydd yw brwdfrydedd y bardd o wefr a chyfaredd gwir addoliad. Ond yng nghanol y gorfoledd clywir gair o rybudd: Peidiwch â chaledu’ch calonnau, fel yn Meriba, fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch (Salm 95:8a BCN). Bydded gwrthryfel y tadau ar y ffordd o’r Aifft, a’r modd y cawsant eu cosbi gan Dduw, yn rhybudd i’r gynulleidfa.

Disgwylir i’r credadun, boed Iddew neu Gristion, garu Duw yn ogystal â’i addoli. Nid yw addoliad, pa mor frwdfrydig bynnag y bo, o unrhyw werth os nad yw’n mynd law yn llaw â moeseg a ffyddlondeb i air Duw.

(OLlE)

PUM BRENIN MEWN OGOF A BWYTA PYSGODYN

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Ar ôl cael eu trechu gan fyddin Joshua, ffodd pum brenin yr Amoriaid ac ymguddio mewn ogof. Wedi iddo ddeall lle ‘roeddent yn cuddio, ‘roedd gan Joshua gyfle i ladd y pump yn y fan a'r lle. Penderfynodd yn hytrach i ohirio’r mater hwnnw hyd yr hwyr. Pam? Am fod ganddo ormod o bethau pwysicach i’w gwneud. ‘Roedd perygl i’r gwaith annymunol o ladd y brenhinoedd hyn gymryd lle cyfrifoldebau eraill. Felly, ei gyngor i filwyr ei fyddin oedd iddynt dreiglo meini mawrion ar geg yr ogof a gosod gwylwyr. Ond, nid oeddent hwy ei hunain i aros yno. ‘Roedd y fyddin i ganolbwyntio ar waith y dydd, sef erlid y gweddill o’u gelynion a’u trechu.

Daw’r stori o lyfr Joshua (10:15-21). Llyfr sydd yn drwm o ryfela ac yn drwch o ladd. Cydnabyddaf mai annymunol iawn yw’r cyd-destun, ond bu’r pum brenin yn yr ogof yn gyson ar fy meddwl ers dechrau’r wythnos. Rhywbryd neu’i gilydd fe ddaw pawb ohonom wyneb yn wyneb â’r pum brenin yn yr ogof! Â’n bywyd dan gwmwl: cawn ein poeni gan ofidiau ac anawsterau; ofnau ac amheuon - pethau real. Ein dewis wedyn yw un ai aros gyda’r pethau hyn, mynd i’w canol, ac o bosib felly golli golwg ar fendithion, cyfleoedd a phosibiliadau bywyd - y pethau hyn hefyd yn real. Weithiau, rhaid gadael y pum brenin yn yr ogof.

Cofiwn y disgyblion gael eu poeni pan welsant y dyn oedd yn ddall o’i enedigaeth. ‘Rabbi’, meddent wrtho mewn penbleth. ‘pwy bechodd, ai hwn ynteu ei rieni, i beri iddo gael ei eni’n ddall (Ioan 9:2)? Ateb Iesu oedd, ‘Wnawn ni ddim ymboeni am hynny nawr; ond gadewch inni fynd i weld beth fedrwn ei wneud i’w helpu.’ Gadwyd y pum brenin yn yr ogof ag Iesu canolbwyntio ar waith y dydd: ymateb i’r anghenus. Gofynnwyd rywdro i William Booth (1829-1912), sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, sut ydoedd yn ymateb i’r adnodau lletchwith a’r mynych wrthddywediadau a geir yn y Beibl. ‘I mi’, meddai, ‘y mae darllen y Beibl fel bwyta pysgodyn. Pan ddof o hyd i asgwrn byddaf yn ei godi a’i osod ar ochr y plât a mynd ymlaen i chwilio am fwy o gig’.

Un o gyfrinachau bywyd yw gwybod beth i’w wneud â’n hanawsterau a gofidiau. Gofalwn beidio â’i defnyddio yn esgus/rheswm i laesu dwylo a digalonni. Peidiwn ganolbwyntio ar yr esgyrn gan anghofio’r cig! Weithiau nid y pum brenin sydd wir yn bwysig. Er mor waedlyd yr hanes, ceir yma gyngor doeth a da - cyngor gwerth ystyried am funud heddiw: Pentyrrwch feini mawrion ar geg yr ogof, a gosodwch ddynion i’w gwylio. Peidiwch chithau â sefyllian ... (Joshua 10:18,19a BCN).

(OLlE)

WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN

Addolaf di, ARGLWYDD, o waelod calon; a sôn am yr holl bethau rhyfeddol wnest ti.

(Salm 9:1 beibl.net)

 

Y dydd heddiw yn 1717 yn Llanfair-ar-y-bryn ger Llanymddyfri, sir Gaerfyrddin ganed William Williams: emynydd mawr y Diwygiad Methodistaidd

Ymdawelwch ...
Ymdawelwch a chofiwch fod Duw yn agos atoch ...
Meddyliwch yn weddigar am y llun isod a’r amrywiol ddyfyniadau o waith Pantycelyn.

Ystyriwch y bryniau, a’r mynyddoedd yn y pellter ...

Euogrwydd fel mynyddoedd byd
dry’n ganu wrth dy groes.

Cadw ‘ngolwg ar y bryniau
uchel, heirdd, tu draw i’r dŵr.

‘R wyn edrych dros y bryniau pell
amdanat bob yr awr.

Trysorau hyfryd, canmil gwell,
cuddiedig draw ar fryniau pell.

Ystyriwch y dŵr ... dwfn a llonydd:

Ac yn Ei gariad dwfn a maith
mi nofiaf tua’r Nef;
canys nid oes dymestl fyth na thôn
yn rhuo ynddo Ef.

Môr heb waelod
o bleserau ddaeth i’m rhan.

Ryw ddyfnder sy’n fy nghlwyf
mwy nag a ddeall dyn.

Ond llawenydd fel y môr
sy wrth Ei orsedd.

Mae’r Iachawdwriaeth fel y môr,
yn chwyddo fyth i’r lan;
mae yma ddigon, digon byth
i’r truan ac i’r gwan.

Ystyriwch yr adar...

Boed fy ysbryd i ti’n nyth ...

Mae fy enaid yn ehedeg
ar adenydd ysgeifn ffydd,
ac yn syllu trwy’r ehangder
uchel maith, at bethau fydd.

O! na allwn innau’r awron
ehedeg ‘fyny fry.

‘R wyf ynn caru’r gwynt sy’n hedeg
dros fy Nghannan hyfryd, wiw;
‘Fedd y llawr ddim yn awr
leinw le fy Arglwydd mawr.

Yn olaf, ystyriwch yr haul ...

O! na welwn ddydd yn gwawrio -
bore hyfryd, tawel iawn;
Haul yn codi heb un cwmwl ...

O! gwawria fore ddydd,
pan gaffwy’ fynd yn rhydd
o’m carchar caeth;
pan gwympo’r muriau pres,
A’r dorau sydd yn rhes,
a minnau fynd yn nes
i ben fy nhaith.

Dyma’r bore fyth mi gofia’,
clywais innau lais y nef;
daliwyd fi wrth wŷs oddi uchod
gan ei sŵn dychrynllyd ef.

‘Rwy’n edrych dros y bryniau pell
Amdanat bob yr awr:
Tyrd, fy anwylyd, mae’n hwyrhau,
A’m haul bron mynd i lawr.

I orffen, meddyliwch dros eiriau Moelwyn (1866-1944):

O iselder trueni a gwae gwêl Williams y pinaclau fry - henfro santeiddrwydd a llawenydd. Sylla ar y llechwedda gwyrddlas draw - y tir anghyffwrdd, ond sy gyraeddadwy trwy ras i’r neb a ddyheo. Fel y brefa’r hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid am danat Ti, O! Dduw (Salm 42:1 WM) (Pedair Cymwynas Pantycelyn A&M Hughes 1922)

 

 

HARRIS, WILLIAMS AC ISAAC

Munud i Feddwl ein Gweinidog

Yn 1752 penderfynodd Howel Harris ymneilltuo i dawelwch Trefeca. Cyn diwedd y flwyddyn honno ‘roedd Teulu Trefeca - yn ddiamau un o arbrofion cymdeithasol mwyaf diddorol yn holl hanes crefydd yng Nghymru - wedi ei roi ar y gweill.

Fel hyn y rhoes Williams Pantycelyn y stori ar gân yn ei Marwnad i Howel Harris

Y mae gweddi cyn y wawrddydd

Yn Nhrefeca ganddo fe,

‘Ramser bo trwm gwsg breuddwydlyd

Yn teyrnasu yn llawer lle;

A chyn llanw’r bol o fwydydd

Fe geir yno gyngor prudd,

A chyn swper gweddi a darllen,

Tri addoliad yn y dydd.

 

Cymr’rwch siampl ben teuluoedd,

Gadw pur addoliad llawn,

Gweddi ac addysg yn y bore

Gweddi ac addysg yn prydhnawn;

Boed eich eglwys yn y gegin

Neu y parlwr, fel y bo lle,

A nes gwneuthur fel gwnaeth yntau

Peidiwch â’i gondemnio fe.

Marw marwolaeth naturiol a wnaeth Teulu Trefeca, ond nid yw hynny yn gyfystyr â dweud bod yr holl ymarferiad wedi bod yn fethiant.

Ystyriwch y geiriau:

Boed eich eglwys yn y gegin

Neu y parlwr, fel y bo lle ...

Pan ddaeth Isaac i le newydd gwnaeth dri pheth trawiadol iawn: ... adeiladodd yno allor, a galw ar enw’r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno … (Genesis 26:25).

Rhoi datganiad o’i ffydd oedd Isaac wrth godi allor, a galw ar enw’r ARGLWYDD. Wrth osod pabell mae Isaac yn pwysleisio gwerth y ‘garreg aelwyd’ a chwlwm cariad. ‘Roedd y gwaith o gloddio pydew neu ffynnon yn amod elfennol cynhaliaeth yn y dwyrain bob amser.

Gofalodd Isaac osod y tri yn ymyl ei gilydd. Dyna ergyd yr yno a ddigwydd deirgwaith. … adeiladodd yno allor, a galw ar enw’r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno

Byr byr oedd y daith o’r allor i’r babell, ac o’r babell i’r pydew! Fe ddiogelwyd ei gartref a’i waith am fod cysgod ei grefydd drostynt ill dau. ‘Dwi’n siŵr braidd, mai rhan o dasg y wir Eglwys heddiw yw ail-weu'r llinynnau sydd yn cydio ‘allor, ‘pabell’ a ‘phydew’ ynghyd: ffydd, yr aelwyd a gwaith beunyddiol yn un cwlwm diwahân. Gan gydnabod y cymysgu delweddau: diffodd a wna tanau ein haelwydydd a'n gwasanaeth oni chyneuwn hwynt â thân yr allor. Felly Boed eich eglwys yn y gegin/ Neu y parlwr, fel y bo lle ...

Mae Marwnad Pantycelyn i Howel Harris hefyd yn cynnwys beirniadaeth ar Deulu Trefeca. Mae’n amlwg nad oedd Williams â llawer o feddwl o’r fenter newydd:

Pa’m y treuliaist dy holl ddyddiau

I wneud rhyw fynachlog fawr,

Pan dynnodd Harri frenin

Fwy na mil o’r rhain i lawr?

Diau fuasit hwy dy ddyddiau,

A melysach fuasai nghân,

Pe treuliais dy holl amser

Yng nghwmpeini’r defaid mân.

Cwlwm-cwlwm yw’r teulu. Cwlwm i glymu’r clymau oll ynghyd. Uned gynnes, gynhyrchiol ydyw, ond ... gellid troi’r teulu - ein teulu, teulu’r eglwys leol, teulu’r ffydd Gristnogol - yn rhyw fynachlog fawr. Amlygir o ddifri'r perygl yn y ‘weddi’ fach ddigri hon: O! Lord, bless me and my wife, our John and his wife, us four and no more. Rhywbeth i’w rhannu yw tân yr allor. Po fwyaf ohono a rannwn, mwyaf i gyd fydd gennym. Nid uned genhadol oedd Teulu Trefeca - cynhaliwyd tân yr allor, heb ei rhannu. Dyma gŵyn Williams: 

Pam y llechaist mewn rhyw ogof,

Castell a ddyfeisiodd dyn?

Ac anghofiaist y ddiadell

Argyhoeddaist ti dy hun?

Y mae plant it ar hyd Cymru

Yn bymtheg mlwydd ar hugain oed,

Ag a ddymun’sai glywed gennyt

Y pregethau cynta’ erioed.

Hen duedd y ddynoliaeth yw bod pobl y weledigaeth fawr yn troi cefn ar y byd er mwyn cadw yn fyw'r neges sydd ganddynt ar ei gyfer. Y canlyniad yw bod y neges honno’n marw - y tân yn diffodd. Er mor bwysig ... eglwys yn y gegin/Neu y parlwr, fel y bo lle ... ni all Cristion ganiatáu greu o’r eglwys yn y gegin, rhyw fynachlog fawr ... rhyw ogof,/Castell a ddyfeisiodd dyn. Nid byw mewn cymuned enciliedig o bobl debyg yw byw’r ffydd, ond troi allan at y bobl y bu Crist farw drostynt. Peidiwn â chamsynied ergyd yr emyn:

Draw, draw ymhell mae gwyrddlas fryn

Tu faes i fur y dref.

 

(OLlE)