SALM

Salm 52

Edomiad a swyddog o dan Saul oedd y Doeg a gollfernir yn y salm hon. Sylwch ar y geiriau italig uwchben y Salm. Nid rhyfedd i’r nodyn chwerw ddod mor gyson i ganu’r Salmydd yn y Salm hon: Edom oedd gelyn chwerwaf ei bobl.

Mor barod ydym ninnau i gollfarnu person, oherwydd ei fod yn perthyn i ddiwylliant, crefydd neu dras wahanol.

Oherwydd ein parodrwydd i gyffredinoli, tueddwn i ganfod y ‘frawddeg anghyflawn’ a chamfarnu ein brodyr a chwiorydd. ‘Brawddeg anghyflawn’? Yn un o’r Efengylau sonnir am rai o’r Pharisead yn dod at Iesu a dweud wrtho: Dos i ffwrdd oddi yma ... Ymwrthod ag Iesu! Dyma a ddisgwyliem ganddynt wrth gwrs! Crefyddwyr dall, ffôl, rhagfarnllyd oedd y Pharisead bob un. Nid oes angen darllen ymhellach. Gwyddom yn iawn pwy a beth yw’r Phariseaid. Ond, pe ddarllenem ymlaem cawn oleuni pellach: Dos i ffwrdd oddi yma, oherwydd y mae Herod â'i fryd ar ladd di (Luc 13:31 BCN).

Ni ddylai’r Cristion cyffredinoli. Rhag y collfarnu sy’n gynnyrch ein tueddiad i gyffredinoli, boed i Dduw ein gwared ni - ti a fi.

(OLlE)

LUPERCUS, Y BLAIDD A'R OEN

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Chwefror. Mae’r enw Saesneg ‘February’ yn tarddu o’r Lladin: ‘Februa’ (puredigaeth/puro) ac ‘arius’ (ymwneud â/ag). Mis yn ymwneud â phuredigaeth yw ‘February’. Gelwyd Chwefror yn ‘Mis y blaidd’ gan y Rhufeiniaid. Duw’r mis hwn oedd Lupercus - ei bennaf gyfrifoldeb oedd gwarchod ei addolwyr rhag y blaidd. ‘Roedd y blaidd, yn ôl meddwl y Rhufeiniaid yn ymgorfforiad o bob creulondeb, naturiol felly iddynt oedd gwneud aberth i gadw gwên ar wyneb Lupercus. Ar y 15fed dydd o’r mis hwn, offrymwyd ebyrth i iddo. Gŵyl boblogaidd ydoedd, a’r enw arni oedd ‘Gŵyl Puredigaeth’. Credai’r Rhufeiniad mae’r llwybr unionaf at fendith Lupercus oedd llwybr purdeb.

Yn betrus braidd awgrymaf mai llesol yw ystyried hen arferion paganaidd! Oni fuasai Iesu yn cymeradwyo rhai pethau yn yr hen ŵyl hon? Efe, a ddywedodd wedi’r cyfan: Gwyn ei byd y rhai pur o galon. Ystyriwn felly ar ddechrau mis y puro mor bwysig yw nid yn unig ymgyfarwyddo â dysgeidiaeth Iesu, ond hefyd gofyn iddo buro ein meddwl, ein dychymyg a’n cydwybod, fel y bydd ei ewyllys ef yn llenwi a llywio ein hewyllys ni. Boed i ddyhead William Williams, Pantycelyn ddeffro dyhead tebyg ynom ni:

Rho gydwybod wedi ei channu’n

Beraidd yn y dwyfol waed.

Goddefwch air bach arall am enw'r mis hwn: Mis y Blaidd. Ers dyddiau plentyndod bu gen i ddiddordeb mewn bleiddiaid. Mae’r blaidd i’w gael yn yr Unol Daleithiau, Canada, Alaska, Asia a Dwyrain Ewrop. O blith pob anifail pedwar troed sy’n bod, y blaidd ydi’r heliwr mwyaf dinistriol. Y canlyniad anochel oedd i’r blaidd droi’n elyn i ni, yn destun ofn, sgrech a hunllef; creadur na allai neb ei ddeall na’i ddofi ‘chwaith. O’r herwydd, rhaid oedd ei ddifa a’i ddileu.

Pwy piau’r byd a bywyd? Mae’n ymddangos mae’r blaidd piau’r cyfan. Os mae’r blaidd piau bywyd a byd mae’r oen druan yn gyfan gwbl, gwbl gyfan ddiamddiffyn. Nid oes gan yr oen gyfrwystra fel sydd gan y blaidd, nac ychwaith mo’r nerth sydd gan flaidd.

Beth all yr oen wneud felly? Fawr o ddim. Ond, mae yna anifail mae’r blaidd - hyd yn oed - yn ei ofni, a’r anifail hwnnw ydi dyn. Nid oes ar flaidd ofn yr oen ond y mae arno ofn bugail yr oen. Dyna oedd cyngor Iesu, wrth iddo anfon ei ddisgyblion allan fel defaid i blith bleiddiaid: cadwed yr oen mor agos ag sydd yn bosibl at y bugail.

Pwy piau bywyd a byd? Y bugail neu’r blaidd? Daw’r Gwanwyn. Bydd y caeau ym mhob man yn llawn o ddefaid ac ŵyn - cannoedd ohonynt yn pori’n dawel fodlon. Cofiwn hyn: bu bleiddiaid hyd yr ardaloedd hyn ganrifoedd yn ôl. Bu’r heliwr yn ein cynefin. Nid oes yma yn un blaidd ar ôl erbyn heddiw, ddim un o gwbl drwy’r wlad.

Mae’r oen wedi goroesi’r blaidd. Yr oen sydd wedi meddiannu’r dydd a’r mynydd. Yr oen piau’r byd a bywyd: Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwy a etifeddant y ddaear.

(OLlE)

SALM

Salm 51

Bydd drugarog wrthyf, O! Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb; yn ôl dy fawr dosturi dilea fy meiau; golch fi’n lân o’m heuogrwydd, a glanha fi o’m pechod (Salm 51:1.2 BCN).

Trawir nodyn gwir ostyngeiddrwydd yn y salm hon. Nid gostyngeiddrwydd tebyg i eiddo Muhammad Ali: I still say that I am the greatest, but I say it in a humbler way! Nid gostyngeiddrwydd tebyg i eiddo’r diacon a daerodd wrth y Parchedig Edward Mathews, Ewenni, ‘Dim ond dau ddyn gostyngedig sydd yn yr eglwys hon, Mr Richards y gweinidog a minnau!’

Beth fyddai ymateb y salmydd tybed pe bai dyn yn cytuno â’i ddyfarniad amdano’i hun? Cyfeiriad T. S. Eliot at arlunydd a adwaenai: He affected a fine indifference for his own talents, but would have been greatly offended by anyone who shared it.

Daw bendith i’n rhan o fyfyrio ar y salm hon. Nid oes yma rithyn o falchder. Yn ei gofiant i George M. Ll. Davies fe ddyfynna’r Parchedig E. H. Griffiths un o ddywediadau mawr bachog y tangnefeddwr mawr hwnnw: ‘Fe ddywedir fod llawer math ar falchder megis balchder plas, balchder tras a balchder gras, y tri hyn a’r gwaethaf o’r rhain yw balchder gras.’

(OLlE)

MEDDAI IESU: 'MYFI YW PONT Y BYWYD.'

WWUC2017 #8

Myfi yw'r ffordd ... (Ioan 14:6a BCN)

Myfi yw'r ffordd ... Dyma eiriau Iesu wrth Thomas. Mae adnod yn yr Efengyl yn ôl Thomas - dogfen o'r tu allan i'r Testament Newydd - sy'n apelio'n fawr ataf, ar waethaf ei tharddiad amheus: Meddai Iesu: 'Myfi yw Pont y Bywyd.'

Mae angen pont yn ogystal â ffordd. Pontydd diogel yw un o anghenion pennaf ei byd heddiw: pontydd rhwng cenhedloedd, rhwng hiliau, rhwng diwylliannau a chrefyddau; rhwng cenedlaethau, rhwng amrywiol draddodiadau ac argyhoeddiadau'r Eglwys. Gwaith anodd yw codi pontydd o'r fath. Haws eu hesgeuluso.

Credwn mewn datguddiad o Dduw yn Iesu Grist. Ef sy'n dwyn cymod rhyngom â'n gilydd. Ef yw'r ffordd ... a'r bont. Trwyddo ef, croeswn o fywyd ynysig i'r bywyd sy'n fywyd yn wir, sef cymundeb â Duw, ac â'n gilydd.

Diolch bod dy gariad, O! Dduw, yn fwy na mesurau meddwl dyn. Ynot ti, trwy Grist Iesu, y mae undod yr Eglwys. Amen.

MIS YN UNION WEDI'R NADOLIG DAW DYDD GŴYL SANTES DWYNWEN

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Nid llesol gor-gyffredinoli. Wedi cydnabod hynny, mentraf gor-gyffredinoli: gellid gosod pobl y naill ochr neu’r llall i’r ymadrodd syml gymhleth: ‘’Rwy’n dy garu di’. I rai, mae’r geiriau hyn yn llifo’n esmwyth fel dŵr; hawdd iawn iddynt yw datgan eu cariad ar lafar, ac o’r herwydd gwneir hynny’n aml. I’r gwrthwyneb, mae’r geiriau hyn fel tân i rai; o’r herwydd prin os o gwbl y mae’r geiriau’n cael ei dweud ar goedd.

Cawn fynegi cariad - yn gall - yn anodd iawn. Mae hyn yn rhyfedd - yn boenus o ryfedd - gan fod y rhan fwyaf helaeth ohonom yn llawn sylweddoli mai caru a chael ein caru yw gwraidd a phren bywyd - dail yw pob peth arall. Mi gredaf fod Victor Hugo (1802-1885) wedi mynegi’r gwirionedd hwn yn dwt a chymen yn y frawddeg hon o Les Miserables: The supreme happiness of life is the conviction that we are loved: loved for ourselves, loved in spite of ourselves.

Angen gwaelodol pob enaid byw yw gwybod - gwybod bod rhywun yn ein caru, yn ein derbyn am yr hyn ydym. Eironi creulonaf ein byw yw bod cymaint ohonom yn cael y fath anhawster i fynegi ein cariad, ac i glywed a derbyn mynegiant gan eraill o’u cariad tuag atom.

Beth sydd wrth wraidd hyn tybed? Amheuaeth efallai - a ydym yn amau ein bod ni’n llawn haeddu cariad gan arall neu eraill? Ac onid, trwch adain gwybedyn sydd rhwng amau ein hunain ac amau arall: os nad wyf fi’n haeddu dy gariad di, a wyt ti’n haeddu fy nghariad innau?

Ta waeth ... diolch byth am Ddydd Santes Dwynwen. Daw dydd Gŵyl Dwynwen mis union ar ôl y Nadolig. Mae mis yn fwy na digon o amser i ddechrau anghofio - anghofio neges y Nadolig, ei gysur a’i her: Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohonom fywyd tragwyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef (Ioan 3:16 a 17. WM).

Mae Duw yn ein caru; yn dy garu di, yn fy ngharu i, yn caru pob ‘fi’ a ‘ti’ ym mhob man.

Mis yn union wedi’r Nadolig cawn nodyn atgoffa gan Santes Dwynwen: Mae Duw yn ein caru. Diben cariad mawr ein Duw yng Nghrist yw dysgu ein cariad ninnau.

(OLlE)