EIN CYFRANIAD ANHEPGOR I UNDOD YR EGLWYS

WWUC2017 #7

A chan fod gennym ddoniau sy'n amrywio yn ôl y gras a roddwyd i ni, dylem eu harfer yn gyson â hynny. Os proffwydoliaeth yw dy ddawn, arfer hi yn gymesur â'th ffydd. Os dawn gweini ydyw, arfer hi i weini. Os athro wyt, arfer dy ddawn i addysgu, ac os pregethwr wyt, i bregethu. Os wyt yn rhannu ag eraill, gwna hynny gyda haelioni; os wyt yn arweinydd, gwna'r gwaith gydag ymroddiad; os wyt yn dangos tosturi, gwna hynny, gyda llawenydd. (Rhufeiniaid 12: 6-8 BCN)

Mae gan bob aelod o'r Eglwys gyfraniad. Gwerth a chyfraniad pob rhan yn y corff yw'r gymhariaeth gan Paul: Yn union fel y mae gennym aelodau lawer mewn un corff ... felly hefyd yr ydym ni, sy'n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i'w gilydd.

'Rydym yn ddibynnol ar ein gilydd, a'n cyfraniad yn cyfrif. Nid oes cyfraniad distadl, dibwys yn achos Crist.

Beth yw ein cyfraniad? Pregethu; dysgu; trefnu; arwain y gân neu gyfeilio; casglu'r offrwm, trefnu yn weinyddol neu ariannol; trefnu cyfarfodydd; rhoddi a gosod blodau sy'n arwydd a mynegiant o brydferthwch cread Duw; glanhau'r addoldy fel arwydd o lendid yng nghanol annibendod bywyd; paratoi'r bwrdd fel bo'r Cymundeb ar ein cyfer yn ddi-feth; rhoi'n gyson yn yr offrwm; gweddi, mawl, addoliad a chysondeb presenoldeb; ymweld i ddwyn cysur, ymgeledd a bendith?

Mor amrywiol yw'r gwaith, a phob cyfraniad yn fwy na dim ond cyfrif - mae pob cyfraniad yn anhepgor i undod yr Eglwys! Braint ac anrhydedd yw ein cyfraniad, er gogoniant i Dduw yng Nghrist.

Diolchwn i Ti, O! Dad, am dy holl roddion 'i gymhwyso'r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist'. Amen.

DINASYDDION AC AELODAU O DEULU DUW

WWUC2017 #6

Felly, nid estroniaid a dieithriaid ydych mwyach, ond cyd-ddinasyddion â’r saint ac aelodau o deulu Duw (Effesiaid 2:19 BCN. Buddiol buasai darllen adnodau 2:11-22).

... yng Nghrist Iesu, yr ydych chwi, a fu unwaith ymhell, wedi eich dwyn yn agos ... (Effesiaid 2:13 BCN). Mewn bywyd crefyddol gwelir agosrwydd Duw at bobl. Dilëwyd pellter pobl oddi wrth Dduw gan Grist, a gwnaethpwyd pob un yn agos. Y gymdeithas a ddaw â phobl at Grist, ac felly at ei gilydd yw’r Eglwys. Nid oes enw gwell arni na theulu Duw (Effesiaid 2:19 BCN), neu deulu’r ffydd (Galatiaid 6:10).

Felly, nid dinasyddion yn unig yn ninas Duw mohonom, ond aelodau hefyd o deulu Duw. Dinasyddion ydym, heb beidio â bod yn deulu ac yn deulu heb beidio â bod yn ddinasyddion.

Mae dwy elfen yn perthyn i deulu. Nid oes eiddo personol mewn teulu. Mae holl adnoddau’r cartref yn eiddo’r teulu yn ei gyfanrwydd. Elfen arall a berthyn i deulu yw bod holl adnoddau’r cartref er mwyn y teulu, ac nid yn ei erbyn.

Maddau i ni, O! Dad, ein pellter oddi wrth ein gilydd a’n pellter oddi wrthyt ti, a thithau’n agos bob amser. Amen.

UN YN TŶ TI

WWUC2017 #5

Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau ... (Ioan 14:2a WM)

Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau yn un ynom ni, fel y credo y byd mai tydi a’n hanfonaist i (Ioan 17:21 WM)

Rhywbeth gwahanol heddiw: nid myfyrdod, ond pos.

O na bai ‘Unity’ yn air Cymraeg!

UNITY - UN

UNITY - YN

UNITY -

UNITY - TI

Er mor wallus y Gymraeg, erys y neges: UN YN TŶ TI. Sylweddolir gwir undod oddi mewn i’r Eglwys - UN YN - wrth i’r Eglwys gyfan gyfranogi o’r undod dwyfol, a chael ei chynnwys yn yr undod perffaith hwnnw - TŶ TI.

Anodd yw sylweddoli dyhead Crist am undod ei Eglwys; anodd ond nid amhosibl, fel mae’r pos isod yn anodd, ond heb fod yn amhosibl. Awgrymaf ein bod heddiw, wrth geisio datrys y pos, yn ystyried yr hyn a wnawn i gryfhau (a gwanhau) ein hundod yng Nghrist.

Y gamp yn syml yw gwneud copi o’r llun isod heb godi’ch pensil/ysgrifbin yr unwaith o’r papur.

Gweler isod y gyfrinach.

O! Dduw, diolch am bob gair a gweithred sy’n cryfhau ein hundod yng Nghrist. Amen.

Daw'r pos o www.free-for-kids.com

SALM #WWUC17 (4/8)

WWUC2017 #4

Salm 48

... dinas y brenin mawr ...

I’r Cristion, yr Eglwys nid Jerwsalem yw dinas y brenin mawr (Salm 48:2 BCN). Fel mae’r Iddew yn caru ei brifddinas ac yn annog ei gyfoedion i glodfori yn ei phrydferthwch a’i chadernid, mae’r Cristion yntau’n caru’r Eglwys ac yn myfyrio ar ei mawredd a’i sefydlogrwydd. Cymhwysir syniadau’r bardd Iddewig am ddinas hanesyddol i Eglwys Crist.

O’u dehongli fe hyn, mae’r geiriau sy’n cyfeirio at bresenoldeb Duw yn Seion: Oddi mewn i’w cheyrydd y mae Duw wedi dangos ei hun fel amddiffynfa (Salm 48:3 BCN) yr un mor berthnasol i’r Eglwys Gristngogol ag ydynt i Jerwsalem. Hefyd, gellir cymryd y gwahoddiad i rifo tyrau’r ddinas, sylwi ar ei magwyrydd a mynd trwy ei chaerau (Salm 48:12/13) fel apêl i werthfawrogi gogoniannau’r Eglwys ar hyd y canrifoedd. Oni all Cristion ymfalchio yn yr Eglwys fel y gwna’r Iddew yn Jerwsalem? Mae’r Wythnos Weddi dros Undod Cristnogol yn gyfrwng i weld a chydnabod ein beiau fel Cristnogion - diffygion ein cenhadaeth a gweinidogaeth - ond, mae’r wythnos hon hefyd yn gyfle i ddathlu a diolch am y ffaith fod Duw, trwy ei Ysbryd yn yr Eglwys, ar waith yn y byd.

(OLlE)

O RAN Y GWELWN ...

WWUC2017 #3

Un corff sydd, ac un Ysbryd, yn union fel mai un yw’r gobaith sy’n ymhlyg yn eich galwad; un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i bawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb (Effesiaid 4:4-6 BCN).

Nodwedd o ddull meddwl Hebrëwr oedd ei duedd i feddwl am y lliaws yn nhermau’r un. Cynrychiolwyd y teulu cyfan gan y pen teulu a chenedl gyfan gan frenin. Credaf fod Paul wedi etifeddu'r dull hwn o feddwl, a hynny yn ei alluogi i feddwl am yr un yn llawer ac am y llawer yn un. Priodol iddo felly oedd meddwl am holl bobl Crist fel un corff.

Ond er y pwyslais ar undod, oddi mewn iddo geir amrywiaeth. Ceir rhai yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon. Disgwylir i bob rhan o’r corff wneud ei ran er lles y corff cyfan. Mae sylweddoli ein bod yn un yng Nghrist yn alwad i garu ein gilydd a chyd-weithio ym mhob modd y medrwn ni, ond nid yw’n alwad am unffurfiaeth allanol am wn i. Dylid cydnabod nad yw’r mynegiant delfrydol o’r ffydd fel Cristnogion yn bod nac wedi bod erioed ac nad yw’r holl wirionedd yn eiddo i’r un traddodiad neu argyhoeddiad. Mae’r amrywiol argyhoeddiadau a thraddodiadau yn fynegiant o’r cyfoeth sydd yng Nghrist a goludoedd Cristnogaeth. Ni welsom eto beth yw’r cyfan o Gristnogaeth gan mai o ran y gwelwn. Mae hyn yn alwad i’r traddodiadau ac argyhoeddiadau gwahanol gydnabod gweinidogaeth ei gilydd - os Crist yw'r pen - a chydnabod hefyd fel y rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist, i bob aelod o’r corff.

Dyro i ni fentro mwy yn dy enw di, O! Dduw. Amen.

CREDAF ... YN YR EGLWYS LÂN? CATHOLIG?

WWUC2017 #2

Ond y mae’r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, i ddangos mai eiddo Duw yw’r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni (2 Corinthiaid 4:7).

Yn destun sylw heddiw dyma gymal o Gredo’r Apostolion:

Credaf ... yn yr Eglwys lân ... gatholig.

Glân? Yr Eglwys Gristnogol yn lân? Yn lân ei chenhadaeth a gwasanaeth? Yn lân mewn myfyrdod a gair a gwaith? Sgersli bilîf! Felly pwy yw’r Eglwys lân?

Rhaid cofio fod y gair ‘glân’ yn gwlwm o ystyron - ‘pur’, ‘sanctaidd’, ‘ar wahân’. Cymdeithas ‘ar wahân’ yw’r Eglwys lân, wedi ei gwahanu oddi wrth bob peth arall. Duw yng Nghrist sydd yn ei galw hi o’r neilltu. Ef sydd yn ei gwneud hi yn gymdeithas ar wahân. Ond, nid gwaith yr Eglwys yw cadw ar wahân i’r byd a sefyll draw oddi wrth bopeth ‘bydol’. Gwaith yr Eglwys yw byw, gweithio a thystiolaethu yn y byd. Duw yw’r un a rydd arwahanrwydd iddi. Ni all yr eglwys ymsancteiddio. Duw sy’n ei chysegru, ei sancteiddio a’i chadw’n lân.

... yn yr Eglwys lân gatholig.

Y mae’r Eglwys lân gatholig yn gymdeithas gyffredinol, heb ffiniau, ac yn fyd-eang. Gall pawb fod yn aelod o’r Eglwys lân gatholig os yw’n arddel enw Iesu yn Arglwydd. Y mae ffiniau rhesymol a naturiol mewn llawer rhan o fywyd. Er enghraifft, ni allaf fi fod yn aelod o’ch teulu chi, nac efallai, yn un o gylch eich cyfeillion. Ond nid oes ffiniau na dosbarthiadau y tu fewn i’r Eglwys lân gatholig ychwaith; y mae gan bawb o’i haelodau gyfraniad cyfartal i’w bywyd hi. Gan fod ynddi wahanol ddoniau y mae ganddynt wahanol gyfraniadau. Yn yr Eglwys lân gatholig y mae pawb yn ‘weinidog’, gan fod pawb yn gweini ar bawb. Cymdeithas i wasanaethu pawb yw’r Eglwys lân gatholig. Gwasanaetha bawb o’i haelodau, nid plesio carfan ohonynt yn unig. Gwasanaetha hefyd bawb drwy’r byd yn enw ei Harglwydd.

O! Dduw, diolchwn fod dy Eglwys di yn lletach na’r ffiniau i gyd, ffiniau’r canrifoedd a’r oesoedd; ffiniau ardaloedd a thraddodiadau; ffiniau argyhoeddiadau, rhagfarnau a mympwyon gwahanol. Dysg i ni, ynddi, a throsti i feddwl a byw yn lân a chatholig. Amen.