UNDEB NEU UNDOD CRISTNOGOL?

WWUC2017 #1

Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd yr undod y mae’r Ysbryd yn ei roi (Effesiaid 4:3 BCN).

Undod ...

Undeb ...

Oes gwahaniaeth?

Oes, a hwnnw’n wahaniaeth eithriadol bwysig.

Mae Undod - hynny yw bod fel un - yn parchu’r pethau sy’n gwahaniaethu’r amrywiol draddodiadau Cristnogol oddi wrth ei gilydd. Mae Undeb - wedi uno, wedi ymffurfio’n un - yn ceisio dileu’r gwahaniaethu’r amrywiol rheini, a chreu o’r amrywiaeth unffurfiaeth.

Mae Undod Cristnogol yn debyg i farddoniaeth, rhyddiaith yw Undeb Cristnogol. Peth ysbrydol yw Undod, peth crefyddol, strwythurol, cyfundrefnol yw Undeb. Gellid cael Undod heb Undeb, ac nid yw Undeb yn warant o Undod. Meddyliwch am y peth yn nhermau’r gwahaniaeth rhwng Cariad - Undod; a Phriodas - Undeb. Mae perthynas rhwng y naill a’r llall wrth gwrs, ond nid yr un peth mohonynt. Emosiwn yw Cariad, Sefydliad yw Priodas.

Menter Duw yw Undod Cristnogol, a ninnau’n cael y fraint aruchel o fod â rhan a chyfran yn y fenter anferthol honno. Boed i’r wythnos hon fod yn gyfle i ni ymroi i gadw, â rhwymyn tangnefedd yr undod y mae’r Ysbryd yn ei roi (Effesiaid 4:3 BCN).

 Diolch bod dy gariad, O! Dduw, yn fwy na mesurau meddwl dyn. Ynot ti, trwy Grist Iesu, y mae undod yr Eglwys. Amen.

(OLlE)

WINNIE THE POOH, 'BUILD A BEAR' A'R PROFFWYD JEREMEIA

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Heddiw, yn 1882 ganed Alan Alexander Milne. Gellid awgrymu felly mai heddiw yw pen-blwydd Winnie the Pooh. Arth yw Winnie wrth gwrs, a bu arth neu dedi yn gwmni ac yn gysur i’r rhan fwyaf ohonom yn ein plentyndod.

Wedi meddwl, onid rhyfedd yr arfer hwn o roi arth i blentyn yn gysur ac yn gwmni? Wedi’r cyfan, nid yw eirth y gorau o gwmni! Creaduriaid brawychus yw eirth. Mynnai Dennis R. Blanchard yn ei gofnod o gerdded y Llwybr Appalachaidd: All of the authoritative books on bears seem to agree on one thing: if you're close enough to a bear to cause it to change its activity pattern, you're too close, and in possible danger. Mae James Rollins, o’i brofiad o eirth gwynion yn awgrymu fel hyn: Always respect Mother Nature. Especially when she weighs 400 pounds and is guarding her baby. Dyma adnod (erchyll) o’r Beibl: ... daeth dwy arth allan o’r goedwig a llarpio dau a deugain o’r plant (2 Brenhinoedd 2:24 BCN).

Rhyfedd iawn yw’r arfer o droi creadur mawr a brawychus yn gyfrwng cysur i blentyn bach. Rhaid bod ‘na rheswm a rhesymeg, ond dwi’n hoffi meddwl fod a wnelo’r cyfan â’n hawydd i ddofi’r gwyllt, a’r pennaf wylltineb yw gwylltineb yr hunan. Gwyddom, ein hunain, mor bwysig yw dofi’r hunan. ‘Y dyn y cefais i fwyaf o drafferth gydag ef, meddai’r Efengylydd Americanaidd Dwight L. Moody (1837-1899), ‘oedd Dwight L. Moody’. A dyna, wrth gwrs yw’r gwir plaen am bob un ohonom. Nyni ein hunain yw’r drafferth - nyni ein hunain yw’r arth.

Eleni, mae BAB yn dathlu ugain mlynedd mewn busnes. Beth yw BAB? Build a Bear. Gan fod fy mhlant innau wedi rhoi heibio bethau’r plentyn nid oes i BAB yr un apêl ag y bu. 'Roedd ‘na gyfnod pan oedd cerdded heibio i siop BAB bron iawn yn amhosibl! Dwi’n cofio iddynt ddychwelyd adre’ o un ymweliad gydag arth yr un, a stori fawr fawr am yr holl broses. (Dyma, gyda llaw, yw athrylith BAB). Mae graddfa o stwffin: solet neu feddal. Ym mhob arth gosodir calon fach. Gan ddibynnu ar brysurdeb ac ymroddiad y staff, mae ‘na ddefod fechan ynghlwm wrth y galon fach hon: gosodir darpar galon yr arth wrth galon y plentyn gan greu cysylltiad - calon wrth galon - rhwng y naill a’r llall. Golyga hyn oll nad oes y fath beth ag ymweliad sydyn â siop BAB!

Gwelaf awgrym o ddameg yn Build a Bear - dameg o ymwneud Duw â ni fel pobl. Ystyriwch yr adnodau hyn o broffwydoliaeth Jeremeia: "Y mae’r dyddiau’n dod," medd yr ARGLWYDD, "y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda. Ni fydd yn debyg i’r cyfamod a wneuthum â’u tadau, y dydd y gafaelais yn eu llaw i’w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yr arglwydd arnynt," medd yr ARGLWYDD. "Ond dyma’r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny," medd yr ARGLWYDD; "rhof fy nghyfraith o’u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi’n Dduw iddynt a hwythau’n bobl i mi ..." (Jeremeia 31:31-33).

... rhof fy nghyfraith o’u mewn. Yn lle cyfraith allanol, sydd yn mynnu ufudd-dod oer, mecanyddol, ceir cyfraith newydd, a honno o’n mewn i ddynodi undeb ewyllys person â Duw. Troi’n gân, nid yn orthrwm, mae’r gyfraith sydd ynom. Dofir 'arth' yr hunan pan osodir cyfraith Duw yng nghalon person. Deall a derbyn hyn sy’n ein rhyddhau o ormes llethol hunan. Calon crefydd yw crefydd y galon.

(OLlE)

SALM

Salm 149

Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr, ac i blant Seion orfoleddu yn eu brenin ... oherwydd y mae’r ARGLWYDD yn ymhyfrydu yn ei bobl; y mae’n rhoi gwaredigaeth yn goron i’r gostyngedig (Salm 149: 2-4).

Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr ... Tra gallai Israel gydlawenhau â holl genhedloedd y ddaear, a diolch am ofal a chysur Duw, perthynai iddi lawenydd unigryw fel pobl wedi ei dewis gan Dduw yn bobl iddo’i hun.

‘Roedd Duw ymhlyg yn holl hanes Israel. Ef oedd ei chreawdwr a’i brenin ... byddwch yn eiddo arbennig i mi ymhlith yr holl bobloedd, oherwydd eiddof fi’r ddaear i gyd (Exodus 19:5). Nid er mwyn ei maldodi y dewiswyd y bobl hyn, ond er mwyn eu gwneud yn bobl addas i weithredu ewyllys Duw yn y byd: ... yn deyrnas o offeiriaid i mi, ac yn genedl sanctaidd (Exodus 19: 6). Eu braint oedd cyhoeddi ryfeddodau cariad Duw i’r byd. Duw oedd llawenydd pennaf Israel. Ar ddechrau Blwyddyn Newydd, rhaid atgoffa’n gilydd mae pobl Dduw ydym, un ac oll - pobl wahanol ac ar wahân - ond yn un mewn ymgysegriad i Dduw. Cynrychiolwyr Duw ydym yn ein cymdeithas ac yn gyfryngwyr Duw i’n cymdeithas.

(OLlE)

EIN GWEINIDOG A’R TATŴ

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Maen nhw ym mhob man! Ambell un ag un, a rhai wedyn yn drwch ohonynt! Oes pawb ag un? Ymddengys felly! Na, nid pawb, ond un o bob pump yn ôl yr ystadegau. Ymhlith oedolion ifanc, un o bob tri. Athletwyr, beirdd, peldroedwyr, cantorion, diddanwyr ac ... ie, gweinidogion ag un neu ragor o rain. Mae un o bob pedwar yn difaru eu cael. Os nad ydych eisoes wedi dyfalu, testun y ‘Munud i Feddwl’ yr wythnos hon yw croenliwiadau, neu datŵs.

Wn i ddim amdanoch chi, ond weithiau yn tŷ ni - tua chanol yr wythnos rhan amlaf - gall y sgwrs wrth fwrdd swper gymryd ambell droad annisgwyl. Swper cyffredin ddigon ydoedd cyn ‘Dolig, ac un o’r plant yn gofyn: "Pa mor hen sydd eisiau i chi fod i gael tatw?" Wedi imi godi oddi ar y llawr ... aeth y sgwrs i gyfeiriad y swreal. Rhagor am hynny maes o law.

Ers yr amser swper hwnnw, daeth tatŵs yn destun diddordeb a sylw gennyf. Maen nhw ym mhob man! Er nad ydwyf fel arfer yn mentro’r fath sgyrsiau, ‘rwyf wedi manteisio ar y cyfle i ofyn hanes ac arwyddocâd ambell datŵ.

Gall datŵ fod yn ddatganiad. Cafodd un dyn datŵ i nodi geni pob un o’i blant - mae ganddo bedwar. Cafodd dyn arall datŵ i nodi ei rhyddhad o garchar. Ar sail yr enghreifftiau hyn, gellid awgrymu fod pobl yn cael tatŵ i nodi a chofio digwyddiad o bwys. Arwydd ydyw/ydynt o gyrraedd carreg filltir.

Mi ddoes ar draws ambell Gristion sydd â thatw. ‘Roedd gan un, eiriau Luther ar draws ei gyhyryn deuben (bicep): Simuel Justus et peccator. Lladin; prin iawn y bobl a fuasai’n deall y geiriau. Pam cael y tatŵ felly? Pa ddiben sydd i’r inc? Wedi gofyn, dyma’r ateb a gefais: mynegiant ydoedd o’r gwirionedd amdano ac am bob perchen ffydd. ‘Rydym ar yr un pryd yn gyfiawn ac yn bechadur - Simuel Justus et peccator. Myn Cristion arall sydd â thatŵ twt ar ei braich (Gweler y llun uchod) mai datganiad ydyw o ffydd a phrofiad: God (G) is greater (►) than the highs (▲) and lows (▼).

Gall tatŵ felly fod yn gyfrwng i berson cael datgan rhywbeth o bwys am ei hunaniaeth. Dylid ceisio gwrando neges yr inc.

Heb wadu hyn o wirionedd, mae’n rhaid i mi gyfaddef fod gen i ofid cyffredinol am datŵs. Mentraf awgrymu fod y twf syfrdanol mewn tatŵs yn gynnyrch, ac yn fynegiant o ddryswch cynyddol pobl ynglŷn â’u hunaniaeth. Â ninnau’n ansicr o bwy a beth ydym fel pobl, marciwn ein hunain i fynegi, os nad ar adegau i greu ein hunaniaeth.

Credaf, fel Cristion, mai o Dduw y daw ein hunaniaeth, ac ymhlith pobl Dduw y dylid mynegi pwy a beth ydym. Mae pob Cristion wedi ei farcio. Mae’r marc yn annileadwy. Marciwyd ni â chroes adeg ein bedydd. Dyma’r marc sy’n mynegi ein hunaniaeth. Dyma pwy a beth ydym: plentyn i Dduw.

Eiddo Duw ydym; mae ein hunaniaeth yn tarddu o fwriad Duw yng Nghrist ar ein cyfer. Fel plentyn i Dduw, gyda phlant Duw, gellid mynegi orau ein hunaniaeth: bwydo’r newynog; byw gyda, a thros y tlawd; gofalu am y claf. Hanfod ein ffydd yw marcio ein byw yn ddwfn ag inc gwasanaeth a gweinidogaeth. Credaf fod y cynnydd mewn tatŵs yn arwydd o’n methiant i gyfleu hynny i bobl. Yr unig lwyddiant i ymgyrraedd ato yw argyhoeddi pobl mai plant i Dduw ydynt; gwrthrych ei gariad a hynny drwy fod yn gyfryngau i’r cariad hwnnw. Heb lwyddo yn hynny, llwyddiant amheus fydd ein llwyddiant mwyaf.

Yn ôl at y sgwrs swreal honno wrth fwrdd swper. Wedi gweld anesmwythyd y tad, bu’r plant yn prysur hel syniadau am y fath o datŵ a fuasai’n addas iddo. Wedi i fam y plant yma ymuno yn hyn o beth, pesychais yn bregethwrol, a chyhoeddi bod adnod yn Lefiticus sydd yn gwahardd tatŵs! Gan fod y tri arall wrth y bwrdd yn gwybod llai hyd yn oed na fi am gynnwys Lefiticus, crëwyd cyfle i mi gael newid y pwnc! Ond, wedi chwilio ... Mae yna adnod felly yn Lefiticus! 19:28 - Nid ydych i wneud toriadau i’ch cnawd ... nac i ysgythru nodau arnoch eich hunain. Myfi yw’r ARGLWYDD.

Ond, nid dyna ddiwedd y mater ... Wrth drafod hyn â chyfaill yn ddiweddar, awgrymodd hwnnw fod gan Dduw tatŵ! Dyma’i dystiolaeth am y fath ddatganiad: Edrych, ‘rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo ... Eseia 49:15. Ie, plant i Dduw ydym; gwrthrych ei gariad.

(OLlE)

SALM

Salm 90

Testun ein sylw heddiw yw Salm 90 ac yn arbennig yr adnod hon: Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth (12).

Gellid awgrymu fel hyn, ATHRO: Felly dysg ni ...; GWERS: ... i gyfrif ein dyddiau; NOD: ... inni gael calon ddoeth.

Iesu yw ein HATHRO ni. Iesu yw ein hathro ni - dod ato fel disgyblion yw’r alwad gyntaf arnom, ac wrth ddod ato, rhaid wrth wyleidd-dra, meddwl agored, gonestrwydd a dyfalbarhad. Dyma hanfod yr Efengyl.

Y WERS? ... i gyfrif ein dyddiau. Diben y wers yw ein dysgu fod gwahaniaeth mawr rhwng cyfrif ein dyddiau a threulio’n hamser. Mae’n bwysig gwneud audit o’n hamser, a gofyn faint o’n hamser ydyn ni’n rhoi i ni’n hunain, i’n hanwyliaid, i Grist a’i bobl a ... faint o’n hamser i ni’n gwario’n ofer?

Cymhwyso’r wers sy’n bwysig. Rhaid gosod y wers i gyfeiriad daioni a gwasanaeth; rhaid cadw’r NOD mewn golwg: inni gael calon ddoeth. Doethineb felly yw’r nod. Y galon ddoeth yw honno sydd ar agor i’r gwirionedd sydd yn Iesu. Doethineb yw meddwl Crist yn llenwi a llywio ein meddwl ni; ewyllys Crist yn cywiro a grymuso ein hewyllys ni; cariad Crist yn ein meddiannu, a’n goleuo a’n sancteiddio.

Yn y bôn, felly, Iesu yw’r ATHRO, Iesu yw’r WERS, Iesu yw’r NOD.