E-BOST GAN HEN BIWRITAN

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Derbyniais e-bost neithiwr ...

Peth lled gyffredin wrth gwrs yw derbyn e-bost, ond ... gan Jonathan Edwards - Americanwr, arloeswr; pregethwr, Piwritan - ddaeth yr e-bost hwn.

Do, neithiwr derbyniais e-bost gan y Parchedig Jonathan Edwards (1703-1759).

Y Parchedig Jonathan Edwards (1703-1759).

Heb ddim dadlau cyfraniad mwyaf Jonathan Edwards i’r traddodiad Cristnogol yw ei bregethau. Yma y gwelir eglurder llachar ei ddiwinyddiaeth a’i allu syfrdanol i gyfathrebu. Pregethai’n gyson oherwydd ei fod yn byw i bregethu. Wrth bregethu deffrodd Edwards yn ei wrandawyr yr ymdeimlad o gyfrifoldeb personol i Dduw, gwawriodd Barn a Thragwyddoldeb ar feddyliau pobl. Y gwirioneddau hyn a gynhyrchodd arwriaeth yr oes Biwritanaidd, ac argyhoeddiadau y mae’n anodd i ni heddiw gael syniad priodol am eu dyfnder a’u grym.

Ta waeth am hynny ... dyma’r e-bost, a drodd yn gyfres o e-byst. Mae Jonathan yn cyfathrebu yn Saesneg, a gwelir fy ymateb yn y Gymraeg.

Happy New Year and our Lord’s blessings to you.

Ac i chithau’r un modd. Y mae gennyf achos diolch, a chofio, ac ymgysegru.

Have you made some resolutions this year?

(Gan fod ofn Piwritaniaid arnaf, penderfynais beidio nodi union natur f’addunedau Blwyddyn Newydd eleni, a dilyn yn hytrach trywydd ffug dduwioldeb). Yn weddigar, wedi ceisio goleuni i ddeall addewidion Duw, ymddiriedaeth i bwyso arnynt, a’r arweiniad i ennyn ymateb mewn ymgysegriad, do, gwnes addunedau Blwyddyn Newydd.

Truly?

Mae’n amlwg fod gan ambell hen Biwritan y ddawn i osod pin sydyn ym malwn y ffugdduwiol!

Were not your Resolutions primarily concerned - this year again - with the loss of ten pounds over the next few months; applying patience and resolve to your relationship with certain others that I best not name ... and to be able to beat your son at chess again? Noble indeed.

Gwyddai hwn amdanaf, ac am natur ddof, ailadroddus ailadroddus fy addunedau blynyddol. Wedi cydnabod hynny, daeth y neges hon:

I was a young man unsure of my future. My father and grandfather were ministers. I had a first rate education, one of the finest of the day. It was a time when Jonathan Edwards was not Jonathan Edwards.

Gan nad oeddwn yn deall hyn, gofynnais am esboniad ...

It was a time before Jonathan Edwards was the theologian, minister and preacher that I am now known to be. In 1722 - 23, during my nineteenth year, I was just Jonathan Edwards. At age nineteen, Jonathan Edwards was the potential Jonathan Edwards. It was then that I penned my ‘Resolutions’.

‘Roedd Google gennyf eisoes yn chwilio am ‘jonathan edwards resolutions’ (About 3,660,000 results (0.41 seconds)

Do you have them?

Wedi ymateb yn gadarnhaol, daeth y neges olaf:

Resolve to consider these Resolutions of mine. Truly, I pray your affections are stirred most strongly towards our Lord Jesus Christ this coming year.

Yn hwyr i’r nos, bues yn darllen ac ystyried Addunedau Jonathan Edwards, ac mae rhif 24 a 25 wedi glynu, a chrafu. Mae f’addunedau - eto fyth - i golli pwysau a meithrin amynedd yn ddof iawn mewn cymhariaeth.

24. Resolved, whenever I do any conspicuously evil action, to trace it back, till I come to the original cause; and then both carefully endeavour to do so no more, and to fight and pray with all my might against the original of it.

25. Resolved, to examine carefully, and constantly, what that one thing in me is, which causes me in the least to doubt of the love of God; and to direct all my forces against it.

Os hoffech ddarllen rhagor, awgrymaf:  of https://verticallivingministries.com/tag/70-resolutions-of-jonathan-edwards-in-modern-language/

(OLlE)

GŴYL Y FIL FEIBION

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

‘The scream from Ramah’, stamp o Ynysoedd Ffaröe, 2001.

Gellid troi at Mathew 2:13-18 a Jeremeia 31:15.

Heddiw - Gŵyl y Fil Feibion - cofiwn am blant Bethlehem a laddwyd gan Herod. Pan fethodd y sêr-ddewiniaid ddychwelyd at y brenin a rhoi gwybod iddo ble cai hyd i Iesu, aeth yn gandryll.

O dan ddylanwad carolau swynol, cardiau lliwgar a moeth a hwyl ein Nadolig, mae’n hawdd iawn inni feddwl mai i fyd tangnefeddus y ganwyd Iesu. Nid felly. I fyd Herod y daeth - i’n byd ni - byd o ddicter a dial, rhyfel a gwae. Nid oes cadarnhad o unrhyw ffynhonnell arall i’r hanes alaethus am ladd plant bach Bethlehem, ond mae’r creulondeb yn gydnaws â chymeriad Herod Fawr. ‘Roedd yn ddiarhebol o ddrwgdybus a didostur, ac wrth sôn am y gwallgofrwydd daw wylofain a galaru dwys Rachel i gof Mathew. Pam Rachel? Oherwydd mai mam oedd hi - mam Jacob a Benjamin - un o famau enwocaf Israel. Ym Methlehem y claddwyd hi. Wylo ‘roedd Rachel, meddai Jeremeia, wrth weld plant Israel yn mynd i’r gaethglud. Mae’n wylo eto, meddai Mathew, wrth weld plant Bethlehem yn cael eu lladd. Yr un yw’r gwae ar draws yr oesoedd. Yr un yw galar mam.

Heddiw cofiwn am blant Bethlehem a laddwyd gan Herod. Pam? Onid peth naturiol yw ceisio anghofio pethau drwg? Yn wir, mae arnom ni gyd weithiau angen ceisio anghofio’r drwg sydd gymaint rhan o’n byw a’n bod.

Rhaid cofio am blant Bethlehem a laddwyd gan Herod. Rhaid gwneud hynny. Rhaid cofio fod lladd a galar yn rhan annatod o stori geni Iesu, ein Harglwydd. Ganed Iesu mewn bedd - bedd y bechgyn a laddwyd ym Methlehem. Os digwydd inni esgymuno’r hanes gwaedlyd hwn rhag gweddill hanes y Nadolig, mae’r Nadolig yn colli’i ystyr; bydd cân yr angylion ‘… tangnefedd ymhlith pobl …’ (Luc 1:14b BCN) yn colli’i ystyr, canys byddwn wedi ceisio anghofio fod cysgod Herod yn ddychryn ar draws ein dydd a’n hoes. Os gwnawn hynny mae Herod yn cael rhwydd hynt i fynd ati’n brysur i geisio dileu’r goleuni a dadwneud y geni.

Felly nid ewyllys eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd, yw bod un o’r rhai bychain hyn ar goll (Mathew 18:14).

(OLlE)