SALM

Salm 51

Bydd drugarog wrthyf, O! Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb; yn ôl dy fawr dosturi dilea fy meiau; golch fi’n lân o’m heuogrwydd, a glanha fi o’m pechod (Salm 51:1.2 BCN).

Trawir nodyn gwir ostyngeiddrwydd yn y salm hon. Nid gostyngeiddrwydd tebyg i eiddo Muhammad Ali: I still say that I am the greatest, but I say it in a humbler way! Nid gostyngeiddrwydd tebyg i eiddo’r diacon a daerodd wrth y Parchedig Edward Mathews, Ewenni, ‘Dim ond dau ddyn gostyngedig sydd yn yr eglwys hon, Mr Richards y gweinidog a minnau!’

Beth fyddai ymateb y salmydd tybed pe bai dyn yn cytuno â’i ddyfarniad amdano’i hun? Cyfeiriad T. S. Eliot at arlunydd a adwaenai: He affected a fine indifference for his own talents, but would have been greatly offended by anyone who shared it.

Daw bendith i’n rhan o fyfyrio ar y salm hon. Nid oes yma rithyn o falchder. Yn ei gofiant i George M. Ll. Davies fe ddyfynna’r Parchedig E. H. Griffiths un o ddywediadau mawr bachog y tangnefeddwr mawr hwnnw: ‘Fe ddywedir fod llawer math ar falchder megis balchder plas, balchder tras a balchder gras, y tri hyn a’r gwaethaf o’r rhain yw balchder gras.’

(OLlE)

MEDDAI IESU: 'MYFI YW PONT Y BYWYD.'

WWUC2017 #8

Myfi yw'r ffordd ... (Ioan 14:6a BCN)

Myfi yw'r ffordd ... Dyma eiriau Iesu wrth Thomas. Mae adnod yn yr Efengyl yn ôl Thomas - dogfen o'r tu allan i'r Testament Newydd - sy'n apelio'n fawr ataf, ar waethaf ei tharddiad amheus: Meddai Iesu: 'Myfi yw Pont y Bywyd.'

Mae angen pont yn ogystal â ffordd. Pontydd diogel yw un o anghenion pennaf ei byd heddiw: pontydd rhwng cenhedloedd, rhwng hiliau, rhwng diwylliannau a chrefyddau; rhwng cenedlaethau, rhwng amrywiol draddodiadau ac argyhoeddiadau'r Eglwys. Gwaith anodd yw codi pontydd o'r fath. Haws eu hesgeuluso.

Credwn mewn datguddiad o Dduw yn Iesu Grist. Ef sy'n dwyn cymod rhyngom â'n gilydd. Ef yw'r ffordd ... a'r bont. Trwyddo ef, croeswn o fywyd ynysig i'r bywyd sy'n fywyd yn wir, sef cymundeb â Duw, ac â'n gilydd.

Diolch bod dy gariad, O! Dduw, yn fwy na mesurau meddwl dyn. Ynot ti, trwy Grist Iesu, y mae undod yr Eglwys. Amen.

MIS YN UNION WEDI'R NADOLIG DAW DYDD GŴYL SANTES DWYNWEN

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Nid llesol gor-gyffredinoli. Wedi cydnabod hynny, mentraf gor-gyffredinoli: gellid gosod pobl y naill ochr neu’r llall i’r ymadrodd syml gymhleth: ‘’Rwy’n dy garu di’. I rai, mae’r geiriau hyn yn llifo’n esmwyth fel dŵr; hawdd iawn iddynt yw datgan eu cariad ar lafar, ac o’r herwydd gwneir hynny’n aml. I’r gwrthwyneb, mae’r geiriau hyn fel tân i rai; o’r herwydd prin os o gwbl y mae’r geiriau’n cael ei dweud ar goedd.

Cawn fynegi cariad - yn gall - yn anodd iawn. Mae hyn yn rhyfedd - yn boenus o ryfedd - gan fod y rhan fwyaf helaeth ohonom yn llawn sylweddoli mai caru a chael ein caru yw gwraidd a phren bywyd - dail yw pob peth arall. Mi gredaf fod Victor Hugo (1802-1885) wedi mynegi’r gwirionedd hwn yn dwt a chymen yn y frawddeg hon o Les Miserables: The supreme happiness of life is the conviction that we are loved: loved for ourselves, loved in spite of ourselves.

Angen gwaelodol pob enaid byw yw gwybod - gwybod bod rhywun yn ein caru, yn ein derbyn am yr hyn ydym. Eironi creulonaf ein byw yw bod cymaint ohonom yn cael y fath anhawster i fynegi ein cariad, ac i glywed a derbyn mynegiant gan eraill o’u cariad tuag atom.

Beth sydd wrth wraidd hyn tybed? Amheuaeth efallai - a ydym yn amau ein bod ni’n llawn haeddu cariad gan arall neu eraill? Ac onid, trwch adain gwybedyn sydd rhwng amau ein hunain ac amau arall: os nad wyf fi’n haeddu dy gariad di, a wyt ti’n haeddu fy nghariad innau?

Ta waeth ... diolch byth am Ddydd Santes Dwynwen. Daw dydd Gŵyl Dwynwen mis union ar ôl y Nadolig. Mae mis yn fwy na digon o amser i ddechrau anghofio - anghofio neges y Nadolig, ei gysur a’i her: Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohonom fywyd tragwyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef (Ioan 3:16 a 17. WM).

Mae Duw yn ein caru; yn dy garu di, yn fy ngharu i, yn caru pob ‘fi’ a ‘ti’ ym mhob man.

Mis yn union wedi’r Nadolig cawn nodyn atgoffa gan Santes Dwynwen: Mae Duw yn ein caru. Diben cariad mawr ein Duw yng Nghrist yw dysgu ein cariad ninnau.

(OLlE)

EIN CYFRANIAD ANHEPGOR I UNDOD YR EGLWYS

WWUC2017 #7

A chan fod gennym ddoniau sy'n amrywio yn ôl y gras a roddwyd i ni, dylem eu harfer yn gyson â hynny. Os proffwydoliaeth yw dy ddawn, arfer hi yn gymesur â'th ffydd. Os dawn gweini ydyw, arfer hi i weini. Os athro wyt, arfer dy ddawn i addysgu, ac os pregethwr wyt, i bregethu. Os wyt yn rhannu ag eraill, gwna hynny gyda haelioni; os wyt yn arweinydd, gwna'r gwaith gydag ymroddiad; os wyt yn dangos tosturi, gwna hynny, gyda llawenydd. (Rhufeiniaid 12: 6-8 BCN)

Mae gan bob aelod o'r Eglwys gyfraniad. Gwerth a chyfraniad pob rhan yn y corff yw'r gymhariaeth gan Paul: Yn union fel y mae gennym aelodau lawer mewn un corff ... felly hefyd yr ydym ni, sy'n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i'w gilydd.

'Rydym yn ddibynnol ar ein gilydd, a'n cyfraniad yn cyfrif. Nid oes cyfraniad distadl, dibwys yn achos Crist.

Beth yw ein cyfraniad? Pregethu; dysgu; trefnu; arwain y gân neu gyfeilio; casglu'r offrwm, trefnu yn weinyddol neu ariannol; trefnu cyfarfodydd; rhoddi a gosod blodau sy'n arwydd a mynegiant o brydferthwch cread Duw; glanhau'r addoldy fel arwydd o lendid yng nghanol annibendod bywyd; paratoi'r bwrdd fel bo'r Cymundeb ar ein cyfer yn ddi-feth; rhoi'n gyson yn yr offrwm; gweddi, mawl, addoliad a chysondeb presenoldeb; ymweld i ddwyn cysur, ymgeledd a bendith?

Mor amrywiol yw'r gwaith, a phob cyfraniad yn fwy na dim ond cyfrif - mae pob cyfraniad yn anhepgor i undod yr Eglwys! Braint ac anrhydedd yw ein cyfraniad, er gogoniant i Dduw yng Nghrist.

Diolchwn i Ti, O! Dad, am dy holl roddion 'i gymhwyso'r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist'. Amen.

DINASYDDION AC AELODAU O DEULU DUW

WWUC2017 #6

Felly, nid estroniaid a dieithriaid ydych mwyach, ond cyd-ddinasyddion â’r saint ac aelodau o deulu Duw (Effesiaid 2:19 BCN. Buddiol buasai darllen adnodau 2:11-22).

... yng Nghrist Iesu, yr ydych chwi, a fu unwaith ymhell, wedi eich dwyn yn agos ... (Effesiaid 2:13 BCN). Mewn bywyd crefyddol gwelir agosrwydd Duw at bobl. Dilëwyd pellter pobl oddi wrth Dduw gan Grist, a gwnaethpwyd pob un yn agos. Y gymdeithas a ddaw â phobl at Grist, ac felly at ei gilydd yw’r Eglwys. Nid oes enw gwell arni na theulu Duw (Effesiaid 2:19 BCN), neu deulu’r ffydd (Galatiaid 6:10).

Felly, nid dinasyddion yn unig yn ninas Duw mohonom, ond aelodau hefyd o deulu Duw. Dinasyddion ydym, heb beidio â bod yn deulu ac yn deulu heb beidio â bod yn ddinasyddion.

Mae dwy elfen yn perthyn i deulu. Nid oes eiddo personol mewn teulu. Mae holl adnoddau’r cartref yn eiddo’r teulu yn ei gyfanrwydd. Elfen arall a berthyn i deulu yw bod holl adnoddau’r cartref er mwyn y teulu, ac nid yn ei erbyn.

Maddau i ni, O! Dad, ein pellter oddi wrth ein gilydd a’n pellter oddi wrthyt ti, a thithau’n agos bob amser. Amen.

UN YN TŶ TI

WWUC2017 #5

Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau ... (Ioan 14:2a WM)

Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau yn un ynom ni, fel y credo y byd mai tydi a’n hanfonaist i (Ioan 17:21 WM)

Rhywbeth gwahanol heddiw: nid myfyrdod, ond pos.

O na bai ‘Unity’ yn air Cymraeg!

UNITY - UN

UNITY - YN

UNITY -

UNITY - TI

Er mor wallus y Gymraeg, erys y neges: UN YN TŶ TI. Sylweddolir gwir undod oddi mewn i’r Eglwys - UN YN - wrth i’r Eglwys gyfan gyfranogi o’r undod dwyfol, a chael ei chynnwys yn yr undod perffaith hwnnw - TŶ TI.

Anodd yw sylweddoli dyhead Crist am undod ei Eglwys; anodd ond nid amhosibl, fel mae’r pos isod yn anodd, ond heb fod yn amhosibl. Awgrymaf ein bod heddiw, wrth geisio datrys y pos, yn ystyried yr hyn a wnawn i gryfhau (a gwanhau) ein hundod yng Nghrist.

Y gamp yn syml yw gwneud copi o’r llun isod heb godi’ch pensil/ysgrifbin yr unwaith o’r papur.

Gweler isod y gyfrinach.

O! Dduw, diolch am bob gair a gweithred sy’n cryfhau ein hundod yng Nghrist. Amen.

Daw'r pos o www.free-for-kids.com