SALM #WWUC17 (4/8)

WWUC2017 #4

Salm 48

... dinas y brenin mawr ...

I’r Cristion, yr Eglwys nid Jerwsalem yw dinas y brenin mawr (Salm 48:2 BCN). Fel mae’r Iddew yn caru ei brifddinas ac yn annog ei gyfoedion i glodfori yn ei phrydferthwch a’i chadernid, mae’r Cristion yntau’n caru’r Eglwys ac yn myfyrio ar ei mawredd a’i sefydlogrwydd. Cymhwysir syniadau’r bardd Iddewig am ddinas hanesyddol i Eglwys Crist.

O’u dehongli fe hyn, mae’r geiriau sy’n cyfeirio at bresenoldeb Duw yn Seion: Oddi mewn i’w cheyrydd y mae Duw wedi dangos ei hun fel amddiffynfa (Salm 48:3 BCN) yr un mor berthnasol i’r Eglwys Gristngogol ag ydynt i Jerwsalem. Hefyd, gellir cymryd y gwahoddiad i rifo tyrau’r ddinas, sylwi ar ei magwyrydd a mynd trwy ei chaerau (Salm 48:12/13) fel apêl i werthfawrogi gogoniannau’r Eglwys ar hyd y canrifoedd. Oni all Cristion ymfalchio yn yr Eglwys fel y gwna’r Iddew yn Jerwsalem? Mae’r Wythnos Weddi dros Undod Cristnogol yn gyfrwng i weld a chydnabod ein beiau fel Cristnogion - diffygion ein cenhadaeth a gweinidogaeth - ond, mae’r wythnos hon hefyd yn gyfle i ddathlu a diolch am y ffaith fod Duw, trwy ei Ysbryd yn yr Eglwys, ar waith yn y byd.

(OLlE)

O RAN Y GWELWN ...

WWUC2017 #3

Un corff sydd, ac un Ysbryd, yn union fel mai un yw’r gobaith sy’n ymhlyg yn eich galwad; un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i bawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb (Effesiaid 4:4-6 BCN).

Nodwedd o ddull meddwl Hebrëwr oedd ei duedd i feddwl am y lliaws yn nhermau’r un. Cynrychiolwyd y teulu cyfan gan y pen teulu a chenedl gyfan gan frenin. Credaf fod Paul wedi etifeddu'r dull hwn o feddwl, a hynny yn ei alluogi i feddwl am yr un yn llawer ac am y llawer yn un. Priodol iddo felly oedd meddwl am holl bobl Crist fel un corff.

Ond er y pwyslais ar undod, oddi mewn iddo geir amrywiaeth. Ceir rhai yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon. Disgwylir i bob rhan o’r corff wneud ei ran er lles y corff cyfan. Mae sylweddoli ein bod yn un yng Nghrist yn alwad i garu ein gilydd a chyd-weithio ym mhob modd y medrwn ni, ond nid yw’n alwad am unffurfiaeth allanol am wn i. Dylid cydnabod nad yw’r mynegiant delfrydol o’r ffydd fel Cristnogion yn bod nac wedi bod erioed ac nad yw’r holl wirionedd yn eiddo i’r un traddodiad neu argyhoeddiad. Mae’r amrywiol argyhoeddiadau a thraddodiadau yn fynegiant o’r cyfoeth sydd yng Nghrist a goludoedd Cristnogaeth. Ni welsom eto beth yw’r cyfan o Gristnogaeth gan mai o ran y gwelwn. Mae hyn yn alwad i’r traddodiadau ac argyhoeddiadau gwahanol gydnabod gweinidogaeth ei gilydd - os Crist yw'r pen - a chydnabod hefyd fel y rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist, i bob aelod o’r corff.

Dyro i ni fentro mwy yn dy enw di, O! Dduw. Amen.

CREDAF ... YN YR EGLWYS LÂN? CATHOLIG?

WWUC2017 #2

Ond y mae’r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, i ddangos mai eiddo Duw yw’r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni (2 Corinthiaid 4:7).

Yn destun sylw heddiw dyma gymal o Gredo’r Apostolion:

Credaf ... yn yr Eglwys lân ... gatholig.

Glân? Yr Eglwys Gristnogol yn lân? Yn lân ei chenhadaeth a gwasanaeth? Yn lân mewn myfyrdod a gair a gwaith? Sgersli bilîf! Felly pwy yw’r Eglwys lân?

Rhaid cofio fod y gair ‘glân’ yn gwlwm o ystyron - ‘pur’, ‘sanctaidd’, ‘ar wahân’. Cymdeithas ‘ar wahân’ yw’r Eglwys lân, wedi ei gwahanu oddi wrth bob peth arall. Duw yng Nghrist sydd yn ei galw hi o’r neilltu. Ef sydd yn ei gwneud hi yn gymdeithas ar wahân. Ond, nid gwaith yr Eglwys yw cadw ar wahân i’r byd a sefyll draw oddi wrth bopeth ‘bydol’. Gwaith yr Eglwys yw byw, gweithio a thystiolaethu yn y byd. Duw yw’r un a rydd arwahanrwydd iddi. Ni all yr eglwys ymsancteiddio. Duw sy’n ei chysegru, ei sancteiddio a’i chadw’n lân.

... yn yr Eglwys lân gatholig.

Y mae’r Eglwys lân gatholig yn gymdeithas gyffredinol, heb ffiniau, ac yn fyd-eang. Gall pawb fod yn aelod o’r Eglwys lân gatholig os yw’n arddel enw Iesu yn Arglwydd. Y mae ffiniau rhesymol a naturiol mewn llawer rhan o fywyd. Er enghraifft, ni allaf fi fod yn aelod o’ch teulu chi, nac efallai, yn un o gylch eich cyfeillion. Ond nid oes ffiniau na dosbarthiadau y tu fewn i’r Eglwys lân gatholig ychwaith; y mae gan bawb o’i haelodau gyfraniad cyfartal i’w bywyd hi. Gan fod ynddi wahanol ddoniau y mae ganddynt wahanol gyfraniadau. Yn yr Eglwys lân gatholig y mae pawb yn ‘weinidog’, gan fod pawb yn gweini ar bawb. Cymdeithas i wasanaethu pawb yw’r Eglwys lân gatholig. Gwasanaetha bawb o’i haelodau, nid plesio carfan ohonynt yn unig. Gwasanaetha hefyd bawb drwy’r byd yn enw ei Harglwydd.

O! Dduw, diolchwn fod dy Eglwys di yn lletach na’r ffiniau i gyd, ffiniau’r canrifoedd a’r oesoedd; ffiniau ardaloedd a thraddodiadau; ffiniau argyhoeddiadau, rhagfarnau a mympwyon gwahanol. Dysg i ni, ynddi, a throsti i feddwl a byw yn lân a chatholig. Amen.

 

UNDEB NEU UNDOD CRISTNOGOL?

WWUC2017 #1

Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd yr undod y mae’r Ysbryd yn ei roi (Effesiaid 4:3 BCN).

Undod ...

Undeb ...

Oes gwahaniaeth?

Oes, a hwnnw’n wahaniaeth eithriadol bwysig.

Mae Undod - hynny yw bod fel un - yn parchu’r pethau sy’n gwahaniaethu’r amrywiol draddodiadau Cristnogol oddi wrth ei gilydd. Mae Undeb - wedi uno, wedi ymffurfio’n un - yn ceisio dileu’r gwahaniaethu’r amrywiol rheini, a chreu o’r amrywiaeth unffurfiaeth.

Mae Undod Cristnogol yn debyg i farddoniaeth, rhyddiaith yw Undeb Cristnogol. Peth ysbrydol yw Undod, peth crefyddol, strwythurol, cyfundrefnol yw Undeb. Gellid cael Undod heb Undeb, ac nid yw Undeb yn warant o Undod. Meddyliwch am y peth yn nhermau’r gwahaniaeth rhwng Cariad - Undod; a Phriodas - Undeb. Mae perthynas rhwng y naill a’r llall wrth gwrs, ond nid yr un peth mohonynt. Emosiwn yw Cariad, Sefydliad yw Priodas.

Menter Duw yw Undod Cristnogol, a ninnau’n cael y fraint aruchel o fod â rhan a chyfran yn y fenter anferthol honno. Boed i’r wythnos hon fod yn gyfle i ni ymroi i gadw, â rhwymyn tangnefedd yr undod y mae’r Ysbryd yn ei roi (Effesiaid 4:3 BCN).

 Diolch bod dy gariad, O! Dduw, yn fwy na mesurau meddwl dyn. Ynot ti, trwy Grist Iesu, y mae undod yr Eglwys. Amen.

(OLlE)

WINNIE THE POOH, 'BUILD A BEAR' A'R PROFFWYD JEREMEIA

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Heddiw, yn 1882 ganed Alan Alexander Milne. Gellid awgrymu felly mai heddiw yw pen-blwydd Winnie the Pooh. Arth yw Winnie wrth gwrs, a bu arth neu dedi yn gwmni ac yn gysur i’r rhan fwyaf ohonom yn ein plentyndod.

Wedi meddwl, onid rhyfedd yr arfer hwn o roi arth i blentyn yn gysur ac yn gwmni? Wedi’r cyfan, nid yw eirth y gorau o gwmni! Creaduriaid brawychus yw eirth. Mynnai Dennis R. Blanchard yn ei gofnod o gerdded y Llwybr Appalachaidd: All of the authoritative books on bears seem to agree on one thing: if you're close enough to a bear to cause it to change its activity pattern, you're too close, and in possible danger. Mae James Rollins, o’i brofiad o eirth gwynion yn awgrymu fel hyn: Always respect Mother Nature. Especially when she weighs 400 pounds and is guarding her baby. Dyma adnod (erchyll) o’r Beibl: ... daeth dwy arth allan o’r goedwig a llarpio dau a deugain o’r plant (2 Brenhinoedd 2:24 BCN).

Rhyfedd iawn yw’r arfer o droi creadur mawr a brawychus yn gyfrwng cysur i blentyn bach. Rhaid bod ‘na rheswm a rhesymeg, ond dwi’n hoffi meddwl fod a wnelo’r cyfan â’n hawydd i ddofi’r gwyllt, a’r pennaf wylltineb yw gwylltineb yr hunan. Gwyddom, ein hunain, mor bwysig yw dofi’r hunan. ‘Y dyn y cefais i fwyaf o drafferth gydag ef, meddai’r Efengylydd Americanaidd Dwight L. Moody (1837-1899), ‘oedd Dwight L. Moody’. A dyna, wrth gwrs yw’r gwir plaen am bob un ohonom. Nyni ein hunain yw’r drafferth - nyni ein hunain yw’r arth.

Eleni, mae BAB yn dathlu ugain mlynedd mewn busnes. Beth yw BAB? Build a Bear. Gan fod fy mhlant innau wedi rhoi heibio bethau’r plentyn nid oes i BAB yr un apêl ag y bu. 'Roedd ‘na gyfnod pan oedd cerdded heibio i siop BAB bron iawn yn amhosibl! Dwi’n cofio iddynt ddychwelyd adre’ o un ymweliad gydag arth yr un, a stori fawr fawr am yr holl broses. (Dyma, gyda llaw, yw athrylith BAB). Mae graddfa o stwffin: solet neu feddal. Ym mhob arth gosodir calon fach. Gan ddibynnu ar brysurdeb ac ymroddiad y staff, mae ‘na ddefod fechan ynghlwm wrth y galon fach hon: gosodir darpar galon yr arth wrth galon y plentyn gan greu cysylltiad - calon wrth galon - rhwng y naill a’r llall. Golyga hyn oll nad oes y fath beth ag ymweliad sydyn â siop BAB!

Gwelaf awgrym o ddameg yn Build a Bear - dameg o ymwneud Duw â ni fel pobl. Ystyriwch yr adnodau hyn o broffwydoliaeth Jeremeia: "Y mae’r dyddiau’n dod," medd yr ARGLWYDD, "y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda. Ni fydd yn debyg i’r cyfamod a wneuthum â’u tadau, y dydd y gafaelais yn eu llaw i’w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yr arglwydd arnynt," medd yr ARGLWYDD. "Ond dyma’r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny," medd yr ARGLWYDD; "rhof fy nghyfraith o’u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi’n Dduw iddynt a hwythau’n bobl i mi ..." (Jeremeia 31:31-33).

... rhof fy nghyfraith o’u mewn. Yn lle cyfraith allanol, sydd yn mynnu ufudd-dod oer, mecanyddol, ceir cyfraith newydd, a honno o’n mewn i ddynodi undeb ewyllys person â Duw. Troi’n gân, nid yn orthrwm, mae’r gyfraith sydd ynom. Dofir 'arth' yr hunan pan osodir cyfraith Duw yng nghalon person. Deall a derbyn hyn sy’n ein rhyddhau o ormes llethol hunan. Calon crefydd yw crefydd y galon.

(OLlE)

SALM

Salm 149

Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr, ac i blant Seion orfoleddu yn eu brenin ... oherwydd y mae’r ARGLWYDD yn ymhyfrydu yn ei bobl; y mae’n rhoi gwaredigaeth yn goron i’r gostyngedig (Salm 149: 2-4).

Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr ... Tra gallai Israel gydlawenhau â holl genhedloedd y ddaear, a diolch am ofal a chysur Duw, perthynai iddi lawenydd unigryw fel pobl wedi ei dewis gan Dduw yn bobl iddo’i hun.

‘Roedd Duw ymhlyg yn holl hanes Israel. Ef oedd ei chreawdwr a’i brenin ... byddwch yn eiddo arbennig i mi ymhlith yr holl bobloedd, oherwydd eiddof fi’r ddaear i gyd (Exodus 19:5). Nid er mwyn ei maldodi y dewiswyd y bobl hyn, ond er mwyn eu gwneud yn bobl addas i weithredu ewyllys Duw yn y byd: ... yn deyrnas o offeiriaid i mi, ac yn genedl sanctaidd (Exodus 19: 6). Eu braint oedd cyhoeddi ryfeddodau cariad Duw i’r byd. Duw oedd llawenydd pennaf Israel. Ar ddechrau Blwyddyn Newydd, rhaid atgoffa’n gilydd mae pobl Dduw ydym, un ac oll - pobl wahanol ac ar wahân - ond yn un mewn ymgysegriad i Dduw. Cynrychiolwyr Duw ydym yn ein cymdeithas ac yn gyfryngwyr Duw i’n cymdeithas.

(OLlE)