GŴYL Y FIL FEIBION

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

‘The scream from Ramah’, stamp o Ynysoedd Ffaröe, 2001.

Gellid troi at Mathew 2:13-18 a Jeremeia 31:15.

Heddiw - Gŵyl y Fil Feibion - cofiwn am blant Bethlehem a laddwyd gan Herod. Pan fethodd y sêr-ddewiniaid ddychwelyd at y brenin a rhoi gwybod iddo ble cai hyd i Iesu, aeth yn gandryll.

O dan ddylanwad carolau swynol, cardiau lliwgar a moeth a hwyl ein Nadolig, mae’n hawdd iawn inni feddwl mai i fyd tangnefeddus y ganwyd Iesu. Nid felly. I fyd Herod y daeth - i’n byd ni - byd o ddicter a dial, rhyfel a gwae. Nid oes cadarnhad o unrhyw ffynhonnell arall i’r hanes alaethus am ladd plant bach Bethlehem, ond mae’r creulondeb yn gydnaws â chymeriad Herod Fawr. ‘Roedd yn ddiarhebol o ddrwgdybus a didostur, ac wrth sôn am y gwallgofrwydd daw wylofain a galaru dwys Rachel i gof Mathew. Pam Rachel? Oherwydd mai mam oedd hi - mam Jacob a Benjamin - un o famau enwocaf Israel. Ym Methlehem y claddwyd hi. Wylo ‘roedd Rachel, meddai Jeremeia, wrth weld plant Israel yn mynd i’r gaethglud. Mae’n wylo eto, meddai Mathew, wrth weld plant Bethlehem yn cael eu lladd. Yr un yw’r gwae ar draws yr oesoedd. Yr un yw galar mam.

Heddiw cofiwn am blant Bethlehem a laddwyd gan Herod. Pam? Onid peth naturiol yw ceisio anghofio pethau drwg? Yn wir, mae arnom ni gyd weithiau angen ceisio anghofio’r drwg sydd gymaint rhan o’n byw a’n bod.

Rhaid cofio am blant Bethlehem a laddwyd gan Herod. Rhaid gwneud hynny. Rhaid cofio fod lladd a galar yn rhan annatod o stori geni Iesu, ein Harglwydd. Ganed Iesu mewn bedd - bedd y bechgyn a laddwyd ym Methlehem. Os digwydd inni esgymuno’r hanes gwaedlyd hwn rhag gweddill hanes y Nadolig, mae’r Nadolig yn colli’i ystyr; bydd cân yr angylion ‘… tangnefedd ymhlith pobl …’ (Luc 1:14b BCN) yn colli’i ystyr, canys byddwn wedi ceisio anghofio fod cysgod Herod yn ddychryn ar draws ein dydd a’n hoes. Os gwnawn hynny mae Herod yn cael rhwydd hynt i fynd ati’n brysur i geisio dileu’r goleuni a dadwneud y geni.

Felly nid ewyllys eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd, yw bod un o’r rhai bychain hyn ar goll (Mathew 18:14).

(OLlE)

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (13)

Yn yr ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos (Luc 2:8 BCN)

‘Roedd cwmni ohonom wrth y tân - tân heb wres iddo - a phawb wedi glân flino.

‘Roedd fy llygaid ar agor - yn gweld dim - edrych trwy bopeth at ddim byd. Dim byd o gwbl, dim byd ond ... golau swnllyd, sŵn olau. ‘Roedd nos yn fyw! Bwrlwm gwyllt o’r creaduriaid rhyfeddaf a welais erioed. Angylion y’i gelwir: llachar, hudolus, tywyll, brawychus. Eu cân yn treiddio a thrydanu, yn suo ac atseinio: cysur a braw.

Dywedwyd rhywbeth wrthym. Do. Er na wyddom - wrth geisio cofio - beth yn union. Yn sgil y neges aethom ar garlam i stabl ym Methlehem.

Yn llygad y storm, mae yna dawelwch. ‘Does dim byd yn symud; mae’r tawelwch, hyd yn oed, yn ymdawelu. ‘Drychwch, dyma’r un bach: llygad y storm ydyw.

Agorwch eich llygaid, gwrandewch.

(OLlE)

 

 

SALM

Salm 34:18-20

Llawer adfyd a gaiff y cyfiawn (Salm 34:19a BCN). Nid yw pobl Dduw yn rhydd rhag gofidiau a phoen bywyd. Mewn trychineb naturiol neu derfysgaeth yr un yw tynged y cyfiawn a’r anghyfiawn. 'Rydym wedi ein rhwymo wrth ein gilydd ym mwndel bywyd, a phan ddaw gwewyr a phoen, nid yw’n ymweld dim ond â’r anghyfiawn. Y gwahaniaeth rhwng y cyfiawn a'r anghyfiawn yw bod y cyfiawn yn ymwybod â phresenoldeb a chymorth Duw: Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn, a’i glustiau’n agored i’w cri (Salm 34:15 BCN).

Fy Nhad o’r nef, O! gwrando ‘nghri:

un o’th eiddilaf blant wyf fi;

O! clyw fy llef a thrugarha,

a dod i mi dy bethau da.

Nid ceisio ‘rwyf anrhydedd byd,

nid gofyn wnaf am gyfoeth drud;

O! llwydda f’enaid trugarha,

a dod i mi dy bethau da.

Fe all mai’r storom fawr ei grym

a ddaw â’r pethau gorau im;

fe all mai drygau’r byd a wna

i’m henaid geisio’r pethau da.

Fy Nhad o’r nef, O! gwrando ‘nghri

a dwg fi’n agos atat ti,

rho imi galon a barha

o hyd i garu’r pethau da. Amen

(Moelwyn 1866-1944; CFf.691)

 

(OLlE)

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (12)

... am nad oedd lle iddynt yn y gwesty (Luc 2:7b BCN)

Dyn busnes ydwyf.

A wyddoch tybed beth yw cynnal busnes?

Cant a mil o bethau o hyd - bob amser - i wneud.

Dau yn dod trwy’r drws. Hithau â cherddediad trwm y beichiog, ac yntau’n dawel ar ei hôl. Tawelwch fu rhyngom yn bennaf. Tawelwch lletchwith y tlawd: tawelwch pobl eisiau rhywbeth - eisiau lle yn y llety.

'Doedd gen i ddim lle.

‘Roedd gen i gant a mil o bethau i wneud.

Danfonais hwy i’r stabl.

‘Doedd gen i ddim lle.

‘Roedd gen i gant a mil o bethau i wneud.

Y noson honno ganed y baban.

Es i ddim i weld: 'roedd gen i gant a mil o bethau i wneud.

Cyffesaf i mi golli’r cyfle i weld - mewn bychan - holl fawredd Duw.

‘Doedd gen i ddim lle.

‘Roedd gen i gant a mil o bethau i wneud ...

(OLlE)