ALBAN ARTHAN

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Mae dyddiadur Lolfa yn eu nodi: Alban Hefin ac Alban Arthan. Fe ddigwydd dydd hiraf y flwyddyn ganol Mehefin, a heddiw daeth Alban Arthan - dydd byrraf y flwyddyn.

Profiad cysurlawn yw sylweddoli heddiw bod y rhod bellach wedi troi i gyfeiriad goleuni. Er mai yn nwfn y gaeaf yr ydym, a bod gennym fisoedd digon diflas ac oer o’n blaenau, o hyn ymlaen bydd pethau’n siŵr o newid er gwell, ac ymestyn bydd hanes ein dyddiau mwyach.

Ar droad y rhod fel hyn, dim ond munud neu ddwy gynnil yw’r ymestyniad, ond pan daenir munudau cynyddol felly dros gyfnod o wythnosau a misoedd, bydd y gwahaniaeth yn galondid mawr.

Dyfod teyrnasiad Crist oedd y calondid y cyfeiriai Paul ato yn ei lythyr at y Rhufeiniad: Y mae’r nos ar ddod i ben, a’r dydd ar wawrio (Rhufeiniaid 13:12a BCN). Dylid nodi cyfieithiad William Morgan dim ond am ei hyfrydwch: Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd ...

Gan gofio hyn oll, mynnwn heddiw fymryn o dawelwch, tamaid o lonyddwch i ystyried a chofio.

Ystyriwn y rhydd-gyfieithiad hwn o Weddi’r Goleuni gan Rumi (Jalāl ad-Dīn Muhammad Rūmī; 1207-1273):

O! Dduw,

Dyro i mi olau yn fy nghalon a golau yn fy ymddiddan,

A golau yn fy nghlywed, a golau yn fy ngweld,

A golau yn fy nheimlo, a golau yn fy nghyffyrddiad.

A golau y tu blaen i mi, a golau y tu cefn i mi.

O! Dduw, dyro i mi olau.

Golau ar y llaw dde, a golau i’r aswy,

Golau o danaf, a golau uwch fy mhen.

O! Dduw, boed i’th olau gynyddu ynof.

Dyro dy olau i’m goleuo.

Profi felly llewyrch dy olau

Yw ymwybod â Golau pob golau.

Cofiwn, gyda Duw, rywun sydd yn hawlio lle yn ein gweddïau’r Nadolig hwn. Yn gymorth yn hynny, dyma at eich defnydd weddi fach syml yn seiliedig ar y ddelwedd o Dduw fel goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch:

O! Dduw, dyro dy olau i bob un sydd mewn tristwch, afiechyd, unigrwydd a gofid. Llewyrcha ar eu llwybrau a gad iddynt, yn dy oleuni, gerdded pob cam o’r daith yn ddiogel; trwy Iesu Grist dy Fab. Amen.

 (OLlE)

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (11)

Anfonodd hwy i Fethlehem gan ddweud, "Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd i’w addoli." (Mathew 2:8 BCN)

Herod

Palas - ysblennydd.

Cerlannau - y marmor drutaf.

Gerddi - cymen.

Ond tlawd yw’r palas hwn, gwan; afler.

Adeiladwyd y cyfan oll ar wyneb pwll o wenwyn.

Ffiaidd ydyw iddynt.

Hanner Iddew - hanner Iddew nid yw’n Iddew o gwbl.

Caseir ef am yr hyn oll nad ydyw, ac am yr hyn oll ydyw.

Mae fy meistr yn debyg i garreg galch fy hen gynefin: cerfiwyd ef gan symud cyson y gwenwyn sy’n llifo bob dydd trosto, amdano, trwyddo, ynddo - nes creu ohono frenin sy’n arswydo rhag baban yn ei grud.

(OLlE)

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (10)

Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru'r holl Ymerodraeth (Luc 2:1 BCN).

Nid pawb sydd yn dod o’u gwirfodd …

Ond, cofrestru’r holl Ymerodraeth yw bwriad Cesar Awgwstus. Fy ngwaith innau yw dilyn pob si a sôn am y bobl hynny sydd yn ceisio osgoi’r cofrestru cyntaf hwn. Dyna ddaeth â mi i stabl. Daw milwr neu ddau gyda fi bob tro. Yn y stabl: gwryw, benyw a phlentyn newydd-anedig.

Wedi cyflwyno fy hun fel Swyddog yr Ymerodraeth, dechreuais ar y cofrestru:

A ydych yn iach, a pharod i gael eich cyfweld heddiw?

Enwau?

O ble ‘ych chi'n dod?

O ble ‘ych chi'n dod yn wreiddiol?

Oes teulu gennych yma?

Am ba hyd ‘ych chi’n bwriadu aros?

Beth yw natur eich perthynas?

A oes gennych y dogfennau angenrheidiol?

(OLlE)

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (9)

Pan oeddent yno, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, ac esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a'i osod mewn preseb ... (Luc 2:6,7 BCN)

Wel, wel! Helo’r un bach!

Fi yw dy fam.

Be’ wnâi ohonot dwed?

Be’ wnei di ohonof?

‘Drycha: dy dad yw hwn. Joseff. Ie, a dyma’r ych, asyn a hanner dwsin o ddefaid. Nid dyma dy gartref. Dyma le ddois di i’r byd!

Be’ wnei di o’r hen fyd ‘mha? Rhyfedd o fyd! Rhyfedd, a rhyfeddol hefyd - cofia di chwilio am y rhyfeddol.

Be’ wnei di o bobl? Am bob un drwg ma' dau dda, dwi’n credu hynny. Ond, cofia am bob un pwyllog ma’ dau fyrbwyll!

Be’ bynnag, cymer laeth nawr. Cymer dy ddigon, ac wedyn cwsg; cysga di a chawn fymryn o orffwys ni’n tri: heddwch mewn stabl.

(OLlE)

A'R GOLEUNI SYDD YN LLEWYRCHU YN Y TYWYLLWCH

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Oes arnoch ofn y tywyllwch?

Nid oes ofn tywyllwch ar y dolffin. Nid oes angen i ddolffin fod ag ofn tywyllwch. Mae dolffin yn gallu gweld yn y twyllwch - gweld trwy glywed. Mae gan ddolffin system eco-leoli sonar, gall weld seindonnau. Tybed felly os yw’r byd yn stŵr o liw pan mae’r dolffin yn torri wyneb y dŵr ac yn defnyddio eto’i lygaid mamalaidd - llygaid fel ein llygaid ni? Efallai mai dyna pam mae’r dolffin fel plentyn yn chwarae wrth agosáu at wyneb y dŵr - mae ei fyd eto’n llawn lliw!

Mae ofn tywyllwch ar bobl. Ofn sydd â’i wreiddiau’n ddwfn iawn yn ein hanes - hen hen ofn yn mynd nôl i gyfnod ein cyndeidiau. ‘Roedd ein cyndeidiau yn treulio rhannau helaethaf o’u bywydau mewn tywyllwch. Tywyllwch cas oedd y tywyllwch cynnar hwnnw - tywyllwch a fu’n gwasgu a gwthio yn erbyn gwawl a gwres tanau’r gwersyll. ‘Roedd y tywyllwch fel petai am lyncu’r golau, am ladd y gwres, am ddiffodd y tân. ‘Roedd dreigiau yn y nos, a bleiddiaid yn udo, bwganod a’i sgrech fel toriad calon, a llygaid yn sbecian. Llyncwyd pobl gan y tywyllwch. ‘Roedd y ddunos o gylch ein cyndeidiau’n teyrnasu.

A ninnau’n noeth, yn wan ac yn ddall yn y twyllwch daeth technoleg i’r adwy. Yn noeth, mynnom groen a chot yr anifail; yn wan aethom ati i hogi crafangau o garreg, a dannedd o bren; yn ddall aethom ati i ddarganfod ffyrdd i ddal y tywyllwch hyd fraich gyda thân a golau.

Er dal yn amheus o’r tywyllwch, ‘rydym erbyn hyn hefyd yn chwilfrydig iawn amdano - mynnwn edrych i mewn iddo, a syllu i bob hollt a thwll. Lle bynnag mae cilfachau a chorneli tywyll yn y byd hwn, mae pobl yno’n cyfeirio golau i’r tywyllwch i weld beth sydd yn ynddo’n cuddio. Mae goleuadau Nadolig eisoes wedi ymddangos. Pam? Ai i ddangos nad yw’r tywyllwch yn teyrnasu? Mae ein bywyd cyfoes yn ddisglair o oleuadau. Llwyddasom i ddofi’r tywyllwch, bu i ni ei wthio allan o’n byw a’n bod.

Ond mae sawl math o dywyllwch yn bod: tywyllwch golau yn un, ceir hefyd tywyllwch enaid, tywyllwch meddwl. Mae’r ddau olaf hyn dipyn mwy brawychus na thywyllwch y ddunos, ac anos i’w dirnad, dehongli a’i datrys.

‘Roedd y seicolegydd Carl Jung (1875-1961) yn honni bod ochr dywyll i bawb ohonom. Soniodd am ein hisymwybod fel dŵr dwfn a thywyll. Tywyllwch yn gwasgu a gwthio yn erbyn gwawl a gwres tanau’r gwersyll ein byw a’n bod. Tywyllwch sydd am lyncu’r golau, am ladd y gwres, am ddiffodd y tân - tywyllwch sydd am ein bwyta’n fyw. Mae dreigiau yn y nos hon hefyd, a bleiddiaid yn udo, bwganod a’i sgrech fel toriad calon, a llygaid yn sbecian. Llyncir pobl gan y tywyllwch hwn. Mae’r ddunos o’n cylch yn teyrnasu o hyd. O bob tywyllwch dyma’r dyfnaf, trymaf a thewaf.

Procio’r tywyllwch â gwaywffyn a wnâi ein cyndeidiau a cheisio’i yrru’n ôl â thân. ‘Rydym ninnau yn ceisio gwthio ymylon y tywyllwch mewnol yma gyda gweddi ac addoliad, cyffuriau a therapi, llyfrau self-help a phrysurdeb.

Fe wyddai Ioan am dywyllwch. Y mae’r goleuni, meddai, yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef (Ioan 1:5 BCN).

Daeth goleuni Duw yng Nghrist i’r byd i oleuo’r tywyllwch. Ond mae rhywbeth ynom, er gwaethaf ein harswyd ohono, yn mynnu rhedeg i freichiau’r tywyllwch. Daeth goleuni Duw i’r byd, ond ni dderbyniodd y byd mohono. Hyd yn oed wrth i’r goleuni lewyrchu ynom ac o’n cwmpas, awn i guddio rhagddo. Mae ‘na lais o’n mewn yn gweiddi ‘Na!’ i’r goleuni.

Beth yw’r llais hwn? O ble y daw? Sut mae tawelu’r llais un waith ac am byth? Fe hoffwn gael gwybod - ac o wybod, rhannu - yr atebion i’r cwestiynau hyn, ond nid oes atebion gennyf. Un o bennaf fendithion yr Adfent yw’r cyfle i gydnabod ein hangen am oleuni, a chyfaddef hefyd ein harswyd ohono.

Hwnt ac acw yn y capel i’r Gwasanaeth Naw Llith a Charol y nos Sul aeth heibio ‘roedd canhwyllau bach. Diferion bychan bach o oleuni. ‘Roedd rhywbeth yn druenus amdanynt ... yn druenus fel ninnau - pobl ffydd. Pobl bach ydym mewn byd mawr. Canhwyllau bychan ydym mewn môr o dywyllwch. Pwy fuasai’n mentro’r cyfan ar gwmni mor fach, mor dila? Duw. Dim ond Duw. Dyna pam yr ydym, yr Adfent hwn eto, yn adrodd y stori am lewyrch y goleuni, ac yn mynnu, fel ag y medrwn, cyfeirio’i olau i ganol y tywyllwch.

(OLlE)

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (8)

Fe â'r un a agorodd y bwlch i fyny o'u blaen; torrent hwythau trwy'r porth a rhuthro allan (Micha 2:13 BCN).

... a dyma'r seren a welsant ar ei chyfodiad yn mynd o'u blaen ... (Mathew 2:9 BCN)

Codir ein pebyll.

Griddfanai’r camelod wrth i’r gweision lusgo’r bagiau trwm oddi arnynt, a’u gosod gyda gofal ar y llawr.

Rhaid - bob nos - wrth yr offer hwn; y cyfan oll, yr oll yn gyfan i gadw golwg ar ein seren.

Tri ydym - brawdoliaeth o ddysg a dyhead. Trafodwn, cymharwn, rhannwn yr hyn oll a wyddom: hafaliadau a mesuriadau; ein darllen a dehongli o hen femrynau, hen broffwydoliaethau, hen weledigaethau. Rhannwn hefyd yr hyn oll a glywyd gan ein gweision a’n hysbiwyr: cyngor a rhybudd, si a sôn, cleber a baldorddi.

Nithio trwy’r cyfan sydd raid er mwyn cael hyd i’r ateb a geisiwn: at beth mae’r seren ddenu yn ein denu?

Synhwyrwn newid byd. I bobl â muriau cyfyng yn cau amdanynt o bob tu, daw ... chwalfa. Daw ffordd ymwared.

Yn y chwalfa daw’r eangderau i’r golwg. Yn y chwalfa y cawn - gyda’r byd i gyd - amgyffred hyd a lled ac uchder a dyfnder y grym sydd yn symud y seren hon.

(OLlE)