'MUNUD'ODAU'R ADFENT (12)

... am nad oedd lle iddynt yn y gwesty (Luc 2:7b BCN)

Dyn busnes ydwyf.

A wyddoch tybed beth yw cynnal busnes?

Cant a mil o bethau o hyd - bob amser - i wneud.

Dau yn dod trwy’r drws. Hithau â cherddediad trwm y beichiog, ac yntau’n dawel ar ei hôl. Tawelwch fu rhyngom yn bennaf. Tawelwch lletchwith y tlawd: tawelwch pobl eisiau rhywbeth - eisiau lle yn y llety.

'Doedd gen i ddim lle.

‘Roedd gen i gant a mil o bethau i wneud.

Danfonais hwy i’r stabl.

‘Doedd gen i ddim lle.

‘Roedd gen i gant a mil o bethau i wneud.

Y noson honno ganed y baban.

Es i ddim i weld: 'roedd gen i gant a mil o bethau i wneud.

Cyffesaf i mi golli’r cyfle i weld - mewn bychan - holl fawredd Duw.

‘Doedd gen i ddim lle.

‘Roedd gen i gant a mil o bethau i wneud ...

(OLlE)

ALBAN ARTHAN

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Mae dyddiadur Lolfa yn eu nodi: Alban Hefin ac Alban Arthan. Fe ddigwydd dydd hiraf y flwyddyn ganol Mehefin, a heddiw daeth Alban Arthan - dydd byrraf y flwyddyn.

Profiad cysurlawn yw sylweddoli heddiw bod y rhod bellach wedi troi i gyfeiriad goleuni. Er mai yn nwfn y gaeaf yr ydym, a bod gennym fisoedd digon diflas ac oer o’n blaenau, o hyn ymlaen bydd pethau’n siŵr o newid er gwell, ac ymestyn bydd hanes ein dyddiau mwyach.

Ar droad y rhod fel hyn, dim ond munud neu ddwy gynnil yw’r ymestyniad, ond pan daenir munudau cynyddol felly dros gyfnod o wythnosau a misoedd, bydd y gwahaniaeth yn galondid mawr.

Dyfod teyrnasiad Crist oedd y calondid y cyfeiriai Paul ato yn ei lythyr at y Rhufeiniad: Y mae’r nos ar ddod i ben, a’r dydd ar wawrio (Rhufeiniaid 13:12a BCN). Dylid nodi cyfieithiad William Morgan dim ond am ei hyfrydwch: Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd ...

Gan gofio hyn oll, mynnwn heddiw fymryn o dawelwch, tamaid o lonyddwch i ystyried a chofio.

Ystyriwn y rhydd-gyfieithiad hwn o Weddi’r Goleuni gan Rumi (Jalāl ad-Dīn Muhammad Rūmī; 1207-1273):

O! Dduw,

Dyro i mi olau yn fy nghalon a golau yn fy ymddiddan,

A golau yn fy nghlywed, a golau yn fy ngweld,

A golau yn fy nheimlo, a golau yn fy nghyffyrddiad.

A golau y tu blaen i mi, a golau y tu cefn i mi.

O! Dduw, dyro i mi olau.

Golau ar y llaw dde, a golau i’r aswy,

Golau o danaf, a golau uwch fy mhen.

O! Dduw, boed i’th olau gynyddu ynof.

Dyro dy olau i’m goleuo.

Profi felly llewyrch dy olau

Yw ymwybod â Golau pob golau.

Cofiwn, gyda Duw, rywun sydd yn hawlio lle yn ein gweddïau’r Nadolig hwn. Yn gymorth yn hynny, dyma at eich defnydd weddi fach syml yn seiliedig ar y ddelwedd o Dduw fel goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch:

O! Dduw, dyro dy olau i bob un sydd mewn tristwch, afiechyd, unigrwydd a gofid. Llewyrcha ar eu llwybrau a gad iddynt, yn dy oleuni, gerdded pob cam o’r daith yn ddiogel; trwy Iesu Grist dy Fab. Amen.

 (OLlE)

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (11)

Anfonodd hwy i Fethlehem gan ddweud, "Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd i’w addoli." (Mathew 2:8 BCN)

Herod

Palas - ysblennydd.

Cerlannau - y marmor drutaf.

Gerddi - cymen.

Ond tlawd yw’r palas hwn, gwan; afler.

Adeiladwyd y cyfan oll ar wyneb pwll o wenwyn.

Ffiaidd ydyw iddynt.

Hanner Iddew - hanner Iddew nid yw’n Iddew o gwbl.

Caseir ef am yr hyn oll nad ydyw, ac am yr hyn oll ydyw.

Mae fy meistr yn debyg i garreg galch fy hen gynefin: cerfiwyd ef gan symud cyson y gwenwyn sy’n llifo bob dydd trosto, amdano, trwyddo, ynddo - nes creu ohono frenin sy’n arswydo rhag baban yn ei grud.

(OLlE)

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (10)

Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru'r holl Ymerodraeth (Luc 2:1 BCN).

Nid pawb sydd yn dod o’u gwirfodd …

Ond, cofrestru’r holl Ymerodraeth yw bwriad Cesar Awgwstus. Fy ngwaith innau yw dilyn pob si a sôn am y bobl hynny sydd yn ceisio osgoi’r cofrestru cyntaf hwn. Dyna ddaeth â mi i stabl. Daw milwr neu ddau gyda fi bob tro. Yn y stabl: gwryw, benyw a phlentyn newydd-anedig.

Wedi cyflwyno fy hun fel Swyddog yr Ymerodraeth, dechreuais ar y cofrestru:

A ydych yn iach, a pharod i gael eich cyfweld heddiw?

Enwau?

O ble ‘ych chi'n dod?

O ble ‘ych chi'n dod yn wreiddiol?

Oes teulu gennych yma?

Am ba hyd ‘ych chi’n bwriadu aros?

Beth yw natur eich perthynas?

A oes gennych y dogfennau angenrheidiol?

(OLlE)

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (9)

Pan oeddent yno, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, ac esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a'i osod mewn preseb ... (Luc 2:6,7 BCN)

Wel, wel! Helo’r un bach!

Fi yw dy fam.

Be’ wnâi ohonot dwed?

Be’ wnei di ohonof?

‘Drycha: dy dad yw hwn. Joseff. Ie, a dyma’r ych, asyn a hanner dwsin o ddefaid. Nid dyma dy gartref. Dyma le ddois di i’r byd!

Be’ wnei di o’r hen fyd ‘mha? Rhyfedd o fyd! Rhyfedd, a rhyfeddol hefyd - cofia di chwilio am y rhyfeddol.

Be’ wnei di o bobl? Am bob un drwg ma' dau dda, dwi’n credu hynny. Ond, cofia am bob un pwyllog ma’ dau fyrbwyll!

Be’ bynnag, cymer laeth nawr. Cymer dy ddigon, ac wedyn cwsg; cysga di a chawn fymryn o orffwys ni’n tri: heddwch mewn stabl.

(OLlE)