A'R GOLEUNI SYDD YN LLEWYRCHU YN Y TYWYLLWCH

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Oes arnoch ofn y tywyllwch?

Nid oes ofn tywyllwch ar y dolffin. Nid oes angen i ddolffin fod ag ofn tywyllwch. Mae dolffin yn gallu gweld yn y twyllwch - gweld trwy glywed. Mae gan ddolffin system eco-leoli sonar, gall weld seindonnau. Tybed felly os yw’r byd yn stŵr o liw pan mae’r dolffin yn torri wyneb y dŵr ac yn defnyddio eto’i lygaid mamalaidd - llygaid fel ein llygaid ni? Efallai mai dyna pam mae’r dolffin fel plentyn yn chwarae wrth agosáu at wyneb y dŵr - mae ei fyd eto’n llawn lliw!

Mae ofn tywyllwch ar bobl. Ofn sydd â’i wreiddiau’n ddwfn iawn yn ein hanes - hen hen ofn yn mynd nôl i gyfnod ein cyndeidiau. ‘Roedd ein cyndeidiau yn treulio rhannau helaethaf o’u bywydau mewn tywyllwch. Tywyllwch cas oedd y tywyllwch cynnar hwnnw - tywyllwch a fu’n gwasgu a gwthio yn erbyn gwawl a gwres tanau’r gwersyll. ‘Roedd y tywyllwch fel petai am lyncu’r golau, am ladd y gwres, am ddiffodd y tân. ‘Roedd dreigiau yn y nos, a bleiddiaid yn udo, bwganod a’i sgrech fel toriad calon, a llygaid yn sbecian. Llyncwyd pobl gan y tywyllwch. ‘Roedd y ddunos o gylch ein cyndeidiau’n teyrnasu.

A ninnau’n noeth, yn wan ac yn ddall yn y twyllwch daeth technoleg i’r adwy. Yn noeth, mynnom groen a chot yr anifail; yn wan aethom ati i hogi crafangau o garreg, a dannedd o bren; yn ddall aethom ati i ddarganfod ffyrdd i ddal y tywyllwch hyd fraich gyda thân a golau.

Er dal yn amheus o’r tywyllwch, ‘rydym erbyn hyn hefyd yn chwilfrydig iawn amdano - mynnwn edrych i mewn iddo, a syllu i bob hollt a thwll. Lle bynnag mae cilfachau a chorneli tywyll yn y byd hwn, mae pobl yno’n cyfeirio golau i’r tywyllwch i weld beth sydd yn ynddo’n cuddio. Mae goleuadau Nadolig eisoes wedi ymddangos. Pam? Ai i ddangos nad yw’r tywyllwch yn teyrnasu? Mae ein bywyd cyfoes yn ddisglair o oleuadau. Llwyddasom i ddofi’r tywyllwch, bu i ni ei wthio allan o’n byw a’n bod.

Ond mae sawl math o dywyllwch yn bod: tywyllwch golau yn un, ceir hefyd tywyllwch enaid, tywyllwch meddwl. Mae’r ddau olaf hyn dipyn mwy brawychus na thywyllwch y ddunos, ac anos i’w dirnad, dehongli a’i datrys.

‘Roedd y seicolegydd Carl Jung (1875-1961) yn honni bod ochr dywyll i bawb ohonom. Soniodd am ein hisymwybod fel dŵr dwfn a thywyll. Tywyllwch yn gwasgu a gwthio yn erbyn gwawl a gwres tanau’r gwersyll ein byw a’n bod. Tywyllwch sydd am lyncu’r golau, am ladd y gwres, am ddiffodd y tân - tywyllwch sydd am ein bwyta’n fyw. Mae dreigiau yn y nos hon hefyd, a bleiddiaid yn udo, bwganod a’i sgrech fel toriad calon, a llygaid yn sbecian. Llyncir pobl gan y tywyllwch hwn. Mae’r ddunos o’n cylch yn teyrnasu o hyd. O bob tywyllwch dyma’r dyfnaf, trymaf a thewaf.

Procio’r tywyllwch â gwaywffyn a wnâi ein cyndeidiau a cheisio’i yrru’n ôl â thân. ‘Rydym ninnau yn ceisio gwthio ymylon y tywyllwch mewnol yma gyda gweddi ac addoliad, cyffuriau a therapi, llyfrau self-help a phrysurdeb.

Fe wyddai Ioan am dywyllwch. Y mae’r goleuni, meddai, yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef (Ioan 1:5 BCN).

Daeth goleuni Duw yng Nghrist i’r byd i oleuo’r tywyllwch. Ond mae rhywbeth ynom, er gwaethaf ein harswyd ohono, yn mynnu rhedeg i freichiau’r tywyllwch. Daeth goleuni Duw i’r byd, ond ni dderbyniodd y byd mohono. Hyd yn oed wrth i’r goleuni lewyrchu ynom ac o’n cwmpas, awn i guddio rhagddo. Mae ‘na lais o’n mewn yn gweiddi ‘Na!’ i’r goleuni.

Beth yw’r llais hwn? O ble y daw? Sut mae tawelu’r llais un waith ac am byth? Fe hoffwn gael gwybod - ac o wybod, rhannu - yr atebion i’r cwestiynau hyn, ond nid oes atebion gennyf. Un o bennaf fendithion yr Adfent yw’r cyfle i gydnabod ein hangen am oleuni, a chyfaddef hefyd ein harswyd ohono.

Hwnt ac acw yn y capel i’r Gwasanaeth Naw Llith a Charol y nos Sul aeth heibio ‘roedd canhwyllau bach. Diferion bychan bach o oleuni. ‘Roedd rhywbeth yn druenus amdanynt ... yn druenus fel ninnau - pobl ffydd. Pobl bach ydym mewn byd mawr. Canhwyllau bychan ydym mewn môr o dywyllwch. Pwy fuasai’n mentro’r cyfan ar gwmni mor fach, mor dila? Duw. Dim ond Duw. Dyna pam yr ydym, yr Adfent hwn eto, yn adrodd y stori am lewyrch y goleuni, ac yn mynnu, fel ag y medrwn, cyfeirio’i olau i ganol y tywyllwch.

(OLlE)

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (8)

Fe â'r un a agorodd y bwlch i fyny o'u blaen; torrent hwythau trwy'r porth a rhuthro allan (Micha 2:13 BCN).

... a dyma'r seren a welsant ar ei chyfodiad yn mynd o'u blaen ... (Mathew 2:9 BCN)

Codir ein pebyll.

Griddfanai’r camelod wrth i’r gweision lusgo’r bagiau trwm oddi arnynt, a’u gosod gyda gofal ar y llawr.

Rhaid - bob nos - wrth yr offer hwn; y cyfan oll, yr oll yn gyfan i gadw golwg ar ein seren.

Tri ydym - brawdoliaeth o ddysg a dyhead. Trafodwn, cymharwn, rhannwn yr hyn oll a wyddom: hafaliadau a mesuriadau; ein darllen a dehongli o hen femrynau, hen broffwydoliaethau, hen weledigaethau. Rhannwn hefyd yr hyn oll a glywyd gan ein gweision a’n hysbiwyr: cyngor a rhybudd, si a sôn, cleber a baldorddi.

Nithio trwy’r cyfan sydd raid er mwyn cael hyd i’r ateb a geisiwn: at beth mae’r seren ddenu yn ein denu?

Synhwyrwn newid byd. I bobl â muriau cyfyng yn cau amdanynt o bob tu, daw ... chwalfa. Daw ffordd ymwared.

Yn y chwalfa daw’r eangderau i’r golwg. Yn y chwalfa y cawn - gyda’r byd i gyd - amgyffred hyd a lled ac uchder a dyfnder y grym sydd yn symud y seren hon.

(OLlE)

ADFENT 2016: 'GAIR AM AIR' (3)

Bob dydd, trwy gydol yr Adfent bydd ychydig adnodau, wedi ei hysgrifennu â llaw gan amrywiol aelodau a chyfeillion yr eglwys, i weld ar gyfrif Twitter/Trydar eglwys Minny Street @MinnyStreet

Yr awgrym yw eich bod chithau hefyd yn ysgrifennu’r adnodau’n hyn â llaw ‘air am air’. Cynigir hyn fel arfer defosiynol syml, ond buddiol i’r cyfnod hwn o baratoi ac ymbaratoi i’r Nadolig.

Crynhoir adnodau'r wythnos ar y wefan hon bob dydd Gwener.

Salm 72:1-7 Shani

Salm 72:8-14 Gruff

Salm 72:15-20 Lona

Salm 95:1-7 Audrey a Marian

Malachi 3:1-3 Hywel

Mathew 1:18-20 Delyth T

Mathew 1:21-25 Linda

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (6)

Ni yn ffyliaid er mwyn Crist (1 Corinthiaid 4:10).

Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos (Luc 2:8 BCN).

Golau prysur Bethlehem islaw.

Cofrestru: Dieithriaid. Newyddion. Da. Llawenydd. Yr holl bobl …

"Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sy’n digwydd." meddai Jacob.

‘Roedd y defaid yn dawel; noson olau, glân: buasai Aaron hyd yn oed - yr ieuengaf ohonom; hanner call a dwl - yn iawn i warchod y praidd am ychydig oriau.

Aethom ar frys, a’r fath hwyl a gawsom!

Daethom yn ôl; y defaid a’r chwâl, ac Aaron â llond ei lygaid o sêr.

Stori fawr oedd ganddo am ddieithriaid, newyddion da; llawenydd i’r holl bobl.

Gan ein gadael i gasglu’r praidd eto ynghyd, aeth Aaron i chwilio am y Meseia ym Methlehem!

Un hanner call a dwl yw Aaron.

(OLlE)

ANGEL BARLACH

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Der Schwebende gan Ernst Barlach (1870-1938)

Yn y cyntaf o’n cyfarfodydd Adfent buom yn trafod bywyd a gwaith artist a drodd yn heddychwraig yn dilyn ei phrofiad o’r Rhyfel Mawr: Käthe Kollwitz (1867-1945). Lladdwyd ei mab ieuengaf, Peter ar faes y gad ym mis Hydref 1914.

Yr amser cinio hwnnw cawsom drafodaeth fuddiol, a bendith yng nghwmni’n gilydd. Dros ginio, rhannwyd ychydig wybodaeth a’m sbardunodd i baratoi’r myfyrdod hwn heddiw.

Dyma Der Schwebende; The Hovering yn Saesneg (Dychmygwch aderyn yn sefyll ar y gwynt) gan Ernst Barlach (1870-1938). Adwaenir y cerflun, yn syml, fel Angel Barlach. Bu Barlach ynfilwr parod yn y Rhyfel Mawr ond yn sgil ei brofiad yn y rhyfel hwnnw, fe drodd yn heddychwr. Fel Kollwitz, ceisiodd Barlach yn, a thrwy gyfrwng ei gelfyddyd ymateb i erchylltra a dinistr rhyfel.

Comisiynwyd Der Schwebende (Angel Barlach) yn 1926 i nodi 700 canmlwyddiant Eglwys Gadeiriol Brotestannaidd Güstrow. Cerflun ydyw yn cynrychioli mam yn edrych i gyfeiriad meysydd rhyfel Flanders mewn hiraeth parhaol am y mab a gollwyd ganddi. Mae wyneb y cerflun yn seiliedig ar wyneb Käthe Kollwitz.

Käthe Kollwitz ac 'Angel Barlach'

Bu gwrthwynebiad mawr i’r cerflun hwn a than y Natsïaid fe’i hystyriwyd yn Entartete Kunst (Celfyddyd Ddirywiedig). Symudwyd y cerflun o’r eglwys ac yn y 1940au fe’i toddwyd a defnyddiwyd yr efydd i ddibenion y rhyfel.

Yn rhyfeddol, ‘roedd y mowld plaster y bwriwyd y cerflun efydd gwreiddiol ynddo yn dal yn y ffwndri ym Merlin. Gan lawn sylweddoli y byddai’r Natsïaid yn sicr o ddinistrio’r mowld, gofalodd ffrindiau a chefnogwyr Barlach fod ail gerflun yn cael ei greu. Cuddiwyd hwnnw ger Lüneberg, pentref yng ngogledd yr Almaen. Rywdro yn ystod y rhyfel fe ddinistriwyd y mowld. Heddiw mae’r cerflun ar gadw mewn eglwys yn Cologne. Mae Angel Barlach yn aros uwchben carreg ac arni’r dyddiadau 1914-1918 a 1939-1945. Mae Der Schwebende yn symbol i gynnal baich colledion a marwolaethau cyfnod y Natsïaid hefyd yn ogystal â’r Rhyfel Mawr. Diwedd y stori yw bod copi arall o Angel Barlach wedi ei greu yn 1981. Mae’r angel hwnnw yn ôl yn Güstrow.

Yn 1981 ar ymweliad â Gwladwriaeth y Dwyrain (‘roedd y Almaen yn dal yn wlad ranedig bryd hynny), fel arwydd o gymod, gofynnodd Helmut Schmidt (1918-2015) os oedd modd iddo fynd gyda Erich Honecker (1912-1994) i Eglwys Gadeiriol Güstrow a sefyll gydag ef yng nghysgod Der Schwebende. Cytunwyd, ac yno, fel ymateb i groeso Honecker, meddai Schmidt: I would like to thank you very much for your kind words of welcome. As you said, Barlach is indeed part of our common memory of the past. May I add, that Barlach could also stand as a representative of our shared and common future. Ym mis Tachwedd, 1989 gwireddwyd y dymuniad hwnnw am our shared and common future.

Yn 2014 rhoddwyd benthyg Der Schwebende i’r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ar gyfer arddangosfa yn olrhain hanes yr Almaen. (Germany: memories of a nation 16/10/2014-25/1/2015). Ar ran cynulleidfa Eglwys Gadeiriol Güstrow, dywedodd Pastor Christian Höser hyn: "Mae cymod yn thema gyson yn ein gwlad. Ond heddiw mae angen y thema honno ar Ewrop hefyd: dyna pam y mae’n bwysig ein bod yn rhoi’r Angel i Lundain."

2016: mae angen cymod yn Ewrop, a ledled byd. Mynnai Barlach fod Der Schwebende yn fynegiant o’r hyn a ddylai ein hymateb fod i ryfel a rhyfela: Erinnerung und innere Schau: Cofio a Hunanholi. Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn aeth heibio, gwyddom na fu erioed fwy o angen i glywed a chyhoeddi neges Angel Barlach.