'MUNUD'ODAU'R ADFENT (4)

dyn yn marchogaeth ar geffyl coch. Yr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pantA dywedasant wrth angel yr ARGLWYDD, a oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, "Yr ydym wedi bod dros y ddaear, ac y mae’r holl ddaear yn dawel ac yn heddychlon."

(Sechareia 1:8,11 BCN)

i ymgofrestru ynghyd â Mair ei ddyweddi; ac yr oedd hi’n feichiog. (Luc 2:5 BCN)

Pwy yn ei iawn bwyll buasai’n mynd nawr?

Gan ystyried y beichiogrwydd annisgwyl, gellid deall Mair yn sôn am freuddwydion ac angylion - buasai’r fath newid byd yn ddigon i ddrysu’r callaf ohonom. Bu’r truan braidd mewn breuddwyd ers sylweddoli ei chyflwr.

Ond Joseff? Cymeriad y cam araf fu Joseff erioed. Tŵr bro: cadw’r Gyfraith, cynnal y drefn, glynu wrth y rheolau. Wedi clywed am gyflwr Mair, penderfynodd dorri’r dyweddïad yn dawel, rhag i neb wybod. Ond, anodd yw gwneud rhywbeth mawr yn dawel mewn pentre’ bach. ‘Roedd pawb yn gwybod a phawb yn deall. Wedyn, tro pedol, a’r pentref yn syfrdan: cymerodd Mair yn wraig iddo. Gofynnais iddo, "Joseff, beth am ofynion y Gyfraith? Beth am y rheolau?" Atebodd "Mae un sy’n rheoli rheol." Dyna’r cyfan o esboniad a gefais ganddo. Am bobl ni all neb wybod!

Erbyn hyn - â Mair mor agos at ei hamser - mae Joseff yn benderfynol o fynd i Fethlehem i’r cofrestru. Does dim synnwyr yn y peth.

Neithiwr, gefn trymedd nos aeth Joseff a Mair o Nasareth. Mae’n rhyfedd hebddynt.

Pob nos, mi af i chwilio’r gorwel amdanynt. Dim byd hyd yn hyn. Dim byd ond sŵn defaid, a sawr myrtwydd ar yr awel.

ADFENT 2016: 'GAIR AM AIR' (2)

Bob dydd, trwy gydol yr Adfent bydd ychydig adnodau, wedi ei hysgrifennu â llaw gan amrywiol aelodau a chyfeillion yr eglwys, i weld ar gyfrif Twitter/Trydar eglwys Minny Street @MinnyStreet

Yr awgrym yw eich bod chithau hefyd yn ysgrifennu’r adnodau’n hyn â llaw ‘air am air’. Cynigir hyn fel arfer defosiynol syml, ond buddiol i’r cyfnod hwn o baratoi ac ymbaratoi i’r Nadolig.

Crynhoir adnodau'r wythnos ar y wefan hon bob dydd Gwener.

Eseia 11:1-5 Daisy a Sarah

Eseia 11:6-10 Tomos

Eseia 40:1-5 Sioned

Eseia 52:7,8 Delyth a Gareth

Jeremeia 33:14-16 Mari Fflur

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (3)

A phan ddeffrôdd Joseff o'i gwsg, gwnaeth fel yr oedd angel yr Arglwydd wedi gorchymyn ... (Mathew 1:24 BCN)

Bob nos yn ddiweddar …

a duwch, tywyllwch, nos

yn drwm dros bob man …

daw golau.

Golau fel clep yn fy wyneb.

Golau fel pry cop yn symud ar fy ngwar.

Golau’n haleliwia o liwiau!

Golau clywadwy - golau ag iddo lais:

"Mair".

"Dy wraig".

"Duw".

"Mab".

"Iesu".

"Gwaredwr".

Bob nos yn ddiweddar …

hyn oll; geiriau gloyw-olau yn clatjian trwy fy nghwsg.

Digon.

Heno: ildiaf; derbyniaf; gwnaf. Af.

Mae’r asynnod yn barod.

Carthenni; dŵr, cosyn o gaws; cig. Bara a gwin

a duwch, tywyllwch, nos

yn drwm dros bob man,

ac mae gennym lewyrch olau i’n llwybr.

(OLlE)

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (2)

"Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi!" (Luc 1:28 BCN)

"Gogoniant Duw wyt ti", meddai hwn.

Angel.

Annisgwyl ydoedd; ‘does neb yn disgwyl gweld Angel.

Angel annisgwyl â neges annisgwyl: finnau’n disgwyl.

Beichiog wyf.

Newid byd, newydd fyd.

Bore trannoeth, â finnau’n ceisio cydio eto yn yr hen bethau, ildio eto i’r hen rythmau, symud eto ar hyd rhigolau cyfarwydd bywyd ... sylweddolais na fydd y cyffredin byth eto’n gyffredin.

"Ti a esgori ar y Gair", meddai Gabriel.

(OLlE)