'MUNUD'ODAU'R ADFENT (2)

"Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi!" (Luc 1:28 BCN)

"Gogoniant Duw wyt ti", meddai hwn.

Angel.

Annisgwyl ydoedd; ‘does neb yn disgwyl gweld Angel.

Angel annisgwyl â neges annisgwyl: finnau’n disgwyl.

Beichiog wyf.

Newid byd, newydd fyd.

Bore trannoeth, â finnau’n ceisio cydio eto yn yr hen bethau, ildio eto i’r hen rythmau, symud eto ar hyd rhigolau cyfarwydd bywyd ... sylweddolais na fydd y cyffredin byth eto’n gyffredin.

"Ti a esgori ar y Gair", meddai Gabriel.

(OLlE)

ADFENT 2016: 'GAIR AM AIR' (1)

Bob dydd, trwy gydol yr Adfent bydd ychydig adnodau, wedi ei hysgrifennu â llaw gan amrywiol aelodau a chyfeillion yr eglwys, i weld ar gyfrif Twitter/Trydar eglwys Minny Street @MinnyStreet

Yr awgrym yw eich bod chithau hefyd yn ysgrifennu’r adnodau’n hyn â llaw ‘air am air’. Cynigir hyn fel arfer defosiynol syml, ond buddiol i’r cyfnod hwn o baratoi ac ymbaratoi i’r Nadolig.

Crynhoir adnodau'r wythnos ar y wefan hon bob dydd Gwener, ond dyma i'ch sylw heddiw, yr adnodau cyntaf oll (Eseia 7:14 a 9:6-7 BCN) gan Wiliam a Myfi.

Wiliam

Myfi

'MUNUD'ODAU'R ADFENT (1)

Yr oedd y plentyn yn tyfu ac yn cryfhau yn ei ysbryd; a bu yn yr anialwch hyd y dydd y dangoswyd ef i Israel. (Luc 1:80 BCN)

‘Drychwch: yr un bach. Pwy fase ‘di meddwl? Fy mychan i yw hwn. Ie, gwyrth ydyw; dysglaid o ddirgelwch. Rhodd annisgwyl fy henaint hir.

Siarad? Siarad a chwerthin fel nant barablus, y pwtyn bach. Bu’n hir yn hau synau, ond yn sydyn wedyn medi geiriau: ‘coed’; ‘ffrwyth’; ‘tân’; ‘sandalau’.

‘Syllwch. A welsoch y fath lygaid erioed? Llygaid fel toriad dydd. A rhaid wrth lygaid barcud gyda hwn! Weithiau fe aiff e’n ysgafn draw i ymyl yr anialwch gan sefyll yno’n gyffro i gyd, fel un yn clywed.

(OLlE)