• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

SALM

November 26, 2016 Owain Evans

Salm 42

DYHEAD: i’r Cristion agwedd meddwl, naws enaid yw DYHEAD; rhyw gosfa losg, dreiddgar wrth wraidd ein ffydd.

Gair bach cymen yw DYHEAD; gair tyner a chryf a phenderfynol yw DYHEAD - yn fwy sylweddol ‘na eisiau; yn ddyfnach na angen, yn fwy brathog na dymuniad.

Mae awdur Salm 42 yn dewis defnyddio’r gair DYHEAD i ddisgrifio ein perthynas â Duw - Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog, felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw. Mae’r sawl sy’n caru Duw yn dyheu amdano, yn methu bodoli hebddo.

Mae’n anodd siarad am DDYHEAD, am DDYHEU heddiw oherwydd tueddwn i ystyried DYHEAD fel rhywbeth y mae’n rhaid ei wireddu. Mae dyheu am rywbeth yn drafferth, yn boen - yr unig falm i boen dyhead yw gweld ei wireddu, a hynny cyn gynted ag y bo modd.

Anodd felly yw gorfod sylweddoli, a chyhoeddi mae hanfod ein perthynas â Duw yw DYHEAD. Nid boddhad sydyn, llwyr a llawn o’n hangen amdano ond DYHEAD dwfn, sydd yn ond cael ei wireddu tamaid bychan bach wrth damaid bychan bach. Ni ellir diwallu’r dyhead am Dduw ond â Duw ei hun.

Wrth gydnabod ein DYHEAD am Dduw cydnabyddwn nad ydym wedi darganfod Duw, cydnabyddwn fod angen rhagor o Dduw arnom: cydnabyddwn ein dibyniaeth arno.

Dyma sydd yn gwneud perchen ffydd yn wahanol i bawb arall. Mae dyhead yn ei anesmwytho, yn cosi traed ei enaid, yn peri iddo chwilio chwilio, twrio twrio, chwalu a phalu nes diwallu ei syched am Dduw: Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog, felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw.

F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

November 25, 2016 Owain Evans

Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Glyn Tudwal Jones (Caerdydd). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Fred fydd yn arwain defosiwn yr ifanc. Cynhelir yr Ysgol Sul. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00.

PIMS nos Lun (28/11; 19:00-20:30 yn y Festri): Heddwch Dwfn (Galatiaid 5:22). Dechrau ar ein gwaith er budd yr elusen Toilet Twinning.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street: (29/11; 19:30 yn y Festri) noson yng nghwmni Elin Jones (Hafal): ‘Ddim yn hollol fel ti a finnau’n awr’.

Adfent 2016: Dathlu’r Nadolig yng nghwmni’r arlunydd Käthe Kollwitz: paned, trafodaeth a thamaid o ginio yn y Festri (1/12; 11:15-13:00).

Gwasanaeth Eciwmenaidd (dwyieithog) i nodi Diwrnod Byd-eang AIDS (1/12; 18:00) yn Eglwys Dewi Sant. Siaradwr: Dr Hefin Jones (Caerdydd).

Babimini bore Gwener (2/12; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

Adfent 2016

‘Munud’odau’r Adfent

Oes pum munud gennych? Na. Na phoener! Dim ond munud sydd angen i ddarllen bob un o ‘Funud’odau’r Adfent. Byr, bachog a buddiol - byddant yn ymddangos (12 ohonynt i gyd; 8:30yb) ar y wefan hon bob dydd Sul, Mawrth ac Iau o heddiw i Ddydd Nadolig.

‘Gair am Air’

Bob dydd, trwy gydol yr Adfent bydd ychydig adnodau, wedi ei hysgrifennu â llaw gan amrywiol aelodau a chyfeillion yr eglwys, i weld ar gyfrif eglwys Minny Street @MinnyStreet Yr awgrym yw eich bod chithau hefyd yn ysgrifennu’r adnodau’n hyn â llaw ‘air am air’. Cynigir hyn fel arfer defosiynol syml, ond buddiol i’r cyfnod hwn o baratoi ac ymbaratoi i’r Nadolig.

‘TrydAir’

O ddydd Sul 27/11/2016 i 26/11/2017 darperir bob dydd ar @MinnyStreet awgrym syml o ddarlleniadau beunyddiol o’r Beibl yn gymorth i’n darllen a deall o’r Gair.

 

'ON THE ORIGIN OF SPECIES'

November 24, 2016 Owain Evans
Small%20V_D10%20Origin%201st%20edn%20title%20page_0.jpg
darwin1_1428734c.jpg
IMG_5033.JPG

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Heddiw, yn 1889, cyhoeddwyd On the Origin of Species gan Charles Darwin (1809-1882). Yn syml, a thra arwynebol, gellid benthyg geiriau Darwin ei hun i grynhoi ei ddamcaniaeth esblygiadol: "[M]ultiply, vary, let the strongest live and the weakest die."

Nid oes amheuaeth nad yw’r chwyldro gwyddonol a ddaeth yn sgil damcaniaeth Darwin wedi codi trafferthion dyrys iawn ym myd cred - o’i herwydd, mae rhai yn gweld ffydd yn rhywbeth gwbl afreal.

Onid gwaith yr eglwys felly, yw cynnig gweledigaeth grefyddol newydd? Rhaid i’r weledigaeth honno dderbyn a chynnwys ffrwyth ymchwil gwyddonol tra, ar yr un pryd, sylweddoli a datgan nad ymchwil gwyddonol ynddo’i hun yw’r ateb terfynol i bob peth. Rhaid i bobl Dduw dderbyn fod rhai o hen ganllawiau ein ffydd bellach yn anaddas i arwain pobl i’r dyfodol. Wrth ddewis glynu wrth y canllawiau rheini doed a ddelo, gorfodwn bobl i gefnu arnom, ac ymddiried dim ond mewn canllawiau gwyddonol a biolegol, sydd yn annigonol fel ag y maent.

Rhaid i agweddau ar ein ffydd esblygu i gydgerdded â gwyddoniaeth, er mwyn cynnig i’r ddynoliaeth yr hyn oll sydd angen arni - hyder a gobaith - a hynny er mwyn sicrhau y bydd y ddynoliaeth a’r cread yn cyrraedd eu llawn potensial.

(OLlE)

Eiddo John Collier (1850–1934) y portread (1883) uchod o Darwin

ADFENT 2016

November 23, 2016 Owain Evans

CYTGAN

November 22, 2016 Owain Evans

Yr wyf fel rhosyn Saron,

fel lili’r dyffrynoedd.

(Caniad Solomon 2:1 BCN)

Cawn yma ddisgrifiad y ferch ohoni ei hun. Trodd Ann Griffiths yr adnod hon yn ddisgrifiad o Grist:

Rhosyn Saron yw ei enw,

Gwyn a gwridog, teg o bryd;

Ar ddeng mil y mae'n rhagori

O wrthrychau penna'r byd ...

Dywed y Parchedig J. Price Williams yn y gyfrol Ann Griffiths: "Crist yw calon ei holl brofiadau, sylwedd ei holl ryfeddod, ystyr ei holl weddïau, sail ei holl ddefosiynau a chanolbwynt ei holl obeithion yn y byd hwn a’r byd a ddaw."

Mae prydferthwch Crist, ein Rhosyn Saron yn achosi rhyfeddod. Pwy all edrych ar geinder rhosyn heb ryfeddu ato? Nid yw perthynas cariad yn un go iawn, os nad oes elfen o ryfeddod beunyddiol ynddi. Collir cariad pan gollir y ddawn i ryfeddu.

Benthycwn brofiad Eseia broffwyd (35:1 WM) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

Yr anialwch a’r anghyfaneddle a lawenychant o’u plegid: y diffeithwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn. Amen.

(OLlE)

GAIR AM AIR

November 21, 2016 Owain Evans
imagesR6CHGVHW.jpg
iktsuarpok.png
IMG_5093.JPG

Iktsuarpok

 

Un rhan hen o’r hyn a aeth

Yn aros - dyna hiraeth.

(James Nicholas; 1928-2013)

Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llwyr a llawn eu cyfieithu i iaith arall. Yn y Gymraeg mae gennym ‘Hiraeth’. Bu’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin â nifer o’r geiriau rheini. Daw’r olaf o’r Inuit: Iktsuarpok. Gorwedd ystyr Iktsuarpok rhywle rhwng diffyg amynedd a hir ddisgwyl. Efallai mai’r ddihareb ‘Hir yw pob aros’ sydd yn crynhoi orau ystyr Iktsuarpok. Iktsuarpok sydd yn eich symud i’r ffenest, tro ar ôl tro, i weld os yw’r ymwelydd hir disgwyliedig wedi cyrraedd o’r hir hir ddiwedd. Mae’r enghraifft olaf hwn yn fachyn cyfleus i osod llun gan Salvador Dali (1904-1989): Girl standing at the Window neu Figure at a Window (1925)

Aros. Mae aros - Iktsuarpok - a gobeithio; naddu breuddwydion a hogi dyheadau yn rhan annatod o’r hyn ydym fel pobl Dduw.

Iktsuarpok: aros, gobeithio, dyheu, breuddwydio am gyfiawnder ... a heddwch.

‘Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod

bydd pob cyfandir is y rhod

yn eiddo Iesu mawr ...

(Watcyn Wyn, 1844-1905. 257CFf)

Mi wn yn iawn fod cant a mil o wahanol syniadau am bwy yw hon, ac am beth ... neu bwy ... mae hi’n aros, ond bob tro dw i’n gweld y llun hwn dw i’n meddwl am yr eglwys yn aros ... Iktsuarpok pobl Dduw. Mae hi’n syllu dros y dŵr i’r lan. Mae hi’n canolbwyntio ar y tir pell. Mae hi’n chwilio am yr awgrym lleiaf o symud, cadarnhad fod ei hanwylid ar ei ffordd. Mae hi’n barod. Bu hi’n barod ers yn hir. Hir bu’r aros hwn: Iktsuarpok.

Cyfnod o aros yw’r Adfent. Cyfle i sefyll wrth ffenest agored ein ffydd, a syllu dros fôr ein cred tua’r lan fan draw - pa bryd y daw? O tyred di, Emanŵel,/a datod rwymau dy bobl. (Emyn Lladin o’r 18fed Ganrif. cyf. J.D.V.Lewis 1879-1970. 432CFf)

Syllwn drwy ffenest Air disglair Duw (Graham kendrick. cyf. Casi Jones 228CFf), dros fôr y newyddion beunyddiol, da a drwg, gan ymbaratoi i groesawu’r hwn sydd yn dod. Fe ddaw. Hir yw’r aros - Iktsuarpok - ond fe ddaw.

Lliw'r Adfent yw glas tywyll, dwfn - union liw'r nos cyn i belydrau cyntaf y wawr sbarduno’r ceiliog i gyhoeddi gwawrio diwrnod newydd sbon. Benthycwn brofiad Watcyn Wyn (1844-1905) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

Mae teg oleuni blaen y wawr

o wlad i wlad yn dweud yn awr

fod bore ddydd gerllaw;

mae pen y bryniau’n llawenhau

wrth weld yr haul yn agosáu

a’r nos yn cilio draw. 

(OLlE)

SALM

November 19, 2016 Owain Evans

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gofynnodd rhywun i feddyg yn Llundain beth fyddai’n ei wneud bob nos pan ddechreuai bomiau'r Natsïaid syrthio ar y ddinas. "Darllen Salm 91 cyn mynd i’r gwely ac aros yno doed a ddelo", oedd yr ateb. ‘Roedd ei ddewis o ddarlleniad yn addas, a diau i eiriau’r Salmydd leddfu ofnau’r meddyg a dod â chysur iddo pan wynebai ddychryn y nos (Salm 91:5) a’r pla sy’n tramwyo yn y tywyllwch (Salm 91:6).

Thema Salm 91 yw ffydd yng ngallu a pharodrwydd Duw i amddiffyn rhag niwed y sawl sy’n aros yn ei gysgod, ac i ddileu ei ofnau. Addewid o amddiffyn, a sicrwydd o ofal yw'r Salm hon. Y mae'r Salm fwy tebyg i bregeth na darn o farddoniaeth. Ei diben yw calonogi’r credadun a’i wahodd i ymddiried yn yr Arglwydd. Yn y rhan gyntaf (1-13) ceir addewid o nodded: ... i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa; gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa ... bydd yn cysgodi drosot â’i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd ... (Salm 91:9,4).

Yn yr ail ran (14-16) ceir sicrwydd o’r addewid hwnnw o enau Duw ei hun: ... byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder, gwaredaf ef a’i anrhydeddu (Salm 91:15). Sylwn wrth ddarllen nad addo y mae Duw i gadw’r ddrycin draw, ond addo y bydd ef yno i roi lloches pan ddaw. Yn ei wendid a’i bryder caiff y Salmydd brofi nodded Duw: Pan fydd yn galw arnaf, fe’i hatebaf ... (Salm 91:15a).

F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

November 18, 2016 Owain Evans

Bore Sul Teyrnasiad Crist y Brenin am 10:30, Oedfa Foreol ac Ysgol Sul: Oedfa lawn fel wy! Defosiwn y plant; pawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - â’i adnod. ‘Cais! Try!’ fydd testun y sgwrs plant, a chawn droi at y Wal Weddi. Bydd Robyn Hughes a Siân Donovan-Trezzine, cynrychiolwyr o Pedal Power (ein helusen llynedd), yn ymuno ȃ ni yn yr Oedfa.

‘Rhyfeddod pob rhyfeddod yw’: testun homili’r Gweinidog yw emyn Nadolig Ann Griffiths (1776-1805; 446 Caneuon Ffydd). Ar ddiwedd y flwyddyn Eglwysig, â ninnau’n troi i gyfeiriad y Nadolig, buddiol yw ceisio cael gafael yn y profiad a fynegir yn yr emyn mawr hwn: Rhyfeddod; Diolch; Parchedig ofn a Hyder ffydd.

Bydd yr Ysgol Sul yn dechrau ar y gwaith paratoi i’r cyflwyniad Nadolig (18/12).

Liw nos (18:00), bydd ein Gweinidog y parhau â’r gyfres o bregethau ‘Pobl y Testament Newydd’. Hyd yn hyn: Nathanael a Philip; Paul, Silas a Timotheus yn Thesalonica; yr ardderchocaf Theoffilus; Eutychus y cysgadur; Joseff a elwir Barnabas; Phebe, Ffelix, a nos Sul: Silas (Actau 15: 32/1 Pedr 5: 12). Dyma fel mae Luc yn disgrifio Silas: ... yr oedd yn ddyn blaenllaw ymhlith y credinwyr. Yn wir, ‘roedd parch y credinwyr tuag ato yn amlwg gan iddynt ei benodi i gyflawni tair swydd allweddol bwysig. Bu’n Ddiplomydd, yn Apostol Cynorthwyol, ac yn ‘Amanuensis’.

Bydd cyfle i gyfrannau tuag at waith y Genhadaeth yn ystod yr oedfaon. Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul.

Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.

Nos Lun (21/11) cyfarfod Ymddiriedolwyr (ar y cyd a’r Cylchoedd Adeiladau a Chyllid). Boed bendith ar y trafodaethau a’r cynllunio i’r dyfodol.

Nos Fawrth (22/11; 19:00): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol. Testun ‘Genesis’ mis Tachwedd fydd: Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist (Mathew 1:18a).

Bore Gwener (25/11; 11:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Rowan Williams: Choose Life (Bloomsbury, 2013). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Fear Not! (t.13-23).

Cymdeithas y Cymod (21/11; Chapter, 19:00): Aled Eirug yn siarad am ei ymchwil ar wrthwynebwyr cydwybodol Cymreig y Rhyfel Byd Cyntaf.

Adfent 2016

‘Munud’odau’r Adfent

Oes pum munud gennych? Na. Na phoener! Dim ond munud sydd angen i ddarllen bob un o ‘Funud’odau’r Adfent. Byr, bachog a buddiol - byddant yn ymddangos (12 ohonynt i gyd; 8:30yb) ar y wefan hon bob dydd Sul, Mawrth ac Iau o’r 27/11 i Ddydd Nadolig.

‘Gair am Air’

Bob dydd, trwy gydol yr Adfent bydd ychydig adnodau, wedi ei hysgrifennu â llaw gan amrywiol aelodau a chyfeillion yr eglwys, i weld ar gyfrif eglwys Minny Street @MinnyStreet Yr awgrym yw eich bod chithau hefyd yn ysgrifennu’r adnodau’n hyn â llaw ‘air am air’. Cynigir hyn fel arfer defosiynol syml, ond buddiol i’r cyfnod hwn o baratoi ac ymbaratoi i’r Nadolig.

‘TrydAir’

O ddydd Sul 27/11/2016 i 26/11/2017 darperir bob dydd ar @MinnyStreet awgrym syml o ddarlleniadau beunyddiol o’r Beibl yn gymorth i’n darllen a deall o’r Gair.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021