• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

BRENHINOEDD A PHAWB SYDD MEWN AWDURDOD

November 16, 2016 Owain Evans
prayer.jpg
government.jpg
IMG_5033.JPG

Yn y lle cyntaf, felly, yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bob dyn, dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, inni gael byw ein bywyd yn dawel a heddychlon, yn llawn duwioldeb a gwedduster.

(1 Timotheus 2:1,2)

Wedi baglu dros yr adnodau hyn dechrau’r wythnos, bues yn hel meddyliau am oblygiadau gweddïo dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod.

Ar ddechrau’r bennod hon (1 Timotheus 2) mae Paul yn cynnig cyfarwyddid ynglŷn â threfn eglwysig, a rhoddir y sylw cyntaf i addoliad cyhoeddus. Fe ddechreuir gyda gweddi. Nodir dau beth. Yn gyntaf, sut mae gweddïo: ... yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau ...; ac yn ail, tros bwy y mae gweddïo: ... yn cael eu hoffrymu dros bob dyn, dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod. Anogir yr eglwys i weddïo dros y rheini sydd mewn awdurdod. Nid oedd y brenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod y mae Paul yn cyfeirio atynt yn Gristnogion; ac eto cymhellir yr eglwys i weddïo trostynt, y da a’r drwg, y bach a’r mawr, y cyfeillgar a’r gelyniaethus. Dyma felly anogaeth Paul: mewn gweddi, rhaid cyflwyno i’r Crëwr Mawr bawb a grëwyd ganddo.

A ellid dadlau fod anogaeth Paul i weddïo dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod yn awgrymu ei fod yn gefnogol o’r brenhinoedd ac awdurdodau rheini? Dim o gwbl!

Tybir mai’r Cesar mewn grym pan fu Paul yn llunio’r llythyr hwn oedd Nero. Ie! Hwnnw!! Meddai Tacitus am Rufain Nero: All things atrocious and shameless flock from all parts to Rome. Nid yw gweddïo dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod yn gyfystyr â bod yn gefnogol ohonynt, ac o’u polisïau. Gweddïwn drostynt gan mae pennaf arf y Cristion i newid pobl, cymuned, gwlad a byd yw ein gweddïau a gweddi. (Pam sôn am ‘Gweddïau’ a ‘Gweddi’? Gweddïau yw’r hyn a gynigwn i Dduw yn oedfaon y Sul. Gweddi yw ein ffordd o fyw gweddill yr wythnos.) Mae anogaeth Paul i weddïo dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod yn rhoi’r pwyslais ar fendith a deall, goleuni a doethineb ... a chymod.

Felly ... y darpar Arlywydd Donald Trump. Bu hwn ers wythnosau lawer yn destun tuchan a dychan. Do, ond a fu’n destun gweddi? A fuom yn gweddïo dros ddarpar Arlywydd yr Unol Daleithiau? Pro Europa neu Brexit, a fuom yn gweddïo dros y Prif Weinidog Theresa May a llywodraeth gyfredol San Steffan? A fuom yn gweddïo dros Brif Weinidog Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru - dros y corff sy’n cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif? Os ydym o ddifri yn credu na fetha gweddi daer â chyrraedd hyd y nef dylai pobl Dduw fod yn gweddïo’n ddyfal ddygn dros ‘frenhinoedd’ heddiw, a phawb sydd mewn awdurdod nawr.

Wrth baratoi’r ychydig sylwadau hyn bues yn pori mewn hen esboniad a’r 1 Timotheus. Ysgrifennwyd yr Esboniad da hwn mewn oes wahanol, lai sinigaidd. Mae’r esboniwr yn gofyn y cwestiwn: Tybed beth fyddai cyflwr y byd ar wahân i weddi ddirprwyol yr Eglwys, a sut gyflwr a fyddai ar yr Eglwys pe gwnâi ‘anghofio’r byd a’i loes’? Mae gogwydd cadarnhaol y cwestiwn yn drawiadol. Mae’r esboniwr yn cymryd yn ganiataol y buasai cyflwr y byd yn waeth o dipyn heb weddi ddirprwyol yr Eglwys! Credaf bellach fod y cyfan a’i ben i waered; gellid gofyn heddiw: Tybed a yw cyflwr cyfredol ein byd yn ganlyniad diffyg gweddi ddirprwyol yr Eglwys, ac ydi’r eglwys honno’n cloffi yng Nghymru gan iddi ‘anghofio’r byd a’i loes’?

Felly, ystyriwn Donald, Theresa, Carwyn a phawb arall a ddylai fod yn destun gweddi gennyf, gennyt a gennym. Digon o ddychan a thuchan: gweddïwn. At bob gwaith a gweithio, ychwanegwn holl rym ein gweddi a gweddïau. Boed i’r Cristion o Gymro - o ba gredo bynnag - ddefnyddio'r cryfaf o arfau’i ffydd: gweddïed. Gweddïed dros Wledydd Prydain. Gwelsom ymrannu ac ymrafael. Daeth cyfnod anodd, ansicr. Gweddïwn am arweiniad wrth geisio ailddiffinio ein perthynas â gweddill Ewrop. Gweddïwn am nerth a dyfeisgarwch i ddarganfod gwrthgyffur i’r gwenwyn a ddaeth gymaint rhan o’n gwleidydda’n ddiweddar. Gweddïwn am barch a derbyniad i’r rheini, yma o ledled byd, sydd yn cyfrannu gyda ni at amlochredd cyfoethog ein cymunedau. Gweddïwn, gan fod gweddi yn ein hatal rhag ymynysu; rhag ymbleidio, rhag anobeithio.

Gweddïwn dros Donald Trump. Os credwn mai gwyllt a pheryglus ydyw, gweddïwn ar iddo gael ei amgylchynu gan gynghorwyr doeth a staff deallus a chall. Gweddïwn ar i ysbryd cymod a chariad gydio ynddo gerfydd ei glust! Gweddïwn ar iddo ymdeimlo nid dim ond â grym a chyfle'r Arlywyddiaeth, ond hefyd â’i gyfrifoldeb i wasanaethu cenedl, cyd-ddyn a Duw yn ffyddlon.

Ni feddyliais erioed y buaswn yn dyfynnu Ronald Reagan! Ond, meddai hwnnw mewn brecwast gweddi: America needs God more than God needs America. If we ever forget that we are One Nation Under God, then we will be a Nation gone under.

Gweddïwn; gweddïed y Cristion gan gofio fod Duw gyda ni yn Dduw trosom ni, ac yn Dduw erom ni yn Iesu Grist.

 (OLlE)

CYTGAN

November 15, 2016 Owain Evans

Mor brydferth wyt, f’anwylyd,

O mor brydferth,

a’th lygaid fel llygaid colomen!

Mor brydferth wyt, fy nghariad,

O mor ddymunol!

Y mae ein gwely wedi ei orchuddio â dail;

Y cedrwydd yw trawstiau ein tŷ

a’r ffynidwydd yw ei ddistiau.

(Caniad Solomon 1:15,16 BCN)

Ceir cymhariaeth rhwng y cariad a cholomennod fwy nag unwaith yn y Gân. ‘Roedd y golomen yn symbol o burdeb a ffyddlondeb. Er bod prydferthwch yn nodwedd amlwg ohoni, dyma un o’r adar gwylltion mwyaf cyffredin ym Mhalestina. Y mae nifer o bethau addas iawn felly yn y darlun hwn o’r gariadferch: ystyrir hi i fod bur - gonest neu unplyg - a phrydferth - agored a chywir. Y mae’r nodweddion hyn yn hanfodol i gynnal a chadw perthynas dda: os oes twyll dan y wyneb, dryllia’r berthynas. Ond, os oes gonestrwydd a chywirdeb y mae gobaith real i’r berthynas ffynnu.

Benthycwn brofiad Elfed (1860-1953) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

Golomen nefol fro,

Dy bur dangnefedd rho

i’n daear drist. Amen.

(OLlE)

GAIR AM AIR

November 14, 2016 Owain Evans
untitled.png
IMG_5033.JPG

Forelsket

Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llawn a llwyr eu cyfieithu i iaith arall. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin ag ambell un o’r geiriau diddorol rheini. Daw testun ein sylw heddiw o’r Norwyeg: Forelsket. Yn fras, Forelsket yw’r ymdeimlad annisgrifiadwy hwnnw a ddaw o wybod eich bod ar fin syrthio mewn cariad.

Mae Mrs Williams drws-nesa’-ond-dau wrth ei bodd yn darllen llyfrau Mills and Boon. Onid, yw’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi stori garu dda? Onid stori garu yw hanfod holl ymwneud Duw â phobl?

Mae cariad Duw yn newid pobl. Os mai nyni yw bys y cwmpawd, cariad yw’r gogledd magnetig. Nid profiad dymunol mo’r newid hwn, ond mae’r fendith a gawn o’r herwydd yn ganwaith mwy, yn filwaith gwaith amgenach na gorau’r byd a’i bethau: y newid hwn sydd ddeniadol i eraill. Mae gweld ein Forelsket yn peri chwilfrydedd am beth fu achos y newid hwn ynom.

Ym Mhrifysgol Bangor mi ddois ar draws Siôn. Trwy gydol y blynyddoedd hapus rheini - fel y gweddill ohonom - bu Siôn yn ddedwydd o anniben ac yn fodlon o flêr. Wedi graddio bu Siôn, tra bod y gweddill ohonom yn ymdacluso, bu Siôn yn ddigyfnewid yn ei annibendod beunyddiol. Tair blynedd yn ddiweddarach, aeth Siôn i Ganada i weithio am gyfnod. Daeth yn ôl i Gymru wedi blwyddyn neu ddwy, a galw heibio, a minnau’n byw a gweinidogaethu ar y pryd yn Rhos a Wrecsam. Dyna chi wahaniaeth! Dillad smart, glân. Gwallt byr a thaclus. Beth oedd wedi peri'r fath newid ynddo? Nid beth yn gymaint, ond pwy: Emily … Er nad oedd merched yn ddiarth i Siôn, ‘roedd Emily yn wahanol. ‘Roedd Emily yn ei garu. ‘Roedd Siôn yn gwybod bod Emily yn ei garu. Dyna waelod y newid yn Siôn.

Wrth sylweddoli fod rhywun yn ein caru - ac wrth dderbyn y cariad hwnnw - mae newid yn anorfod, a’r newid yn amlwg. Mae hyn yn wir hefyd am ein perthynas â Duw. O ildio i’r Cariad hwn, bydd y newid ynom yn amlwg i bawb cael gweld - mae cariad Duw yn gadael ei farc arnom: Forelsket. Yn anad dim byd arall rhannu ein Forelsket - rhannu gwefr ein hymateb i gariad gwefreiddiol Duw yw gorau arf genhadol, a phennaf genhadaeth y Cristion.

Arglwydd, cyfoethoger fy mhrofiad ysbrydol, a thrwy hynny defnyddia fi i dywys eraill i gyffelyb brofiad. Amen.

(OLlE)

SALM

November 12, 2016 Owain Evans

Salm 41

Gŵr amlwg ymhlith ei bobl yw awdur y Salm hon, ac yn ŵr o awdurdod. Y mae’n wrthrych atgasedd ei elynion, ac amgylchynir ef gan fradwyr, y pennaf ohonynt yn un o’i gyfeillion mynwesol. Y mae’r Salmydd dan gystudd trwm, mor drwm nes credu o’i elynion ei bod ar ben arno a gorfoleddant.

‘Roedd hyn i gyd yn wir am y brenin Dafydd pan wrthryfelodd Absalom i’w erbyn, ac y cynorthwywyd y gwrthryfelwyr gan Ahitoffel a fu’n bennaf cynghorwr i Dafydd (2 Samuel 15:31).

Ond, ‘roedd adwaith Dafydd i wrthryfel Absalom yn dra gwahanol i adwaith y Salmydd hwn i’w elynion. Galw a wna’r Salmydd am ddial ar ei elynion, a chael cyfle i dalu sawl pwyth yn ôl iddynt. Mor wahanol oedd adwaith Dafydd i wrthryfel Absalom! O Absalom fy mab, fy mab Absalom! O na fyddwn i wedi cael marw yn dy le, O Absalom fy mab, fy mab! (2 Samuel 18:33 BCN).

‘Roedd Dafydd beth wmbredd yn nes i ysbryd yr Efengyl nag oedd y Salmydd a weddïai: O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf ac adfer fi, imi gael talu’n ôl iddynt (Salm 41:10 BCN).

Rhag pob ysbryd cas O! Dduw, gwared ni, a rho inni galonnau trugarog. Amen.

(OLlE)

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

November 11, 2016 Owain Evans

Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: aelodau o deuluoedd Patchell a Williams fydd yn arwain yr Oedfa Foreol Gynnar (13/11 am 9:30 yn y Festri).

Croeso cynnes i gyfeillion o Eglwys Hermon, Cynwyl Elfed sydd yn ymuno ȃ ni yn ein hoedfaon boreol.

Oedfa Foreol (10:30): Gallant Act y Parchedig Rowland Hughes a ‘Imagine’ John Lennon fydd testun sylw homilïau’r Gweinidog. Rhaid, mentro ambell gallant act: maddeuant, trugaredd, tynerwch, tosturi, cariad, caredigrwydd. Dengys ein gallant acts mai cristnogion-o-ddifri ydym ac eglwys-di-rigamarôl. Nid digon breuddwyd o gymod, heb ymdrech i gymodi. Nid digon dychmygu byd o gytgord, heb greu a chynnal cytgord yn lleol. Imagine? Nid dychmygu mo gwaith y Cristion, ond gweithredu. Ofer dychmygu byd gwell heb ein bod yn mentro gweithio a chydweithio i greu byd sy’n well i fyw.

Liw nos (18:00) cyflwynir eto dwy homili. Mae’r naill a’r llall yn ymgais gan ein Gweinidog i ymateb i fuddugoliaeth Donald Trump yn Etholiad Arlywyddol UDA. Mae’r ddwy homili yn pwyso ar Jeremeia broffwyd. Nodweddwyd ei gyfnod yntau hefyd â newid mawr a brawychus. Ym mhennod 4, cawn ganddo gyfres o ddarluniau tywyll. Mae darluniau tywyll Jeremeia’n adlewyrchu tywyllwch ein cyfnod ni, ond mae llygedyn yn olau yn narlun tywyll y Proffwyd: ni wnaf ddiwedd arni (Jeremeia 4:27b) Nid Duw yn penderfynu gorffen â’i fyd yw Duw Jeremeia. Daeth newid byd, a newydd fyd, do ... ond, erys cariad Duw.

Bydd yr ail homili yn trafod y gwahaniaeth rhwng hunanaddoliad a hunan-barch. Ym mhennod 9, meddai Duw trwy gyfrwng Jeremeia fel hyn: Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, na’r cryf yn ei gryfder, na’r cyfoethog yn ei gyfoeth. Ond y sawl sy’n ymffrostio, ymffrostied yn hyn: ef fod yn fy adnabod u, mai myfi yw’r ARGLWYDD (Jeremeia 9:23,24 BCN).

Mae’r ddwy adnod hon yn crynhoi swm a sylwedd y neges broffwydol ym mhob oes. Y mae’n air yn ei bryd heddiw. Ni fu balchder y doeth, y cryf a’r cyfoethog erioed yn uwch nad yw yn ei dyddiau ni. Doethineb i’w hofni yw honno sy’n gwneud dyn yn falch, yn lle ei wneud yn wylaidd, ac mae’r un peth yn wir am gryfder a chyfoeth. Gostyngeiddrwydd yw nodwedd amlycaf y sawl sy’n adnabod Duw. Y mae adnabod Duw yn bosibl nid am i ni ddod o hyd iddo, ond am ei fod Ef yn gweld yn dda i’w ddatguddio ei hun i ni. Nid oes le felly i ymffrost.

Bydd cyfle i gyfrannu nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd

PIMS nos Lun (14/11; 19:00-20:30 yn y Festri): bydd ein pobl ifanc yn dysgu am waith yr elusen Toilet Twinnig <http://www.toilettwinning.org> Boed bendith ar y bobl ifanc hyn sydd â chymaint i’w gynnig: doniau, syniadau ffres, ynni a brwdfrydedd. Boed i Dduw fendithio ein llafur gyda’r ifanc. Na fydded inni arbed dim yn ein hymgais i greu o Minny Street cartref ysbrydol iddynt.

Pwyllgor Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd (14/11; 19:30) yn y Tabernacl, Yr Ais.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street. Llongyfarchwn y Swyddogion a’r Pwyllgor ar baratoi rhaglen mor ddiddorol, a llawn amrywiaeth. (15/11; 19:30 yn y Festri) Fy Milltir Sgwâr yng nghwmni Elenid Jones a Dewi Lloyd Lewis.

'Solvitur ambulando', meddai Awstin Sant (c.354-430): ‘Datrysir y peth drwy gerdded’. Un o fendithion pennaf bywyd yw cerdded; ychwanegir bendith at fendith wrth gerdded mewn cwmni. Cofiwch felly, bore Iau (17/11; 10:30) Taith Gerdded yng Nghaeau Llandaf.

Babimini bore Gwener (18/11; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.

Cyngerdd i gofio John Albert Evans yn y Tabernacl, Yr Ais. (18/11; 19:45).

'GALLANT ACT' Y PARCHEDIG ROWLAND HUGHES

November 9, 2016 Owain Evans
IMG_5452.JPG
IMG_5033.JPG

Derbyniais amlen wen gan gyfaill imi ar ôl yr Oedfa nos Sul. Yn yr amlen ‘roedd tudalen flaen y Carmarthen Journal, Friday June 3, 1921.

Yn y Local News, cofnodwyd hanes am un o weinidogion yr eglwys hon (1921-28): Y Parchedig Rowland Hughes.

Gallant Act, - The Rev. Rowland Hughes, BD, pastor of Minny Street Welsh Congregational Church, Cardiff, who preached at the anniversary services at Lammas Street Chapel on Sunday, performed a gallant act at the Cardiff G.W.R Station on Saturday when waiting on the No. 3 platform for a train to convey him to Carmarthen. In the bustle of the moment a lady fell off the platform in front of an approaching train. Mr. Hughes who was standing close by, immediately jumped to her assistance, and with much promptitude lifted her body on to the platform. The waiting passengers held their breath as Mr. Hughes clambered from his perilous position, and ready hands were outstretched to pull the heroic minister out of danger. They succeeded in doing so just as the engine crashed by. Mr. Hughes, who was not known to the passengers on the platform hastily and unostentatiously took his seat in the train and departed before his identity became known.

Gwych o stori, gwych o gofnod: gweinidog yn dod i’r adwy. Ystyriwn yr wythnos hon felly Gallant Act y Parchedig Rowland Hughes. Ni fu erioed fwy o angen am gallant acts. Yr ateb i hyn o fyd yw amrywiol a chyson gallant acts. Byddwn yn barod ein cymorth, beth bynnag bo’r sefyllfa neu’r gofyn, heb anghofio un tro ein bod wrth wneud, yn plygu i ewyllys ein Harglwydd Iesu. I’r gwaith o gynorthwyo pobl y rhoes Iesu ei fryd, ei amser a’i fywyd, gan fyned oddi amgylch gan wneuthur daioni (Actau 10:38): lleddfu gofidiau, esmwytháu beichiau a chodi’r gwan i fyny: gallant acts bo un.

Yn lleol, a ledled byd, Corff Crist yw’r Eglwys, felly nid dweud y drefn wrth y byd yw ei phriod waith; nid concro’r byd, na’i gyfundrefnu, ond cynnig cymorth iddo: fel unigolion ac fel eglwys mentrwn ambell gallant act: maddeuant, trugaredd, tynerwch, tosturi, cariad, caredigrwydd. Pobl y gallant acts sydd yn dod â chymorth Duw yng Nghrist o fewn cyrraedd pobl.

(OLlE)

CYTGAN

November 8, 2016 Owain Evans

Y mae fy nghariad fel tusw o flodau henna

o winllannoedd Engedi.

(Caniad Solomon 1:14 BCN)

Cymharir y priodfab yn awr i flodau henna. Man glas mewn diffeithwch oedd Engedi I’r gorllewin o’r Môr Marw.

Deuai’r blodau gyda’r gwanwyn a rhoddasant liw ar fynydd a dôl. Ond, gan iddynt flodeuo’n gyflym, diflanasant yn gyflym hefyd. ‘Roeddent yn ddarlun, nid yn unig o’r prydferth, ond o’r gwan a’r diflanedig. Dysgodd Iesu'r wers honno i’w ddisgyblion: Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy’n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae’n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae’ch ffydd chi? (Mathew 6:30 beibl.net). Gwelodd y Salmydd o’i flaen yr un wers: Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn; megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe (Salm 103:15 WM).

Darlun o’r prin a’r prydferth ydyw. Diolchwn am bethau prin bywyd. Boed i Dduw ein cynorthwyo i’w hadnabod a’u gwerthfawrogi. Benthycwn brofiad William Williams (1717-91) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

Ymhlith holl ryfeddodau’r nef

hwn yw y mwyaf un

gweld yr anfeidrol, ddwyfol Fod

yn gwisgo natur dyn. Amen.

(OLlE)

GAIR AM AIR

November 7, 2016 Owain Evans
5273692120_04fe607d40.jpg talk-about-the-white-elephant-in-the-room.png revenge.jpg IMG_5033.JPG

Mokita

Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llawn a llwyr eu cyfieithu i iaith arall. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin ag ambell un o’r geiriau diddorol rheini. Daw testun ein sylw heddiw o iaith a siaredir ym Mhapua Gini Newydd, Kivila: Mokita. Yn fras, Mokita yw’r gwirionedd hwnnw nad yw neb yn sôn amdano er bod pawb yn llwyr ymwybodol ohono. Daw’r ymadrodd Saesneg The elephant in the room â ni’n agos at ystyr Mokita.

Gan gydnabod fod sawl enghraifft o Mokita crefyddol, hoffem fynd i’r afael ag un yn fras heddiw: y darnau dicllon, cas rheini o’r Beibl. Gwyddom amdanynt; gwyddom fod y rhain ynghudd ym mhlygion Air disglair Duw, ond prin, os o gwbl y cyfaddefwn hynny: Mokita.

Ystyriwn, er enghraifft y Salmau Dial: Salmau 35, 58, 59, 69, 83, 109 a 137. Geilw rhai o’r Salmau hyn am y driniaeth fwyaf annynol posibl i’r gelyn, ac ni ddichon unrhyw glyfrwch esboniadol eu cyfiawnhau: Gwyn ei fyd y sawl sy’n cipio dy blant ac yn eu dryllio yn erbyn y graig (137:9 BCN). Rhaid cydnabod eu bod yn gyfan gwbl gwbl gyfan erchyll. Profiad annymunol yw darllen ac ystyried y Salmau Dial. Sut all Duw siarad â ni, drwy’r fath Salmau cas, gwenwynig a dialgar? Sut mae myfyrio uwchben y fath syniadaeth? Gellid ei hanwybyddu felly! Dim o gwbl. Maent yn y Beibl; perthynant i’r datguddiad o Dduw a gawn yno. Gwna Mokita ddim mo’r tro.

Wrth ystyried y Salmau Dial, dylid ceisio cofio fod rhai ohonynt i’w priodoli i’r genedl ac nid i unigolyn - y genedl a ddioddefodd gymaint dan law ei gorthrymwyr. Oes llygad am lygad, dant am ddant (Exodus 21:24 a Mathew 5:38) oedd hi. Ni ddysgwyd hyd eto i geisio gwahaniaethu rhwng y pechadur a’r pechod. Ffrwyth chwerw - gonest - yr hinsawdd ddiwinyddol ar y pryd yw’r Salmau hyn. Ymhellach ystyriwyd y gelyn yn elyn i Dduw yn ogystal ag i’r Salmydd. Credwyd fod enw a gogoniant Duw yn y fantol. Yn bennaf, dylid cofio fod y Salmydd yn ymddiried y dial i Dduw, ac ni chais weithredu dial drosto’i hun. Gallwn yn hyn ddysgu gwers oddi wrtho. Mor fynych y mynnwn ddial drosom ein hunain!

Glanha ein calonnau o bob chwerwedd pan fo pobl yn gwneuthur cam â ni. Amen.

(OLlE)

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021