• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

SALM

November 5, 2016 Owain Evans

Salm 19

Ymgollai’r Salmydd mewn syndod wrth syllu ar sêr y ffurfafen, ond gwelodd mwy na’r sêr, a’r lloer, a'r gwacter, a’r pellterau. Gwelodd Dduw. Y mae’r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a’r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo (19:1). I’r bardd hwn pethau wedi ei ffurfio, a’u trefnu a’u gosod yn eu lle oedd y sêr a’r lloer fel gan grefftwr celfydd. Campwaith Duw oeddent. Wrth weld dim ond y sêr fe awn dros ddibyn diflastod ac anobaith, ond o weld y sêr a Duw esgynnwn i fannau uchel ffydd a gobaith. Mae anferthedd y bydysawd yn ein boddi, ond mae anferthedd y cariad a greodd ac sydd yn cynnal y cyfan yn ein codi. Mae anferthedd y bydysawd yn tanlinellu bychander ein byw a’n crefydd, ond mae anferthedd Duw yn tanlinellu mawredd ein ffydd. Plant Duw ydym - gwrthrychau ei ofal a’i gariad.

Gallwn ymhyfrydu felly, yn ein bychander. Yn ein bychander, gallwn gyfranogi o fawredd cariad Duw, a chyfrannu o’n bychander at amlygu ac addoli’r cariad mawr, oesol hwn. Y gronyn lleiaf ydym ni a’n hymdrech, sbec fechan o gynllun Duw, ond heb ein golau ninnau, ni fydd y patrwm yn gyflawn iddo Ef.

"Cymer, Arglwydd, f’einioes i i’w chysegru oll i ti". Amen

(F.R.Havergall 1836-79; cyf. John Morris-Jones, 1864-1929. Caneuon Ffydd 767)

(OLlE)

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

November 4, 2016 Owain Evans

Bore Sul (6/11), Oedfa i’r Teulu am 10:30. Parhawn i ystyried Ffrwythau’r Ysbryd gan ganolbwyntio’r mis hwn ar Dangnefedd Duw. 'Dominos Tangnefedd' fydd testun y sgwrs plant a chawn droi at y Wal Weddi, a thystio i fedydd Gruffydd.

Oedfa Gymundeb fydd liw nos (18:00). Testun y bregeth yw Actau 24:22a, 24 a 25: Ffelix. Dihiryn yn ôl pob hanes oedd Ffelix, llywodraethwr Jwdea. Galwyd Paul o’i garchar i sefyll gerbron Ffelix, a heb flewyn ar dafod cyhoedda ofynion yr Efengyl. Ni feddyliai Paul am lastwreiddio’r Efengyl i blesio na denu neb, fel y’n temtir ni i wneud heddiw. Fel Iesu, herio pobl i mewn i’r Deyrnas a wnâi Paul ac nid eu hudo. Hanfod pregeth ein Gweinidog yw’r sylweddoliad nad yw’r sawl sy’n canlyn Crist o hirbell byth yn canlyn yn hir. Os Iesu yw’r Ffordd, rhaid i bobl Iesu mentro’r Ffordd honno, doed a ddelo, costied a gyst.

Bydd cyflwyniad y Gweinidog i’r Cymundeb yn echelu a’r Siôr I a Guto Ffowc. Wrth y bwrdd cawn eto gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r Nadolig a’r flwyddyn newydd.

Bethania nos Fawrth (8/11; 19:30-21:00). Dyma’r trydydd o’r cyfarfodydd buddiol hyn. Diolch i Rhun am ein croesawu. Y thema yw 'Cyfeillion Paul'. Yn y cyfarfod hwn byddwn yn ymdrin ag amryw o’r cyfeillion rheini na roddir ond eu henwau ac ambell fan fanylyn amdanynt gan Paul.

Koinônia amser cinio dydd Mercher (9/11): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.

Swper Elusennol yn yr Happy Gathering yn Nhreganna (9/11). Bydd ein helusen, Tŷ Hafan, yn derbyn hanner pris y tocyn (£20) drwy garedigrwydd Martin yn y tŷ bwyta. Dyma gyfle i fwynhau cymdeithas dros fwyd blasus a sicrhau cyfraniad teilwng tuag at ein helusen.

Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd: Fforwm yr Ieuenctid (nos Iau 10/11; 19:30 yn y Festri). Croesawir disgyblion o Ysgol Plasmawr i sôn am eu profiadau o ymweld â Lesotho. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.

'CAMP LAWN'

November 2, 2016 Owain Evans
imagesAXYZ7LBA.jpg
IMG_5033.JPG

'Munud i Feddwl' wythnosol ein Gweinidog

‘Camp Lawn’ - peth anarferol i mi yw gwrando sylwebaeth chwaraeon ar y radio, ond y pnawn Sadwrn aeth heibio, ar daith, â llond y car o deulu'n mynnu cyffro diweddaraf y meysydd chwarae, rhaid oedd gwrando ‘Camp Lawn’. Gwrando, ie ... a dysgu. Gall y rheini ohonom sydd yn pregethu o Sul i Sul godi ambell arfer dda gan sylwebyddion chwaraeon Radio Cymru.

Y sylwebyddion orau yw'r sylwebyddion radio. Fel i bregethwyr, y gamp i’r sylwebyddion hyn yw cael cynulleidfa i deimlo’n rhan o rywbeth na allant mo'i weld. Fel y pregethwr, dim ond y gair llafar sydd gan y sylwebydd radio i gyflawni ei waith. Trwy gyfrwng ei ddefnydd o iaith, mae’r sylwebydd tan gamp yn llwyddo - â ninnau ymhell - i’n hargyhoeddi ein bod â rhan yng nghynnwrf y gêm - yn ‘bresennol’ fel petai.

Wedi meddwl, onid yw goslef ac iaith y sylwebydd yn newid gan ddibynnu ar ba gamp sydd dan sylw? Mae'r sibrydiad golff yn fwy agos atoch na'r hir-floedd pêl-droed. Pan mae pêl-droediwr yn sgorio, mae llais y sylwebydd yn cyfateb ag ergyd y bêl. Pan mae’r golffiwr yn plygu dros y pyt derfynol, 'does neb yn tynnu anadlu nes i'r bêl ddisgyn - neu ddim - i berfedd gwyn y twll.

Mae deinameg debyg ar waith yng nghyfathrebu’r pregethwr: beth yw'r gwahaniaeth rhwng llais Jeremeiaidd a llais Lucaidd? A ddylai fod gwahaniaeth rhwng llais 'Iesu yng Ngalilea’ a llais ‘Iesu yn Jerwsalem'? Sut mae Salm yn swnio'n wahanol i Ddameg? Sut mae 1 Corinthiaid 13 yn newid, gan ddibynnu os darllenir y bennod mewn angladd neu briodas? Pa argraff a gyfleuir wrth ddarllen emyn yn yr un modd a phe bawn yn darllen ein rhestr siopa wythnosol? Mae sglein ar sylwebaeth ambell un o bobl ‘Camp Lawn’, yn enwedig o ran cymariaethau a delweddau. Dylid, fel ag y medrwn, osod ychydig o sglein ar gyfathrebu’r pregethwr hefyd, gan barchu’r iaith Gymraeg wrth bregethu ynddi.

Yn ail, mae'r sylwebydd radio yn cynnig i’r gwrandäwr le i sefyll. Disgrifir y digwyddiad o bersbectif unigryw. Dyma sydd yn creu a chynnal y ddolen gyswllt rhwng y sylwebydd a’r gwrandäwr. Po fwyaf o fanylion a ddarperir, mwyaf real y profiad a gawn. Ydy'r gêm tennis dan do neu du faes, a'r borfa neu glai? A'i diwrnod poeth ydw i'r golff, neu'n llwyd, glawog? Ydy'r dyrfa i'r gêm pêl-droed yn fwy, neu'n llai na'r disgwyl? Manion, ond o’r manion crëir y llun - y llun sydd yn sicrhau ein bod â rhan yng nghynnwrf y gamp.

Gan symud o'r radio i'r pulpud, oni ddylai'r pregethwr geisio gosod ei wrandawyr yn y darn o’r Beibl sydd iddi neu iddo’n destun sylw? Pa fanylion sydd angen i gynorthwyo ein gwrandawyr i ddeall lle maen nhw? Po fwyaf diogel y tir dan eu traed, mwyaf i gyd y byddant barod i deithio - dychmygu a dyfalu - a pherchenogi’r neges o’r herwydd. Hyd yn oed yn niffeithwch Lefiticus, a jyngl diwinyddiaeth Paul, mae'n bosib sôn am sut y daethom i fan hyn, a beth sydd i weld yma.

Y trydydd peth, yn syml iawn: mae sylwebyddion radio weithiau’n gweithio fel tîm. Darperir y wybodaeth angenrheidiol gan un llais, tra bod y llall yn cynnig lliw'r manion a’r manylion. Weithiau mae'r tîm yn cynnwys rhywun sydd wedi chwarae’r gêm, ac sydd felly’n gwybod beth yw bod ar y maes hwn yn chwarae'r gêm hon. Wrth glywed y ddeialog rhwng y naill a'r llall, mae'r gwrandäwr radio yn gweld mwy o’r gêm na'r sawl sydd yno i’w gweld hi!

Na, nid oes yn rhaid i bregethwr gael ail bregethwr yn ei bulpud! Ond, wrth fynd i'r afael ag ambell destun neu bwnc, fe ellid, (yn wir, fe ddylid) symud o bwyslais i bwyslais, o safbwynt i safbwynt er mwyn i'n gwrandawyr gael gwell syniad o ystod y meddwl a’r dehongli a berthyn i’r darn o’r Beibl dan sylw. Mae hyn yn anoddach nag estyn dim ond un dehongliad - ein dehongliad ninnau, neu ddehongliad yr ysgol ddiwinyddol sydd orau gennym.

Yn olaf, mae dod i arfer â sylwebydd yn gymorth mawr i werthfawrogi'r gamp. Nid wyf ymhlith gwawdwyr selocaf ‘Camp Lawn’, er hynny mae gwell gennyf sylwebaeth ambell sylwebydd na’i gilydd. Pam hynny? Yn bennaf oll oherwydd eu mwynhad amlwg o’r gamp; am eu bod felly’n tanio chwilfrydedd ac yn hoelio sylw. Trwy hynny, cawn ganddynt amgenach sylwebaeth na’r cofnodi glebrog cyffredin. Beth bynnag bo testun ein ‘sylwebaeth’: golff neu "Duw, Cariad yw"; criced neu "Gwyn eu byd y ..." pan mae gwefr ein mwynhad, ein diddordeb a’n hangerdd yn amlwg bydd gennym wrandawyr parod a gwerthfawrogol.

Un nodyn i orffen - mae sylwebi’n grefft. Wrth wrando ambell sylwebydd y prynhawn Sadwrn hwnnw, ‘roedd ôl yr ymchwilio rhag blaen, y paratoi a’r hir ymarfer yn amlwg yn ei sylwebaeth. Buasai gwell siâp ar grefydd yng Nghymru, pe bawn, bregethwyr yn ystyried y gwaith o baratoi pregeth yn grefft; dawn i’w ymarfer a’i pherffeithio, yn hytrach nag yn faich - yn ddiflastod wythnosol.

(OLlE)

CYTGAN

November 1, 2016 Owain Evans

Y mae fy nghariad fel clwstwr o fyrr

yn gorffwys rhwng fy mronnau.

(Caniad Solomon 1:13 BCN)

Cymharir y priodfab yn awr i fyrr. Swydd myrr oedd cadw a gwella. Gwisgai merched ef yn ystod oriau’r nos oherwydd ei effaith iachusol a ffres.

Myrr oedd un o allforion Israel i’r Aifft: Tra oeddent yn eistedd i fwyta, codasant eu golwg a gweld cwmni o Ismaeliaid yn dod ar eu taith o Gilead, a’u camelod yn dwyn glud pêr, balm a myrr, i’w cludo i lawr i’r Aifft (Genesis 37:25 BCN), ac yr oedd yn un o roddion y Sêr-ddewiniaid i’r baban Iesu (Mathew 2:11).

Y mae perthynas iach rhwng pobl ffydd â'i gilydd yn cael yr un effaith a myrr: mae rhyw iachusrwydd a hoen i’w deimlo ynddo ac o’i herwydd

Benthycwn brofiad Morris Davies (1796-1876) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

O! na bai rhyw ddyfais hyfryd

dan yr wybren las i gyd,

allai gadw f’enaid egwan,

yn dy gwmni Di o hyd. Amen.

(OLlE)

GAIR AM AIR

October 31, 2016 Owain Evans
age_otori_by_ichibinails-d6u4b54.jpg
6359878309128874512136347455_a1ea1ef7de3fd9a599f2def84c6ecd6c.jpg
IMG_5093.JPG

Age-otori

Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llawn a llwyr eu cyfieithu i iaith arall. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin ag ambell un o’r geiriau diddorol rheini. Daw testun ein sylw heddiw o’r Siapanaeg: age-otori. Yn fras, age-otori yw’r ymwybyddiaeth ein bod yn edrych yn waeth - nid gwell - wedi cael torri neu drin ein gwallt!

Gŵr cryf gwan oedd Samson, yn simsan o gadarn, yn ddoeth o ffôl. Delila ddaeth â Samson i’w liniau. Oherwydd Delila ‘roedd Samson bellach yn garcharor dall yn Gasa. Yn malu blawd fel ceffyl gwedd bob dydd, trwy’r dydd. Testun sbort ydoedd, symbol o’r gelyn a orchfygwyd: age-otori. Heb os ac oni bai ‘roedd Samson mewn cyflwr truenus wedi i Delila drin ei wallt! Nid dyna ddiwedd y stori ... dechreuodd ei wallt dyfu eto (Barnwyr 16:22) meddai awdur Barnwyr yn ei ffordd gwta, sardonig ei hun. Rhyw ddydd daethpwyd â Samson o’r carchar ar un o wyliau crefyddol y Philistiaid, ac arweiniwyd ef yn naturiol ddigon i deml ei duw hwy - Dagon. ‘Roedd yr arth hwn o ddyn wedi ei ddofi wedi’r cyfan. Nid oedd yn fygythiad bellach. Rhoddwyd ef i sefyll rhwng prif golofnau'r deml, ac yng nghanol y miri a’r hwyl, y crechwenu a’r gwatwar, galwodd Samson ar yr ARGLWYDD, gan bwyso, ei law dde ar un golofn a’i law chwith ar y llall ac yna fe wthiodd ai holl nerth a chwympodd y deml ar yr arglwyddi a’r holl bobl oedd ynddi.

Pa rhyfedd nad yw Disney yn ystyried animeiddio’r stori hon? Tueddwn i feddwl mai stori i blant yw stori Samson, ond o ddifri calon, nid stori i blant yw hon. Stori waedlyd, farbaraidd, trafferthus ydyw, sydd hefyd yn stori arwrol ac ysblennydd.

Ffydd yw codi uwchlaw amgylchiadau anodd bywyd. Dyma Samson, yn garcharor, yn destun sbort ac atgasedd cyson - clwtyn llawr o ddyn ydoedd i’r Philistiaid, ond fe lwyddodd hwn i dynnu buddugoliaeth o grafangau methiant yn ôl ... dechreuodd ei wallt dyfu eto.

Gwyddom yn iawn am age-atori: hap a damwain bywyd, ei bwysau a’i brysurdeb, ei ofynion a’i ddisgwyliadau yn gallu eillio ein ffydd, a ninnau teimlo o’r herwydd fod bywyd, yn ei holl ramant, cyfle a chyfoeth yn ddim byd amgenach na malu blawd mewn carchardy. Ond ... dechreuodd ei wallt dyfu eto. Pechaduriaid ydym, ond nid dyma’r unig beth sydd i ddweud amdanom. Plant Duw ydym, ac ynom - ganddo - mae’r gallu i godi’n uwch na’n hamgylchiadau, i achub urddas o’r annibendod sydd gymaint rhan o’n bywyd.

Yn dy ymyl, ddwyfol Un,

‘Rwyf yn fyw na mi fy hun.

W. Evans Jones (1854-1938)

Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd 1921. Rhif 983.

 

(OLlE)

SALM

October 29, 2016 Owain Evans

Salm 2

Salm ddramatig yw Salm 2. Mae pob brawddeg ynddi bron iawn yn tynnu darlun cyffrous ar gynfas ein dychymyg. Ysgrifennwyd hi mewn cyfnod cynhyrfus iawn, ac o’r herwydd sŵn cynnwrf a geir ynddi.

Mae’r ysgolheigion yn credu mai yn amser y brenin Dafydd, efallai, y cyfansoddwyd y Salm hon - cyfnod yn ei hanes ef a’i frenhiniaeth pan gododd yr Ammoniaid a’r Syriaid yn ei erbyn. Gorchfygwyd hwy yn hawdd ddigon (2 Samuel 10). Dyna felly gefndir y Salm. Yn bwysicach na’r cefndir, mae neges gyfredol Salm 2. Ceir ynddi bortread byw o gyflwr ein byd heddiw. Mae’r Salm yn disgrifio osgo ein cymdeithas heddiw at Dduw, sylwch: ... yn erbyn yr ARGLWYDD a’i eneiniog (Salm 2:2b BCN). Peidiwch â meddwl mai Salm leddf, lwyd yw hon. Salm hyderus yw Salm 2, cawn ein herio ganddi i fagu hyder. Mae’r Salmydd yn sôn am y frwydr oesol honno rhwng ewyllys pobl - yn unigol a chenedlaethol - ag ewyllys Duw. Er bob awgrym fod ein drygioni a gwrthryfel fel pobl yn ennill ar Dduw; Duw, meddai’r Salmydd sydd biau’r frwydr derfynol - a’r frwydr derfynol benderfyna pwy ennilla’r rhyfel.

1. Ceir yn y Salm hon ddarlun o Gyflwr y Cenhedloedd. Pam mae’r cenhedloedd yn terfysgu a’r bobl yn cynllwyn yn ofer? (Salm 2:1 BCN). Deffrowyd dinistr a difrod - mae’r ddynoliaeth yn cicio yn erbyn y tresi. Sylwch ar fwrlwm a symud disgrifiad y Salmydd: ... terfysgu ... cynllwyn ... brenhinoedd y ddaear yn barod ... llywodraethwyr yn ymgynghori â’i gilydd ... dryllio eu rhwymau, a thaflu ymaith eu rheffynnau ... a’r cyfan oll ... yn erbyn yr ARGLWYDD a’i eneiniog. Pobl yn cynllwynio â’i gilydd yn erbyn ei gilydd ac yn erbyn yr ARGLWYDD. Mae’n anodd peidio gweld ein byd heddiw yn hen hen eiriau’r Salmydd. Beth sydd gan y Salmydd i ddweud wrthym felly? Mae Duw yn ymwybodol o beth â ymlaen yn ei fyd ei hun, mae ots ganddo, ac mae ots ganddo nad oes ots gennym ni am beth â ymlaen yn ei fyd. Gadewch i ni ddryllio eu rhwymau a thaflu ymaith eu rheffynnau (Salm 2:3 BCN). Cri am ryddid oedd hi yn amser Dafydd, ond cri am benrhyddid yw hi heddiw. Y tu ôl i bob trybini sydd yn y byd y mae’r ffaith hon: gwrthryfel pobl ... yn erbyn yr ARGLWYDD a’i eneiniog.

2. Mae’r Salmydd yn symud ymlaen wedyn i sôn am Ymateb Duw i Gyflwr y Cenhedloedd. Mae ganddo ddarlun beiddgar, miniog o Dduw: Fe chwardd yr un sy’n eistedd yn y nefoedd ... (Salm 2:4 BCN). Mae Duw yn chwerthin am ein pennau, yn chwerthin ar ben ein hymdrechion ofer i fyw hebddo. Mae’r Beibl yn drwch o wahanol ddarluniau o Dduw - rhai yn annwyl iawn gennym: Duw'r tad annwyl, y bugail gofalus, y brenin mawr; ond mae ambell ddarlun arall nad sydd mor gyfarwydd, darluniau nad ydym yn hoffi efallai. ‘Rydym yn swil iawn i sôn am y delweddau hyn. Anodd iawn, gan fod yr eglwys cymaint â’i phen yn ei phlu'r dyddiau hyn, yw dweud ar goedd fod Duw yn chwerthin ar ben y bobl hynny sydd yn prysur wadu ei fodolaeth, a buasai bywyd heb Dduw, yn fywyd gwell a phopeth yn ei le yn dwt, fel Rubik’s cube wedi’i orffen. Fe chwardd yr un sy’n eistedd yn y nefoedd ... Os ydych yn anesmwyth eisoes, mae’n ddrwg gennyf, ond mae gwaeth eto i ddod: Yna fe lefara wrthynt yn ei lid a’u dychryn yn ei ddicter; fe’u drylli â gwialen haearn a’u malurio fel llestr pridd (Salm 2:5,9 BCN). Y mae pwrpas Duw yn llwyddo, ta waeth am bob gwrthwynebiad! ... fe’u drylli â gwialen haearn a’u malurio fel llestr pridd. Tueddwn i feddwl - ac arswydo braidd o’r herwydd - fod cyhoeddi nad yw Duw yn bod yn beth newydd, ond cofiwch dra bod pobl heddiw’n gwadu bodolaeth Duw trwy gyhoeddi llyfrau, yn y gorffennol codwyd cofgolofnau i’r union un diben. Codwyd cofgolofn gan yr ymerawdwr Diocletian iddo’i hun yn Sbaen, ac arni arysgrif: Er clod Diocletian ... a estynnodd derfynau Ymerodraeth Rhufain, ac a ddiffoddodd enw’r Cristnogion, ac a ddileodd ymhob man ofergoeliaeth Crist. Truan â Diocletian, taflodd Duw i ffwrdd; ond, mae gwadu bodolaeth Duw yn brofiad tebyg iawn i daflu pêl yn erbyn wal, pa mor galed bynnag i chi taflu bel i ffwrdd, yn ôl atoch daw’r bel bob tro. Fe chwardd yr un sy’n eistedd yn y nefoedd ... ... fe’u drylli â gwialen haearn a’u malurio fel llestr pridd.

Mae’r Salm yn gorffen gydag Apêl Duw i’r Cenhedloedd. Yn awr, frenhinoedd, byddwch ddoeth; farnwyr y ddaear, cymerwch gyngor (Salm 2:10 BCN). Pobl dorrodd ar yr heddwch. Duw sy’n cynnig telerau heddwch newydd. Gwna apêl am ddau beth: Eu gwrogaeth ... mewn cryndod cusanwch ei draed (Salm 2:11b BCN). Darlun sydd gan y Salmydd o frenin ar ei orsedd a mawrion y deyrnas yn dod a phlygu wrth ei draed, fel arwydd o’u hymostyngiad a’u gwrogaeth. Apelia, yn ogystal am eu gwasanaeth ... gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn...(Salm 2:11a BCN). Gwasanaethwch Dduw â pharchedig ofn. Nid oes angen ymhelaethu wir; dim ond gofyn i chi sylwi: Gwrogaeth a gwasanaeth. Nid un heb y llall, ond y ddau gyda’i gilydd. Yr un neges yn union sydd gan Iesu: Nid pawb, meddai, sy’n dweud wrthyf ‘Arglwydd, Arglwydd, fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy’n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd (Mathew 7: 21 BCN).

Mae’r Salmydd ac Iesu yn gytûn: fe ddaw teyrnas Dduw pan mae pobl Dduw yn gosod, tynnu a llusgo ein gweithredoedd, ein meddyliau, ein geiriau, ein cymhellion a’n teimladau o dan reolaeth cariad mawr ein Duw hynod fawr.

‘Bywha dy waith, O Arglwydd mawr, yn ein calonnau ninnau nawr ...’ Amen

(Minimus 1808-80; Caneuon Ffydd 243)

 

(OLlE)

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

October 28, 2016 Owain Evans

God’s Frozen People: llyfr, ac iddo ddau awdur, T. Ralph Morton a Mark Gibbs (Fontana, 1964). Mae teitl y llyfr yn awgrymog. Aeth God’s Chosen People yn God’s Frozen People. Eglwys mewn cold storage yw Eglwys Iesu Grist ers blynyddoedd lawer; wedi ei dewis gan Dduw i achub y byd, ond yn analluog i gyflawni ei phriod genhadaeth am ei bod hi wedi ei fferru. Hanfod dadl yr awduron yw bod yn rhaid adfer y ‘lleygwr’ i’w briod le yng nghanol bywyd yr eglwys. Dyrchafwyd yr offeiriad a’r gweinidog yn ein heglwysi gan ddiraddio’r lleygwr. Yn y Testament Newydd ei hun y darganfyddai awduron God’s Frozen People pwy yw’r lleygwyr mewn gwirionedd, yn nysgeidiaeth y Testament Newydd am natur Eglwys. Nid yr adeilad ar gornel stryd yw’r eglwys yno, ac yn sicr nid enwad mohono, ond holl bobl Dduw. Yr eglwys leol yn y Testament Newydd yw pobl Dduw yn ymgynnull yn nhŷ hwn-a-hwn neu hon-a-hon, ond yr Eglwys yw holl bobl Dduw drwy’r Ymerodraeth Rufeinig mewn cymdeithas â’i gilydd. Hwynt-hwy yw’r loas - a’r gair hwn a roes inni’r geiriau Cymraeg ‘lleygwyr’ a ‘lleyg. Y mae’r awduron yn dyfynnu geiriau Hans-Ruedi Weber yn ei lyfryn Salty Christians (1993; Seabury): Too often the clergy undertake to fulfil by themselves the ministry of the church. And too oftern the laity delegate their ministry to one man - the clergyman. This ‘one man show’ is deeply unbiblical. Beth yw hyn? Nid Ymlaen mo hyn, ond darlith, neu adolygiad o hen hen lyfr! Na, Ymlaen ydyw. Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd Adroddiad o Drafodaethau ac Argymhellion Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Y cyntaf o bum flaenoriaeth a nodwyd i waith a chenhadaeth yr eglwys hon oedd Addoliad. Wrth ymfalchïo yn arddull, naws ac ehangder ein haddoliad, teimlai’r Gweithgor bod yna gyfleoedd i gynyddu ymwneud aelodau yn ein hoedfaon. Hyn, nid yn unig er mwyn datblygu "gweinidogaeth yr holl saint", ond hefyd, fel modd i feithrin cynulleidfa a fydd, gobeithio, yn fwy parod i ymgymryd â threfnu ac arwain oedfaon pan fydd, efallai, mwy o alw (e.e. cyfnod di-weinidog). Cytunwyd bod angen meithrin, ymysg ein haelodau, barodrwydd i gynnig gwasanaeth yn hytrach na disgwyl i rywun ofyn. Gwelwyd hefyd gyfleoedd trwy’r fath ymwneud i ennyn ymdeimlad o gyd-weithio ymysg grwpiau o aelodau’r gynulleidfa.

Bellach, mae pob pumed Sul yn y mis yn gyfle i aelodau’r eglwys i drefnu a chynnal yr addoliad. Buddiol a bendithiol yw hyn. Bydd ein Hoedfa Foreol 10:30 dan arweiniad yr Ysgol Sul gyda Hayley Mason ac Eleri Daniel o Dŷ Hafan yn siarad am waith yr elusen.

Bydd yr Oedfa Hwyrol (18:00) yng ngofal aelodau Rhiwbeina: ‘Rhyfeddodau Duw’. 'Rydym wedi’n hamgylchynu gan ryfeddodau byd natur ac mae'r gallu i ryfeddu atynt a’u gwerthfawrogi’n holl bwysig i’r ddynoliaeth, ond mae testun rhyfeddod mawr arall yn cael ein sylw heno, sef dyfodiad Ein Harglwydd Iesu Grist i’n byd ac arwyddocâd ei eni, ei fywyd a’i angau i bawb ohonom. Diolch i Rhiannon, Dwyfor, Elinor, Dewi, Gwenda, Arwel, Iolo ac Eiryl.

Dyfal bu’r paratoi, a dygn y trefnu i sicrhau fod gan bawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - ei le, cyfle a chyfraniad. Pawb a’i waith, a gwaith i bawb wrth gynnal gwasanaeth ac offrymu mawl ac addoliad.

Bydd y casgliad rhydd yn oedfaon y dydd tuag at ein helusen eleni, Tŷ Hafan.

Bore Llun (31/10; 10:30-12:00): Bore Coffi Masnach Deg yng nghartref Dianne ac Andrew. Cyfle i brynu nwyddau Nadolig yn cynnwys cardiau Nadolig, bwydydd tymhorol a chrefftau amrywiol. Manteisiwn ar y cyfle!

Os na fedrwch gyrraedd bore Llun, na phoener: Nos Lun (31/10 19:00 ymlaen) Noson Coffi Masnach Deg yng nghartref Dianne ac Andrew!

PIMS (Nos Lun 31/10 19:00-20:30): Noson ysgafn, hwyliog - dim (gormod) o waith y tro hwn!

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street (1/11; 19:30 yn y Festri) fydd noson yng nghwmni Caryl Roese: ‘Atgofion am yr Artist Josef Herman’.

Babimini bore Gwener (4/11; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.

'MAE BRADU BWYD YN BECHOD'

October 26, 2016 Owain Evans
FullSizeRender (1).jpg
IMG_5033.JPG

Mae’r siopau’n drwch o sgerbydau, gwrachod, llygod mawr a gwe pry cop! Mewn fawr o dro bydd ellyllon hyll-rychiog, gwrachod gwyrdd-walltog, draciwlâu, zombies a fampiriaid yn crwydro’r strydoedd: ‘Cast ynteu Geiniog?’, Trick or Treat?

Un o bennaf nodweddion Calan Gaeaf yw gwastraff.

Hoffwn ddyfynnu un o aelodau hynaf ac anwylaf eglwys Minny Street, â hithau’n dyfynnu ei mam: ‘Mae bradu bwyd yn bechod’. Ystyr ‘bradu’ wrth gwrs yw ‘gwastraffu’. Affetig ydyw, mae’n debyg, ar afradu. Dysgais neithiwr, fod gair ‘affetig’ wedi colli’i sillaf ddechreuol: trodd ‘afradu’ yn ‘bradu’ felly. ‘Mae bradu bwyd yn bechod’, ac fe fradir trwch o fwyd pob Calan Gaeaf.

Fel pobl yr UDA, yr ydym ninnau hefyd yng Ngwledydd Prydain yn diberfeddu pwmpen er mwyn creu llusernau danheddog. Ond, yn wahanol iawn i bobl yr UDA - sydd yn gwneud defnydd da o gnawd y bwmpen - ein tueddiad yma Ngwledydd Prydain yw taflu’r cnawd i’r bin! Bob Calan Gaeaf gwastraffir dros 18,000 tunnell o fwyd da a thra maethlon. Hawdd ddigon buasai crintach a chwyno, ond gwell buasai cynnig rysáit. Darparwyd y rysáit yn garedig iawn gan un o’n haelodau, Beca Lyne-Pirkis. Diolch yn fawr iddi. Rhannwch y rysáit â’ch cyfeillion a chymdogion. Ceir copi Saesneg ar y wefan http://www.boroughmarket.org.uk 

Ydi, ‘mae bradu bwyd yn bechod’, felly, ‘rowch eich brat amdanoch, torchwch lewys a pharatoi Pei Bwmpen Beca: gwaith bychan a phleserus i atal mymryn ar wastraff arferol y Calan hwn.

Pei Pwmpen Beca

Ar gyfer y crwst pei

200g fflŵr plaen

½ llwy de o halen

115g o fenyn heb halen - yn oer ac wedi ei dorri mewn i giwbiau

4-5 llwy fwrdd o ddŵr oer

Pei Pwmpen

170g o siwgr caster

½ llwy de o halen

1 llwy de o bowdr sinamon

½ llwy de o bowdr sinsir

¼ llwy de o glof (ground cloves)

2 wy mawr

400g o Bwmpen wedi rhostio - tuag 1 pwmpen maint canolog

350ml Llaeth twym

Dull

Rhowch y fflŵr, halen a’r menyn mewn prosesydd bwyd a’i falu nes ei fod yn edrych fel briwsion bara. Ychwanegwch 4-5 llwy fwrdd o ddŵr yn araf tra bod y peiriant yn troi nes bod y toes yn sticio at ei gilydd. Diffoddwch y prosesydd a rhowch y toes ar fwrdd wedi ei orchuddio gydag ychydig o fflŵr. Gweithiwch y toes nes ei fod yn esmwyth.

Rhowch fwy o fflŵr ar y bwrdd a rholiwch y toes allan i faint eich plât pei (tua 8-9 modfedd). Irwch eich plât pei a rhowch y toes i mewn, gan wneud yn siŵr ei fod yn ffitio yn iawn. Torrwch unrhyw does oddi wrth yr ochrau, gan adael tua 1.5cm dros ben. Plygwch hwn dros ei hun, gan ddefnyddio eich bysedd i ‘grimpio’ yr ochrau. Rhowch yn yr oergell i oeri tra byddwch chi’n gwneud y llenwad.

I wneud y llenwad, yn gyntaf rhostiwch y bwmpen mewn ffwrn dwym - tua 180C am 30 munud. 'Does dim rhaid tynnu croen y bwmpen i ffwrdd ar hyn o bryd, jyst torrwch mewn i ddarnau tua modfedd o drwch, rhowch ychydig o olew dros y darnau a'u rhostio. Ar ôl yr hanner awr mi fydd e’n hawdd crafu’r bwmpen i ffwrdd o’r croen, yna defnyddiwch fforc i falu’r bwmpen yn fan a llyfn.

Cymysgwch y siwgr, halen a’r sbeisiau mewn powlen fach. Curwch yr wyau mewn powlen fwy a chymysgwch fewn y bwmpen gyda’r siwgr a’r sbeisys. Yn araf, cymysgwch y llaeth twym i mewn ac yna arllwyswch bopeth i gragen y pei.

Pobwch mewn ffwrn ar 200C fan/220C/Marc nwy 7 am 15 munud. Ar ôl yr amser yma trowch y tymheredd i lawr i 160C fan/180C/Marc nwy 4 am 40-50 munud, neu nes bod cyllell yn dod allan o’r pei yn lân! Gadewch i oeri am 2 awr. Gallwch ei weini yn syth, neu ei roi yn yr oergell.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021