• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

CYTGAN

October 25, 2016 Owain Evans

Pan yw’r brenin ar ei wely,

y mae fy nard yn gwasgaru arogl.

(Caniad Solomon 1:12 BCN)

Os dywed y priodfab bethau da am ei briodasferch, etyb hithau yn yr un modd. Daw’n ‘frenin’ iddi, a rhydd ei bresenoldeb arogl fel nardus.

Gwyrth cariad rhwng dau a amlygi yma - rhydd presenoldeb y naill arogl mwy gogoneddus i nardus y llall. Presenoldeb cariad yn unig a wna wyrth fel hon. Nid yw son am ‘gariad’ a ‘brenin’ yn yr un adnod yn wrthgyferbyniad. Y mae’r naill air yn goleuo’r llall - pan ymostyngir mewn cariad ac ufuddhau yn ewyllysgar, nid caethiwed mohono. Rhyddid o fewn perthynas cariad sydd gan Paul mewn meddwl pan ddisgrifiai’i hun fel caethwas I Grist.

Benthycwn brofiad Paul ac J.J.Williams (1869-1954) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

O’th garu tra bôm byw

a rhodio gyda thi,

aroglau meysydd Duw

fydd ar ein gwisgoedd ni.

Canys perarogl Crist ydym ni … persawr bywiol yn arwain i fywyd (2 Corinthiaid 2:15,16 BCN)

(OLlE)

GAIR AM AIR

October 24, 2016 Owain Evans
IMG_5093.JPG
noi-elnyomas2.jpg

Házisárkány

Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llawn a llwyr eu cyfieithu i iaith arall. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin ag ambell un o’r geiriau diddorol rheini. Daw testun ein sylw heddiw o’r Hwngareg: házisárkány. Yn llythrennol, cyfieithir házisárkány yn ‘y ddraig’ ‘dan do’. Cymar lletchwith pigog felly yw házisárkány.

Yr oedd Dafydd yn gwisgo effod liain a dawnsiai â’i holl egni o flaen yr ARGLWYDD, wrth iddo ef a holl dŷ Israel hebrwng arch yr ARGLWYDD â banllefau a sain utgorn. Pan gyrhaeddodd arch yr ARGLWYDD Ddinas Dafydd, yr oedd Michal merch Saul yn edrych drwy’r ffenestr, a gwelodd y brenin Dafydd yn neidio a dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, a dirmygodd ef yn ei chalon (2 Samuel 6: 14-16).

Dafydd druan! ‘Roedd ganddo házisárkány! ‘Roedd ganddo ddraig yn byw o dan ei do: Michal. Ond, rhag gwneud cam â Michal, dylid ystyried ei phrofiad. Mae’r stori’n dechrau yn 1 Samuel 18:17-30. ‘Roedd Michal, merch ieuengaf Saul, wedi syrthio mewn cariad â’i arwr ifanc, Dafydd. Gwelodd Saul ei gyfle. Os oedd Dafydd am briodi Michal, ‘roedd angen rhodd briodas - cant o flaengrwyn! Syniad a bwriad Saul oedd peri i Dafydd farw ar faes y gad. Llwyddodd Dafydd a phriododd Michal. ‘Roedd cenfigen Saul yn prysur droi’n gasineb.

Un noson danfonodd Saul filwyr i amgylchynu tŷ Dafydd a Michal. Rhybuddiodd Michal ei gŵr, a thwyllo’i thad a’i filwyr gan roi amser i Dafydd ddianc (1 Samuel 19). O dipyn i beth penderfynodd Saul dorri’r briodas: Yr oedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, a fu’n wraig i Ddafydd, i Palti fab Lais (1 Samuel 25:44). Yn wleidyddol, ‘roedd y peth yn gwneud synnwyr. Yn gweld ei deyrnas yn gwywo, symudodd Saul fôr a mynydd i sicrhau’r orsedd i’w fab Jonathan.

Ond bu farw Saul a Jonathan ar faes y gad; hawliodd Dafydd yr orsedd wag. Erbyn hyn ‘roedd Michal yn byw yn ddiogel a dedwydd gyda Palti yn Nheyrnas y Gogledd. Yma, ’roedd Ishbosheth, mab Saul yn teyrnasu. Mynnodd Dafydd gael Michal yn ôl a’i chymryd oddi wrth Palti. "Dilynodd ei gŵr yn wylofus ar ei hol ..." (2 Samuel 3:16). Mae’r geiriau hyn yn mynegi’n gryno poen a gofid y gwahanu. Naturiol, felly, yw’r chwerwedd sydd mor amlwg yn yr adnodau uchod o 2 Samuel 6. Do, ‘roedd gan Dafydd házisárkány! ‘Roedd ganddo ddraig yn byw o dan ei do: Michal. Ond, er tegwch i Michal, ni allasai Dafydd hau drain a disgwyl medi grawnwin! Mae awdur Llyfrau Samuel, wrth ddisgrifio berw a chyffro esgyniad Dafydd i’r orsedd, yn ein hannog i gofio fod cariad a bywyd pobl fel Michal a Palti wedi syrthio i fagl gwleidyddiaeth grym y cyfnod.

F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)

TAITH GERDDED HYDREF

October 22, 2016 Owain Evans

 dail crin amryliw dan ein traed a haenen o niwl ysgafn dros y llyn ac awel oerfain yn ein hatgoffa fod yr hydref yn tynhau ei afael yn y tir, cawsom daith gerdded hamddenol o gwmpas Parc y Rhath a’r llyn llonydd. Difyr oedd y teimlad ein bod i gyd wedi cyrraedd adref ar ôl crwydriadau’r haf ac ailgydio yn ein cymdeithas fel aelodau o eglwys Minny Street. Yn anochel, efallai, soniwyd gan fwy nag un am ofid y cofio am drychineb Aberfan a’r pris a delir am ffaeleddau dynolryw. Annigonol yw geiriau ac ni allwn lai na throi at rai o linellau 'Gweddi Dros y Pethau Hyn' o eiddo Aled Lewis Evans:

Maddau i ni, O Dduw,

o achos nid i hyn y creaist ni.

... am wreiddiau a anghofiwn;

am gyfri ceiniogau

cyn gweld mai pobl sy’n cyfri.

am gefnogi llestri gweigion

mewn gair

a gweithred ar ôl gweithred,

maddau i ni ein difrawder.

Am gefnu ar sylwedd o blaid y ddelwedd.

Am ein bod ni’n ddynol ac amherffaith,

cofia hynny o Arglwydd,

a maddau bopeth i ni.

(Hoff Gerddi Cymru, Gomer, 2000)

 

SALM

October 22, 2016 Owain Evans

Salm 139

Salm orfoleddus yw’r salm hon, salm yn ffrydio o weledigaeth o arucheledd hollbresenoldeb Duw, ac ehangder ei hollwybodaeth. Ynddi cawn bortread o Dduw fel barnwr, arweinydd, gwehydd a bydwraig, ond yn bennaf oll, cyfaill yw Duw, cariad ydyw. Mae’r Salm yn ein gwahodd i glosio at Dduw, yr hwn sydd yn fythol agos atom ni.

Mae’r salm yn agor (adnodau 1 - 6) gyda’r salmydd yn cydnabod fod Duw yn ei adnabod nid yn unig yn well na neb arall, ond mewn ffyrdd nad sydd yn bosibl i neb arall. Penllanw’r adnodau agoriadol yw’r cyfaddefiad bendigedig: Y mae’r wybodaeth hon yn rhy ryfedd i mi; y mae’n rhy uchel i mi ei chyrraedd (6).

Yn yr ail adran (adnodau 7 - 12) mae’r salmydd yn datgan yn sgil adnabyddiaeth dreiddgar Duw ohono, nad oes un man yn bodoli lle nad yw Duw. Trwy gyfrwng cyfres o gwestiynau rhethregol a theithiau dychmygol, mae’r Salmydd yn ystyried pe bai modd iddo fynd i’r nefoedd fel Elias (2 Brenhinoedd 2: 9-10) neu ddisgyn i Sheol fel Cora a Dathan (Numeri 16: 29-33) buasai Duw eisoes yno. Dim ond y tywyllwch sydd ar ôl, ond ofer yr ymgais i ddianc rhagddo ym mhlygion y nos, mae Duw yno hefyd. Ym mhob man, ac ymhob peth mae Duw.

Mynegir hollbresenoldeb a hollwybodaeth Duw yn y gofal a gymerwyd i’n creu ni, meddai’r salmydd (adnodau 13-18). Crëwyd ni gyda gofal a chariad, mae Duw fel gwehydd wrth ei waith. Cynnyrch adnabyddiaeth Duw ohonom yw pob gallu, nwyd a dawn o'n heiddo. Cymaint yw rhyfeddod y salmydd nes iddo dorri allan mewn mawl ac addoliad: Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol (14a).

Trawir nodyn annisgwyl, nodyn sydd allan o diwn a gweddill y salm, i’r fath raddau fel bod rhai ysgolheigion yn mynnu mae atodiad gan awdur yn nyddiau’r Macabeaid yw’r adnodau hyn. Er waetha hynny, mae’n rhaid i ni eu darllen a’u hystyried. Dyma apêl i weld cyfiawnder Duw ar waith, ac am nerth ac arweiniad o barhau’n ffyddlon. Cydio mewn cwestiwn oesol mae’r Salmydd wrth gwrs: Pam mae hollbresenoldeb a hollwybodol yn caniatáu i bobl ei herio’n yn ddichellgar, (a) gwrthryfela’n ofer yn (ei) erbyn (20)?

Mae Salm 139 yn dechrau: ... yr wyt wedi fy chwilio a’m hadnabod, ac yn gorffen: Chwilia fi, O Dduw, iti adnabod fy nghalon. Dyhead y Salmydd yw bydd Duw yn amlygu ein gwir natur a’n harwain tuag ato.

Ti yw Arglwydd fy mywyd, a bod yn ufudd i ti yw fy mhennaf anrhydedd. Amen.

 

(OLlE)

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

October 21, 2016 Owain Evans

Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Peter Dewi Richards (Caerdydd). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul, a bydd ein plant a phlantos yn parhau i ymdrin â Ffrwythau’r Ysbryd, gan ganolbwyntio ar yr ail ohonynt - Llawenydd. Sŵn y plant fu’r sŵn amlycaf yn ein plith yn ystod y cyfnod aeth heibio. Y sŵn hyfrytaf a fu erioed! Parhawn i barchu gorchymyn Iesu, Portha fy ŵyn, a’n llafur yn ddiarbed i hyfforddi ein plant a phobl ifanc. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Boed bendith ar y Sul.

Byddwn fel eglwys yn gyfrifol am baratoi a gweini te i’r digartref yn y Tabernacl prynhawn Sul am 14:30.

Bydd cymdeithas yn Sul yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.

WYLWCH GYDA'R RHAI SY'N WYLO

October 19, 2016 Owain Evans
IMG_5033.JPG
man-crying.jpg

Yr Iesu a wyla ...

Y dydd Gwener aeth heibio (14/10), nodwyd pen-blwydd y danchwa ym Mhwll yr ‘Universal’ yn Senghennydd ger Caerffili yn 1913: lladdwyd 439 o ddynion a bechgyn. Y dydd Gwener a ddaw (21/10), nodir treigl 50 mlynedd ers llithro rhan o’r domen lo yn Aberfan ger Merthyr Tydfil, a dinistrio tai a chladdu rhan o Ysgol Pant-glas. Lladdwyd 116 o blant a 28 o oedolion.

Yr Iesu a wyla ...

Gwelsom luniau o’r newyn a’i wae yn Somalia, ac yn Yemen.

Yr Iesu a wyla ...

Gwelsom luniau o ddifrod Haiti a'r difrodi yn Aleppo a Mosul ...

Yr Iesu a wyla ...

Gwelsom luniau o jyngl Calais ...

Yr Iesu a wyla ...

Chithau, yn eich galar mawr a’ch hiraeth nawr.

Yr Iesu a wyla ...

Mi wn yn iawn mor ystrydebol yw dweud bod cysur a chymorth i ni yn y ffaith i Iesu wylo. Ystrydebol ai peidio, erys y gwirionedd.

Yr Iesu a wylodd (Ioan 11:35). Er mae hon yw’r adnod fyrraf ohonynt i gyd, nid oes terfyn i uchder, dyfnder, hyd a lled y geiriau - maent yn cynnwys holl ddynoliaeth Iesu. Ar sail yr adnod hon, gwyddom nad Duw pell, difater sydd gennym, ond Duw gyda ni - Duw gyda’i bobl yn eu poen a’u tor-calon.

Fe berthyn peryglon enbyd i bob ystyriaeth academaidd o ‘broblem dioddefaint’. Brawychus, os nad wir, pechadurus o hawdd yw diwinydda am y broblem hon, ond mae ein diwinyddiaeth yn gwbl amherthnasol i’r rheini sydd wedi disgyn i waelodion tywyll bywyd. Gellid darganfod wrth edrych yn ôl, fod Duw yn ein harwain, ein cynnal, ein cadw, a bod ganddo’r gallu anhygoel i dynnu gobaith newydd allan o dan bawen drom anobaith. Yn wir, mae Duw, ym mhob peth yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu (Rhufeiniaid 8:28a). Daw’r sylweddoliad hyn gydag amser, ond nid oes yn y geiriau hyn unrhyw gysur i bobl sydd newydd syrthio i drobwll galar a cholled. Pan ddifrodir bywyd, mae geiriau yn methu - nid oes digon o gryfder gan y cryfaf o’n geiriau i ddal pwysau dolur amrwd. Beth sydd felly? Dagrau ... a choflaid, neu gyffyrddiad, neu ysgydwad llaw mymryn yn dynnach, mymryn yn hirach nag arfer; ac o feddwl am argyfyngau byd beth sydd well na geiriau? Eto, dagrau ... ac ymateb i’r apêl, ac ymateb eto i’r apêl, ac ymateb eto fyth i’r apêl.

Heb os, erys problem dioddefaint yn broblem enfawr, ac mae llawer i ddweud, llawer sydd angen dweud, llawer na ddylid byth ei ddweud am y broblem honno ... ond yn y byd hwn, sydd yn drwch o boen, yr hyn sydd wir angen yw nid dadansoddiad diwinyddol, ond dagrau: ... wylwn gyda’r rhai sy’n wylo (Rhufeiniaid 12:15).

 (OLlE)

CYTGAN

October 18, 2016 Owain Evans

Mor brydferth yw dy ruddiau rhwng y plethi,

a’th wddf gan emau.

(Caniad Solomon 1:10 BCN)

Nid oedd hoffter at addurniadau yn un o nodweddion arbennig yr Hebreaid nac yn gyson â’u hanian. Ond yn raddol, trwy eu cysylltiad â’r Cenhedloedd, cynhyrchwyd a meithrinwyd ynddynt hwythau’r un hoffter at addurniadau. Ceid addurniadau ar y glust, y trwyn, y gwddf, y fraich, y llaw, y coesau a’r traed. Yn wir, ceir gan Eseia'r rhybudd hwn:

Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn symud ymaith bob addurn - y fferledau, y coronigau, y cilgantau, y clustlysau, y breichledau, y gorchuddion, y penwisgoedd, y cadwyni, y gwregys, y blychau perarogl, y mân swyndlysau; y fodrwy-sêl, y fodrwy trwyn; y gwisgoedd hardd, y fantell, y glog a’r pyrsau; y gwisgoedd sidan a’r gwisgoedd lliain, y twrban a’r gorchudd wyneb (Eseia 3:18 BCN).

Y neges, a honno’n neges i bawb yn ddiwahân, yw bod ansawdd bywyd yn bwysicach na’i bethau, ac nid peth allanol yn y pendraw yw prydferthwch. Diolchwn felly am bob ymgais i harddu person yn allanol ac yn fewnol, a boed i Dduw ein cynhorthwy i ddewis y pwysicaf ohonynt.

Benthycwn brofiad William Williams (1717-91) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

Mae dy degwch

wedi f’ennill ar dy ôl.

 

(OLlE)

GAIR AM AIR

October 17, 2016 Owain Evans
IMG_5093.JPG
e2148c505ae1fe985761787ddedd33f2.jpg

Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llawn a llwyr eu cyfieithu i iaith arall. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin ag ambell un o’r geiriau diddorol rheini. Daw testun ein sylw heddiw o’r Sbaeneg: Duende. Yn fras, duende yw gallu ambell ddarn o gelfydd i godi’r galon a chyffroi’r enaid.

Cyson bu’r sôn am y dirwasgiad; mae ei effaith yn amlwg ddigon. Mae sawl sefydliad, cymuned ac aelwyd yn plygu dan ei bwysau.

Yng ngafael dirwasgiad, y demtasiwn barod yw ysgubo ymaith bopeth sy’n dda i ddim, a hynny’n naturiol ddigon; ond naturiol ddigon ai pheidio, gan y pethau sy’n dda i ddim mai cyfrinach goroesi’r dirwasgiad, a hynny’n union oherwydd mae da i ddim ydynt!

Adroddai William Temple stori am dad yn anfon ei blentyn i’r ysgol gyda nodyn ar ddarn o bapur "Dear Sir, don’t teach my boy poitry, he’s going to be a groser". ‘Roedd poitry yn dda i ddim, yn yr un ffordd mae’r cain, a’r prydferth yn dda i ddim! ‘Roedd poitry yn dda i ddim yn yr un ffordd mae ffydd, gobaith a chariad - bob un - yn dda i ddim!

Heb os, mae poitry, celfyddyd a cherddoriaeth; mae ffydd, gobaith a chariad yn dda i ddim mewn dirwasgiad, a dyna’n union pam mae’r union bethau hyn sydd angen arnom i ymdopi â’r dirwasgiad, ac i ymateb iddo fel unigolion, ac fel cymdeithas. Y pethau sy’n dda i ddim fydd yn cynnal a chadw ein hymdrechion i gynnal a chadw ein gilydd.

Tra yng ngafael ei ddirwasgiad ef ei hun, mynnai Iesu: Nid ar fara yn unig y bydd dyn fyw ... (Mathew 4:4). O dan bwysau ein dirwasgiad ninnau, y demtasiwn yw ymwrthod â phopeth nad sy’n fara, ac yn union oherwydd bod y demtasiwn honno mor gwbl naturiol a dealladwy, rhaid i unigolyn a chymdeithas edrych ar hawddgarwch ac i ymofyn yn ei deml (Salm 27:4)! Rhaid wrth fara a poitry beunyddiol.

Mae pobl lliw a llun o brydferthwch yn dda i ddim. Mae poitry ffydd, gobaith a chariad yn dda i ddim, ond gan y pethau sy’n dda i ddim mae cyfrinach popeth gwerthfawr: duende.

F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021