SALM

Salm 3

Nid yw’r drydedd Salm ymhlith yr adnabyddus a’r poblogaidd. Ond pan aethpwyd ati, canrifoedd lawer yn ôl, i drefnu a dosbarthu’r Salmau ‘roedd yr ysgolheigion yn teimlo y byddai’r salm hon yn bwrpasol iawn fel Emyn Boreol.

Yn wir ni ellid gwell paratoad ar gyfer y dydd a’i alwadau na darllen a myfyrio'r salm fer hon. Ni wyddom i sicrwydd beth oedd achlysur cyfansoddi’r salm, ond o wneud defnydd ymarferol ohoni daw bendith gyson inni.

Yn un peth, mae’r salm yn galw arnom i wynebu’r dydd gyda’r un parodrwydd i ymddiried yn Nuw ag a wnaethom wrth gysgu’r nos: Yr wyf yn gorwedd, meddai’r salmydd, ac yn cysgu, ac yna’n deffro am fod yr ARGLWYDD yn fy nghynnal (3:5 BCN).

Dyma felly neges gyntaf y Salm: ewch â gwres ymddiriedaeth y nos i wynebu’r dydd, gan gredu mai Duw'r nos yw Duw'r dydd, Duw y gellir cyfrif ar ei ofal a’i amddiffyn cant y cant.

Yn ail, geilw’r salm arnom i fod yn gwbl effro'r dydd! Yn effro i’w beryglon. Sonia’r Salmydd hwn fel y mwyafrif ohonynt am elynion bygythiol yn cau amdano o bob tu. ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr! Cyfod, Arglwydd; gwareda fi, O fy Nuw (3:1 a 7a BCN).

Nid gelynion cig a gwaed o angenrheidrwydd sydd gan y Salmydd mewn meddwl. Rhyfel enaid sydd ym meddwl y Salmydd wrth sôn gymaint am ei elynion. Dyn a’r ddihun ydoedd, i wir frwydrau bywyd, yr ymgodymu dygn a themtasiwn ac amheuaeth. Mae cysgwr tawel diofal y nos wedi troi’n ymladdwr effro a di-ofn y dydd. Ymladd ag ef ei hun mae’r Salmydd.

Er mai lletchwith rhywsut yw clywed y Salmydd yn gweddïo: Byddi’n taro fy holl elynion yn eu hwyneb, ac yn torri dannedd y drygionus (3:7b BCN). Ond, meddyliwch am eich gelynion - nid pobl - ond eich gwir elynion, meddyliwch am y pethau hynny sydd yn eich blino a’ch brifo, yn eich baglu a’ch bychanu. Onid braf, yn Nuw a gyda Duw buasai taro’r gelynion rheini yn ei wyneb gan dorri dannedd ambell un!

Clywch genadwri'r salm hon: ... yr wyt ti, Arglwydd, yn darian i mi ... (3:3a BCN)

Pan luniai gof y llys, ers llawer dydd, darian i’w dywysog neu i un o’i filwyr, buasai fel arfer yn llunio dwy iddo. Gofalai fod y cyntaf yn fawr a thrwchus a chadarn fel y gallai ddal ergydion y gelyn. Tarian yw defnyddio yn y frwydr fyddai hon, a chadernid plaen fyddai ei nodwedd.

Gan nad oedd bwriad i fynd a’r ail darian i frwydr byth ond i’w hongian ar fur y llys, nid oedd rhaid iddi fod yn fawr a chadarn, tarian fechan ysgafn oedd hwn, a rhoddwyd patrwm ac addurn o amryw liwiau ar ei hwyneb. Nid peth i’w defnyddio oedd y darian hon ond addurn a harddwch.

Ni fu’r byd erioed yn beryclach lle. Mae Duw yn cynnig bod fel tarian i ni, mae ernes ei nerth gennym, ond mae gennym ddewis hefyd - dewis tyngedfennol - naill a’i gallwn hongian ein Duw ar fur y llys fel addurn a harddwch, neu fe allwn fentro allan gyda Duw i gwrdd â’r temtasiynau sydd raid ei gorchfygu, a’r anawsterau sydd raid ei goresgyn. Yn a thrwy bob trafferth bydd yn cysgodi trosom fel tarian fawr a chadarn.

Arglwydd, cyfoethoger fy mhrofiad ysbrydol, a thrwy hynny defnyddia fi i dywys eraill i gyffelyb brofiad. Amen.

EIN 'SPUTNIK-1'; CYMUNDEB A 'COME IN'-DEB

'Munud i Feddwl' wythnosol ein Gweinidog

Heddiw (4/10) yn 1957, lansiwyd y lloeren gyntaf oll - Sputnik-1. 58 centimetr mewn diamedr, ac yn pwyso tua 85 cilogram, gallasai Sputnik cylch-ofod-deithio’r ddaear un waith, mewn awr a hanner. Yr Undeb Sofietaidd enillodd y ‘ras’ i gynllunio, adeiladu a lansio’r lloeren gyntaf oll, ond bu’r ras fechan hon yn gychwyn ar ras amgenach: The Space Race.

Ystyr Sputnik mae’n debyg yw cyd-deithiwr; gwell efallai’r gair: cydymaith. Iesu yw ein Sputnik ninnau. Mae Iesu’n cerdded gyda ni; gytgam, gyfysgwydd ydyw â ni. Ffydd yw gwybod fod Iesu’n cerdded gyda ni. Nid athrawiaeth, athroniaeth, diwinyddiaeth, cred na chredo yw hanfod ein ffydd, ond cyfarfyddiad achubol â’r Crist byw. Pan mae’r ffordd yn droellog, y mae Iesu yn nerth ac yn arweinydd i ni. Pan mae ein calonnau’n drwm, mae Iesu, ein Sputnik, wrth law i’n cynnal a’n calonogi. Pan mae’r daith yn hawdd, â ninnau o’r herwydd anghofio amdano, nid yw ef yn anghofio amdanom ni. Pan grwydrwn oddi ar y ffordd, mae Iesu yn ein dilyn, ac yn ein tywys yn ôl i’r ffordd na fydd yn loes i mi (Salm 139:24 BCN).

Un peth bach arall am y Sputnik - fe lwyddodd i droi o gwmpas y ddaear bron i 1500 o weithiau; ond darfu’r batris ar ôl tua 20 diwrnod. Mae’r Sul-pen-mis yn bwysig i mi - Sul Cymundeb ydyw. Erbyn cyrraedd y bwrdd bob mis, mae fy matris ysbrydol yn reit fflat. Heb oedi wrth fwrdd y bara a’r gwin, buan iawn y darfu’r batris ysbrydol rheini’n llwyr.

Eglwys yn cydgyfarfod - dyna athrylith ein traddodiad a’n harfer. Yn gymysg gawl: yr ifanc, hŷn a hen; y ceidwadol, cymedrol a chwyldroadol; y ‘credu’, ‘eisiau credu’ a’r ‘methu credu’; y twicers, y oncers a’r onceinawhilers - pawb ynghyd yn cydgyfarfod i gyfarfod â’r Cydymaith, ac yn profi’r adnewyddiad a ddaw o Gwrdd mawr y cwrdd bach:

Dyma gyfarfod hyfryd iawn,

myfi yn llwm, a’r Iesu’n llawn;

myfi yn dlawd, heb feddu dim,

ac yntau’n rhoddi popeth im.

(William Williams, 1717-91)

Ie, Sul Cymundeb oedd y Sul aeth heibio - Sul adnewyddu’r batris - ond cofiwch, mae pob Sul yn Sul Come in-deb. Trowch i mewn atom yn eich eglwys leol. Mae arnom eich angen, a phwy a ŵyr nad oes arnoch chi ein hangen ninnau hefyd. Os nad ydych yn mynd o gwbl ar hyn o bryd, trowch i mewn amser ‘Dolig. Os ydych yn arfer mynd amser ‘Dolig, dewch amser Pasg hefyd, (a’r Sulgwyn!). Os ydych yn mynd bob ‘Dolig a Phasg, ewch unwaith y mis. Os ydych yn mynd unwaith y mis, ewch unwaith y Sul. Da chi, come in. Yma, cawn gymorth-gwmni ein Sputnik; yma cawn her-nerth i’r daith.

(OLlE)

SALM

Salm 104

Mae Salm 104 yn faes priodol i fyfyrio ynddo adeg y cynhaeaf. Mynega mewn iaith fendigedig ryfedd a rhyfeddol ofal Duw am ei niferus weithredoedd. Mynnai’r Salmydd nad oes terfyn ar gynhaliaeth Duw. Ond, mae’r Salmydd yn fwy optimistaidd na ni hwyrach. Dywed ef:

Gosodaist y ddaear ar ei sylfaeni, fel na fydd yn symud byth bythoedd (104:5).

Gwyddom erbyn hyn y gall pobl, yn ein dihidrwydd ffôl, symud sylfeini'r ddaear a pheryglu’r cyfan. Gallwn greu anhrefn lle bu Duw'n trefnu trefn. Rhybuddir ni o ddydd i ddydd am annoethineb ein ffordd o fyw a bod. Ni yw’r stiwardiaid a roes Duw i ofalu am y ddaear ond fe allwn ei throi yn belen o lwch. Gellid gwneud hynny, ond fe ellid hefyd dewis byw yn gallach - gellid cydweithio â’n cymdogion mewn gwledydd eraill; gellid rhannu, gofalu, cynnal a chadw - gellid gwneud hyn oll o ddysgu a sylweddoli mai un byd yw hwn ac mai eiddo ein Harglwydd yw.

 Fy enaid bendithia’r Arglwydd.
Bydded gogoniant yr Arglwydd dros byth; dychwelwn i lwybrau’r Arglwydd. Amen