• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

NEWYDDION Y SUL

August 28, 2016 Owain Evans

Heddiw, cawsom ymuno â chynulleidfa Eglwys Ebeneser yn eu hoedfaon - yng Nghanolfan yr Eglwys Newydd yn y bore, ac yna, yn Eglwys Canol y Ddinas yn yr hwyr. Y Parchedig Gareth Morgan Jones, Pontardawe oedd y Pregethwr Gwadd.

Salm 145 yw testun y pedwerydd myfyrdod ein Gweinidog ar gyfer Mis Awst.

Ar ôl y ddwy oedfa cafwyd mwynhau cymdeithas dros baned; mawr y gwerthfawrogiad am Sul bendithiol arall yng nghwmni ein gilydd.

Yr wythnos nesaf byddwn yn dychwelyd i’n heglwysi lleol; priodol fydd i beidio anghofio bendith a braint y cydweithio a’r cyd-addoli yn ystod y mis a aeth heibio.

MYFYRDOD Y SUL - SALM 145

August 28, 2016 Owain Evans

Salm 145

Gyda’r olaf o’r Salmau a fu’n destun myfyrdod gennym dros yr ychydig wythnosau aeth heibio, awn yn ôl i’r cyntaf. Mae’r ddwy fel ei gilydd yn cynnig rysáit dedwyddwch. Prif gynhwysyn y rysáit yn y Salm hon yw dysgu bendithio Duw, sut bynnag mae arnom, bob dydd (2a).

Mae’r Salm yn dechrau’n hyderus: bendithiaf dy enw ... Bob dydd bendithiaf di, a moliannu dy enw byth bythoedd (1&2). Mae’r awdur yn mynnu, beth bynnag ddaw, mai graslon a thrugarog yw’r ARGLWYDD, araf i ddigio, a llawn ffolineb. Gofala’r ARGLWYDD am bawb sy’n ei garu ... (8&20a).

Mae Salm 145 yn unigryw gan fod yr awdur yn canu clod i Dduw am bethau da a drwg. Mae’r adnodau yn yr Hebraeg gwreiddiol yn dilyn trefn y wyddor Hebraeg. Penllanw’r dilyniant yw’r datganiad hyderus, grymus derfynol: Llefara fy ngenau foliant yr ARGLWYDD, a bydd pob creadur yn bendithio’i enw byth bythoedd (21).

Mae’r adnodau agoriadol yn gosod cywair y salm: Dyrchafa di, fy Nuw, O Frenin, a bendithiaf dy enw byth bythoedd. Bob dydd bendithiaf di, a moliannu dy enw byth bythoedd. (1 & 2, ychwanegwyd y pwyslais). Mae’r geiriau hyn yn gadarn, sicr; dyma fynegiant hyderus, cryf o ffydd yn, a chariad tuag at Dduw.

Mynegir hyn, gan gydnabod llawenydd a thristwch bywyd, iechyd ac afiechyd, llwyddiant a methiant. Yn adnodau 6 a 7 maen nhw yn cyhoeddi grym gweithredoedd Duw, ac yn diolch am ei ddaioni helaeth ond nid oes cyfeiriad at boen a dolur bywyd. I’r gwrthwyneb mae’r awdur yn mynnu cyhoeddi awdurdod Duw ym mhob peth; mae cariad Duw ar waith ym mhob peth a thrwy bob peth: Fe gynnal yr ARGLWYDD bawb sy’n syrthio. Ac uniona’r holl rai gwargam (14).

Nid yw awdur y Salm yn honni deall ffyrdd Duw, ond ŵyr yn iawn, ym mhêr ei esgyrn mae da yw Duw - Duw cariad yw - Duw ydyw sydd yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd, ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd (13;17). Credai’r awdur mai Duw yw creawdwr, cynhaliwr a brenin y bydysawd. Nid oes dim yn bodoli ar wahân i Dduw. Er iddo fethu deall sut, fe ŵyr fod gan Dduw'r gallu i blethu pob dioddefaint a drygioni i mewn i batrwm ei fwriad cariadlawn ar gyfer ei bobl. Mynnai’r Salmydd ganu clod i’r Duw sydd iddo yntau’n Dduw mawr, a theilwng iawn o fawl, gan gydnabod bod ei fawredd yn anchwiliadwy (3).

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)

FFYDD, GOBAITH A CHARIAD ...

August 24, 2016 Owain Evans

Eglwys y Galon Sanctaidd; gwersyll carcharorion rhyfel Henllan

Yn aml, wrth ddal y pin ysgrifennu uwchben y gofod yn y llyfr ymwelwyr mewn eglwys neu fan cyhoeddus arall a chael fy annog i ysgrifennu nid yn unig fy enw ond hefyd rhyw ymateb i’m hymweliad, ‘dydi’r geiriau ddim o hyd yn dod yn rhwydd, a hawdd ffeindio fy hunan yn ysgrifennu rhyw eiriau gwag neu arwynebol mewn ymateb.

Ond nid felly yn ddiweddar. Tri gair ddaeth yn syth i’m meddwl ar ddiwedd yr ymweliad yma - ffydd, gobaith, cariad. Dyna’r cwbl - ffydd, gobaith, cariad; a dyna a ysgrifennais yn y llyfr.

Ymweliad â gwersyll carcharorion rhyfel Eidalaidd yn Henllan ydoedd ac, fel pawb arall ar yr ymweliad, cefais innau fy nghyfareddu gan hanesion bywydau’r milwyr fu’n garcharorion yno.

"Rhaid cofio i gofio a chadw ffydd" meddai Heledd yr wythnos diwethaf yn ei Munud i Feddwl a dyna’n union lwyddodd y dynion yma i’w wneud; cofio a chadw eu ffydd er gwaethaf bod yn garcharorion, ymhell oddi cartref, mewn cymunedau dieithr, gydag iaith ddieithr o’u cwmpas, yn gweithio oriau hir a chaled ar y tir er cynyddu’r cnydau a’r cynhaeaf. Do, fe lwyddont i gofio a chadw eu ffydd.

Uchafbwynt yr ymweliad i rai oedd gweld yr eglwys sy’n dal yno, mor brydferth a lliwgar heddiw ag oedd hi dros 70 mlynedd yn ôl. Eglwys wedi ei haddurno gan y carcharorion i’w hatgoffa o’u heglwysi Catholig Rhufeinig gartref yn yr Eidal gyda’r Swper Olaf wedi ei beintio ar y nenfwd, canwyllbrennau o bob maint, pileri yn edrych fel marmor a’r cwbl wedi ei greu allan o ddefnyddiau gwastraff fel caniau metal, sachau cement, a lliwiau’r paent i gyd o gynhwysion naturiol. Anhygoel!

Ond yr uchafbwynt i mi oedd cynnwys un fasged a ddangoswyd i ni.

Anrhegion oedd yn y fasged hon; anrhegion oddi wrth y carcharorion i rai o’r bobl leol. Anrhegion o ddiolch am garedigrwydd, anrhegion yn aml i blant lleol oedd yn amlwg yn atgoffa’r milwyr o’u plant hwythau nôl adref, anrhegion wedi eu creu eto o ddefnyddiau gwastraff, gydag ambell i freichled wedi ei chreu allan o’u tair-ceiniogau prin hyd yn oed.

Ynghlwm â’u ffydd gadarn, roedd gobaith - gobaith yng ngeiriau’r Ysgrythur y byddai Duw yn rhoi iddynt bopeth da yn helaeth, gobaith y byddai Duw yn eu cynnal ac yn dangos y ffordd iddynt hyd yn oed yn nhywyllwch eu sefyllfa.

A ffrwyth y ffydd a’r gobaith yma oedd yr anrhegion - eu hymateb i’r cariad a ddangoswyd tuag atynt hwy, sef ymateb hefyd mewn cariad.

Rhoesant o wirfodd eu calon, fel mae’r apostol Paul yn argymell i ni ei wneud, nid o anfodd neu o raid, ond o wirfodd calon. Rhoesant allan o’u tlodi.

Pa esiampl well tybed o’r rhoddwr llawen y mae Duw’n ei garu?

Y Parchedig Rhian Linecar

NEWYDDION Y SUL

August 21, 2016 Owain Evans

Heddiw, tro Eglwys Minny Street oedd hi i wahodd Eglwysi Crwys, Ebeneser, Tabernacl a Salem i ymuno â ni yn Oedfaon y Sul. Y Parchedig Carwyn Siddall, Llanuwchllyn oedd ein Cennad Gwadd. Diolch iddo am bregethu meddylgar a phregethau gafaelgar a gwerthfawr.

Cofiwn i ni, fel eglwysi, ganolbwyntio ar Bangladesh ac effeithiau newid hinsawdd ar y wlad a’i phobl yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol eleni.  Wrth i’r wythnos ddod i’w therfyn, ar Mai 21, trawodd Seiclon Roanu arfordir deheuol Bangladesh. Gorfodwyd hanner miliwn o bobl i adael eu cartrefi. Bu i’r cenllif glaw, y llifogydd a’r tirlithriadau ladd a niweidio nifer o bobl; dinistriwyd 85 mil o gartrefi, a difethwyd cnydau a thir amaeth. Tri mis yn ddiweddarach mae’r galw am gysgodfannau, dŵr glân, bwyd, ac adnoddau glendid a charthffosiaeth i wynebu’r fath sefyllfa enbydus yn parhau ac felly buom, trwy gyfrwng casgliad oedfaon y dydd yn cyfrannu tuag at Apêl Seiclon Roanu, Bangladesh Cymorth Cristnogol.

Salm 51 yw thema Myfyrdod Awst y Gweinidog heddiw. Yn y ddwy oedfa cafwyd cyfle i gyfrannu nwyddau i Fanc Bwyd Caerdydd. Braf fu parhau mewn cymdeithas dros baned o de yn y Festri ar ôl yr Oedfa Hwyrol.

MYFYRDOD Y SUL - SALM 51

August 21, 2016 Owain Evans

Salm 51

O’th flaen, O! Dduw, ‘rwy’n dyfod,

gan sefyll o hir bell;

pechadur yw fy enw -

ni feddaf enw gwell;

trugaredd 'rwy’n ei cheisio,

a’i cheisio eto wnaf,

trugaredd imi dyro,

‘rwy’n marw onis caf.

Thomas William (1761-1844); CFf:175

Salm edifeirwch yw hon. Dyma un o glasuron llenyddiaeth grefyddol y byd. Mae’r Salmydd yn gwneud mwy na gweld ei bechod; gweithred fwriadol gan y Salmydd yw'r Salm hon i gydnabod y pechodau sydd yn chwalu'i fywyd, ac yn lladd ei berthynas â Duw. Dim ond trwy’r cydnabod a’r addunedu hyn y gwêl y Salmydd obaith am galon lân (10).

Gellid dadlau fod pedwar cam i edifeirwch. Cydnabod y drwg yn erbyn Duw; cydnabod yr angen am faddeuant gan Dduw; addunedu i droi oddi wrth y drwg ac ymroi i fyw bywyd gwell, a'r cam terfynol: derbyn maddeuant. Mae’r camau hyn yn amlwg y Salm hon.

Cydnabod y drwg:

Oherwydd gwn am fy meiau ... (3)

Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechais a gwneud yr hyn a ystyri’n ddrwg (4).

Wele, mewn drygioni y’m ganwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam (5).

Cydnabod yr angen am faddeuant gan Dduw:

Bydd drugarog wrthyf ... (1)

... golch fi’n lân o’m heuogrwydd, a glanha fi o’m pechod (2).

Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl feiau (9).

Addunedu i droi oddi wrth y drwg ac ymroi i fyw bywyd gwell:

Crea galon lân ynof, O Dduw, rho ysbryd newydd cadarn ynof (10).

... a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd (12).

Derbyn maddeuant:

... calon ddrylliedig ac edifeiriol ni ddirmygi, O Dduw (17).

Dyro i mi eto orfoledd dy iachawdwriaeth (12).

... fe gân fy nhafod am dy gyfiawnder (14).

... bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant (15).

Mae cydnabod y drwg a’r angen am faddeuant, ac addunedu i droi oddi wrth y drwg yn ei gymhwyso i dderbyn maddeuant Duw. Nid bod y tri cham cyntaf yn amod maddeuant, ond maddeuant yw gwobr y camau hyn.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)

 

 

CYMRAES AR DAITH - HELEDD YM MERLIN

August 18, 2016 Owain Evans

Myfyrwyr yn teithio’r byd, llygaid lled eu pen ar agor. Llyncu hanes a diwylliant fel dŵr ar ddiwrnod sych. I Gymraes ar daith fel fi, does dim pen draw i’r pethau anhygoel sydd i’w gweld. Ar adegau mae gormod hyd yn oed: cymaint fel bod lliwiau yn rhy llachar a cherddoriaeth yn rhy swnllyd; anodd weithiau yw cael eiliad i feddwl heb sôn am funud.

Ar daith ddiweddar i Ferlin, fe’m gorfodwyd i feddwl - rhoi’r ffôn i lawr, anghofio lluniau a selfies a chwilio momentos - a gweld; na, mwy na gweld, deall. Ar ganol strydoedd mawr, gweld wal fel craith drwy ganol dinas bert; graffiti a thyllau dryll, weiren bigog a phaent lliwgar. Mae’r wal yn ein hatgoffa o’r hanes; hanes na ellir ei anwybyddu byth ym Merlin. Yn hytrach na thrin y wal a’r holl atgofion chwerw fel tudalen i’w rhwygo allan o’r llyfrau hanes, cedwir, a gwelir yr hanes tywyll yma’n rhan o sgerbwd y ddinas a’r wlad.

Rydym ni fel gwlad heb ddod i ddeall ein gorffennol tywyll ni ein hunain, ond serch hynny’n ddigon parod i bwyntio bys at yr Almaen. Rydym ni heb ddod i ddeall yr erchyllterau gwnaed ar ein rhan yn India a Kenya, i enwi dim ond dau. O hyd rydym yn cadw hen drysorau Indiaidd yn ein hamgueddfeydd fel gwobrau rhyfel, a gwrthod cydnabod trais yn erbyn gwrthryfelwyr Mau Mau. Testament pellach yw'r cofgolofnau i hen Colonialists yn Rhydychen i ogoneddu’r ymwelwa - exploitation - o’u tir a’u hunaniaeth.

Nid felly ym Merlin. Mae popeth yn adlewyrchu’r Almaen yn cofio - gwlad sydd o hyd yn plygu ei phen mewn siom. Gwelir mannau coffa ar hyd a lled Berlin; cofgolofnau mawr goncrit yn sefyll yn dal, nes i ni deimlo’n fach a gwan yn eu mysg; dŵr llonydd, tawel i’n hatgoffa am y sipsiwn a’r Roma cafodd eu lladd yn yr Holocost; amgueddfa yn ein hatgoffa sut all casineb dyfu a thyfu nes bod hi’n annod gweld y gwir o’r gau, gan dynnu sylw arbennig i’r argyfwng ffoaduriaid. Gwelwch chi’r paralel hanesyddol yma? Ond mae’n rhaid dweud nad yr un o’r rhain oedd yn sioc i mi, wedi’r cyfan, ar ôl bod yn New York a Llundain nid oeddwn yn teimlo bod dim mwy gallai amgueddfa ddangos i mi.

Maes parcio, gwair sych, gravel. Dyma yw disgrifiad un o’r mannau mwyaf trawiadol es i iddi. Man cyffredin gyda bywyd yn byrlymu a symud uwchben lle yr anghofiwyd amdano: y Reich Bunker. Yma, buodd Hitler a’i brif swyddogion Natsiaidd yn cuddio erbyn diwedd y rhyfel; yma hefyd y priododd Hitler yn ei ddyddiau olaf. Nawr does dim cofgolofn, dim anogaeth i sefyll a chondemnio ei ddaliadau a’i ddulliau a dechrau o’r newydd. Mae’n debyg nawr bod parc chwarae yno: lle bu rhywrai’n cynllunio lladd a difa, mae plant nawr yn chwarae.

Mae’n rhaid dod i dermau â’r Holocost, yn ei gyfanrwydd neu mae perygl eto o drais. Pan aethom ni i weld y gwersyll crynhoad bwriodd llawn effaith yr erchylltra mi. Mae’n rhaid synnu fod gobaith wedi goroesi er waethaf popeth, a ffydd wedi dal trwy’r holl amseroedd caled. Doedd dim seibiant rhag y trais i’r miliynau o bobl oedd wedi eu carcharu gan y Natsïaid - unig fwriad y system oedd difa pobl. Pwy allasai weld bai arnynt am anobeithio, ond dyfalbarhad ffydd a gwrthod caniatáu i obaith i farw’n dawel, dyma welais i yn y gwelyau pren ac olion casineb.

I ni, bob dydd, yn a thrwy'r pethau bychain, rhaid gweld ffydd, rhaid cofio Duw mewn amseroedd tawel, prysur, hapus a thrist a phob peth arall daw gyda bywyd, pethau welwch ar eich teithiau neu o obennydd y soffa. Rhaid cofio i gofio a chadw ffydd, cymerwch felly Munud i Feddwl, a meddyliwch am Ferlin.

Heledd Wilshaw

NEWYDDION Y SUL

August 14, 2016 Owain Evans

Cyd-addoli gyda chyfeillion Eglwys y Tabernacl fu ein hanes heddiw, hynny o dan arweiniad y Parchedig Peter Cutts (Caerfyrddin). Diolch iddo am ei genadwri gyfoethog.

Trwy garedigrwydd cyfeillion Eglwys y Tabernacl cafwyd cyfle i barhau mewn cymdeithas dros baned o de ar ôl y ddwy oedfa.

Testun yr ail o Fyfyrdododau Mis Awst y Gweinidog oedd Salm 23.                

MYFYRDOD Y SUL - SALM 23

August 14, 2016 Owain Evans

Salm 23

Fel sylwodd Lewis Valentine (1893-1986), yn y salm hon cawn dri gwahanol ddarlun o Dduw, gan ddechrau yn adnodau 1 & 2 gyda Duw'r Bugail:

Yr Arglwydd yw fy Mugail;

ni fydd eisiau arnaf,

Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog:

efe a'm tywys ger llaw y dyfroedd tawel.

Dyma ddelwedd hynod rymus; delwedd sydd fel burum ym mlawd y Beibl. Gwelir y ddelwedd ar waith yn Genesis (Gen.48:15), a hefyd yn Natguddiad Ioan (Dat.7:17). Dyma ddelwedd sy'n ymddangos dro ar ôl tro mewn Salm ar ôl Salm, ystyriwch e.e. 28:9; 79:13; 100:3. Sylwch ym mhob un o'r cyfeiriadau uchod ac eraill fel 80:1 a 95:7 bod y ddelwedd o Dduw'r bugail yn cael ei ddefnyddio tu mewn i gyd-destun ei berthynas â'r holl bobl, ond yn Salm 23, nid Yr Arglwydd yw ein Bugail... sydd gennym ond Yr Arglwydd yw fy Mugail... Mae'r nodyn yn llawer mwy personol.

Sylwch hefyd ar ddechrau'r salm, mae Dafydd yn cyfeirio ar Dduw fel efe, ond mae'n diweddu trwy ei alw'n ti. Rhyw dro, 'roedd 'na actor go enwog a gweinidog di-nod yn eistedd, ymhlith nifer eraill, wrth bryd bwyd. Ildiodd yr actor i bwysau ei gyfeillion a rhoi ambell adroddiad o waith Shakespeare ac ati, a chan ei bod hi'n Sul, i orffen adroddodd Salm 23. Canmolwyd yn fawr ei adroddiad. Gofynnodd y gwesteiwr i'r gweinidog i adrodd yr union un Salm. Wedi iddo orffen ni fu na chymeradwyaeth na chanmoliaeth - dim ond tawelwch. Gan dorri ar y tawelwch hwnnw, meddai'r actor gan siarad dros bawb, "Mae'n amlwg fy mod i nabod y Salm, ond eich bod chi'n nabod y Bugail."

Efe a ddychwel fy enaid: efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant.

Yma newidir y ddelwedd: Duw'r Arweinydd diogel. Hon eto’n ddelwedd sydd yn ymddangos mwy nag unwaith yn Salmau e.e.: 25:9; 73:24. Unir y ddwy ddelwedd yn Salm 78:72. Heb os ac oni bai mae'r ddelwedd hon eto'n hynod rymus. Â chenhedlaeth gyfan yn amau os oes ystyr i siarad am gyfeiriad a phwrpas i fywyd, onid oes angen Arweinydd diogel arnom, gyda'i ffon a'i wialen yn torri ffordd Trwy ein byd didostur ni?

Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr:

iraist fy mhen ag olew;

fy phiol sydd lawn. Daioni a thrugaredd yn ddiau a'm canlynant holl ddyddiau fy mywyd:

a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.

Yma cawn ddelwedd newydd eto: Duw'r Gwesteiwr. Cawn atseiniau o'r ddelwedd hon yn 25:20&21; 116:12&13 a 43:3. Ceir yng nghwmni'r Gwesteiwr diogelwch a chysur.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021