• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

DYSGU MEDDWL ER MWYN MEDDWL

August 10, 2016 Owain Evans

Ym mis Gorffennaf, treulies 4 wythnos gyda grŵp o’r brifysgol yn Ne Korea. Roedden ni’n aros mewn prifysgol leol yno, yn ninas Jinju yn cynnal cwrs iaith Saesneg ar gyfer ei disgyblion. Er mai’r nod oedd eu paratoi ar gyfer arholiad, roedd rhyddid i ni fel athrawon drefnu ein gwersi ein hunain gan ganolbwyntio ar sgiliau siarad, felly roedd cyfle i fod yn greadigol tu hwnt ac fe fwynheais i’r profiad yn fawr. Ar ben hyn, fel arwydd o ddiolch i ni, roedd y brifysgol yn Jinju yn ddigon caredig i drefnu tripiau penwythnos i ni gyd er mwyn rhoi cyfle i ni weld ychydig o’r wlad. Roedd un o’r tripiau yma i deml Fwdïaidd gerllaw lle gymeron ni ran mewn Templestay wedi ei drefnu i roi syniad i bobl sut beth yw bywyd i fynachod Bwdïaidd, ac mi roedd yn brofiad a hanner!

Wrth gyrraedd roedd rhaid i bawb roi eu ffonau symudol i gadw mewn bocs, i’w cael yn ôl ar ddiwedd y penwythnos (tasg llawer yn anoddach nac y mae’n swnio i bobl ifanc heddiw!), ac yna newid i wisg draddodiadol. Wedyn cawsom ni ein dangos o gwmpas y deml a oedd wedi ei guddio o fewn llecyn godidog tu hwnt o fynyddoedd gwyrdd. Cawsom ein haddysgu am etiquette y deml, a oedd yn gofyn i ni geisio cynnal awyrgylch tawel ym mhobman, yn enwedig ar amseroedd bwyta.

Cyn pen dim roedden ni gyd wedi ymlacio yn gyfan gwbl! Roedd y lle yn boced o baradwys brin fel petai wedi’i ddatod yn gyfan gwbl o brysurdeb ein bywydau bob dydd.

Wrth gwrs fe ddaeth yr amser i ni gael ein haddysgu am y traddodiad Bwdïaidd o fyfyrdod, ac roedd rhaid dihuno am 04:30 fore dydd Sul er mwyn cael gwneud! Fe’n arweiniwyd i bendroni dros gwestiynau fel "Pwy ydw i?" a "Pam ydw i yma?" mewn sawl ffordd wahanol gan gynnwys wrth gerdded yn ddistaw i fan sanctaidd ar ben mynydd, a thrwy gwblhau 108 prostration sef ymgrymiad traddodiadol gyda phob 108 ohonynt yn cynrychioli mater gwahanol i bendroni amdani.

Heb os fodd bynnag, fy hoff ran i o’r penwythnos oedd yr adegau tawel rhwng bob peth lle’r oedd wir gyfle i adael i’r meddwl grwydro mewn hedd. Roedd hi’n anodd mewn awyrgylch mor ddistaw a dwys i beidio chwilio am atebion i’r cwestiynau mawr, a chefais fy hun yn meddwl am fy nyfodol, fy hunaniaeth ac am fy ffydd. Sylwais mai dyma oedd y tro cyntaf mewn amser maith i fi wir gymryd yr amser i feddwl. Nid meddwl wrth gyflawni tasg, neu wrth aros i rywbeth ddigwydd ond wrth gymryd yr amser allan o fy niwrnod i feddwl er mwyn meddwl.

Er, wrth gwrs ei fod yn amhosib ffeindio ateb i’r mwyafrif o’r cwestiynau oedd yn fy mhigo, roeddwn i’n teimlo fil gwaith mwy heddychlon fy meddwl wedi treulio amser go iawn yn eu pendroni.

Fel un sy’n beio fy hun am or-feddwl am y rhan fwyaf o bethau doeddwn i ddim yn disgwyl buddio cymaint o’r profiad ond fe wnaeth y penwythnos i fi wir ddeall budd cymryd amser bob hyn a hyn i feddwl, heb arweiniad, heb darged ond yn bwrpasol serch hynny.

Sioned Press

 

 

 

NEWYDDION Y SUL

August 7, 2016 Owain Evans

Y Parchedig Dafydd Owen (Caerdydd) oedd ein Pregethwr Gwadd yn Oedfaon y Sul, â ninnau’n cyfarfod heddiw yng nghapel Eglwys y Crwys. Amheuthun yw dod ynghyd yn ystod Mis Awst - yn gynulleidfaoedd o Eglwysi Crwys, Ebeneser, Minny Street, Salem a'r Tabernacl; cyfle i dystio gyda’n gilydd am ein Harglwydd.

Bu cyfle, liw nos i ymgasglu o amgylch Bwrdd y Cymun i gydgyfranogi o’r elfennau; symbolau syml, o gariad anferthol ac anfeidrol Duw tuag atom. Diolch am y fraint a’r fendith.

Heddiw, cawn gyfle i ddarllen ac ystyried myfyrdod y Gweinidog ar Salm 1. Bydd sylwadau cyffelyb ar Salm 23; 51 a 145 yn ymddangos yn wythnosol o hyn allan.

MYFYRDOD Y SUL - SALM 1

August 7, 2016 Owain Evans

Salm 1

Rysáit dedwyddwch yw’r Salm hon. Prif gynhwysyn y rysáit yw Gair Duw. O gael ein trwytho yng Ngair Duw meddai’r Salmydd, mae amheuaeth yn ildio i ffydd, anobaith i obaith, tywyllwch i oleuni, a thristwch i lawenydd. Dydd ar ôl dydd mae Duw yn ein gwahodd i ddewis bywyd: Yr wyf yn galw’r nef a’r ddaear yn dystion yn dy erbyn heddiw, imi roi’r dewis iti rhwng bywyd ac angau, rhwng bendith a melltith. Dewis dithau fywyd ... (Deuteronomium 30:19 BCN).

Gellid rhannu’r Salm yn dair adran. Mae adran gyntaf yn disgrifio'r hyn nad yw dedwyddwch; mae’r ail yn disgrifio'r hyn yw dedwyddwch, ac mae’r adran olaf yn cymharu tynged y cyfiawn a’r anghyfiawn.

O! Mor ddedwydd yw’r hwn, neu’r hon nad yw’n dilyn cyngor y drygionus, nac yn ymdroi hydd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr (1:1). Ni ddylai’r hwn neu’r hon sydd am ddewis bywyd dilyn, ymdroi nac eistedd gyda’r drygionus. Mae trefn y berfau’r bwysig, ymhlyg ynddynt mae taith o ddaioni i ddrygioni, o ddedwyddwch i dristwch. Mae dilyn yn awgrymu’r dechreuadau: cyfarfod â phobl ddrwg, darganfod syniadau gwyrgam. Wrth ymdroi â’r drygionus daw’r berthynas yn fwy sefydlog; ac mae eistedd yn cyfeirio at berthynas parhaol, sefydlog. Nid yw’r person dedwydd yn ymwneud â’r bobl sydd yn fwriadol ymwrthod â’r bywyd y mae Duw yn cynnig i bawb yn ddiwahân.

Yn yr adran nesa’ cawn wybod beth yw dedwyddwch, sef cael ein trwytho yng Ngair Duw. Nid hawdd yw cael ein trwytho yn y Gair, rhaid wrth ymroddiad mewn amser ac amynedd. Ond wrth fuddsoddi amser ac amynedd fe ddown i fod fel coeden wedi ei phlannu wrth ffrydiau dŵr ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor (1:3) - y ffrwyth yw ffydd, gobaith a chariad.

Mae’r Salm yn gorffen trwy gymharu'r da a’r drwg. Fel y gwyddom mai da fel coeden fytholwyrdd, ond mae’r drwg - y sawl sydd yn gwrthod cynnig Duw o fywyd - yn gwywo. Y mae’r cyfiawn yn gwylio fodd y cyfiawn. Ond y mae ffordd y ddrygionus yn darfod (1:6).

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)

 

MYFYRDODAU MIS AWST

August 6, 2016 Owain Evans

Yn unol â’n harferiad yn Eglwys Minny Street byddwn, yn ystod Mis Awst, yn myfyrio’n wythnosol ar yr Ysgrythur. Eleni, mae’r Gweinidog wedi dewis fel testun i’n hastudiaeth Salmau 1, 23, 51 a 145. Ar linellau a gofodau hen nodiant Llyfr y Salmau mae nodau dedwydd o foddhad, hyder ac ymddiriedaeth. Hefyd ceir seiniau lleddf digalondid, unigrwydd, ofn ac amheuaeth. Mae’r Salmau yn mynegi calon ac enaid y profiad dynol - y llawenydd a’r diflastod.

Bob Bore Sul yn ystod Mis Awst, gan gychwyn yfory, cawn gyfle i ystyried y Salm mewn myfyrdod byr wedi ei baratoi gan ein Gweinidog.

CREDO'R APOSTOLION

August 6, 2016 Owain Evans

Yn dechrau dydd Sul (7/8/2016), cyfres o fyfyrdodau byrion yn seiliedig ar Gredo’r Apostolion. Ym mhob un, ceir awgrym o ddarlleniad, a myfyrdod bychan, bachog. Bydd y myfyrdod yn ymddangos yn ddyddiol ar ein cyfrif trydar @MinnyStreet

'NID YNYS MO DYN' - CAR DY GYMYDOG FEL TI DY HUN

August 3, 2016 Owain Evans

Caiff llawer o ddyddiadau a digwyddiadau eu nodi'r dyddiau yma. Y llynedd, roedd hi’n 150 o flynyddoedd ers hwylio’r Mimosa, a 70 mlynedd ers diwrnod VE a bomio erchyll Hiroshima a Nagasaki.

Eleni, mae hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan, ac mae Caerdydd yn dathlu canmlwyddiant geni'r awdur Roald Dahl. Yn ddiweddar bu cryn sylw i ganmlwyddiant brwydr gyntaf y Somme ac rydym hanner ffordd drwy’r cyfnod o nodi canrif ers cyfnod y rhyfel byd cyntaf - y rhyfel i atal pob rhyfel. Mae 80 mlynedd ers cychwyn rhyfel cartref Sbaen, rhyfel y’i cyfrir yn un rhwng y chwith a’r dde a ffasgiaeth. Daeth nodi’r holl ddyddiadau yma bron fel ffordd law-fer o greu newyddion.

Ysgwn i sut y bydd y dyfodol yn nodi canlyniad pleidlais Brexit wrth i’r Deyrnas Gyfunol fentro i diriogaeth y tu hwnt i gymrodoriaeth yr UE? Sefydlwyd yr UE i sefydlogi Ewrop wedi’r ail ryfel byd wrth gwrs, a magodd gydweithrediad a chyfeillgarwch rhwng gwledydd a fu, yn ddiweddar iawn, yn rhyfela. Cefnogodd adeiladwaith gan roi trywydd i’r cyfandir a’r miloedd o ffoaduriaid wedi’r gyflafan honno ac wedi’r rhyfel oer wedyn. Rhoddodd hefyd y gallu i bobl o’r Deyrnas Gyfunol i weithio a theithio a byw ledled Ewrop. Ond mae’n debyg mai mewnfudo oedd rheswm llawer dros ymwrthod â’r prosiect Ewropeaidd.

Mae pum mlynedd bellach ers cychwyn y rhyfel yn Syria. Lladdwyd o leiaf 250,000 yn ôl yr UN, ac mae 13.5 miliwn o drigolion y wlad angen cymorth dyngarol ar fyrder. Bron nad yw’n arfer bob haf i weld darluniau torcalonnus ffoaduriaid yn ceisio croesi Môr y Canoldir i geisio bywyd gwell: daw un o bob dau sy’n mentro’u bywydau fel hyn o Syria.

Yn ôl Amnest Rhyngwladol (Chwefror 2016), mae pum gwlad - Twrci, Libanus, Yr Iorddonen, Irac a’r Aifft - bellach yn gartref i dros 4.5 miliwn o bobl Syria sydd wedi ffoi. Mae 2.5 miliwn - bron i boblogaeth Cymru - o Syriaid mewn alltud yn Nhwrci, ac mae un o bob pump sy’n byw yn Libanus, gwlad lawer llai na Chymru, bellach yn ffoadur.

Yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Gartref, dim ond 1,000 o ffoaduriaid o Syria gafodd ymgartrefu yma yn 2015, gyda 20,000 arall i gael dilyn erbyn 2020. Dyna 121 yn llai na phoblogaeth y Waun Ddyfal yn ôl y cyfrifiad diwethaf!

Mae nifer fawr o ffoaduriaid Syria yn byw ar lai na 1US$ y diwrnod. Mae gwir angen cymorth a chefnogaeth arnynt, ond y llynedd, dim ond 61% o arian targed cronfa ddyngarol yr UN i Syria a godwyd.

Caiff llawer o ddyddiadau a digwyddiadau eu nodi. Ond a ydym ni’n gwrando a dysgu go iawn ar y newyddion, neu’n camu at y digwyddiad nesaf heb ystyried?

 Catrin H. Roberts

Manion:

* Na ddiala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond car dy gymydog fel ti dy hun: yr ARGLWYDD ydwyf fi (Lefiticus 19:18WM)

* Mae Pobl i Bobl http://www.poblibobl.org.uk/  grŵp o ogled Cymru sy’n gweithio i gefnogi ffoaduriaid yn casglu arian ar faes Eisteddfod Y Fenni'r wythnos hon.

* 'Nid ynys mo dyn' - No man is an island o MEDITATION XVII

Devotions upon Emergent Occasions, John Donne

'No Man is an Island'

No man is an island entire of itself; every man

is a piece of the continent, a part of the main;

if a clod be washed away by the sea, Europe

is the less, as well as if a promontory were, as

well as any manner of thy friends or of thine

own were; any man's death diminishes me,

because I am involved in mankind.

And therefore never send to know for whom

the bell tolls; it tolls for thee.

MEDITATION XVII

Devotions upon Emergent Occasions

John Donne (1572-1631)

 

OEDFAON MIS AWST

August 1, 2016 Owain Evans

NEWYDDION Y SUL

July 31, 2016 Owain Evans

Llun: BBC

Mae’r pafiliwn newydd yn ei le. Mae’r carafannau a’r pebyll yn heidio draw. Dros y wlad, mae corau’n cael un ymarfer olaf, y bandiau pres yn rhoi sglein ar eu hofferynnau, a’r clocs yn cael eu hail-wadnu. Yn rhywle, mae 'na brif lenor a dau brifardd llawn cyffro sy’n gorfod cadw’u cyfrinach am ychydig bach eto. Mae’r cyflwynwyr a’r arweinwyr yn clirio’u llwnc, ac mae’r Archdderwydd newydd yn rhoi sglein ar ei ddwyfronneg. Ydi, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi dechrau draw yn y Fenni.

Aelodau Llandaf a Phontcanna fu’n prysur baratoi'r Oedfa Foreol heddiw. ‘Eisteddfod ein Ffydd’ oedd thema’r Oedfa. Arweiniwyd ni i ystyried y tebygrwydd rhwng bywyd a thystiolaeth yr Eglwys â’r Eisteddfod.

Mae’n debyg fod ystyr wreiddiol y gair ‘Eisteddfod’ yn golygu man cyfarfod a chynnull, ac yn wir efallai mai dyna’r prif atyniad i nifer fawr o eisteddfodwyr. Mae’r Eisteddfod yn debyg i’r Eglwys yn hynny o beth! Cyson gynhaliol yw’r fendith a gawn wrth ddod yng nghyd i gyd-addoli a chyd-wasanaethu; cydlawenhau a chydalaru, heb anghofio ... cydweithio.

Dros yr wythnos nesaf, fe fydd y maes yn ferw o weithgarwch a lliw a sesiynau a chystadlaethau a hwyl. Wrth ymweld, mae hi’n anodd sylweddoli faint yn union o waith sy’n cael ei gyflawni gan nifer helaeth o unigolion i wneud i’r cyfan ddigwydd. Ond mi gewch fod pawb, yn gystadleuwyr, yn feirdd, stondinwyr, gweithwyr yr Eisteddfod, newyddiadurwyr a chyflwynwyr, a nifer o rai eraill, yn hynod ddiolchgar o gael bod yno, wrth eu boddau: pawb yn fwy na hapus i chwarae eu rhan, ac yn falch o’u dyletswydd.

Mae nifer o weithwyr caled yn ein plith ninnau hefyd, yn barod i roi’n helaeth o’u hamser a’u hymdrechion, a hynny’n gwbl ddirwgnach. Yn sicr, maent yn cymryd llawenydd a balchder wrth chwarae eu rhan - ond tybed a ydym weithiau’n rhy barod i adael i’r rhai parod hynny wneud popeth? Nid un person, neu ddau, neu ddeg, yw’r Eglwys, ond y cyfan ohonom wedi’n taflu efo’n gilydd, yn ddathliad o Grist.

Cân, dawns a chelf: mae’r tri’n gwbl ganolog i’r Eisteddfod, a’r un modd mae cerddoriaeth, dawns a chelfyddyd ymhlith y cyfryngau, sydd nawr fel erioed yn galluogi pobl ffydd i fynegi a dathlu ei ffydd yn Nuw.

Diogelwch: Tra ydym o fewn ffiniau maes yr Eisteddfod, gallwn deimlo rhyddid a rhwydd hynt i fod yn Gymraeg, trwy’r Gymraeg, heb deimlo cywilydd nac euogrwydd na bod ofn bygythiad, cyhuddiad neu ymosodiad. Oes modd mynd yn rhy fewnblyg fel Cymry Cymraeg? Yr un perygl sydd i’n crefydd a’n ffydd. Mae arnom angen diogelwch, sicrwydd a chwmni cymuned a theulu’r Eglwys. Mae arnom angen adeilad y capel, a’r cyfle i droi i mewn at ein gilydd a chael cysur a nerth. Ond mae angen hefyd inni fynd allan, peidio â chau ein hunain na’n ffydd i ffwrdd oddi wrth weddill gymdeithas a’n cymdogion.

Beth wedyn, ar ôl i’r côr olaf ganu ac ar ôl i’r garafán olaf adael y cae? Yn flynyddol yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae perygl digalonni, a hiraethu am wynfyd o wythnos yw’n hanes yn rhy aml.

Mae’n rhaid cofio’r hyn a gafwyd, a dwyn nerth ac ysbrydoliaeth oddi wrtho. Ar ôl ein hoedfaon a’n cymundeb ar y Sul hefyd, gallwn ddefnyddio’r fendith a gawsom i’n cryfhau at yr wythnos sydd i ddod.

Beth am y cystadlu!? Yn hyn o beth mae’r Eisteddfod a’r Eglwys, o bosib, ar eu mwyaf gwahanol. Yn Iesu, does dim colli i fod - dim ond ennill. Yn aml, fe glywir prifeirdd a phrif lenorion newydd yr Eisteddfod yn cael ei siarsio i fynd ‘o’u gwobr at eu gwaith’. O holl nodweddion, defodau, a bendithion yr Eisteddfod, onid dyna’r siars y dylem ei chofio yn anad yr un? Yn Eisteddfod ein ffydd, mae gennym ninnau eisoes ein gwobr. Awn ati i weithio.

Oedfa hwyliog, yn drwch o fendith a her. Diolch i Awen, Joye, Ann, Mari, Helen, Elisabeth, Jean, Eirlys, Hefin, a Robin. Mawr ddiolch i Menna a Llŷr am gael trefn ar y cyfan.

Aelodau Cyncoed a Phen-y-lan bu’n arwain yr Oedfa heno. Canllaw ein myfyrdod oedd emyn Eifion Wyn (Eliseus Williams, Porthmadog 1867–1926): Am wlad mor dawel ac mor dlws ein Tad moliannwn Di.

Byrdwn yr emyn hwn yw Ein Tad Moliannwn Di. Mae’r llinell hon i’w chael yn y pedwar pennill, a thrwy eu canu, cawsom gyfle heno i fynegi ein ffydd yn Nuw ein Tad sy’n deilwng o’n clod.

Am wlad mor dawel ac mor dlws,

Ein Tad, moliannwn di;

Mae trysor yn ei henw da

A’i hanes annwyl hi

‘Roedd gan yr emynydd lygad i weld prydferthwch byd natur, a chalon i werthfawrogi bendithion Duw yn ei greadigaeth. Tybed a oedd Cymru yn dlysach a thawelach gwlad yn nyddiau Eifion Wyn? Yn sicr, roedd afonydd a llynnoedd ein gwlad yn burach ganrif yn ôl gan nad oedd cymaint o ddiwydiannau a ffatrïoedd yn llychwino’r dyfroedd â gwastraff gwenwynllyd, ac yn llygru’r awyr â nwyon peryglus.

Fel Cristnogion, fe’n gelwir ni i warchod ein gwlad gyda’r ymwybyddiaeth mai eiddo Duw yw pob rhan ohoni, ac nad oes gan neb ohonom yr hawl i ddefnyddio cyfoeth y greadigaeth at ddibenion hunanol, ac ar draul ein cyd-ddynion.

Cyfeiria'r emynydd hefyd at ‘enw da’ Cymru, ‘a’i hanes annwyl hi’. Tybed a yw Eifion Wyn yn gwyngalchu gorffennol Cymru yn ormodol? Cyn ei gyfnod ef, ac wedi hynny, gormeswyd gwerin dlawd ein gwlad yn ddidrugaredd gan gyfoethogion a meistri tir, a defnyddiwyd bechgyn ifanc gan y llywodraeth i ymladd rhyfeloedd yr Ymerodraeth Brydeinig. Bu farw miloedd ar filoedd ohonynt yn y modd mwyaf dychrynllyd. Nid yw’r wedd hon i hanes Cymru yn destun cân a diolch, ond trwy drugaredd, nid dyna’r stori i gyd. Y mae ‘na wedd ddaionus i hanes Cymru, a heddiw fe gofiwn yn ddiolchgar am bawb a fu’n sefyll dros gyfiawnder cymdeithasol a rhyddid i fyw bywyd llawn a dedwydd. Fel Cristnogion, ‘rydym yn priodoli hyn i ddylanwad mawr yr Efengyl ar bobl ein gwlad. Dyma’r trysor sy’ wedi cadw enw da Cymru yn y gorffennol, a dyma’r trysor i’n cadw ninnau hefyd yn bobl yr Arglwydd i’r dyfodol.

Am dadau pur a mamau mwyn,

Ein Tad, moliannwn Di;

Ein braint yw byw i’w caru hwy

Sy’n byw i’n caru ni

Yn y pennill hwn, cawn gyfle i ddiolch am ein rhieni, ac i atgoffa’n gilydd o’n braint i garu ein hanwyliaid. Yn ddi-os, yn ein golwg fel Cristnogion, y teulu yw’r uned bwysicaf, a’r cartref yw’r man mwyaf cysegredig yn ein cymdeithas.

Am geraint ac athrawon hoff,

Ein Tad, moliannwn di;

Maent am ein dwyn i ffordd y nef,

A’r nef i’n bywyd ni

‘Am geraint...’ Nid yw’r gair hwn yn cael ei ddefnyddio gymaint heddiw ar dafod leferydd. Ei ystyr yw "perthnasau", a chan amla’ perthnasau yng nghyd-destun yr uned deuluol. Fel Cristnogion, fodd bynnag, rhown ystyr ehangach na’r arferol i’r gair,’perthynas’, a hynny trwy gynnwys pawb sy’n credu yn yr Arglwydd Iesu Grist.

Yn arwyddocaol iawn, yr enw a roddwyd yn gynnar iawn ar yr Eglwys oedd ‘Teulu’r Ffydd’. Perthynas ysbrydol yw’r ddolen gyswllt rhyngom â’n gilydd fel Cristnogion, a honno’n seiliedig ar ein perthynas â’r Arglwydd Iesu Grist. Yn wir, ef yw’r llinyn bywiol sydd yn ein clymu yn un.

Ni olyga hyn nad oes anawsterau a phroblemau yn codi o dro i dro oddi mewn i deulu’r Eglwys. Fel yr uned deuluol yn ein cartrefi, nid oes uned deuluol berffaith yn ein heglwysi lleol chwaith. Am hynny, dylem ymroi i oddef ein gilydd mewn ysbryd cariad, a chadw â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae’r ysbryd yn ei roi. Fe ddywedir yn Saesneg, ‘Lasting friendship needs constant repair’.Y mae hyn hefyd yn wir yn ein perthynas â’n gilydd fel Cristnogion. Nid perthynas i’w hesgeuluso ydyw, ond i’w thrwsio yn gyson â llinyn cariad Iesu Grist.

Yn y trydydd pennill, mae Eifion Wyn yn cyfeirio hefyd at athrawon hoff. Dywedwyd fwy nag unwaith mai ysgol yw bywyd, ac mai disgyblion fyddwn ar hyd ein hoes. Tra’n ddiolchgar am bob cymorth gan athrawon a’n dysgodd, gwyddom mai’r Athro mawr yn unig a all

... ein dwyn i ffordd y nef,

A’r nef i’n bywyd ni.

Yn yr Efengylau, dywed Iesu Grist wrthym, Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd (Ioan 14:6BCN) ac mai trwyddo ef y cawn nerth yn ộl y dydd i wynebu anawsterau’r daith, ac i fyw bywyd llawn.

Am un sydd fwy a gwell na phawb,

Ein Tad, moliannwn Di;

Mae ganddo le’n ei Deyrnas fawr,

A gwaith i blant fel ni.

Mae’r emynydd yn gorffen gan ein hatgoffa o’n cyfrifoldeb i weithio dros deyrnas Dduw. Wrth godi muriau dinas Jerwsalem, dywedodd y proffwyd Nehemeia: Gwaith mawr yr wyf yn ei wneuthur ... (Nehemeia 6:3). Yn y Testament Newydd, pwysleisiodd yr Apostol Paul wrth ei gyd-Gristnogion eu bod yn gydweithwyr Duw, ac anogodd hwy trwy ddweud: Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch â’ch holl galon, fel i’r Arglwydd, ac nid i ddynion (Colosiaid 3:23). Buddiol a da cael ein hatgoffa’n gyson o hyn, ac o’r herwydd cyfieithu ein teimladau diolchgar yn weithredoedd da, ac yn gyfrwng i ddangos Iesu ac i wasanaethu ein hoes.

Diolch i Mary, Rhun, Hywel a Dyrinos, ac i Margaret a Glyn am gydlynu trefniadau’r Oedfa hyfryd hon.

Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref y Tabernacl, yr Âis.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021