NEWYDDION Y SUL

Hir bu’r edrych ymlaen at Sul Arbennig Cyfundeb Dwyrain Morgannwg! Yn ‘blantos’ a phlant, yn bobl ifanc ac oedolion, llanwyd neuadd Ysgol Pen-y-Garth y bore heddiw. Y Beibl Byw oedd thema’r Oedfa o Fawl. Yn absenoldeb y Llywydd, y Parchedig Ddr Alun Tudur; Ysgrifennydd y Cyfundeb, y Parchedig Dyfrig Rees, gweinidog Eglwys Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr oedd yn llywyddu; Iona Edwards, Pennaeth Ysgol Pen-y-Garth oedd yn canu’r piano. Cyflwynwyd y defosiwn agoriadol gan aelodau Ysgol Sul Eglwys y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr: Dameg y Ddwy Sylfaen (Mathew 7:24-29).

Cafwyd cyflwyniad diddorol gan gynrychiolwyr Eglwys Ebeneser, Caerdydd am ystyr ac arwyddocâd y Gyfraith. Ein thema ninnau fel eglwys oedd Doethineb. Tad a mab fu wrthi: Owain Llyr a Connor. Cystal cydnabod mae braidd yn sych oedd cyflwyniad y tad (sylwch ar wyneb Connor yn y llun isod), ond llwyddodd Connor i achub cam ei dad gan gyflwyno'n gymen a chlir neges graidd llyfrau Doethineb y Beibl gan ddefnyddio dim ond llythrennau’r gair ‘Doethineb’. 

Ymateb y mab i gyflwyniad diflas ei dad

Eglwys Mynydd Seion, Casnewydd ysgwyddodd y dasg anferthol o gyflwyno holl ystod Llyfrau Hanes yr Hen Destament, a hynny gyda graen. Gan Eglwys Tabernacl, Porthcawl cawsom gyflwyniad manwl a llawn i holl ystod gweinidogaeth y proffwydi, ‘bach’ a ‘mawr’. Cyn mentro i'r Testament Newydd, ein braint oedd cyd-ganu hyfryd eiriau Euryn Ogwen. Dyma'r geiriau i'ch sylw, er budd a bendith:

Croesawyd cyflwyniad Eglwys Bethlehem, Gwaelod-y-garth gyda gwên a chwerthiniad. Thema Bethlehem oedd yr Efengylau; ffurfiwyd panel ‘Hawl i Holi’. Panel braidd yn lletchwith, ond llwyddodd y Parchedig Ddr R. Alun Evans i gadw trefn arnynt! Pwy oedd y gwestai? Mathew, Marc, Luc ac Ioan wrth gwrs! Gan Eglwysi Tabernacl, y Barri a Bethel, Penarth cawsom gyflwyniad gofalus a llawn i’r Epistolau. Eglwys y Tabernacl, Efailisaf fu’n gyfrifol am dynnu’r llinynnau ynghyd, gan gyflwyno sylwadau treiddgar a pherthnasol am yr angen i ddarllen a chyd-ddarllen y Beibl

Fel ym mhob Sul y Cyfundeb, gwneir casgliad arbennig ar ddiwedd yr oedfa. Eleni gwaith a gweinidogaeth Cymdeithas y Beibl oedd yn derbyn cefnogaeth. Yn dilyn yr oedfa cafwyd parhau mewn cymdeithas dros baned wedi ei pharatoi gan aelodau Eglwysi Barri a Phenarth. Trefnwyd yr oedfa gan Ysgrifennydd y Cyfundeb; teimlai pawb oedd yn bresennol mai da oedd bod yno. Cafwyd bendith ac ysbrydoliaeth o gyd-addoli a phrofi koinônia.

Cynulleidfa Oedfa o Fawl, Sul Arbennig Cyfundeb Dwyrain Morgannwg

Er i’r Oedfa orffen; cafwyd cyfle i barhau ein gwasanaeth yn y Tabernacl, yr Âis. Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref.

Yn yr Oedfa Hwyrol, daeth cyfres 'Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc' i ben. Cyfres dda bu hon; 8 pregeth: addysg, bendith a her.

Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf adeg cwymp Jerwsalem. Wedi cwymp Jerwsalem, dim ond y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol oedd ar ôl. Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod y bobl o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw - neges cariad Iesu Grist - oedd dinistr y Deml. Beth yw arwyddocâd hyn oll i ni fel eglwysi, ac i grefydd a chrefydda yng Nghymru?

Yna aethant ag ef allan i’w groeshoelio. Gorfodasant un ... Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes. (Marc 15: 20-21) Wrth i Iesu grymu dan ei groes daeth Simon o Cyrene i’w gynorthwyo; gwr o Cyrene yng Ngogledd yr Affrig, yn ymweld â Jerwsalem i ddathlu Gŵyl y Bara Croyw. I Iddewon Jerwsalem ‘roedd Simon yn amhur. Er yn ŵr halogedig ac amhur yn nhyb yr Iddewon, dyma’r gŵr fu’n gymorth i Iesu. Pwyslais Marc yw bod Iesu wedi derbyn cymorth gan yr ymylol, a bod yr estron - y canwriad (Marc 15:39) - wedi cydnabod ei fawredd. Rhaid i’n crefydd ledu ein gorwelion; rhaid i’n crefydda ymagor i gynnwys yr ymylol, ac i groesawu’r estron.

Ac am dri o’r gloch gwaedodd Iesu â llef uchel, "Eloï, Eloï, lema sabachthani" (Marc 15:34). Gellid awgrymu fod Iesu wedi colli ymdeimlad o agosrwydd Duw ei Dad. I Iddewon y cyfnod, hyddysg yn y Salmau, byddai neges Iesu yn gwbl amlwg iddynt: mae troad yng nghynffon y Salm: Molwch ef, chwi sy’n ofni’r Arglwydd ... ni ddirmygodd na diystyru gorthrwm y gorthrymedig ... Bydd yr anghenus yn bwyta, ac yn cael digon a’r rhai sy’n ceisio’r Arglwydd yn ei foli. Bydded i’w calonnau fyw byth! (Salm 22: 23-26). Nid gwaedd o anobaith sydd gan Iesu, ond cadarnhad o’i ffydd yn Nuw. Dyna neges ganolog y Salm; ond lle mae’r llawenydd?

... rhoes Iesu lef uchel, a bu farw. Rhwygwyd llen y Deml yn ddwy o’r pen i’r gwaelod (Marc 15:38, 39). Wrth i’r wahanlen a oedd yn cuddio'r Cysegr Sancteiddiolaf rwygo agorir ffordd ddirwystr i bresenoldeb Duw. Rhwygwyd y wahanlen rhyngom ni a’n hunain; rhwng eglwysi; rhwng pobl ffydd; rhwng cenedlaethau, hiliau, diwylliannau a chenhedloedd. Dyna’r llawenydd! Ymhlyg yn y llawenydd mae cyfrifoldeb. Ceir sawl grym ar waith yn brysur a dygn gyfannu’r rhwyg. Hawdd peidio ymwneud â hyn oll; peidio sôn am gyfrifoldeb a dyletswydd! Mae'r cyfnod hwn y'n ganwyd iddo yn galw arnom i sicrhau, gyda Duw, gyda’n gilydd, gyda’r estron na fydd y wahanlen byth eto’n gyfan.

Diolch am fendithion y Sul, cwmni’n gilydd yng nghwmni Duw.

'BATTLE AT MAMETZ WOOD' - CHRISTOPHER WILLIAMS (1873-1934)

Ar y 7fed o Orffennaf 1916 dechreuodd brwydr gyntaf Coedwig Mametz ar y Somme. Erbyn y 12fed, lladdwyd ac anafwyd tua 4,000 o’r 38fed Llu (Cymreig). Gelwir y lle’n ‘Dyffryn y Cymry’ gan y Ffrancwyr lleol o hyd. Heddiw, gwelir y Ddraig Goch yn cyhwfan dros y lle bu cymaint o dywallt gwaed a gwastraff bywyd. Ymhlith y milwyr a brofodd o’r erchylltra oedd nifer o feirdd rhyfel allweddol Cymru a Lloegr, yn cynnwys Robert Graves (1895-1985); David Jones (1895-1974), Siegfired Sassoon (1886-1967) a Llewellyn Wyn Griffith (1890-1977).

Fe beintiwyd darlun o’r lladdfa – portread o gyflafan – gan Christopher Williams (1873-1934), darlun a welir yn yr Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd. Dyma felly Battle at Mametz Wood (1918):

Mae’r gweld a’r clywed yn aml iawn mewn perffaith gynghanedd, felly wrth syllu i ddyfnder gwewyr portread Christopher Williams o wir erchylltra rhyfela, gwrandawn apêl Wil Ifan (1883-1968):

Yr unfed awr ar ddeg 

Na ato Duw i neb farddoni

Ing y pedair blynedd hir,

A rhoi mentyll eu rhamantau

Dros ysgwyddau’r ffiaidd wir;

Os am gofio, cofiwn gofio’r

Cyfan oll yn llaid a gwaed,

A phob hawddgarwch ac anwyldeb

Wedi’u mathru’n faw dan draed.

 

Yr unig beth all gofio’r marw

Yw dagrau hallt ar ruddiau’r byw,

A churo dwyfron edifeiriol

A gweiddi am drugaredd Duw:

Os ceir ymbil yn lle ymffrost

A phader yn lle llw a rheg,

Pwy a ŵyr

Na all Ef ein hachub eto

Ar yr unfed awr ar ddeg?

Y Winllan Las (1936)

(OLlE)

 

 

Y GWASANAETH IECHYD CENEDLAETHOL

Illness is neither an indulgence for which people have to pay, nor an offence

for which they should be penalized but a misfortune, the cost of which should be

shared by the community.

Aneurin Bevan (1897-1960)

Heddiw yn 1948, 'ganwyd' y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.

Gwyddom, Arglwydd, mai dy fwriad di yw i bob un ohonom fwynhau iechyd yn ei gyfanrwydd. Felly, yn llawn ffydd a hyder gweddïwn ar ran y rhai sy'n gweithio er iachâd a lles y gymuned.

Gweddïwn ar ran meddygon teulu sy'n dwyn cysur a chyngor i ni; am eu gwybodaeth a'u sgiliau a ddefnyddir yn anhunanol er ein lles.

Gweddïwn ar ran y rhai sy'n gweithio mewn ysbytai: meddygon o dan hyfforddiant, ymgynghorwyr, llawfeddygon, nyrsys a staff technegol.

Gweddïwn ar ran y rhai sy'n gweithio yn y cefndir: gwyddonwyr sy'n ymdrechu i goncro afiechydon, gweithwyr yn y labordai, a'r rhai sy'n cynhyrchu ac yn dosbarthu cyffuriau angenrheidiol.

Gweddïwn dros bobl ifanc sydd dan hyfforddiant i fod yn feddygon a nyrsys, gan ofyn i ti eu cynysgaeddu â doethineb, medr a chydymdeimlad a'u harwain i ddefnyddio'u doniau yn dy wasanaeth, ac er iechyd a lles eu cyd-ddynion.

Gweddïwn dros y rhannau hynny o'r byd lle mae gwasanaeth meddygol yn brin. Symbyla ni i fod yn ofalus o'r gwasanaeth sydd gennym, ac yn hael ein hymateb i angen y rheini sydd heb y cyfleusterau a gymerwn ni yn ganiataol. Amen.

Addasiad o weddi gan Donald Hilton (552; Gweithwyr Meddygol) allan o 'Amser i Dduw. Trysorfa o weddïau hen a newydd', gol. Elfed ap Nefydd Roberts;  Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf 2004.