TIBERIAS

Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias ...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’... a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)

Llun: Itay Bav-Lev

‘Tiberias’ ...

Ie, bychan y cwmni ond mawr y fendith â’r pedwar ohonom yn dechrau’r dydd mewn gweddi, myfyrdod a defosiwn.

Ers dechrau ym mis Medi 2015, buom o fis i fis yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10); gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15; 16/11). Ym mis Rhagfyr, echel ein myfyrdod oedd gweddi Heseceia (2 Brenhinoedd 19:8-19). Ym mis Ionawr (4/1) gweddi Jona (Jona 2), a gweddi Jeremeia (17:14-18) fu gwrthrych ein myfyrdod ym mis Chwefror (1/2). Proffwydi Baal a phroffwyd yr ARGLWYDD yn gweddïo oedd testun ein sylw ym mis Mawrth (14/3). Samson a Steffan yn gweddïo (Barnwyr 16:25-30 ac Actau 7:54-60) oedd testun ein sylw ym mis Ebrill (11/4). Ym mis Mai (9/5) ystyriwyd Gweddi’r Gwas Ffyddlon (Genesis 24:12-27). Heddiw, testun ein sylw ym mis Mehefin oedd Y Credinwyr yn Gweddïo am Hyder (Actau 4:23-31). Penllanw’r gyfres oedd llef plant Duw: ‘Abba! Dad!’ (Rhufeiniaid 8:15 BCN).

Nid dod â’r wybodaeth gyntaf am Dduw a wnaeth Iesu. Drwy’r proffwydi a’r Gyfraith ‘roedd gan bobl Dduw wybodaeth ddilys am Dduw, ond gwybodaeth anghyflawn ydoedd. Daeth Iesu i ddatguddio’n llawn y Duw a adnabuwyd mewn rhan. Peidiwch â thybio i mi ddod i ddileu’r Gyfraith na’r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni (Mathew 5:17 BCN).

Tadolaeth Duw yw ffocws llachar y datguddiad a ddug Iesu i’r byd a’n bywyd, ac yn y goleuni hwn gweddnewidiwyd gwybodaeth a phrofiad pobl Dduw. ‘Roedd y proffwydi a’r Gyfraith wedi meithrin yr argyhoeddiad mai Un Duw sydd a’i Enw’n Sanctaidd ac Ef yw’r Creawdwr. Hefyd Duw byw, personol ydyw, ac nid grym mecanyddol, pell, oer. Gwelodd y proffwydi fod un elfen arall yng nghymeriad Duw, sef ei fod yn dyheu am ei bobl megis Tad am ie blant. Ond, un elfen ochr yn ochr ag elfennau eraill oedd tadolaeth Duw iddynt.

I Iesu, Tadolaeth Duw oedd y gwirionedd canolog a llywodraethol. Mae Duw’n Frenin - ond llywodraetha fel Tad. Mae Duw’n Farnwr - ond barna fel Tad. Mae Duw’n Greawdwr - ond creu teulu yw ei fwriad.

Tad - teulu - aelwyd - dyna echel y bywyd Cristnogol. Nid dangos y Tad, a hynny’n unig a wna Iesu, and agor ffordd inni ddod at ein Duw Dad - i chithau fod lle’r wyf fi (Ioan 14:3 BCN) - plant i Dduw.

Buddiol a da bu ‘Tiberias’. Diolch am y gyfres.

BABIMINI

Cwmni da a dedwydd ddaeth ynghyd heddiw i 'Babimini' olaf y tymor. Cafodd y rhieni hwyl a chwmni, sgwrs a phaned; a’r plantos hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar 'Babimini'. ‘Rydym wir yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon. Bydd 'Babimini' yn ail-ddechrau ym mis Medi.

Dyma flas o hwyl a bwrlwm y parti diwedd tymor:

CYFARFODYDD BLYNYDDOL UNDEB ANNIBYNWYR CYMRAEG 2016

Penderfyniad; Cynhadledd 2: Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd

Bu ymgyrchu adeg y refferendwm a gynhaliwyd ar Fehefin 23 eleni yn gyfrifol am ddinoethi’r elfennau gwaethaf ynom fel pobl yn y wladwriaeth Brydeinig. Llwyddwyd i esgor ar raniadau dwfn yn ein cymunedau, ein cenedl a'n gwladwriaeth. Ystyriwn hyn yn drychineb o'r radd flaenaf all arwain at sefyllfa dra pheryglus.

Galwn ar ein heglwysi a'n haelodau i herio'r diwylliant hwn o atgasedd ac ofn trwy rymuso'n tystiolaeth dros yr Efengyl sy'n pwysleisio gweithredu cymod a dilyn ffordd tangnefedd a ffordd cyfiawnder. Pwysleisiwn gyda Paul mai'r hyn yw Teyrnas Dduw yw cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glan. (Rhufeiniaid 14:17).

Y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor yn cynnig.

Y Parchedig Ron Williams yn eilio.

Unfrydol.