• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

CAPERNAUM

June 20, 2016 Owain Evans

'Capernaum'?

Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum (Ioan 6: 16,17).

'Capernaum'?

Hanner awr, ar derfyn dydd; defosiwn, gweddi, llonyddwch a myfyrdod. Echel y cyfan heno oedd: ... yr oedd Pedr dan warchodaeth yn y carchar. Ond yr oedd yr eglwys yn gweddïo’n daer ar Dduw ar ei ran (Actau 12:5 BCN).

Dengys profiad Pedr yn y carchar mor rymus yw gweddi pobl Dduw - cafodd ei ryddhau’n wyrthiol wedi deisyfiadau taer yr Eglwys drosto. ‘Roedd ef ei hun yn methu, ond cadwodd ei ffydd ddi-sigl yn Nuw, a’i ymddiriedaeth ddiysgog ym mhobl Dduw, ac o’r herwydd daeth angel i’w gynorthwyo ac agorwyd y drysau. Ar y dechrau credodd mai breuddwyd oedd y cwbl, nes iddo gerdded yng nghwmni’r angel ar hyd y stryd, a hwnnw wedyn yn ei adael yn sydyn wrtho’i hun. Yna sylweddolodd Pedr fod y peth yn real; ei ryddhad yn real - i Dduw ei waredu o law Herod mewn atebiad i’w weddi bersonol a gweddïau’r Eglwys ar ei ran. Dengys profiad Pedr yn y carchar fod ateb i weddi.

Ateb i weddi ... Onid oes amodau i’r ateb a gawn i’n gweddi a gweddïau? Rhaid i’r gweddïwr fod yn unplyg a gonest yn ei weddi, ac yn ei ymdrechion i fod â rhan yn yr ateb a geisiai. Thomas More (1478-1535) fynegodd orau y gwirionedd hwn am weddi, a hynny trwy gyfrwng gweddi: These things, good Lord, that we pray for, give us Thy grace to labour for. Gofynnir cydweithio â Duw.

Ac weithiau, cystal cydnabod, ni roddir ateb bob amser nôl ein dymuniad. Er i Paul ddioddef i swmbwl yn y cnawd, ni chafodd wared ohono, ond daeth nerth digonol iddo trwy gymorth Duw: Digon i ti fy ngras i ... (2 Corinthiaid 12:9a). Defnyddia Duw gyfryngau a gweision lawer (ac ar adegau annisgwyl) i ateb ein gweddïau. Fel Pedr a’r Eglwys dylem weddïo ddyfal trosom ein hunain, a gweddïo’n ddygn tros ein gilydd. Ys dywed Tennyson (Alfred, Lord Tennyson (1809-1892): More things are wrought by prayer than this world dreams of.

Diolch am Gapernaum. Diolch am gylch o gwmni a gweddi. Da a buddiol ein cyfarfod.

NEWYDDION Y SUL

June 19, 2016 Owain Evans

Cerdyn Sul y Tadau Mari Fflur

Man cychwyn pob Oedfa yw’r weddi a offrymir yn ‘Stafell y Diaconiaid. Dylid dechrau Newyddion y Sul gyda chofnod o’r weddi a offrymwyd y bore heddiw:

Dduw cariadus, deuwn atat ar Ddiwrnod y Tadau yn cael ein hatgoffa mai ti yw ein Tad ni oll. Rwyt wedi bod gyda ni ers ein geni, yn arwain, annog a’n cynnal. Pryd bynnag roeddem dy angen, roeddet yno yn barod i wrando a chynghori ac eto yn caniatáu i ni ryddid i wneud ein dewisiadau a dod o hyd i’n ffordd ein hunain. Addysga ni i fyw fel dy blant ac i glywed dy lais, i ufuddhau i’th orchymyn ac i ymateb i’th ddaioni Dduw Dad. Derbyn ein diolch am y tadau a roddaist i ni a’r hyn maent wedi’i olygu i ni, am bopeth a roddasant a phopeth a wnaethant mewn amrywiol ffyrdd.

Diolch i ti ein Tad am gymdeithas dy Eglwys yn y lle hwn ac am y fraint unwaith eto o gael dy addoli yn enw dy fab, ein Harglwydd Iesu Grist. Gweddïwn dros bawb yn ein plith a thros y rhai hynny nad sy’n abl i ddod i dy gysegr i’th addoli. Bydd gyda phob yr un ohonom yn dy dosturi. Bydd gyda theulu’r fam a gollodd ei bywyd yn ystod yr wythnos wrth wneud ei gwaith yn ceisio byd gwell i bawb - cofia am ei phriod a’r plant bach hynny na fydd eto’n cael profi cariad mam. Bydd gyda’r tad arbennig hwn yn ei hiraeth a rho iddo nerth i fod yn dad ac yn fam i’r plant bach. Gwna’r byd yn well lle i bawb fyw ynddo a gad i ni drwy ein ffydd ddeisyf ar bawb i fyw’n heddychlon mewn cariad at ei gilydd fel na fydd yr holl erchyllterau yn ein hwynebu bob dydd ar y teledu ac yn ein papurau newydd. Dyro dy fendith ar yr oedfa’r bore hwn yn enw dy fab Iesu Grist. Amen

Ein braint heddiw oedd tystio i fedydd Gruff Llewelyn Walters, a braf oedd cael croesawu teulu a ffrindiau i’r Oedfa Foreol.

Mari Fflur bu’n arwain y defosiwn, a llawn haeddai’r myfyrdod hwnnw ei gofnodi’n llawn.

Mae Dadi yn gweithio yn Ffrainc ers bron i bythefnos! Maen nhw’n dweud wrtha i bod gemau pêl-droed pwysig yn digwydd yno ar hyn o bryd! Fydd Dadi ddim yma ar Sul y Tadau heddiw, ond yn y garden wnes iddo yn yr ysgol ‘rwyf wedi ysgrifennu pump peth hyfryd am Dadi:

  1. Mae’n gofalu amdanaf fi
  2. Mae chwarae gyda fi
  3. Mae’n gwneud i mi chwerthin
  4. Mae’n caru fi
  5. Mae’n coginio bwyd blasus i fi.

Mae’r Sul yma yn gyfle i gofio am gariad pawb sy’n gofalu amdanom ni, nid tadau yn unig, ond mamau, neiniau a theidiau, antis ac wncwls a ffrindiau, a hefyd i gofio bod yn rhaid i ni lapio cariad o gwmpas ein byd a’n cyd-ddyn.

Wedi darllen Emyn Paul i Gariad (1 Corinthiaid 13; beibl.net), aeth Mari Fflur yn ei blaen …

Cyn dod i’r capel y bore ‘ma, gwelais lun o dîm pêl-droed Cymru a’r geiriau ‘Together - Stonger' neu ‘Cryfach gyda’n Gilydd' oddi tano. Yn 'Gryfach gyda’n Gilydd': gallwn ddefnyddio cariad i gael gwared ar gasineb, i ddileu anghyfiawnder a dryllio drygioni. Fel y dywedodd chwaer Jo Cox ddoe, dylem ganolbwyntio ar yr hyn sy’n ein clymu ynghyd yn hytrach na’r hyn sy’n ein rhannu. Sicrhawn mai Cariad sydd ar frig y Tabl; Cariad sy’n sgorio’r pwyntiau a Chariad yn ennill y dydd!

Yn arwain at Weddi Fawr Sant Ffransis, offrymwyd y weddi fach rymus hon gan Mari Fflur:

Wrth i ni blygu pen heddiw, O! Nefol Dad, gad i ni gofio am deuluoedd a thadau ar draws y byd sydd mewn tristwch, anobaith, dryswch a gwrthdaro. Ar Sul y Tadau, gad i ni gofio yn arbennig am Jo Cox, ei rhieni, a’i theulu annwyl: dau blentyn bach, 5 a 3 oed, a’u tad. Amen.

 hwythau wedi cyrraedd i’r Set Fawr, a phob un wedi rhannu adnod, cafodd y plant anrheg gan y Gweinidog: darn bach o bren lliwgar! Heddiw, awgrymodd Owain Llyr, nhw oedd y darn bychan hwn o bren. Gosododd bag brethyn syml yn ei le; dyma, mynnai oedd Eglwys Iesu Grist. ‘Roedd y plant wedi dechrau deall … a’r oedolion yn y gynulleidfa hefyd, wrth i rai ohonynt sylweddoli fod darn bychan o bren lliwgar ym mhob sedd! Gosododd y Gweinidog darnau pren y plant yn dwt yn y bag brethyn. ‘Roeddent yn Eglwys Iesu Grist, yn perthyn iddi bob un. Wedyn, er mawr fwynhad i’r plant gofynnodd y Gweinidog i’r oedolion ddod ato i’r Set Fawr, pob un â’i ddarn bychan bach o bren lliwgar. Gosodwyd y darnau pren rheini hefyd yn ofalus yn y bag brethyn. Un peth oedd yn weddill i wneud, cael darn bychan bach o bren gan y bychan Gruff. Wedi gosod ‘Gruff’ yn y bag, ‘roedd pawb bellach yn ‘Eglwys Iesu Grist’. Wedi sôn ychydig am bwysigrwydd perthyn i gymuned ffydd a mynychu Oedfa, cymerodd Owain y darnau pren allan i gyd,  a chan afael yn dynn ynddynt, aeth yn ei flaen gan nodi fod Cariad Iesu Grist yn clymu ei bobl yn un: ynddo a thrwyddo yr ydym yn 'Gryfach gyda’n Gilydd'. Er mawr syndod i'r oedolion, ond nid i’r plant - maen nhw wedi hen arfer a thriciau Owain Llyr! - gwelwyd fod y darnau bach pren i gyd bellach yng nghlwm wrth ei gilydd! Sut gwnaethpwyd hynny? Bydd rhaid i chi ddyfalu!

Yn ei bregeth bu’r Gweinidog yn ceisio ymateb i’r lladd yn Orlando, llofruddiaeth Jo Cox a’r Refferendwm Ewropeaidd. (Mae cofnod llawnach o ddwy bregeth y dydd eisoes ar y wefan) ‘Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un ... (Ioan 17:21-22). Gweddi Crist: ... ar iddynt oll fod yn un ... Ei weddi ar ran ei Eglwys, ond hefyd am gymdeithas unedig oddi mewn ac ar draws ffiniau cenedl, undeb rhwng cenhedloedd a’i gilydd, a’r cyfan wedi’u cynnwys yn y dyhead a’r bwriad: ’Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O! Dad, ynof fi a minnau ynot ti … iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un.’ Bwriad achubol yw bwriad Duw. Mae angen ein hachub arnom; oni welwyd tystiolaeth o hynny yn Orlando, ac yn lladd Jo Cox? Bwriad achubol Duw yng Nghrist yw’r unig rym sy’n ddigon nerthol i droi’r weledigaeth ... ar iddynt oll fod yn un … yn ffaith. Dim ond grym cariad achubol all oresgyn yr holl bethau sy’n gwahanu pobl oddi wrth Dduw ac oddi wrth ei gilydd. Boed i weddi Iesu fod yn weddi i ninnau - yn ein perthynas gyda’n gilydd yn Eglwys Minny Street; yn ein perthynas gyda’n gilydd fel Eglwysi a chymunedau ffydd; ac yn ein perthynas gyda’n gilydd fel teulu o genhedloedd: ... ar iddynt oll fod yn un ...

Yn yr Oedfa Hwyrol, cafwyd cyfle i barhau gyda’r gyfres bregetha Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc. Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf adeg cwymp Jerwsalem. Dim ond y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol oedd ar ôl wedi'r cwymp. Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw oedd dinistr y Deml; rhaid oedd cael y bobl i dderbyn neges cariad Iesu Grist.

Gan ein harwain heno i gofnod Marc o Sefydlu Swper yr Arglwydd, bu ein Gweinidog yn trafod ‘Bara’, ‘Cyfamod’ a ‘Gwaed’.

Bara: Matzah yw Iesu. Bara croyw ydyw - blawd, dŵr a halen. Bara anghenraid - bara goroesi. Bu bara croyw yn gynhaliaeth i bobl Dduw wrth adael yr Aifft a mentro i’r anialwch. Dinistriwyd Jerwsalem, collwyd y Deml, ysigwyd ffydd - anialwch ... matzah.

Cyfamod: O’r pedwar adroddiad o Sefydlu Swper yr Arglwydd bernir mai Marc a 1 Corinthiaid yw’r mwyaf gwreiddiol; tybir mai 1 Corinthiaid yw’r cynharaf. Dywed Paul: Y cwpan hwn yw’r cyfamod newydd, yn fy ngwaed i. (1 Corinthiaid 11: 25); ysgrifenna Marc: Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, sy’n cael ei dywallt er mwyn llawer (Marc 14:23). Sonia Paul am gyfamod newydd, sôn am y cyfamod a wna Marc. Wrth i Paul ysgrifennu at genedl-ddynion pwysig oedd iddo bwysleisio newydd-deb y cyfamod; hynny yn cynnwys pawb o bobl y byd. I’r Iddewon, nid diddymu hen gyfamod a wna Iesu, ond cadarnhau parhad ac adfywiad hen gyfamod.

Gwaed: ... cymerodd lyfr y cyfamod ... Yna cymerodd Moses y gwaed a’i daenellu dros y bobl ... "Dyma waed y cyfamod ..." (talfyriad o Exodus 24:1-11). Yn Efengyl Marc: ... cymerodd gwpan ... ac yfodd pawb ohono - a dim ond wedyn, ar ôl i bawb yfed, meddai Iesu, "Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod". Yn Lefiticus cawn yr adnod: ... y mae bywyd y corff yn y gwaed (Lefiticus 17:11). Tebyg mai atgas i’r disgyblion y syniad o gwpan o win yn symbol o waed person - cwpan atgas ydoedd! Daw hynny’n amlwg wrth ddarllen yr adnod flaenorol ... os bydd unrhyw un o dŷ Israel, neu o’r estroniaid sy’n byw yn eu mysg yn bwyta unrhyw waed, byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy’n bwyta gwaed, ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl (Lefiticus 17:10).

Mae neges Marc i Iddewon Jerwsalem yn berthnasol i ni. Wynebwn ar yr anialwch hwn: bydd bara croyw cydnabod a pharchu Iesu’n ddigon i’n cynnal. Cymerwn gwpan yr atgas; fe all mai’r cwpan newydd hwn yw cwpan iachawdwriaeth.

Bu i’r gymdeithas barhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.

Diolch am amrywiol fendithion y Sul.

BANC BWYD CAERDYDD: HANNER BLWYDDYN O HAELIONI!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu bwyd yn gyson i fanc bwyd y brifddinas ers dechrau'r flwyddyn. Derbyniwyd dros 600 kg o fwyd rhwng Ionawr a Mehefin! Mae cyfrannu tunnell o fwyd eleni'n gwbl bosibl! Nid o ddewis y bydd pobl yn troi at fanciau bwyd. Mae'r galw'n parhau. Daliwn ati i ddal ati i gyfrannu. Diolch yn fawr!

PREGETH NOS SUL

June 19, 2016 Owain Evans

Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc (7): Iesu - Bara Croyw a Gwaed

Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf adeg cwymp Jerwsalem. Dim ond y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol oedd ar ôl wedi'r cwymp. Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw oedd dinistr y Deml; rhaid oedd cael y bobl i dderbyn neges cariad Iesu Grist.

Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd fara ... "Cymerwch; hwn yw fy nghorff." A chymerodd gwpan ... "Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod ... pan yfaf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw."" (Marc 14:22-25) Wrth gofnodi Sefydlu Swper yr Arglwydd ceisia Marc argyhoeddi pobl Jerwsalem mai dilyn Iesu sydd raid. Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw, pan ledid oen y Pasg ... (Marc 14: 12) Byddai Gŵyl y Bara Croyw a Gwledd y Pasg yn gyfarwydd i gynulleidfa Marc: ... lladdwch oen y Pasg. Yna cymerwch dusw o isop a’i drochi yn y gwaed, a thaenwch y gwaed ar gapan a dau bost y drws ... Cadwch y ddefod hon yn ddeddf i chi a’ch plant am byth (Exodus 12:21b-24). Oen, bara croyw a llysiau chwerw; dyma atgoffa’r Israeliaid o fwyd eu hynafiaid cyn cychwyn o’r Aifft: Y maent i fwyta’r cig ... a’i fwyta gyda bara croyw a llysiau chwerw. ... yr ydych i’w fwyta ar frys (Exodus 12:8,11). Gwin - gwaed: ... cymerodd lyfr y cyfamod ... cymerodd Moses y gwaed a’i daenellu dros y bobl, a dweud, "Dyma waed y cyfamod" (talfyriad o Exodus 24:1-11).

Bara croyw: matzah - bara croyw: blawd, dŵr a halen. Matzah yw Iesu. Bara syml. Bara brys, bara ffoi, bara anghenraid - bara goroesi. Bu bara croyw yn gynhaliaeth i bobl Dduw wrth adael yr Aifft a mentro i’r anialwch. Dinistriwyd Jerwsalem, collwyd y Deml, ysigwyd ffydd - anialwch ... matzah. O’r pedwar adroddiad o Sefydlu Swper yr Arglwydd bernir mai Marc a 1 Corinthiaid yw’r mwyaf gwreiddiol; tybir mai 1 Corinthiaid yw’r cynharaf. Dywed Paul: Y cwpan hwn yw’r cyfamod newydd, yn fy ngwaed i. (1 Corinthiaid 11: 25); ysgrifenna Marc: Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, sy’n cael ei dywallt er mwyn llawer (Marc 14:23). Sonia Paul am gyfamod newydd, sôn am y cyfamod a wna Marc. Wrth i Paul ysgrifennu at genedl-ddynion pwysig oedd iddo bwysleisio newydd-deb y cyfamod; hynny yn cynnwys pawb o bobl y byd. I’r Iddewon, nid diddymu hen gyfamod a wna Iesu, ond cadarnhau parhad ac adfywiad hen gyfamod. Gwaed: ... cymerodd lyfr y cyfamod ... Yna cymerodd Moses y gwaed a’i daenellu dros y bobl ... "Dyma waed y cyfamod ..." (talfyriad o Exodus 24:1-11). Yn Efengyl Marc: cymerodd gwpan ... ac yfodd pawb ohono - a dim ond wedyn, ar ôl i bawb yfed, meddai Iesu, ‘Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod. Yn Lefiticus cawn yr adnod: ... y mae bywyd y corff yn y gwaed (Lefiticus 17:11). Tebyg mai atgas i’r disgyblion y syniad o gwpan o win yn symbol o waed person.

Mae neges Marc i Iddewon Jerwsalem yn berthnasol i ni. Ceir dau air am fara yn yr Hebraeg: matzah a chametz. Gair eang ei ystyr yw chametz; gall olygu torth gyffredin o fara ond hefyd danteithion, moethau bywyd. Nid oes dim felly yn perthyn i matzah. Onid matzah sydd ei angen arnom? Mae crefydd a chrefydda yng Nghymru yn wynebu ar anialwch ysbrydol. Angen bara syml, bara anghenraid a bara goroesi sydd arnom. Matzah ein crefydd yw cydnabod a pharchu Iesu Grist. Chametz yw pob deall; y Matzah yw credu. Er mwyn byw a gweithredu fel Cristion yng Nghymru heddiw rhaid, nid wrth ddeall, ond trwy gredu fod Duw wrth ei waith o hyd, a bod i ninnau le a chyfle yn y gwaith mawr hwnnw. I oroesi rhaid i bobl Crist yng Nghymru wynebu’r atgas. Bydd rhaid derbyn pethau na fu’n dderbyniol, a mynd i gyfeiriadau na fuom erioed iddynt o’r blaen. Derbyn yr atgas sydd raid. Hynny er mwyn cyflwyno i genhedlaeth newydd y Duw a’n carodd, cofiodd, ceisiodd, cafodd, cadwodd a’n cododd.

Wynebwn ar yr anialwch hwn: bydd bara croyw’n ddigon i’n cynnal.

Cymerwn gwpan yr atgas; fe all mai’r cwpan newydd hwn yw cwpan iachawdwriaeth.

PREGETH BORE SUL

June 19, 2016 Owain Evans

’Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un ... (Ioan 17:21)

Ymgais i ymateb i Orlando, Jo Cox a’r Refferendwm Ewropeaidd

Eglwys Minny Street: cynulleidfa cymharol niferus a chymysg o Bobl Dduw. Rhai yn debycach i’w gilydd nag eraill; neb yn hollol yr un fath. Er yr amrywiaeth, wrth ddod ynghyd, mae pawb yn un ac yn blant yr un Duw Dad. Yr un enw sydd ar bob gwefus; un Ysbryd Glân yn creu un gymdeithas o gredinwyr ac yn ysbrydoli’r addoliad a offrymir. Yn rhinwedd ein Ffydd, ‘rydym oll yn un. Amrywiaeth mewn unoliaeth. Onid dyma’r ddelfryd ar gyfer ein cenedl? Nid dileu’r gwahaniaethau sy’n rhoi i bob bro ac ardal, i bob crefft a chelfyddyd, ac i bob dawn a diddordeb ymhlith ei phobl ei arbenigrwydd gwerthfawr ei hun, ond creu un ysbryd gwladgarol iach sy’n esgor ar oddefgarwch a pharch pawb at ei gilydd, a chydweithrediad brwd pob un er lles pawb. Onid yr un y ddelfryd ar gyfer yr Eglwys hefyd? Nid dileu’r amrywiol safbwyntiau a phwysleisiau, ond chwalu’r muriau o ragfarn, drwgdybiaeth a chystadleuaeth sy’n parhau i’n cadw ar wahân. Cael pawb sy’n cyffesu enw Crist i ymuno’n un gymdeithas o gariad a chydweithrediad ar sail ein teyrngarwch i’r Un Arglwydd. Yr undod y gweddïodd Iesu amdano: ‘Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O! Dad, ynof fi a minnau ynot ti … iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un. (Ioan 17:21-22). Gwreiddiwyd yr egwyddor o amrywiaeth mewn unoliaeth yn nirgelwch bywyd y Duwdod ei Hun. Undod cymeriad, pwrpas a chariad yw’r undod y geilw Efengyl Crist arnom i’w feithrin a’i amlygu fwyfwy ... ym mherthynas Cristion gyda cyd-Gristion, Cymro gyda chyd-Gymro, a dyn gyda’i gyd-ddyn.

Yn y cyswllt eglwysig, gwelir dwylo’n ymestyn at ei gilydd ar draws ffiniau enwadol. Boed i hyn barhau. Daliwn ati i estyn llaw at ein gilydd, gan ganolbwyntio’n sylw nid ar y pethau sydd yn ein gwahanu, ond ar yr Arglwydd byw, bendigedig sydd yn ein huno. A gawn ni, Gymry, o bob bro a chefndir, o bob plaid, iaith a diwylliant estyn llaw i’n gilydd fel Cymry sy’n caru lles ein cenedl ac yn dymuno’i ffyniant ym mhopeth sy’n cyfrannu at fywyd cenedlaethol llawn a dyrchafol? Boed i ni gydgerdded, cydsefyll, cyd-dynnu, cyd-ddyheu a chydymdrechu i ddiogelu’r gwerthoedd gwâr a wnaeth ein cenedl yr hyn ydyw a’i gwneud yn ardderchocach fyth. Un teulu ydym; Teulu Duw. Parhawn i estyn ein dwylo at bobl o bob cenedl, llwyth ac iaith. Boed i ni gyfarch ein cyd-ddyn, beth bynnag yw lliw ei groen, ei iaith, ei gredo, neu ei amgylchfyd gwleidyddol a diwylliannol. Estynnwn ein llaw i ddarganfod a meithrin ein dynoliaeth gyffredin mewn cydymdrech yn erbyn pob gormes sy’n mathru hawliau ac urddas cynhenid dyn.

... ar iddynt oll fod yn un ... Gweddi Crist. Ei weddi ar ran ei Eglwys, ond hefyd am gymdeithas unedig oddi mewn ac ar draws ffiniau cenedl, undeb rhwng cenhedloedd a’i gilydd, a’r cyfan wedi’u cynnwys yn y dyhead a’r bwriad: ’Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O! Dad, ynof fi a minnau ynot ti … iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un. Bwriad achubol yw bwriad Duw. Mae angen ein hachub arnom; oni welwyd tystiolaeth o hynny yn Orlando? Bwriad achubol Duw yng Nghrist yw’r unig rym sy’n ddigon nerthol i droi’r weledigaeth ... ar iddynt oll fod yn un … yn ffaith. Dim ond grym cariad achubol all oresgyn yr holl bethau sy’n gwahanu pobl oddi wrth Dduw ac oddi wrth ei gilydd. Boed i weddi Iesu fod yn weddi i ninnau - yn ein perthynas gyda’n gilydd yn Eglwys Minny Street; yn ein perthynas gyda’n gilydd fel Eglwysi a chymunedau ffydd; ac yn ein perthynas gyda’n gilydd fel teulu o genhedloedd: ... ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O! Dad, ynof fi a minnau ynot ti … iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un.

Efengyl tangnefedd, O! rhed dros y byd: a deled y bobloedd i’th lewyrch i gyd ..."

(Eifion Wyn, 1867-1926; C.Ff: 844)

‘Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un ... (Ioan 17:21) Boed i weddi Iesu fod yn weddi i ni: Pobl Crist, Cymru a Chenhedloedd byd.

TE 'RITZ'

June 18, 2016 Owain Evans

Cynhaliwyd heddiw, yng Nghanolfan Gymunedol yr Eglwys Newydd, Te Pnawn a oedd llawn cystal ag Afternoon Tea at The Ritz. Pnawn braf o Haf; cwmni bychan ond diwyd wedi bod yn drwyadl eu paratoadau: Bara Brith, pice bach, sgons hufen tolch a jam, teisennau bychan siocled, amrywiol frechdanau blasus a ffrwythau; y cyfan oll wedi ei weini’n gymen i lond ystafell o bobl - ifanc, hŷn, a’r hynaf heddiw yn 90 ymhen ychydig ddyddiau! Gan fod sawl pen-blwydd wedi, ac ar fin digwydd 'roedd yn rhaid canu ‘Pen-blwydd Hapus’ i 7 o’r cwmni! Cafwyd pnawn o gwmnïa braf, ac wrth fod y byrddau dechrau gwacau a hwyl y pnawn yn tawelu mymryn, dyma lond bwrdd o blant a phobl ifanc yr eglwys yn cyrraedd … a’r hwyl eto’n fwrlwm!

Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu, paratoi a gweini.

Codwyd dros £550 i elusen yr Eglwys eleni: Beic i Bawb - Pedal Power.

 

BABIMINI

June 17, 2016 Owain Evans

Cwmni da a dedwydd ddaeth ynghyd heddiw i Babimini. Cafodd y rhieni hwyl a chwmni, sgwrs a phaned; a’r plantos hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Babimini. ‘Rydym wir yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon. Y cyfarfod nesaf (1/7) fydd yr olaf y tymor hwn, â'r hwyl a bwrlwm yn ail-ddechrau ym mis Medi.

FFYDD YN GWEITHIO TRWY GARIAD

June 16, 2016 Owain Evans

... ffydd yn gweithio trwy gariad (Galatiaid 5:6 WM)

Os ffydd yw’r olwyn ddŵr, cariad yw llif y dŵr.

… ffydd yn gweithio trwy gariad (Galatiaid 5:6 WM).

Cysylltir tri gair holl bwysig - Ffydd, Cariad a Gwaith. ... ffydd yn gweithio trwy gariad. Gwaith, Cariad a Ffydd: tri pheth a fu’n allweddol bwysig ym mywyd pobl Dduw erioed.

Meddyliwch, er enghraifft am Isaac yn yr adnod hon: Felly adeiladodd yno allor, a galw ar enw’r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno … (Genesis 26:25 BCN).

Rhoi datganiad o’i ffydd oedd Isaac wrth godi allor, a galw ar enw’r ARGLWYDD. Wrth osod pabell mae Isaac yn pwysleisio gwerth y ‘garreg aelwyd’ a chwlwm cariad; a gwaith oedd cloddio pydew neu ffynnon - ‘roedd dŵr yn amod elfennol bodolaeth.

Campwaith Isaac oedd dangos inni'r tri pheth sydd yn allweddol bwysig i fywyd cyflawn - Ffydd, Cariad a Gwaith.

Sylwch mai’r allor - ffydd - gafodd y sylw cyntaf. Ail bethau oedd pabell a ffynnon mewn cymhariaeth. Nid ychwanegiad at ei fywyd oedd ei grefydd, ond sylfaen ei fywyd. Roedd Isaac wedi cael ei flaenoriaethau’n iawn.

Ymhellach, gofalodd Isaac osod y tri yn ymyl ei gilydd. Dyna ergyd yr yno a ddigwydd deirgwaith.

… adeiladodd yno allor, a galw ar enw’r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno …

Dim o daith oedd o’r allor i’r babell ac o’r babell i’r pydew! Fe ddiogelwyd ei gartref a’i waith am fod cysgod ei grefydd drostynt ill dau. Diffodd a wna tân ein haelwydydd, a’n gweithgarwch a phrysurdeb oni chyneuwn hwynt â thân yr allor.

... ffydd yn gweithio trwy gariad (Galatiaid 5:6 WM).

Ffydd: llawforwyn y llifeiriant.

(OLlE)

EVELYN UNDERHILL

June 15, 2016 Owain Evans

"We spend most of our lives conjugating three verbs: to want, to have and to do. But none of these verbs has any ultimate significance until it is transcended by and included in the fundamental verb - to be." Evelyn Underhill (1875-1941)

Heddiw, yn 1941, bu farw’r bardd a chyfrinydd Evelyn Underhill - bu’n un o’r lleisiau Cristnogol mwyaf dylanwadol yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Dyma un o’i gweddïau hithau yn weddi i ni heddiw:

Arglwydd, cynorthwya fi i ystyried fy enaid bychan, di-siâp, amherffaith sy’n destun cyson i’th weithred greadigol, gariadus yma’n awr, ymhlith holl frys fy mywyd beunyddiol a’i uchelderau a’i iselderau, ei bryderon a’i densiynau, a’i gyfnodau diflas, anysbrydol, ac yn rhoi iddo, drwy’r pethau hyn, ei ffurf ordeiniedig a’i ystyr. Felly yn holl ddigwyddiadau fy mywyd, hyd yn oed y mwyaf dibwys, teimlaf dy bwysedd, Arlunydd Creadigol. Amen

Evelyn Underhill (1875-1941)

 

 

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021