• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

ORLANDO

June 14, 2016 Owain Evans

Mae perthynas pobl yr Unol Daleithiau â gynnau yn anodd gennym i ddeall.

Yn 2008, cafwyd penderfyniad gan y Goruchaf Lys yno, bod yr Ail Welliant, the Second Amendment sydd yn darllen fel hyn: A well regulated Militia, being necessary to the security of a free State, the right of the people to keep and bear Arms, shall not be infringed yn gwarantu hawl i’r unigolyn cyfrifol, iach ei feddwl, ufudd i’r gyfraith i berchen gwn ei hun. Rhestrir amodau a chyfyngiadau amlwg a chall.

Ers blynyddoedd lawer bu’r National Rifle Association (NRA) yn prysur naddu’r amodau a chyfyngiadau rheini’n llai a llai; maent yn credu bod y fath amodau a chyfyngiadau’n yn tarfu ar ei hawliau cynhenid hwythau i ddwyn arfau er amddiffyn ei hunain, anwyliaid ac eiddo.

Wrth geisio ymateb i’r lladd yn Orlando, cydiodd yr Arlywydd Obama yn hyn o ofid:

We are also going to have to make sure that we think about the risks we are willing to take by being so lax in how we make very powerful firearms available to people in this country. And this is something that obviously I’ve talked about for a very long time.

My concern is that we start getting into a debate, as has happened in the past, which is an either/or debate. And the suggestion is either we think about something as terrorism and we ignore the problems with easy access to firearms, or it’s all about firearms and we ignore the role -- the very real role that that organizations like ISIL have in generating extremist views inside this country. And it’s not an either/or. It’s a both/and.

https://www.whitehouse.gov/blog/2016/06/12/president-obama-tragic-shooting-orlando

Yn sgil Orlando, nid oes geiriau cymwys. Ein gwaith cyntaf yw ymbwyllo, ymdawelu, a cheisio fel ag y medrwn, o bellter byd, i gynnal y galarus â’n gweddïau.

Ond, mae angen wedyn i geisio clywed a datgan yr hyn a ddywed ein ffydd am hawliau dynol. Y drafferth amlwg yw bod y Beibl yn sôn dim am ynnau, ond ceir adnod yn llyfr Deuteronomium sydd yn sôn am adeiladu tŷ newydd. Dwi’n credu bod cysylltiad.

Yn ein hymwneud ag eraill, myn y Beibl mae dyletswydd nid hawl sydd allweddol. Nid Beth sydd gen i hawl i wneud? yw’r cwestiwn allweddol, ond Sut mae’r hyn dwi’n dymuno cael gwneud yn mynd i effeithio ar bobl eraill? Cymer y Beibl yn gwbl ganiataol bod amodau a chyfyngiadau i ryddid personol. Maen prawf pob rhyddid, ydyw parodrwydd i’w ganiatáu i eraill - nid ei hawlio i ni ein hunain, na’i ddefnyddio i darfu ar ryddid eraill.

Yn yr ysbryd hwnnw, mae Deuteronomium yn cynnwys yr anogaeth hynod ymarferol hwn: Pan fyddi’n adeiladu tŷ newydd, gwna ganllaw o amgylch y to, rhag i’th dŷ fod yn achos marwolaeth, petai rywun yn syrthio oddi arno (22:8 BCN).

Neges syml ddigon sydd i’r adnod hon, ond allweddol; cyfoes a thra pherthnasol. Mae’r hawl i berchen gwn yn bwysig i nifer fawr o ddeiliaid yr Unol Daleithiau - dyma’r tŷ - ond mae to’r tŷ yn beryglus, felly rhaid gosod canllaw diogel o ddeddfwriaeth bendant yn ei le, i amddiffyn eraill.

Mae a wnelo’r adnod nid dim ond â’r hawl i berchen gwn! Beth bynnag yw’r tŷ yr ydym yn adeiladu - yn bersonol/gymunedol, yn wleidyddol/economaidd, yn grefyddol/ddiwylliannol - os oes bygythiad i’n cymdogion, dylid gwneud yr hyn oll a ellir ei wneud i ddileu’r perygl hwnnw. Ynglŷn â chymhwyso’r neges, holed pob un ef ei hun.

(OLlE)

MAE'R BEIBL YN GLIR ... OND, WEDYN ...

June 13, 2016 Owain Evans

MAE’R BEIBL YN GLIR: drwg a chas yw’r Moabiaid. Nid yw’r Moabiaid, na neb o’u disgynyddion i fynychu cynulleidfa ARGLWYDD … (Deuteronomium 23:3 BCN)

OND, WEDYN … daw stori Ruth - Ruth y Moabes … ond glynodd Ruth wrthi … "Paid â'm hannog i’th adael na throi’n ôl oddi wrthyt, oherwydd i ble bynnag yr ei di, fe af finnau; ac ym mhle bynnag y byddi di’r aros, fe arhosaf finnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th Dduw di fy Nuw innau." (Ruth 1:14b,16 BCN)

MAE’R BEIBL YN GLIR: drwg a chas yw pobl gwlad Us. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyf: "Cymer y cwpan hwn o win llidiog o’m llaw, a rho ef i’w yfed i’r holl genhedloedd yr anfonaf di atynt. Byddant yn ei yfed, ac yn gwegian … " Cymerais y cwpan o law yr ARGLWYDD, a diodais … holl frenhinedd gwlad Us … (Jeremeia 25:15,16,20 BCN).

OND, WEDYN … Yr oedd gŵr yng ngwald Us o’r enw Job, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg (Job 1:1 BCN).

MAE’R BEIBL YN GLIR: Dim eunuchiaid: Nid yw neb sydd wedi ei ysbaddu neu wedi colli ei gala i fynychu cynulleidfa’r ARGLWYDD (Deuteronomium 23:1).

OND, WEDYN … daw stori am Philip a’r Eunuch o Ethiopia … aethant ill dau i’r dŵr, Philip a’r eunuch, ac fe’i bedyddiodd ef (Actau 8:38 BCN).

MAE’R BEIBL YN GLIR: Drwg a chas yw’r Samariaid: Wrth gwrs, ni bydd yr Iddewon yn rhannu’r un llestri â’r Samariaid (Ioan 4:9 BCN).

OND, WEDYN … mae Iesu’n adrodd stori am ddyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho, a syrthiodd i blith lladron … Ond death teithiwr o Samariad ato, pan welodd hwn ef, tosturiodd wrtho. (Luc 10:30,33 BCN)

Fe all fod y stori’n dechrau gyda rhagfarn, cas a gwahaniaethu, ond ... mae Ysbryd Duw yn symud pobl - symud pobl o hyd - i gyfeiriad croeso, derbyniad a chadarnhad.

NEWYDDION Y SUL

June 12, 2016 Owain Evans

Gwrandawiad astud cynulleidfa'r Oedfa Foreol Gynnar

Bwrlwm yn dilyn bwrlwm! Bendith at fendith, yn arwain! Wedi bendith fyrlymog cyngerdd ‘Ny Ako’ neithiwr, da oedd gweld y festri eto’n llawn i’r Oedfa Foreol Gynnar - bendith a hwyl a gafwyd dan arweiniad diogel Glyn. Thema’r Oedfa oedd llond silff o lyfrai o fewn un clawr. Y cwbl yn un gyfrol, yn storiâu a hanes, yn gyfraith a llythyrau, barddoniaeth a chwedlau; llyfrau doethineb a serch. Llyfr gwahanol i holl lyfrau’r byd; llyfr mwy na holl lyfrau’r byd. Diolch am ei gael yn y Gymraeg - rhoes urddas i’n hiaith a’i chadw’n fyw. Trwy gyfrwng nodiadau A1 cymen, gweladwy a dealladwy gan bawb, bu Glyn yn esmwyth drafod 5 cwestiwn mawr:

  • Beth yw’r Beibl?
  • Pam fod y Beibl yn debyg i Lyfrgell?
  • Sut cafodd y Beibl ei ysgrifennu?
  • Pryd cafodd y Beibl ei gyfieithu i’r Gymraeg?
  • Beth yw neges y Beibl?

(Cododd sawl cwestiwn arall yn sgil y 5 uchod, gan gynnwys: 'Faint o eiriau sydd yn y Beibl?' Nodwyd yr ateb gan Glyn ar waelod y dudalen hon o nodiadau.

Mawr ein diolch i Glyn am ein hatgoffa nad cyffur ond cyffro yw Gair Duw; sicrwydd nid swcwr a geir yn hwn. Pam? Mae’r geiriau bob un (810,697 ohonynt) yn cyfeirio at y Gair: Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ein unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol (Ioan 3:16 BCN). Cawsom ein hatgoffa o’r union un neges trwy gyfrwng arall y bore heddiw: graffito ar ddrws ffrynt y capel! Un gair, y pwysicaf un! Gwareded Duw ni rhag anghofio mai gwraidd ein holl weithgarwch Cristnogol, a sail ein ffydd, yw adnabod, cydnabod a pharchu Iesu.

Graffito ar ddrws ffrynt y capel

Wedi paned a sgwrs dros frecwast bach; y stondin nwyddau Masnach Deg, a chasglu nwyddau i Fanc Bwyd Caerdydd, ymlaen yr aethom i’r Oedfa Foreol.

Ym mis Medi 2015, buom yn trafod emyn o eiddo David Jones (1805-68; CFf:76):

Mae Duw yn llond pob lle,

presennol ymhob man ...

Mis Hydref: dyhead David Charles (1762-1834; CFf:686):

O! Iesu mawr, rho d’anian bur

i eiddil gwan mewn anial dir ...

Mis Tachwedd: J. G. Moelwyn Hughes (1866-1944; CFf:691)

Fy Nhad o’r nef, O! gwrando ‘nghri:

un o’th eiddilaf blant wyf fi ...

Saith mis yn ddiweddarach, yr emyn nesaf yn y gyfres hon o bregethau! Canolbwynt ein sylw yn yr Oedfa Foreol oedd emyn George Rees (1873-1950; CFf:541).

O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m Ceidwad cry’ ...

Daeth Iesu atom i wireddu breuddwyd Duw o gymod, undod a thangnefedd. Unig iawn ydoedd:  ... heb neb o’th du. Ond, wrth gerdded y daith unig hon, gwelir fflam anniffoddadwy cariad yn llosgi yn Iesu: ... cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam, ni allodd angau’i hun ddiffoddi’r fflam ... Methodd angau â gwahanu Iesu oddi wrth Dduw, nac oddi wrthym ni.

Cyrhaeddaist ddiben dy anturiaeth ddrud drwy boenau mawr ...

Gwyddai Iesu nad oedd modd i alw afradloniaid tua thref heb boen a gofid. Gwyddai mai dim ond ochain dwys, (d)drylliog lef a (ph)oenau mawr ... dim ond drwy gwyro lawr dan faich gofidiau’r byd y byddai'n bosibl i Eneiniog Duw alw’r afradloniaid tua thref.

Rho imi’r weledigaeth fawr a’m try o’m crwydro ffôl ...

O edmygedd, i ryfeddod ... i weddi. Peri rhywbeth i’r emynydd blygu mewn gweddi addolgar wrth draed Iesu: ... gwelais di dan faich gofidiau’r byd/yn gwyro i lawr ... Rho imi’r weledigaeth fawr a’m try/o’m crwydro ffôl i’th ddilyn ..., ac nid ar hyd llwybrau esmwyth gwastad, ond ar hyd llwybrau dyrys, du ... heb syllu’n ôl. Gwell cerdded llwybrau dyrys yng nghwmni Iesu na cherdded llwybrau esmwyth hebddo.

Tydi yw’r ffordd, a mwy na’r ffordd i mi, tydi yw ngrym ...

Iesu yw’r ffordd. ... ymlaen y cerddaist; nid bodloni ar ddangos y ffordd wna Iesu, ond bod yn ffordd. Ofer ein hymdrechion gorau heb fendith y Gorau Un: Pa les ymdrechu, f’Arglwydd hebot Ti, a minnau’n ddim?

Bu Cian, ŵyr 10 mlwydd oed ein horganydd y bore ‘ma, yn dawel brysur yn ystod y bregeth. Ar derfyn yr oedfa, cyflwynwyd ffrwyth ei lafur i’r Gweinidog. Wel, am ddefnydd da o 'Post It Notes'!

Gwaith Cian

Yn ei gyfarchiad Nadolig (Y Tyst, Rhagfyr 24/31 2015) soniai’r Parchedig Ddr Geraint Tudur fod 2016 wedi ei dynodi yn Flwyddyn y Beibl Byw gan yr enwadau Cymraeg. Y nod, meddai ‘yw codi ymwybyddiaeth o’r Beibl ac annog pobl i’w ddarllen a’i fwynhau. Gobeithiwn y bydd pob eglwys a phob Cyfundeb yn gwneud rhywbeth fel rhan o’r ymgyrch hon gan gofio fod gennym dri chyfieithiad o’r Beibl bellach, William Morgan a’i ddisgynyddion, y Beibl Cymraeg Newydd a Beibl.net.’

Mae ‘Blwyddyn y Beibl Byw’ yn cynnig cyfle i drin a thrafod cwestiynau ynglŷn â natur y traddodiad sydd yn y Beibl, ynglŷn â dulliau darllen, trafod a dehongli’r Beibl; ynglŷn â safle ac awdurdod y Beibl; ac ynglŷn â chymhwyso neges y Beibl i Gymru heddiw. (Da oedd bod Oedfaon y dydd heddiw yn dechrau a gorffen gan ymdrin â’r Beibl).

Heno, bu’r Gweinidog yn bwrw golwg dros dair her y gellid mynd i’r afael â nhw ym Mlwyddyn y Beibl Byw. Her Astudiaeth; Her Awdurdod a Her Addasrwydd.

Her Astudiaeth. Amod profi gorau’r Beibl yw treiddio iddo’n ddyfnach. Byddwn agored i ddarllen y Beibl gan ddefnyddio'r ystod o wybodaeth sydd ar gael. Ni ddylid ceisio ei warchod rhag unrhyw ganlyniad anffafriol a all ddod o’r ysgolheictod hwnnw. Os gwneud hynny, cyll ein darllen a’n dadansoddi bob pwrpas.

Her Awdurdod. Pa fath o awdurdod a berthyn i’r Beibl? Perthyn ei awdurdod nid i’w natur na’i gymeriad, ond i’r digwyddiadau sydd y tu ôl iddo. Tra bod y Beibl yn seiliedig ar ddigwyddiadau, nid mewn cofnodi’n fanwl hanes y digwyddiadau hynny y mae ei brif ddiddordeb, ond yn hytrach mewn cyflwyno’r iachawdwriaeth a amlygir yn y digwyddiadau.

Her Addasrwydd. Yr unig ffordd i ddarganfod a rhannu addasrwydd y Beibl yw mynd i’r afael â’r Beibl. Trwy ddarllen a thrafod y Beibl y gallwn dreiddio at y neges sy’n addas ac yn berthnasol i ni heddiw.

Nid yw ymwneud â’r Beibl yn hawdd. Mae her ynglŷn â’i ddarllen a’i drafod. Cwyd her ynglŷn â’i awdurdod; ac mae cyflwyno ei neges mewn ffordd addas yn anodd. Hawdd dweud fod angen i bobl ddarllen y Beibl. Rhaid sicrhau fod gan bobl gyfle i ddarllen y Beibl yn fentrus gyda'i gilydd, a thrwy hynny, rhyddhau’r Gair o glymau’r geiriau.

Offrymwyd y weddi heno gan Gill.

Diolch am fendithion y Sul.

PREGETH NOS SUL

June 12, 2016 Owain Evans

Blwyddyn y Beibl Byw (3)

Cynnig ‘Blwyddyn y Beibl Byw’ gyfle i drin a thrafod cwestiynau ynglŷn â: natur y traddodiad sydd yn y Beibl; dulliau darllen, trafod a dehongli’r Beibl; safle ac awdurdod y Beibl; a sut i gymhwyso neges y Beibl i Gymru heddiw.

Her ASTUDIAETH. Amod profi gorau’r Beibl yw treiddio iddo’n ddyfnach. Byddwn agored i ddarllen y Beibl gan ddefnyddio'r ystod o wybodaeth sydd ar gael. Ni ddylid ceisio ei warchod rhag unrhyw ganlyniad anffafriol a all ddod o’r ysgolheictod hwnnw. Os gwneud hynny, cyll ein darllen a’n dadansoddi bob pwrpas. Nid yw’r Beibl, o reidrwydd, yn adroddiad llythrennol wir, heb unrhyw arlliw o gamgymeriad nac yn awdurdod ar bob math o wybodaethau. Dywed Iesu wrth ddyfynnu Salm 110 Dafydd ei hun a ddywedodd ... (Marc 12:36a). Cred ysgolheigion nad Dafydd oedd awdur y Salm. Derbyniodd Iesu draddodiadau ei oes. Wrth ddarllen y Beibl rhaid wrth feddwl agored ac ymchwilgar. Her yw ymateb i’r haeriad: os nas gellir dibynnu arno ymhob peth, sut gellir dibynnu arno mewn unrhyw beth? Cofier! Erys y Beibl yn Air Duw; bu Duw ar hyd yr oesau mewn cysylltiad â’i bobl, ac yn datguddio’i hun iddynt. Fe’u hysbrydolodd i ffurfio eu traddodiad crefyddol, a’u harwain i argyhoeddiad ffydd. Trwy’r llyfr hwn, llefara Duw.

Her AWDURDOD. Pa fath o awdurdod a berthyn i’r Beibl? Perthyn ei awdurdod nid i’w natur na’i gymeriad, ond i’r digwyddiadau sydd y tu ôl iddo. Y digwyddiadau hyn sy’n allweddol bwysig i’r Cristion; ynddynt mae swm a sylwedd ein ffydd. Nid oes lle i ddelfrydu’r Beibl am ei werth ei hun. Nid y Beibl yw’r datguddiad; yn hytrach, y digwyddiadau sydd du ôl i’r Beibl - gweithredodd Duw yn yr Exodus ... yn Iesu Grist ... yn yr Eglwys Fore. Nid disgrifio’r digwyddiadau fel y bu iddynt ddigwydd yw amcan y Beibl. Gall awduron y Beibl fod yn annelwig; ar adegau maent yn gwbl anghywir yn hanesyddol. Dibynna awdurdod y Beibl ar ei gywirdeb hanesyddol, ond nid ar groniclo ffeithiau hanesyddol yn gywir y dibynna ei awdurdod. Dau osodiad sy’n ymddangos yn gwbl groes i’w gilydd? Dyna’r her! Tra bod y Beibl yn seiliedig ar ddigwyddiadau, nid mewn cofnodi’n fanwl hanes y digwyddiadau hynny y mae ei brif ddiddordeb, ond yn hytrach mewn cyflwyno’r iachawdwriaeth a amlygir yn y digwyddiadau. Y dehongliad - yr argyhoeddiad crefyddol - sy’n bwysig yng ngolwg bob un o'r awduron.

Her ADDASRWYDD. Cefndir Hebreig sydd i’r Hen Destament; iaith, syniadau a dulliau Hebreig a ddefnyddir i fynegi ac i gyflwyno digwyddiadau hanes. O sefyllfa wleidyddol yr Ymerodraeth Rufeinig y tyfodd y Testament Newydd. ‘Roedd yr Eglwys Fore ar waith yn y byd Groegaidd. Pa mor berthnasol, felly, yw’r Beibl heddiw? Tra gellid dweud mai’r un yn sylfaenol yw’r natur ddynol ar hyd y canrifoedd, nid gwir hynny. Nid yr un y problemau a’r anawsterau; nid yr un yr iaith a’r delweddau a’r diwylliant. Yn ôl rhai, nid esbonio hen destun yw gwaith yr Eglwys, ond mynegi’n groyw a glân beth y mae’n ei gredu heddiw! Ni ellir gwneud hyn heb iddi wybod beth mae y cred a pham! Ceir hynny yn y Beibl. Yr unig ffordd i ddarganfod a rhannu addasrwydd y Beibl yw mynd i’r afael â’r Beibl. Trwy ddarllen a thrafod y Beibl y gallwn dreiddio at y neges sy’n addas ac yn berthnasol i ni heddiw. Rhaid meithrin defnydd mwy rhydd o’r Beibl yn ein plith. Gellid fod wedi osgoi llawer iawn o helyntion Cristnogaeth gyfoes pe bai mwy o ddarllen, a chyd-ddarllen call wedi bod o’r Beibl.

Nid yw ymwneud â’r Beibl yn hawdd. Mae her ynglŷn â’i ddarllen a’i drafod. Cwyd her ynglŷn â’i awdurdod; ac mae cyflwyno ei neges mewn ffordd addas yn anodd. Hawdd dweud fod angen i bobl ddarllen y Beibl. Rhaid sicrhau fod gan bobl yr hyn oll a’i gwna’n bosibl iddynt wneud hynny. Mae angen dysgu pobl sut i ddarllen y Beibl, heb hynny sut allwn ddisgwyl iddynt fedru ‘agor yr Ysgrythurau’? Dylid sicrhau fod gan bobl gyfle i ddarllen y Beibl yn fentrus gyda'i gilydd, a thrwy hynny, rhyddhau’r Gair o glymau’r geiriau. Nid digon gosod Gair Duw fel powlen o gawl cennin ar y bwrdd, heb fod gan bawb ohonom lwy i’w flasu a’i fwynhau!

PREGETH BORE SUL

June 12, 2016 Owain Evans

O! Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m Ceidwad cry’ ...

(George Rees, 1873-1950; C.Ff. 541)

O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m Ceidwad cry’ ...

Daeth atom i wireddu breuddwyd Duw o gymod, undod a thangnefedd. Unig iawn ydoedd: heb neb o’th du. Ar y groes, caeodd tywyllwch amdano’n dynn: Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? (Mathew 27:46). Ond, wrth gerdded y daith unig hon, gwelir fflam anniffoddadwy cariad yn llosgi yn Iesu: ... cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam, ni allodd angau’i hun ddiffoddi’r fflam. Pob cam o’r ffordd bu angau yn ddygn ceisio diffodd y fflam. Gwnaeth gelynion y golau eu gwaethaf i ddiffodd y fflam ... aflwyddiannus buont. Llwydda angau, yn ein golwg ni, i ddiffodd gobeithion disglair, i chwalu cynlluniau gwych ac i wahanu anwyliaid. Methodd angau â gwahanu Iesu oddi wrth Dduw, nac oddi wrthym ni; methodd angau a diffodd goleuni Goleuni’r byd. Yn a thrwy fflam anniffodd bywyd Iesu, anniffodd ein bywyd ninnau.

Cyrhaeddaist ddiben dy anturiaeth ddrud drwy boenau mawr ...

Un peth yw edmygu Eneiniog Duw, y Ceidwad cry’; peth arall yw gweld a deall mai trosom ni y bu’r anturiaeth ddrud hon. Anturiaeth ddrud oedd bywyd i Iesu Grist: ... gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol (Philipiaid 2:7). Arbrawf cariad ydoedd. I fyd o afradloniaid, amlygwyd ffordd ffydd, gwefr gobaith a chyfle cariad; gwrthodwyd y cyfle a throwyd oddi ar ffordd ffydd. Gwyddai Iesu nad oedd modd i alw afradloniaid tua thref heb boen a gofid. Gwyddai mai dim ond ochain dwys, (d)drylliog lef a (ph)oenau mawr ... dim ond drwy gwyro lawr dan faich gofidiau’r byd y byddai'n bosibl i Eneiniog Duw alw’r afradloniaid tua thref. Deallodd George Rees mai ni yw’r afradloniaid; mynega hyn yn gryno daclus gyda’r defnydd cwbl fwriadol o’r ferf gwelais.

Rho imi’r weledigaeth fawr a’m try o’m crwydro ffôl ...

O edmygedd, i ryfeddod ... i weddi. Peri rhywbeth i’r emynydd blygu mewn gweddi addolgar wrth draed Iesu:"... gwelais di dan faich gofidiau’r byd/yn gwyro i lawr ... Rho imi’r weledigaeth fawr a’m try/o’m crwydro ffôl i’th ddilyn ..., ac nid ar hyd llwybrau esmwyth gwastad, ond ar hyd llwybrau dyrys, du ... heb syllu’n ôl. Gwell cerdded llwybrau dyrys yng nghwmni Iesu na cherdded llwybrau esmwyth hebddo. Pam? Am fod Iesu yn ein harwain i rywle! Edrych ar Dduw o bell yw ein tuedd naturiol. Ofer pob ymgais i groesi’r pellter heb dderbyn, dathlu a datgan mor syfrdanol o fawr a real yw’r weledigaeth sydd gennym o Dduw ... yng Nghrist Iesu. Dyma’r weledigaeth a’n try o’n crwydro ffôl! Llaw yn llaw â Christ, cawn ein harwain i mewn i’th fyd dy hun. Y mae Duw yn ein byd, gan mai byd Duw yw ein byd ni, ein byd ni yw byd Duw.

Tydi yw’r ffordd, a mwy na’r ffordd i mi, tydi yw ngrym ...

Iesu yw’r ffordd. ... ymlaen y cerddaist; nid bodloni ar ddangos y ffordd wna Iesu, ond bod yn ffordd. OFer ein hymdrechion gorau heb fendith y Gorau Un: Pa les ymdrechu, f’Arglwydd hebot Ti, a minnau’n ddim? Er cysur, y mae Un sy’n barod i’n cynorthwyo, yn Gyfaill i gadw’n agos, ac yn Arweinydd diogel i’w ddilyn. Y mae cadw yn ymyl Hwn yn ein galluogi i ddweud, gyda hyder gostyngedig: ... dy nerth a’m ceidw innau heb lesgau. Canys fy iau sydd esmwyth ... (Mathew 11:30). Partneriaeth felly a gynigir i ni yng Nghrist; fe ofala fod y pwysau trymaf ar ei ysgwydd ei hun, a’n baich ninnau felly’n ysgafn: dy nerth a’m ceidw innau heb lesgau.

Edmygedd: O! Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd/a’m Ceidwad cry’. Rhyfeddod: Cyrhaeddaist ddiben dy anturiaeth ddrud/drwy boenau mawr. Gweddi: Rho i mi’r weledigaeth fawr a’m try o’m crwydro ffôl. Cyffes: ... pa les ymdrechu, f’Arglwydd, hebot ti?

'NY AKO' - 'LLIWGAR A LLAWEN'

June 11, 2016 Owain Evans

Madagascar - cychwynnwyd y gwaith Cristnogol ar yr ynys hon gan David Jones (1796-1841) a Thomas Bevan (1796-1819) yn 1818, (heb anghofio David Griffiths; 1792-1863); a bu cenhadon o Gymru yn gweithio yno ar hyd y blynyddoedd gan gynnwys Elsie Stark, Gwyneth Evans, ac un o blant yr eglwys hon: Mair Griffiths. Ar ôl cyfnod llewyrchus yn genhades-brifathrawes ar ysgol merched yn un o ddinasoedd Madagascar, wedi ymddeol, daeth Mair yn ôl adref atom i eglwys Minny Street. Bu hi’n flaenllaw yn y gwaith o sicrhau ein bod yn gefeillio ag Eglwys y Tranovato ym mhorthladd Toamasina. Dedwydd a da bu’r berthynas honno i’r naill eglwys a’r llall am dros 15 mlynedd.

Hyn o gefndir sydd yn esbonio mor fawr ein llawenydd heno wrth groesawu atom: ‘Ny Ako’ - 'Yr Adlais'. Pob dwy flynedd, dan nawdd ‘Scripture Union Madagascar’, fe ânt ar daith i Ewrop. Nod deublyg sydd i’r teithiau hyn: yn gyntaf: rhannu asbri ffydd yn Nuw a gwefr Cariad Duw, ac yn ail: rhannu ac ehangu deall a gwerthfawrogiad o’r diwylliant Malagasi trwy gyfrwng cân a cherdd, celf a chrefft, dawns a drama.

Diolch i bawb a fu ynglŷn â threfnu’r cyngerdd bythgofiadwy hon. Cawsom wledd o liw, cerdd, dawns a bendith heb ei debyg! Diolch i eglwysi’r ardal am eu cefnogaeth, ond ein diolch pennaf yw i holl aelodau ‘Ny Ako’. Boed bendith arnynt; Duw a lewyrcho ar eu cenhadaeth. Hyderwn y cawn gyfle i’w croesawu eto i Gaerdydd ymhen dwy flynedd!

Y GENHADAETH FILWROL

June 10, 2016 Owain Evans

 hithau bellach yn 15 oed, gallasai Shani ymrestru fel aelod o’r Lluoedd Arfog.

Y Deyrnas Unedig yw’r unig aelod o’r Undeb Ewropeaidd sydd yn caniatáu recriwtio plant i wasanaeth milwrol. Er mynych brotestio Pwyllgor Hawliau’r Plentyn y Cenhedlodd Unedig, parhau mae ‘cenhadaeth’ y Lluoedd Arfog ymhlith ein plant.

Wedi cyrraedd 15 mlynedd a 7 mis oed, mae gan blentyn berffaith hawl i ymgeisio am hyfforddiant milwrol; hyfforddiant a fuasai’n dechrau wedi troi 16 oed.

http://www.forceswatch.net/what_why/whats_the_problem/issues

Wedi ei dderbyn i’r hyfforddiant hwnnw, mae’n ofynnol iddo neu iddi wasanaethu am 6 mlynedd. Pe bai ef neu hi’n ymrestru yn 18 oed, dim ond 4 mlynedd o wasanaeth fuasai’n ofynnol. Fel hyn mae Richard Clarke, cyfarwyddwr Child Soldiers International (CSI) yn mynegi’r gofid amlwg: Whatever you think the right age is for joining the Army, nobody can justify forcing the youngest recruits to serve for longer than their adult counterparts. It’s unfair, unnecessary and, we believe, unlawful.

Yn 2012, cyflwynwyd deiseb i’r Senedd yn galw am ymchwiliad i’r genhadaeth filwrol yng Nghymru. Mewn ymateb i’r ddeiseb, cafwyd adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau. Yn yr adran ‘Barn y Pwyllgor a’i Argymhellion’ nodwyd: Mae’n ymddangos bod yna dystiolaeth bod y lluoedd arfog yn ymweld yn anghymesur o aml ag ardaloedd cymharol ddifreintiedig ... Er nad oes tystiolaeth lethol bod ysgolion mewn ardaloedd cymharol ddifreintiedig yn cael eu targedu’n fwriadol gan y lluoedd arfog, nid yw’r rhesymau dros y nifer anghymesur i bob golwg o ymweliadau ag ysgolion yn yr ardaloedd hyn yn eglur. (Pwyntiau 70 a 71; tud.27)

 lefelau diweithdra ymhlith yr ifanc yng Nghymru bellach yn 20%, gellid deall sut allasai yrfa filwrol gael ei ystyried fel opsiwn call - dewis da. Ni ddylid synnu felly mai yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol, (er enghraifft y Rhondda) y gwelir y recriwtio milwrol mwyaf trwyadl. Yn ogystal â’r genhadaeth ddygn mewn ardaloedd penodol, a rheini’n ar y cyfan yn ardaloedd gymharol ddifreintiedig, mae cenhadaeth dawel - paratoadol fel petai - sydd yn cynnwys y defnydd o deganau a ddyluniwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed. http://hmarmedforces.com/

Felly, teganau ... ardaloedd cymharol ddifreintiedig ... a hysbysebu cyson, hudol. Ni ellir gwadu mai effeithiol y genhadaeth driphlyg hon. Yr un modd, ni ellir gwadu effaith dwfn, dirdynnol gwasanaeth milwrol ar blant. Mae’r dystiolaeth a gasglwyd gan Forceswatch wrth ymchwilio cyflwr iechyd meddwl milwyr ifanc yn amlygu fod PTSD (Post Traumatic Stress Syndrome) ddwywaith amlycach ymhlith pobl ifanc heb TGAU o’i gymharu â phobl ifanc â Lefel A (8.4% o’i gymharu â 3.3%). Yn ogystal, dengys ystadegau Forceswatch fod recriwtiaid ifanc llawer mwy tebygol i ddioddef iselder ysbryd a dibyniaeth ar gyffuriau o rwy fath wedi dychwelyd o faes y gad. Dylid ychwanegu’r amlwg: yn sgil diffyg profiad, recriwtiaid ifanc sydd fwyaf tebygol o gael eu lladd ar faes y gad. Yn gyffredinol, daw traean o’r recriwtiaid blynyddol i’r Gwŷr Traed (Infantry) o ardaloedd cymharol ddifreintiedig Cymru. Gellid ond datgan fod y genhadaeth filwrol ymhlith yr ifanc mewn gwrthgyferbyniad â’r bygythiadau a wyneba’r ifanc wrth ymrestru.

Dylid, gosod pwysau ar y Weinyddiaeth Cyfiawnder i godi oedran ymrestru i 18 oed. Er i bôl piniwn Ipsos MORI ar ran y Rowntree Reform Trust Ltd

http://www.forceswatch.net/resources/april-2013-icm-poll-army-recruitment-age-uk ddatgelu fod 78% o bobl y DU o blaid y fath newid, ni fu symud gan y Lluoedd Arfog i weithredu. Pam? Gellid awgrymu fod yr amharodrwydd hwn yn arwydd fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn llawn a llwyr sylweddoli y buasent o’r herwydd yn colli talp sylweddol o’i recriwtiaid.

Ie, y Deyrnas Unedig bellach, yw’r unig aelod o’r Undeb Ewropeaidd, NATO a Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig sydd yn parhau i ganiatáu recriwtio milwrol ymhlith plant. Nid oes i blentyn le yn y Lluoedd Arfog. Gwyddom hynny … gwyddom hynny, os bosib.

(OLlE)

CYNGOR EGLWYSI CYMRAEG CAERDYDD

June 9, 2016 Owain Evans

Capel 'Bethlehem', Gwaelod y Garth

Mae 2016 wedi ei dynodi yn Flwyddyn y Beibl Byw gan yr enwadau Cymraeg. Y nod yw codi ymwybyddiaeth o’r Beibl ac annog pobl i’w ddarllen a’i drafod.

Heno, cynhaliwyd cyfarfod o Gyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd yng Nghapel 'Bethlehem', Gwaelod y Garth. Arfon Jones oedd yn arwain y noson. Bu Arfon yn sôn am ei waith gydag Ymddiriedolaeth Gobaith i Gymru yn sicrhau i Gymry Cymraeg Air Duw mewn Cymraeg llafar a chwbl ddealladwy. Yn ddiweddar iawn, cyhoeddwyd addasiad tan gamp o’r Beibl: Beibl.net. Dechreuodd Beibl.net. ar-lein fel ymgais i fynegi neges a chyfleu cyfoeth y Testament Newydd trwy gyfrwng Cymraeg sgyrsiol ac anffurfiol. Erbyn 2013 ‘roedd y Beibl cyfan ar gael ar-lein. Mae’r fersiwn print newydd o Beibl.net. yn boblogaidd iawn. Braf, buddiol a bendithiol oedd cael derbyn o arweiniad Arfon heno.

Diolch i bobl 'Bethlehem' am y croeso cynnes arferol. Gweddïwn am wenau Duw ar weinidogaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021