ADOLYGU ... ARHOLIADAU!

 thithau yng nghanol dy adolygu, prin fod amser gennyt i ddarllen unrhyw beth ond dy nodiadau a’th werslyfrau; ond gall y Llyfr fod yn gymorth wrth fynd i’r afael â’r llyfrau; gall y Gair helpu gyda’r holl eiriau sydd angen i ti ddeall, dehongli a chofio. Mae ambell adnod yn adnodd adolygu!

Dyma weddi fach i’th gynnal trwy’r arholiadau:

Fy Nuw, ein Tad, dyro gymorth i mi wrth baratoi i’r arholiadau hyn ...

Rho i mi, os gweli’n dda o’th DDOETHINEB:

Doethineb yr ARGLWYDD osododd sylfeini’r ddaear; a’i ddeall e wnaeth drefnu’r bydysawd.

(Diarhebion 3:19 beibl.net)

Pan mae’r gwaith yn drwm, a dal ati i ddal ati yn anodd ...

Os gweli’n dda, rho i mi DDALIFYNDRWYDD:

Mae’r rhai sy’n dal ati yn wyneb treialon yn cael eu bendithio gan Dduw.

(Iago 1:12 beibl.net)

Fe ddônt i ben ...

Daw diwedd i’r adolygu ...

Rho i mi, os gweli’n dda HUNANDDISGYBLAETH:

Dydy disgyblaeth byth yn bleserus ar y pryd (mae’n boenus!) - ond nes ymlaen dyn ni’n gweld ei fod yn beth da.

(Hebreaid 12:11 beibl.net)

Yng nghanol yr holl boeni - fi’n poeni; anwyliaid yn poeni amdanaf ...

Os gweli’n dda, rho i mi, ac i bawb sydd yn annwyl gennyf YMDDIRIEDAETH:

Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.

(Philipiaid 4:13 BCN)

Bendithia fi, nawr a phob amser â sicrwydd o’th FENDITH:

Plîs bendithia fi ... Cynnal fi! Cadw fi’n saff ...

(1 Cronicl 4:10 beibl.net)

Amen.

'TIBERIAS'

Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias ...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’... a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)

Llun: Itay Bav-Lev

Pedwar ohonom yn dechrau’r dydd mewn defosiwn, myfyrdod a gweddi.

Ers dechrau ym mis Medi 2015, buom o fis i fis yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10); gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15; 16/11). Ym mis Rhagfyr, echel ein myfyrdod oedd gweddi Heseceia (2 Brenhinoedd 19:8-19). Ym mis Ionawr (4/1) gweddi Jona (Jona 2), a gweddi Jeremeia (17:14-18) fu gwrthrych ein myfyrdod ym mis Chwefror (1/2). Proffwydi Baal a phroffwyd yr ARGLWYDD yn gweddïo oedd testun ein sylw ym mis Mawrth (14/3). Samson a Steffan yn gweddïo (Barnwyr 16:25-30 ac Actau 7:54-60) oedd testun ein sylw ym mis Ebrill (11/4). Ym mis Mai (9/5) ystyriwyd Gweddi’r Gwas Ffyddlon (Genesis 24:12-27). Heddiw, testun ein sylw oedd Y Credinwyr yn Gweddïo am Hyder (Actau 4:23-31).

Llawenhau gerbron Duw a wnaeth y cwmni bach o gredinwyr pan ddychwelodd Pedr ac Ioan atynt ar ôl i’r ddau gael eu fflangellu a’u carcharu yn sgil iacháu’r gŵr cloff wrth Borth Prydferth y Deml. Deisyfwyd hefyd: Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i’th weision lefaru dy air â phob hyder ... (Actau 4:29 BCN). Ni ellir osgoi’r ffaith fod datganiadau ein Ffydd yn rhai ysgubol: y Crist yn ddatguddiad terfynol o Dduw; yn asiant y Creu; canolbwynt y Greadigaeth; yr Un a gyfododd Duw oddi wrth y meirw.

Ond cymar i’r datganiadau ysgubol yw’r Gwasanaeth mwyaf Grasol a welwyd erioed: Ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer (Marc 10:45 BCN). Cymar i’r datganiadau mawrion yw’r Cariad mwyaf mawr: Cariad mwy a hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion (Ioan 15:13).

Ar ôl cyhoeddi’n ddilys enw dy Was sanctaidd, Iesu (Actau 4:27 BCN), daw’r Ysbryd Glân i gynhyrchu arwyddion a rhyfeddodau (Actau 4:30 BCN) y Gwasanaeth a’r Cariad sydd yng Nghrist.

Oherwydd nid ysbryd sy’n creu llwfrdra a roddodd Duw i ni, ond ysbryd sy’n creu nerth a chariad a hunanddisgyblaeth (2 Timotheus 1:7).

Yn sŵn gweddi'r credinwyr am hyder, buom ninnau'r bore heddiw yn gweddïo am ddawn i gyflwyno Efengyl Cariad Duw yng Nghrist i bawb a’i chyflwyno gyda hyder gostyngeiddrwydd ac nid ei gwaradwyddo gydag ysbryd ymosodol, trahaus.

Buddiol a da bu ‘Tiberias’. Cawsom egwyl fach a’r ddechrau’r dydd i bwyllo, ymdawelu ac o ogwyddo ein meddwl at Dduw.