'TIBERIAS'

Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias ...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’... a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)

Llun: Itay Bav-Lev

Pedwar ohonom yn dechrau’r dydd mewn defosiwn, myfyrdod a gweddi.

Ers dechrau ym mis Medi 2015, buom o fis i fis yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10); gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15; 16/11). Ym mis Rhagfyr, echel ein myfyrdod oedd gweddi Heseceia (2 Brenhinoedd 19:8-19). Ym mis Ionawr (4/1) gweddi Jona (Jona 2), a gweddi Jeremeia (17:14-18) fu gwrthrych ein myfyrdod ym mis Chwefror (1/2). Proffwydi Baal a phroffwyd yr ARGLWYDD yn gweddïo oedd testun ein sylw ym mis Mawrth (14/3). Samson a Steffan yn gweddïo (Barnwyr 16:25-30 ac Actau 7:54-60) oedd testun ein sylw ym mis Ebrill (11/4). Ym mis Mai (9/5) ystyriwyd Gweddi’r Gwas Ffyddlon (Genesis 24:12-27). Heddiw, testun ein sylw oedd Y Credinwyr yn Gweddïo am Hyder (Actau 4:23-31).

Llawenhau gerbron Duw a wnaeth y cwmni bach o gredinwyr pan ddychwelodd Pedr ac Ioan atynt ar ôl i’r ddau gael eu fflangellu a’u carcharu yn sgil iacháu’r gŵr cloff wrth Borth Prydferth y Deml. Deisyfwyd hefyd: Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i’th weision lefaru dy air â phob hyder ... (Actau 4:29 BCN). Ni ellir osgoi’r ffaith fod datganiadau ein Ffydd yn rhai ysgubol: y Crist yn ddatguddiad terfynol o Dduw; yn asiant y Creu; canolbwynt y Greadigaeth; yr Un a gyfododd Duw oddi wrth y meirw.

Ond cymar i’r datganiadau ysgubol yw’r Gwasanaeth mwyaf Grasol a welwyd erioed: Ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer (Marc 10:45 BCN). Cymar i’r datganiadau mawrion yw’r Cariad mwyaf mawr: Cariad mwy a hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion (Ioan 15:13).

Ar ôl cyhoeddi’n ddilys enw dy Was sanctaidd, Iesu (Actau 4:27 BCN), daw’r Ysbryd Glân i gynhyrchu arwyddion a rhyfeddodau (Actau 4:30 BCN) y Gwasanaeth a’r Cariad sydd yng Nghrist.

Oherwydd nid ysbryd sy’n creu llwfrdra a roddodd Duw i ni, ond ysbryd sy’n creu nerth a chariad a hunanddisgyblaeth (2 Timotheus 1:7).

Yn sŵn gweddi'r credinwyr am hyder, buom ninnau'r bore heddiw yn gweddïo am ddawn i gyflwyno Efengyl Cariad Duw yng Nghrist i bawb a’i chyflwyno gyda hyder gostyngeiddrwydd ac nid ei gwaradwyddo gydag ysbryd ymosodol, trahaus.

Buddiol a da bu ‘Tiberias’. Cawsom egwyl fach a’r ddechrau’r dydd i bwyllo, ymdawelu ac o ogwyddo ein meddwl at Dduw.

GARDD AGORED

Prynhawn hyfryd a gafwyd heddiw wrth i ddau o'n haelodau gynnal Gardd Agored er budd ein helusen elen. Diolch am wledd o liw, sawr a chroeso.

Dyma fanylion ein Te Prynhawn:

MARILYN MONROE (1926-62)

Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth y tadau yn y proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab (Hebreaid 1:1).

Gludwaith Simon Holly: 'Monroe'; 2005

Heddiw, yn 1926, ganed Marilyn Monroe. Mae gan Simon Holly (gan. 1979) bortread gwych o Monroe - seren y sgrin - Monroe yn anterth ei hapêl a phoblogrwydd. O fynd yn agos at y llun mawr hwn, daw’n amlwg nad un llun sydd mewn gwirionedd, ond trwch o luniau bach, yn creu un llun mawr. Mynegir gwirionedd pwysig gan Holly am Monroe - tu ôl i’r ddelwedd fawr mae eiddilwch ac amrywiaeth personoliaeth Marilyn. Gellir benthyg y ddelwedd hon am bob un ohonom, ac am Iesu. O bell gwelir dim ond y ddelwedd, y darlun traddodiadol anemig a llipa, ond ... wrth fentro’n nes gwelwn amrywiaeth syfrdanol yr hyn oll yw Iesu i’w bobl ym mhob cwr a chornel o’r byd.

"Iesu, nid oes terfyn arnat." Amen

(William Williams 1717-91; C.Ff: 321)

(OLlE)