'GENESARET'

Wedi croesi at y tir daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. (Marc 6:53)

Terra Nova ...

Pawb a’i baned, a’i daflen ... ac ar y daflen honno’r geiriau: Byddaf ffyddlon i Gymru a theilwng ohoni; byddaf ffyddlon i’n cyd-ddyn, pwy bynnag y bo; byddaf ffyddlon i Grist a’i gariad ef.

 ninnau ar drothwy Eisteddfod lawen yr Urdd, buom yn fras drafod arwyddocâd a dylanwad yr arwyddair hwn, cyn troi a chanolbwyntio ar: Ffyddlondeb i Grist, trydydd cymal addewid Urdd Gobaith Cymru. Cytunwyd yn sydyn a syml mai dyma sail, sylfaen a symbyliad yr Urdd; ymlyniad wrtho a geidw’r Urdd i gyflawni’r gwasanaeth a fynnai ei roddi i Gymru ac i gyd-ddyn.

Awgrymwyd mai peth hawdd yw trafod Ffyddlondeb i Grist yn fras a chyffredinol; gwell o lawer buasai edrych yn ddyfnach i ystyr EIN ffyddlondeb i Grist. O wneud hynny ymhlith ein gilydd heddiw, ‘roedd y chwech ohonom yn lled gytûn fod Ffyddlondeb i Grist yn golygu ymgysegriad mewn corff, meddwl ac ysbryd. Gwelir ffrwyth cysegriad y corff yng ngwasanaeth ymarferol y Cristion: ein ffydd yn ffordd o fyw, ein credo mewn caredigrwydd. Golyga cysegriad y meddwl ein bod yn gwybod ein crefydd - rhaid cynnig a derbyn hyfforddiant er mwyn cael gafael ar oblygiadau deallol y ffydd a broffeswn. Yn sicr, nid oedd yn rhaid rhoi ystyriaeth hir i gysegriad yr ysbryd cyn i ni sylweddoli o’r newydd mor bwysig yw gweddi a gweddïo. Mae cyd-addoli a chyd-weddïo’n gwbl allweddol i’n ffyddlondeb ni i Grist. Awgrymodd un bod yn rhaid dod i addoli’r Arglwydd, gan feddwl nid am yr hyn y gallwn ofyn ganddo, ond am yr hyn y gallwn roddi iddo.

‘Genesaret’: cyfle am sgwrs a thrafodaeth werthfawr a da. Diolch am fendith yr awr fach hon yng nghwmni’n gilydd wrth ymyl llyn llonydd Parc y Rhath.

ADOLYGU? ARHOLIADAU?

Fydd e ddim yn gadael i dy droed lithro ...

Yr ARGLWYDD sy'n gofalu amdanat ti;

mae'r ARGLWYDD wrth dy ochr di

yn dy amddiffyn di.

(Salm 121: 3a,5 beibl.net)

O! Dduw - fy Nuw - wrth i mi wynebu’r cyfnod hwn o arholiadau, dwi’n teimlo braidd yn bryderus ac yn rhwystredig. Helpa fi i ganolbwyntio. Rho i mi feddwl clir i wneud hyd eithaf fy ngallu. Helpa fi i astudio gydag ymroddiad ac egni. Rho i mi lonyddwch fel y gallaf brosesu'n iawn y wybodaeth a ddysgais. Gad i mi gysgu’n dawel yn y nos fel fy mod wedi fy adfywio a’m hadnewyddu ar gyfer yr arholiadau ar y gorwel. Bydd gyda fi, fy Nuw gofalus, yn ystod yr amser anodd hwn. Yn ddiamau, bydd cyfnodau pan fydda i am ddianc a rhoi’r gorau iddi. Cynnal fi os gweli’n dda, O! Dduw. Arwain fi mewn cyfnod o ofid a phwysau gwaith a disgwyliadau. Helpa fi i fod yn fodlon gyda’r gwaith dwi wedi’i wneud ond hefyd helpa fi i weld lle gallaf wella’n academaidd yn y dyfodol. Amen.

GWREIDDIAU, GOLEUNI A MAETH

Y mae fel pren

wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr

ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor,

a'i ddeilen heb fod yn gwywo.

(Salm 1:3 BCN)

Yr hyn sy'n deillio o fyfyrdod dwys a thawel y Salmydd - ... myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. (Salm 1:2b BCN) - yw ffydd fyw. Y mae'r un sy'n ymhyfrydu yng ngair Duw yn cael ei gymharu â choeden ffrwythlon wedi ei phlannu ar lan afon. Y mae tri pheth sydd yr un mor angenrheidiol i'n ffydd ninnau ag i'r goeden, os yw am ffrwythloni. Yn gyntaf, gwreiddiau cryfion dyfnion. Mae gwir ffydd wedi ei wreiddio'n gadarn yn y Gair. Yn ail, goleuni. Ni all ein ffydd ddatblygu ac aeddfedu heb iddi gael ei goleuo trwy hyfforddiant, dysg a thrafodaeth agored. Yn olaf, maeth. Heb faeth ysbrydol, diffaith a digynnyrch fydd ein ffydd.

Gwna fi fel pren planedig, O! fy Nuw,
yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw,
yn gwreiddio ar led, a’i ddail heb wywo mwy,
yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy’.
Amen

(Ann Griffiths, 1776-1805; C.Ff:756).

(OLlE)