'YOU’RE GONNA HAVE TO SERVE SOMEBODY ...'

Ganed heddiw ym 1941, Bob Dylan.

You may be an ambassador to England or France ...

They may call you Doctor or they may call you Chief ...

You may be a preacher with your spiritual pride ...

Might like to wear cotton, might like to wear silk ...

You may be sleeping on the floor, sleeping in a king-sized bed ...

But you’re gonna have to serve somebody, yes indeed

You’re gonna have to serve somebody

Well, it may be the devil or it may be the Lord

But you’re gonna have to serve somebody.

(Gotta Serve Somebody o'r albwm

Slow Train Coming gan Bob Dylan

© 1979 Special Rider Music)

O ymrwymo i wasanaethu ein Harglwydd Iesu a gwasanaethu cyd-ddyn y canfyddwn wir ddedwyddwch a rhyddid go iawn. Wrth wasanaethu arall y deuwn o hyd i’n hunain gorau. Wrth wasanaethu Duw yng Nghrist y deuwn o hyd i wir ryddid. Amod rhyddid y Cristion yw ei fod yn ymostwng yn gyfan gwbl i awdurdod Crist. Mae George Matheson (1842-1906) yn cyfleu’r paradocs mewn modd arbennig o effeithiol:

Make me a captive, Lord,

and then I shall be free.

Yn awr, yr ydych wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod a’ch gwneud yn gaethweision Duw, ac y mae ffrwyth hyn yn eich meddiant, sef bywyd sanctaidd, a’r diwedd fydd bywyd tragwyddol (Rhufeiniaid 6:22 BCN).

... you’re gonna have to serve somebody, yes indeed

You’re gonna have to serve somebody

Well, it may be the devil or it may be the Lord

But you’re gonna have to serve somebody.

(OLlE)

1+1+1=1

A chwithau, wedi ichwi glywed gair y gwirionedd, Efengyl eich iachawdwriaeth, ac wedi ichwi gredu ynddo, gosodwyd arnoch yng Nghrist sêl yr Ysbryd Glân, yr hwn oedd wedi ei addo. Yr Ysbryd hwn yw’r ernes o’n hetifeddiaeth, nes ein prynu’n rhydd i’w meddiannu’n llawn, er clod i ogoniant Duw. (Effesiaid 1: 33-14 BCN)

Cariad Tri yn Un

at yr euog ddyn,

cariad heb ddim dechreuad arno,

cariad heb ddim diwedd iddo;

cariad gaiff y clod

tra bo’r nef yn bod.

(Gwilym Hiraethog 1802-83; Caneuon Ffydd 38)

Y Tri yn Un, a’r Un yn Dri, y Duw sy’n Dad, Mab ac Ysbryd Glân, yr hwn fel Crëwr sydd yn cynnal, fel Gwaredwr yn maddau ac eiriol trosom ac fel Ysbryd yn gwmni ar y daith. Cariad Tri yn Un ...

Ond, nid yw un yn dri na thri yn un! Eto, yn y Duwdod, mae felly! Nid esbonio’r dirgelwch yw’r nod, ond ei gofleidio, ei fyw! Ar ben tŵr Eglwys Holy Trinity, St Austell, Cernyw mae darlun mewn carreg o’r Drindod. I’w weld ar ei orau, rhaid camu yn ôl i sgwâr y farchnad a dringo grisiau yn y fan honno, cyn troi cefn ar sŵn a ffwdan y gwerthu a’r prynu, ac edrych i fyny. Cawn Dduw y Tad, fel brenin yr oesoedd, wedi ei goroni a’i orseddu ar gymylau’r nef. Mae Duw yn cynnal croes ac ar hon, mae ei fab, Iesu. Yn hedfan allan o law'r Tad, ac yn eistedd ar ben y Mab, yn wreiddiol ... ’roedd colomen, yn arwydd o’r Ysbryd Glân. Yn anffodus, mae’r gwynt a’r glaw wedi araf ddileu’r golomen, ac nid oes yno atgof ohoni. Rhaid i ni ei gweld hi â llygaid ffydd. Mae’r ffaith nad yw’r golomen yn weladwy yn symbol ynddo’i hunan o bresenoldeb anweledig, ond real ddigon, yr Ysbryd yn ein plith.

"O Dduw ein dirgelwch, ti sy’n ein dwyn i fywyd, yn ein galw i ryddid, ac yn symud rhyngom mewn cariad: gad i ni yn y fath fodd ymuno yn naws y Drindod, fel y bydd i’n bywydau d’adleisio di, yn awr a byth bythoedd." Amen

(Dawns y Drindod gan Janet Morley, cyf. Enid Morgan yn Amser i Dduw. Trysorfa o weddïau hen a newydd Gol. Elfed ap Nefydd Roberts Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf, 2004)

(OLlE)

NEWYDDION Y SUL

Velathon

Â’r strydoedd o’m cwmpas ar gau heddiw, tipyn o gamp oedd cyrraedd yr Oedfa yn Minny Street! Diolch am ddycnwch y sawl a wnaeth yr ymdrech. Nodweddir dau Sul olaf mis Mai gan 'Frethyn Cartref'. Dau o’n plith oedd yn cynnal oedfaon y dydd heddiw: y Parchedigion Gwilym Wyn Roberts a Dyrinos Thomas. Y Sul nesaf (29/5) bydd yr Oedfa Foreol o dan ofal aelodau Tu allan y Ddinas. Aelodau Parc y Rhath a’r Mynydd Bychan fydd yn cynnal yr Oedfa Hwyrol. Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul.

Un o’r PIMSwyr ffyddlonaf oll oedd yn arwain ein defosiwn heddiw: Ifan. Wedi darllen ‘Dewis a Chydwybod’: Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2016 gan Ieuenctid Cymru i Ieuenctid y Byd. Llawn haeddai’r neges ei chyhoeddi’n gyflawn. Diolch i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Maes Garmon, Yr Wyddgrug amdani.

Does ’na ddim cyfarwyddiadau gennym ni ar sut i adeiladu heddwch,

ond dyma beth rydym ni’n ei

gredu yw’r sylfeini:

Heddwch yw dangos parch.

Heddwch yw teimlo’n ddiogel.

Heddwch yw undod.

Heddwch yw …

Dewis di.

Gan mlynedd yn ôl, yn y Rhyfel Byd Cyntaf,

roedd dynion rhwng 18 a 41 oed yn cael eu gorfodi i

ymuno â’r fyddin.

"Does gen ti ddim dewis!"

Ond roedd cydwybod rhai yn dweud wrthynt fod ymladd yn anghywir. Felly mi wnaethon nhw greu

dewis iddynt eu hunain. Gwrthwynebu.

Roedd hon yn frwydr ynddi ei hun, ond roedden nhw’n credu mewn heddwch ac yn dewis heddwch.

Doedd o ddim yn ddewis hawdd ond roedd o’n ddewis dewr.

Heddiw, mae angen i ni fod yn ddewr, a gwrando ar ein cydwybod.

Wrth adeiladu wal mae pob bricsen yn cyfrif ac wrth adeiladu heddwch mae pob dewis yn cyfrif.

Felly …

… rydyn ni’n dewis dangos parch.

… rydyn ni’n dewis helpu eraill.

… rydyn ni’n dewis cymryd cyfrifoldeb.

… rydyn ni’n dewis derbyn eraill fel ag y maen nhw.

Wyt ti am gyd-adeiladu efo ni?

Yn sgil y neges, offrymwyd y weddi gryno gyfoethog hon gan Ifan:

Helpa ni i sefyll yn gadarn ac i wrando ar ein cydwybod. Helpa ni i wneud y dewis cywir er mwyn adeiladu wal gadarn yn ein bywyd. Er mwyn dy Enw. Amen.

Mam Ifan oedd wrth yr organ heddiw. Hyfryd gweld mam a mab yn cyfrannu tuag ein haddoliad y bore hwn.

Wedi’r defosiwn cafodd y Parchedig Gwilym Wyn Roberts gyfle i gyflwyno neges i’r plant. Ei fan cychwyn oedd ... y Velathon wrth gwrs. Gofynnodd iddynt beth oedd angen i reidio beic. Awgrymwyd ‘olwynion’, ‘pedalau’, ‘cloch’, ‘cadwyn’, ‘gerau’. Aeth Gwilym i’w fag a thynnu ohono: pwmp! Wrth gwrs! Rhaid wrth aer yn yr olwynion! Estyn eto i’r bag, ac o’i berfedd: balŵns. Peth digon llipa yw balwn heb aer, ond pan chwythir aer i’r balwn daw ffurf, siâp a sylwedd. Yn yr un modd, daw pobl Iesu Grist yn debycach i Iesu wrth gael ein llenwi gan anadl yr Ysbryd Glân.

Bu’r plant yn dysgu heddiw am waith a dylanwad yr Ysbryd Glân.

Ychydig enghreifftiau o waith plant yr Ysgol Sul

Man cychwyn pregeth Gwilym oedd y Sul aeth heibio: y Sulgwyn. Sul i ddathlu’r Pentecost. Gŵyl ydyw sy’n ein hatgoffa am ddylanwad parhaol-cynhaliol yr Ysbryd Glan. O’i chymharu â’r Nadolig a’r Pasg, mynnai Gwilym mai prin iawn yw’r sylw a roddir i’r Sulgwyn.

Gwahoddwyd ni felly i ystyried hyd a lled ein parodrwydd i ymagor i ddylanwad Ysbryd y Crist byw. Gellid gwylio ffilm mewn 3D. Pa mor eiddgar-awyddus ydym i ganfod a chroesawu'r Trydydd Dimensiwn Cristnogol: dylanwad yr Ysbryd Glân yn ein byw a’n bod?

Derbyniwch Yr Ysbryd Glân (Ioan 20:22 BCN) oedd anogaeth Iesu i'w ddisgyblion. Derbyn nerth yr Ysbryd deinamig hwn a’i harfogodd i fod yn dystion cadarn, ymroddgar a beiddgar. Mae Paul yn annog rhai o ganlynwyr Iesu i beidio â thristau'r Ysbryd Glân (Effesiaid 4:30-31). Onid ydym fel unigolion ac fel eglwys yn tristau’r Ysbryd Glân? Dywed John V. Taylor (1914-2001) yn ei lyfr sylweddol The Go-between God (SCM; 1972): We have turned the divine initiative into a human enterprise. A yw’n wir tybed, ein bod fel unigolion ac Eglwysi yn dibrisio grym a nerth y Trydydd Dimensiwn? Anogwyd ni gan Gwilym i ymagor i rym a gras yr Ysbryd Glân. Caniatawn iddo ein hadnewyddu, gan greu ohonom dystion gonest a gostyngedig i Iesu yng Nghymru.

Y Parchedig Dyrinos Thomas oedd yn cynnal yr Oedfa liw nos. Echel ei sylwadau oedd cyfuniad o Y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth Iesu. Petai pob un o'r rhain yn cael ei gofnodi, ni byddai'r byd, i'm tyb i, yn ddigon mawr i ddal y llyfrau fyddai'n cael eu hysgrifennu (Ioan 21:25 BCN) a Yr oedd llawer o arwyddion eraill, yn wir, a wnaeth Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, nad ydynt wedi eu cofnodi yn y llyfr hwn (Ioan 20:30 BCN). 'Roedd Ioan, awgrymodd Dyrinos, wedi cofnodi'r pethau y tybiai ef i fod yn allweddol bwysig. Dylid cofio mai pobl fel nyni a fu'n dewis a dethol pa lyfrau a llythyron y dylid eu cynnwys yn ein Testament Newydd. Ffolineb, mynnai Dyrinos, fuasai credu fod y ffydd Gristnogol gynnar wedi llwyddo i fodoli, lledu a gwasanaethu heb gymorth ddim byd ysgrifenedig tan yr Efengylau a llythyron Paul. Pan ysgrifennodd Ioan yr adnodau uchod, 'roedd yn gwbl ymwybodol fod yna drwch o ysgrifau eraill yn bodoli. Diddorol a buddiol yw ystyried rhai o'r llyfrau, llythyron ac efengylau na chynhwysid mohonynt yn y Testament Newydd.

Credai Dyrinos na ddylid caethiwo ein Cristnogaeth i’r Efengylau, a llythyron y Testament Newydd. Ehangir ein deall o Dduw, ac Efengyl Iesu Grist yn, a thrwy ein parodrwydd i ddarllen ac ystyried yr hyn nad sydd yn y Testament Newydd. Fel y dywed William Barclay (1907-1978): Human categories are powerless to describe Jesus, and human books are inadequate to hold him. Nid nod mo'r Beibl, ond cyfrwng i ledu a dyfnhau ein hadnabyddiaeth o gariad Duw yng Nghrist - y cariad hwnnw'n sydd yn cynnal yr hyn a wyddom, ac a ddown i wybod am natur Duw a'i ymwneud â ni, ei blant. I grynhoi, dyfynnwyd Hans Kűng (gan. 1928): The Christian believes not in the Bible, but in Him to whom it attests … ; The Christian believes not in tradition, but in Him whom it transmits … ; The Christian believes not in the Church, but in Him whom it proclaims.

Diolch i bawb am wneud yr ymdrech i ddod i’r Oedfaon heddiw. Buont yn fendith ac yn gynhaliaeth, a haeddai Owen ein diolch edmygus gan iddo gwblhau’r Velathon a chyrraedd mewn pryd i ganu’r organ!