'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (50)

‘Room For Hope’, Seyed Alavi (gan. 1973)

'Room for Hope'; Canolfan Gymunedol George Sim; Sacramento, Califfornia

Daw’r gyfres 'Deugain a Deg' i ben gyda darn o gelfyddyd gysyniadol - conceptual art. Seyed Alavi sydd biau’r gwaith. Mae Alavi yn Fwslim, ac yn byw a gweithio yng Nghaliffornia. Enw’r gwaith yw Room for Hope.

Gwelir amlinelliad o dŷ, gyda choeden yn tyfu yn ei ganol. Adeiledd o ddur ydyw, coch. Pedwar wal, a chrëir bob un o un o bedair llythyren y gair HOPE. Daw hynny’n amlwg dim ond wrth gerdded o gwmpas y tŷ.

Gan fod y tŷ wedi ei adeiladu o lythrennau ‘Hope’, gellid derbyn y goeden byw fel darlun o fywyd. Tyf bywyd - ffynna pob peth byw - o fewn ‘muriau’ Gobaith.

Mae pren ein ffydd yn tyfu oddi mewn i furiau’r pedair llythyren: I-E-S-U.

Cododd Iesu!

Un, daeth un yn ôl

dros riniog y tywyllwch;

daeth un yn ôl.

Dros ffin y cnawd marwol

y mae dystiolaeth, y mae

tystiolaeth fod yno oleuni sy’n anorchfygol.

(‘O Farw’n Fyw’;

Gwyn Thomas

‘Symud y Lliwiau’, 1981. Gwasg Gee)

Do, cododd Iesu! Am hynny, nid oes yr un sefyllfa ddynol yn anobeithiol mwyach.

Ffydd yn ei flodau yw Gobaith. Y mae Ffydd yn datgan fod Duw yn bod, a’i fod yn ein caru ni. Y mae Gobaith yn gweithredu ar y ffydd honno ac yn ein hannog i geisio Duw ym mhopeth a phawb. Gobaith yw grym Ffydd. Heb Obaith mae Ffydd yn disgyn yn ddarnau, ac yn y diwedd yn darfod amdano. Ebrill heb friallu yw Ffydd heb Obaith - Gwanwyn heb ŵyn bach. Trwy Ffydd ‘rydym yn canfod llwybr Cariad, ond Gobaith yn unig sy’n cadw ni ar y llwybr hwnnw.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (49)

‘Resurrection’, William Blake (1757-1827)

‘Resurrection’ (1805), William Blake (1757-1827)

Mae William Blake yn gosod ni yn y bedd, gyda Christ a 3 angel. Tra bod un angel yn gwthio’r maen o’r neilltu, mae’r ddau arall yn gwarchod y Crist newydd-atgyfodedig, a chasglu'r llieiniau. Awgryma osgo'r Crist ei fod ar fin codi ar ei draed, ystwytho, a chamu i newydd fore’r trydydd dydd.

Perthyn i’r llun hwn rhyw lonyddwch hyfryd. Daeth Iesu o farw’n fyw - trowyd y byd a’i ben i waered, tu chwith allan i gyd - ond gwnaethpwyd hynny’n dawel daclus, heb gynnwrf. Mae’r cyfan oll yn llwyr o dan reolaeth.

Yr Iesu atgyfododd

mewn dwyfol, dawel hedd ...

(Thomas Levi, 1825-1916; C.Ff:553)

Aethant hwythau a diogelu’r bedd trwy selio’r maen, a gosod gwarchodlu wrth law (Mathew 27:66).

... selio’r maen ... nid oedd y sêl, mae'n debyg, ond darn o gortyn, a dau damaid o wêr. Credwyd mai’r disgyblion buasai’n dod i ymyrryd â’r bedd. Prawf pendant o hynny fuasai’r sêl doredig! ‘Roedd yr awdurdodau’n sicr mai o du pobl y deuai’r ymdrech i gael Iesu o’r bedd. ‘Roedd yr awdurdodau yn poeni am bobl yn torri i mewn oddi allan.

Cawn ein hatgoffa gan Blake, fod y grym yn y bedd. Tra bod yr awdurdodau’n trefnu i atal pobl rhag torri mewn i'r bedd, ‘roedd Bywyd yn dawel paratoi i dorri allan. Tu ôl i’r maen mae’r grym - digon, mwy na digon o rym i dorri’r sêl, treiglo’r maen a ... newid byd.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

 

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (48)

‘Anghrediniaeth Thomas’, Giovanni Battista Cima, neu 'Cima da Conegliano' (c.1459-c.1517)

'Anghrediniaeth Thomas', (1502-4), Giovanni Battista Cima, neu 'Cima da Conegliano' (c.1459-c.1517); Oriel Genedlaethol Llundain

Allorlun oedd hwn. Bwriadwyd i’r llun fod yng nghrog uwchben allor eglwys Sant Thomas yn Portagruaro, ger Fenis. Crëwyd y llun i sefyll dros yr allor, yng ngolau’r Offeren. Yn wreiddiol, goleuir y llun hwn gan "Gwnewch hyn er cof amdanaf ..." (1 Corinthiaid 11:24b BCN). Rhannwyd y bara a’r gwin - Corpus Christi - yng nghysgod: Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a’i rhoi yn fy ystlys (Ioan 20:27 BCN). Bu Pobl Dduw yn derbyn ‘corff Christ’ wrth weld Thomas yn cyffwrdd â’r corff hwnnw, gan ddatgan "Fy Arglwydd a’m Duw!" (Ioan 20:28 BCN)

Yn y llun … Crist gyhyrog, ymlaciedig a 11 disgybl, a 9 ohonynt yn canolbwyntio ar y Crist byw, bendigedig hwn. Ond, mae 2 yn syllu atom ni.

Crëir pont ganddynt - pont rhyngddynt hwy a ninnau. Pan oedd llun da Conegliano yn ei briod le, uwchben allor eglwys, ‘roedd y ddau hyn yn tynnu ni: y rhai a gredodd heb iddynt weld (Ioan 20: 29 BCN) a nhw: … yr oedd y disgyblion unwaith eto yn y tŷ, a Thomas gyda hwy (Ioan 20:26 BCN) ynghyd.

Llun: Alias Archie

Bellach, mae’r llun yng ngrog ar wal oriel. Golyga hynny fod y ddeinamig wedi newid yn llwyr, ond er mor fawr y newid, nid drwg mohono. Nawr, eiddo’r ddau hyn amgenach gweinidogaeth. Nid creu cysylltiad mo gwaith y ddau hyn nawr, ond codi cwestiynau: ‘Beth, felly a weli di fan hyn? A weli di lun, jest hen lun: lliw, llewyrch, osgo a thechneg? Neu a weli di gysgod olau o’r Crist byw?’

Beth weli di felly? Hen lun, neu:

Christ the uncrucified

Christ the discrucified, his death undone,

His agony unmade, his cross dismantled.

(The Transfiguration, Edwin Muir (1887-1959); Collected Poems 1960.)

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

 

 

 

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (47)

‘Noli Me Tangere’, Titian (m. 1576)

‘Noli Me Tangere’ (c.1510-15), Titian (m. 1576). Oriel Genedlaethol Llundain

Credir fod Titian yn ei ugeiniau cynnar pan gwblhaodd y llun hwn. Llun bychan ydyw, 109 x 91cm. Bwriadwyd y gwaith i ystafell, neu gapel, ond nid i eglwys fawr. Gwrthrych myfyrdod ydyw, cyfrwng defosiwn personol.

Sylwch ar hyn nad sydd i weld … Mae’r haul yn codi, o’r golwg, tu ‘nôl Crist. O’r golwg hefyd, tu ‘nôl Mair, mae’r bedd gwag. Felly, beth sydd i weld? Crist a Mair! Ie, a chymaint eto. Gellid crynhoi cynnwys y llun i ddau air: ‘Cariad’ a ‘Tirwedd’. Sylwch sut mae’r goeden a’r berth yn ‘adleisio’ Iesu a Mair. Hanfod yr hyn sydd yn digwydd rhwng Iesu a Mair yw cariad. Mae osgo’r naill a’r llall yn ymgorfforiad o gariad. Mae Mair ar ei gliniau; mae ei llaw chwith yn gosod y peraroglau o’r neilltu, tra bod ei llaw dde yn estyn at, ac am y Crist. Mae ei llygaid yn pefrio o adnabyddiaeth: gobaith newydd, rheswm newydd i fyw. Mae Iesu yn tynnu oddi wrthi wrth bwyso ati - cariad. Yn ei law, mae hof neu fath o raw. Pam? Gan feddwl mai’r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, "Os mai ti, syr, a’i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe’i cymeraf fi ef i’m gofal." (Ioan 20:15 BCN).

Gan ddeisyf maddeuant pob un llawchwith, dylid cymryd yn ganiataol mai bwriad Titian yw ein bod yn gweld a deall mai Mair lawdde yw hon. Mae’r peraroglau a fu ganddi’n ddiogel yn ei llaw dde, bellach yn cael ei gosod o’r neilltu gan y llaw chwith. Symudwyd yr anobaith a’r torcalon - y peraroglau - ganddi o’i llaw dde i’w llaw chwith. Gosodir yr anobaith y torcalon o’r neilltu, er mwyn iddi gael estyn am obaith newydd y bywyd newydd yng Nghrist.

Dychwelwn at yr hyn nad sydd i weld … dwy linell grom. Dyma’r cyntaf, yn symud o droed dde'r Crist (sylwch mor las y borfa sydd wrth ei draed. Lle bynnag mae hwn yn sefyll, mae bywyd yn ffynnu.), i fyny ar hyd ymyl mewnol ei gorff, i fyny eto at dalcen y tŷ sydd yn olau o haul newydd y bore, ac ymlaen i’r adfail ar dop y bryn.

Mae’r llinell grom arall yn dechrau lle mae gwisg Mair yn gorffen. Llifa i fyny at ei phen, cyn saethu fyny ar hyd ymyl y goeden.

Mae’r naill linell a’r llall yn cynnwys a chario cymeriad a thirwedd. Mae llinell grom y Crist byw yn symud tuag at, a thros le mae pobl yn byw a bod. Mae un o drigolion y pentre’ eisoes allan yn cerdded y ci. Nid peth arallfydol mor Atgyfodiad, ond grym i gynnal bywyd pob dydd. Grym ydyw a’n galluoga ni i ymgynnal bob dydd, o ddydd i ddydd.

Mae llinell grom Mair yn llifo o’r llawr (sylwch mor ddifywyd y pridd lle mae Mair yn lledorwedd), trwyddi, a chan gyffwrdd talcen Iesu, saetha’n syth i fyny. Mae taflwybr y naill gymeriad a’r llall yn dweud cyfrolau amdanynt. Llifa llinell bywyd y Crist byw tuag at, a thros bobl. Llifa linell bywyd Mair, o’r llawr - reit lawr yn y baw - i fyny. ‘Ar i fyny’ mae hon: …aeth Mair Magdalen i gyhoeddi’r newydd i’r disgyblion, "Yr wyf wedi gweld yr Arglwydd", meddai … (Ioan 20:18 BCN)

Un peth bach mawr arall - y peth: mae’r ddwy linell grom yn croesi, Coesant wrth dalcen Iesu. Lle mae’r llinellau’n croesi gwelir hanfod ein ffydd: meddwl Crist. … y mae gennym ni feddwl Crist meddai Paul (1 Corinthiaid 2:16 WM).

Rhaid derbyn goleuni Meddwl Crist. Pobl sicr eu cam, hyderus eu hosgo, doed a ddelo, yw'r sawl all ddweud mewn gwirionedd: … y mae gennym ni feddwl Crist. Gyda Meddwl Crist, gwyddom fod daioni’n gryfach na drygioni; mae goleuni’n gryfach na thywyllwch; bywyd yn gryfach na marwolaeth. Ni biau’r fuddugoliaeth yn a thrwy Crist Iesu.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)