'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (46)

‘La Resurrezione’,  Pericle Fazzini (1913 -1987)

‘La Resurrezione’ (1977), Pericle Fazzini (1913 -1987); Aula Paolo VI, Y Fatican

Mae’r cerflun ‘La Resurrezione’ gan Pericle Fazzini yn anferth! 20m × 7m × 3m! 8 tunnel fetrig! Crëwyd yr anferth hwn o gerflun o aloi efydd a chopr. Cyfleuir anferthedd yr Atgyfodiad: 'ffrwydrad' o fywyd ydyw. Gwrthgyferbynnwyd gan Fazzini dau fath o ffrwydrad: ffrwydrad niwclear - angheuol a dinistriol, â 'ffrwydrad' yr Atgyfodiad - 'ffrwydrad' o fywyd a bendith.

Gwelir y cerflun yn yr Aula Paolo VI. Campwaith concrit o eiddo’r pensaer Pier Luigi Nervi (1891-1979). Yn yr Aula Paolo VI cynhelir gwrandawiad wythnosol y Pab.

Mae’r ‘La Resurrezione’ yn ennyn ymateb! Prin fod yr un portread arall o’r Atgyfodiad yn destun y fath edmygedd ... ac atgasedd. Myn rhai mai demonig y cerflun hwn!

Hoffaf y 'ffrwydrad' hwn o gariad byw. Dyma rym sydd filwaith cryfach nag angau a phob anghariad. Nid grym i ddinistrio ac i reoli eraill mo hwn - nid grym arfau a phŵer milwrol - ond nerth Duw ydyw: grym yr Efengyl a rhin y Bywyd sydd yng Nghrist Iesu.

Mae anferthedd y cerflun hwn yn amlygu bychander pobl. O Ildio i rym 'ffrwydrad' hwn - ac ildio sydd raid - llifa’r grym adfywiol yr Atgyfodiad i’n byw a’n bod.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

TYMOR Y PASG - 'DEUGAIN A DEG' (5)

Nid Sul, ond tymor yw'r Pasg: y deugain diwrnod a deg rhwng Sul y Pasg a'r Sulgwyn. ‘Rydym fel eglwys eleni yn cadw Tymor y Pasg, a hynny trwy gyfrwng myfyrdod byr beunyddiol ar y wefan, pwt o neges drydar, a phump o gyfarfodydd liw nos. Daethom heno i’r olaf o rheini. Buom yn trafod her a gwefr yr Atgyfodiad trwy gyfrwng y delweddau isod:

‘Resurrection’, Alma Woodsey Thomas (1891-1978)

Yr ‘Anastasis’ (Atgyfodiad) 14 ganrif. Mosg Kariye, Istanbul

‘Cerdded i Emaus’, Ivanka Demchuk (gan. 1974)

‘La Resurrezione’, Pericle Fazzini (1913 -1987)

‘Noli Me Tangere’ (c.1510-15), Titian (m.1576)
 

Mair Magdalen oedd y tyst cyntaf i ffaith yr Atgyfodiad. Daeth miliynau ar ei hôl hi, ond hi oedd y cyntaf. "Yr wyf wedi gweld yr Arglwydd" … (Ioan 20:18 BCN), meddai hi wrth y disgyblion yn llawen, a dyna weld oedd hwnnw, gweld annisgwyl, gweld anhygoel, gweld ardderchog, gweld â llygaid ffydd a gweld dros dragwyddoldeb. Dyma gyffes pob Cristion: "Yr wyf wedi gweld yr Arglwydd", ei weld Ef ar ei newydd wedd, ei weld Ef fel gorchfygwr angau, ei weld Ef yn holl rym ei allu anferthol. Bu'r gyfres hon yn gymorth i'r 'gweld' hwnnw, a diolch amdani.

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (45)

‘The Return from the Crucifixion’, Henry Ossawa Tanner (1859 -1937)

‘The Return from the Crucifixion’ (1936), Henry Ossawa Tanner (1859 -1937); Fisk University, Nashville

Dyma Mair Magdalen; Mair, mam Iesu ac Ioan yn dychwelyd o Olgotha ... Amlwg eu tristwch, tristwch tywyll ydyw; ond mae cefndir y llun mor olau!

Mae tywyllwch yn dynn am Ioan, a mam Iesu; ond mae golau’r cefndir wedi cydio yn Mair Magdalen eisoes. Mae hi’n olau ohono. Yn yn y gwrthgyferbyniad rhwng tristwch tywyll Ioan a Mair, mam Iesu a golau olau’r cefndir, mae Tanner yn llwyddo i gyfleu'r hyn na allai’r tri hyn weld: eich galar, troer yn gân! Eich gofid, troer yn llawenydd! Marwolaeth, troer yn fywyd. Daw gwawr, ac i’r gwawrio hwn, ni fydd machlud mwy.

Cododd Iesu!

Nos eu trallod aeth yn ddydd.

(E. Cefni Jones, 1871-1972; C.Ff:550)

... hwn yw’r golau mawr a rydd

obaith gwell i blant y ffydd.

(D. Glyn Lewis, 1916-81; C.Ff: 554)

‘The Three Marys’, Henry Ossawa Tanner (1859 -1937)

‘The Three Marys’, (1910) Henry Ossawa Tanner (1859 -1937); Fisk University, Nashville

Mae’r maen mawr wedi ei threiglo ... dyma angel: Yr oedd ei wedd fel mellten a’i wisg yn wyn fel eira (Mathew 28:3 BCN). Nid yw Tanner yn caniatáu i ni weld yr angel; gwelwn yn hytrach effaith yr angel, ei ddylanwad. Gwelir gwawl o olau sydd yn cydio yn y tair hyn, yn eu cofleidio, cynnal a'u gwefreiddio.

Mae’r golau hwn yn amlwg heddiw - gellid ei weld yn llygaid ac enaid y sawl a glywodd y neges oesol gyfoes, bythol newydd: Peidiwch chwi ag ofni ... y mae wedi ei gyfodi ... (Mathew 28:5 BCN).

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (44)

‘Noli Me Tangere’, Graham Sutherland (1903-80)

'Noli me Tangere' (1960), Graham Sutherland (1903-80); Cadeirlan Chichester

Na chyffwrdd â mi (Ioan 20: 17 WM). Dyma ddehongliad Graham Sutherland. Sylwch ar y blociau caled o liw: ocr a glaswyrdd. Onglog hefyd y grisiau; hyn oll mewn gwrthgyferbyniad â meddalwch crom y ddau gymeriad: Iesu a Mair. Defnyddir y gwrthgyferbyniad hwn gan Sutherland i amlygu natur dyner a chariadlawn y cyfarfyddiad hwn. Mae Mair i weld wedi ei dirdroi gan erchylltra Calfaria - mae rhywbeth annaturiol am ystum ei chorff:

Y Fadlen ddewr, bu sŵn y dyrfa’n ei chlyw

am ddyddiau, a chableddau’r milwyr

fel libreto i fiwsig anwaraidd yr hoelion

yn rhygnu’r ymennydd.

Druan ohoni, i ba le y ffôi rhag y fath uffern?

Mair, (Dei Gratia; Barddas, 1984) gan Rhydwen Williams (1916-97)

Cyfleuir gan Sutherland agosrwydd a phellter, aduno a gwahanu. Gwelir yng nghyfuniad wyneb a llaw Mair mynegiant o lawenydd y sylweddoliad fod Iesu’n fyw: Meddai Iesu wrthi, "Mair." Troes hithau, ac meddai wrtho yn iaith yr Iddewon, "Rabbwni". (Ioan 20:15,16 BCN), ond hefyd gwewyr yr ymwahanu: "Paid â glynu wrthyf, oherwydd nid wyf eto wedi esgyn at y Tad ..." (Ioan 20:17 BCN).

Mae Iesu’n plygu dros ganllaw'r grisiau, a’i law dde yn gwahardd Mair rhag cyffwrdd ag ef, ond mae’r ystum yn llwyddo hefyd i gyfleu cysur a bendith. Mae llaw chwith yr Iesu yn dangos y rheidrwydd sydd arno ... esgyn at y Tad ...

Ar Ddydd Iau Dyrchafael ffarweliwn ag Iesu Bethlehem, Calfaria ac Emaus, ond gyda’r Pentecost, daw Iesu drachefn i fod yn llond pob lle, presennol ym mhob man (David Jones, 1805-68; Caneuon Ffydd 76)! Crist ynom! Gyda’r Pentecost bydd Iesu o fewn cyrraedd i bawb, a phawb o fewn cyrraedd i Iesu!

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

TIBERIAS

Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias ...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’... a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)

Llun: Itay Bav-Lev

‘Tiberias’: egwyl fach a’r ddechrau’r dydd i bwyllo, ymdawelu ac o ogwyddo ein meddwl at Dduw.

Ers dechrau ym mis Medi 2015, buom o fis i fis yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10); gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15; 16/11). Ym mis Rhagfyr, echel ein myfyrdod oedd gweddi Heseceia (2 Brenhinoedd 19:8-19). Ym mis Ionawr (4/1) gweddi Jona (Jona 2), a gweddi Jeremeia (17:14-18) fu gwrthrych ein myfyrdod ym mis Chwefror (1/2). Proffwydi Baal a phroffwyd yr ARGLWYDD yn gweddïo oedd testun ein sylw ym mis Mawrth (14/3). Samson a Steffan yn gweddïo (Barnwyr 16:25-30 ac Actau 7:54-60) oedd testun ein sylw ym mis Ebrill (11/4). Heddiw, Gweddi’r Gwas Ffyddlon (Genesis 24:12-27).

Ceir rhyw ffresni a phrydferthwch mawr yn y stori hon am was hynaf Abraham yn teithio i geisio priodferch i Isaac, mab ei feistr.

Sylwer mor gwbl anhunanol yw’r gwas, a’i unig ddymuniad yw cyflawni cais ei feistr. Y mae ei weddi am arweiniad yn llawn ffydd yn Nuw, a chariad at ei feistr. Y mae ei fynegiant godidog o ddiolchgarwch yn llawn moliant am drefn rhagluniaeth Duw: "Bendigedig fyddo’r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham am nad ataliodd ei garedigrwydd a’i ffyddlondeb oddi wrth fy meistr." Genesis 24:27 BCN).

Rhaid ceisio dysgu, o ddydd i ddydd, pa fodd y mae Duw yn mynegi ei ewyllys i ni. Yn sicr y mae yn gwneud trwy weddi. Y mae'r rhai sy’n byw yn agos at Dduw yn canfod ei fod yn amlygu ei ffordd iddynt trwy bethau cyffredin bywyd, ac yn rhoi rhyw arwyddocâd arbennig iddynt.

Ar hyd taith ein bywyd un o’n prif ofalon fydd ymorol bod enw ein Meistr yn cael ei ogoneddu, a bod ewyllys y Meistr a’n galwodd i’w wasanaethu yn cael ei chyflawni. Felly, yn sicr, wrth ymroi i wneud ei ewyllys Ef, y canfyddwn ni ein tangnefedd a’n llawenydd.

Diwedd yr hanes hyfryd hwn yw bod y weddi yn cael ei hateb, ac mewn modd mor ddymunol: Yna atebodd Laban a Bethuel, a dweud, "Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth hyn ... (Genesis 24:50a BCN).

Weithiau bydd gennym ofn gofyn i Dduw am ryw beth. Ond dysgodd Iesu i ni ofyn yn ddibryder, yn eofn. Y mae bob amser yn barod i roi mwy nag a ofynnwn, nac a haeddwn. Derbyn hyn yw, am wn i o leiaf, un o wersi mwyaf ac anoddaf ein ffydd.

Ie, bychan y cwmni ond mawr y fendith â’r tri ohonom yn dechrau’r dydd mewn gweddi, myfyrdod a defosiwn.

 

 

 

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (43)

‘Road to Emmaus’, James B. Janknegt (gan. 1948)

‘Road to Emmaus’, James B. Janknegt (gan. 1948)

Ond heb yn wybod iddynt

Daeth un, yn drydydd, y dydd hwnnw

I fod yn ymdeithydd gyda hwy.

Gofynnodd ynghylch eu galar.

Ni wyddai y trydydd hwn, meddai,

Am na bedd na diwedd.

A dywedasant hwythau am y pethau

A aeth â’u gobaith ymaith.

A dywedwyd hefyd am ddychryn

Y bedd heb gorff a gweledigaeth o angylion.

‘O ynfydion,’ meddai yntau

A dehongli iddynt yr Ysgrythurau -

Yr hyn a ddywedid yno

Am yr un a oedd i ddyfod, ac am y croeshoelio.

Emäus (Symud y Lliwiau; Gwasg Gee 1981) gan Gwyn Thomas (1936-13/4/2016).

Dyma’r union drafodaeth a bortreadir gan Janknegt. Cyflwynir y daith i gyd mewn un llun. Yn y cornel chwith Jerwsalem: Traddododd ein prif offeiriad ac aelodau ein Cyngor ef i’w ddedfrydu i farwolaeth ...; tair croes Golgotha ... fe’i croeshoeliasant ef. Yn y cornel de gwelir y bedd gwag ... at hyn oll, heddiw yw’r trydydd dydd er pan ddigwyddodd y pethau hyn. (Luc 24:20,21 BCN).

"Mor ddiddeall ydych, ac mor araf yw eich calonnau i gredu’r cwbl a lefarodd y proffwydi!" ... A chan ddechrau gyda Moses ... (Luc 24:25-27). Sylwch ar y tair cylch: yn y cyntaf Moses a’r Sarff Bres (Numeri 21:4-9). Yn yr ail gwelir y pysgodyn yn chwydu Jona ar y lan (Jona 2). Yn y trydydd Aberthu Isaac (Genesis 22:1-19). Chyfleuir gan y tair stori ufudd-dod a gwaredigaeth. Yng nghornel isaf y llun gwelir eiliad yr adnabod: Agorwyd eu llygaid hwy ac adnabuasant ef (Luc 24:31 BCN).

Sylwch ar Iesu - prysur ydyw yn dehongli ac esbonio. Ein gobaith ni, meddai Cleopas, oedd mai ef oedd yr un oedd yn mynd i brynu Israel i ryddid...(Luc 24:21a). Cawsant eu siomi yn y Crist a wrthododd bod yn ateb i’w cwestiwn hwy. Ni fu sôn am yr Atgyfodiad yn ddigon i symud eu siom: ...fe’n syfrdanwyd gan rai gwragedd o’n plith ... dychwelsant gan daeru eu bod wedi gweld angylion yn ymddangos, a bod y rheini yn dweud ei fod ef yn fyw (Luc 24:24 BCN). Dyma a welir yn y llun hwn: Crist y cwestiwn yn symud y siom, yn deffro’u hyder. Agorir llygaid y ddau gan gwestiwn y Cwestiwn mawr: Onid oedd yn rhaid i’r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i’w ogoniant? (Luc 24:26 BCN). A’u hymateb? Cwestiwn: Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro’r Ysgrythurau inni? (Luc 24:32 BCN).

Onid ffydd yw cwestiynu ac annog-gwestiynu? Mae gofyn cwestiynau mawr yn bwysicach na bod mewn ffordd i gynnig atebion bach. Boed i Dduw gynnal ynom ymchwil barhaus amdano, gan mai parhad yr ymchwilio hwn yw’r ffordd at galon ein ffydd.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)