'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (42)

‘Mair Magdalen yn yr Ardd’, Anhysbys.

‘Mair Magdalen yn yr Ardd’, Anhysbys.

Heddiw ... cerflun. Cerflun cywrain o Fair o Fagdala. Mae’r cerflunydd anhysbys wedi llwyddo i gael talp o farmor i gyfleu rhyfeddod y foment fawr honno: Meddai Iesu wrthi, "Mair." (Ioan 20:16a BCN)

Un gair, ‘Mair’, a’r marw

a gyfododd yn fyw ...

Un gair a dorrodd ei hiraeth,

Un gair a drywanodd ei holl amheuaeth ...

O Farw’n Fyw, (Symud y Lliwiau; Gwasg Gee 1981) gan Gwyn Thomas (1936-13/4/2016).

Wrth syllu i wyneb y Mair hon, mae’n briodol i ni feddwl munud am y wraig ryfeddol a bortreadir gan y cerflunwaith hyfryd hwn. Gwell glynu wrth y ffeithiau Ysgrythurol na phwyso gormod ar y traddodiadau sydd, o’i chwmpas yn troi a throelli. Er enghraifft, nid oes sail ddigonol i’r dybiaeth mai hi oedd y bechadures yn nhŷ Simon y Phariseaid (y stori rymus a gofnodir yn Luc 7), na chwaith i’r traddodiad iddi unwaith fod yn ferch ifanc nwydwyllt!

Beth bynnag am ei gorffennol nid oes amau iddi fynd drwy ryw gyfnewidiad ysgubol. Ffordd yr Efengylau o ddweud hynny yw i’r Arglwydd Iesu fwrw allan saith o gythreuliaid ohoni. Gallai’r rheini olygu unrhyw gymysgedd o anhwylderau corfforol a meddyliol, ac o dan law’r Meddyg Mawr fe aeth Mair yn greadigaeth newydd.

Ni allai hithau ddiolch digon iddo, ac ni fu disgybl ffyddlonach i Iesu ar hyd ei weinidogaeth. ‘Roedd hi ymhlith yr olaf wrth y groes, ac yn un o'r cyntaf wrth y bedd gwag ar fore’r trydydd dydd. Iddi hi yr ymddangosodd y Crist Atgyfodedig gyntaf, a gwefreiddiol yw’r cofnod hwn - mewn marmor - o’r hanes amdano ef yn ei chyfarch wrth ei henw Mair yn yr ardd. Ni allai neb arall ynganu ‘Mair’ yn union fel Iesu!

Ymdawelwch a darllen Ioan 20:1-18. Ystyriwch yn fyfyrgar fel na all neb arall ynganu ein henw ninnau yn union fel Iesu.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (41)

‘Cenhadaeth Pedr’, Raffaello Sanzio da Urbino (Raphael) (1483-1520)

Mae’r darlun gwreiddiol yn y Victoria and Albert Museum yn Llundain. Un ydyw o’r deg braslun a beintiwyd fel rhan o gomisiwn enfawr gan y Pab Leo X am ddeg tapestri enfawr i Gapel Sixtus, y Fatican. Mae neges y braslun hwn yn glir a chadarn: 11 disgybl, Pedr ar ei luniau, a’r Crist byw cyhyrog â'i law chwith yn cyfeirio at y Pysgotwr Mawr (sylwch ar yr allwedd fawr yn llaw Pedr; Mathew 16:19), â’i law dde yn cyfeirio at y defaid a’r ŵyn: "Portha fy ŵyn."

"Simon fab Ioan, a wyt ti’n fy ngharu i yn fwy na’r rhain?" Atebodd (Pedr), "Ydwyf, Arglwydd, fe wyddost ti fy mod yn dy garu di." Meddai Iesu wrtho, "Portha fy ŵyn." (Ioan 21:15 BCN)

Caru a Gwasanaethu. I’r ddau air hyn cywesgir holl ddyletswydd y Cristion, a thrwyddynt diffinnir ystyr ein Ffydd. Mater o garu a gwasanaethu yw dilyn Crist - dyma swm a sylwedd ei Efengyl fawr - dyma ei deunydd hi a dyma ei dull hi, a dyma ei gogoniant a’i gwyrth hi.

"Portha fy ŵyn." Ein dyletswydd gyntaf ni os ydym yn caru’r Arglwydd Iesu Grist yw ymboeni am y to sy’n codi. Maint ein gofal am y to sy’n codi yw maint ein cariad ni at Grist. "Portha fy ŵyn." - ein dyletswydd ni yw honno. Nid dyletswydd yr awdurdod addysg, nid cyfrifoldeb y wladwriaeth les, nid baich llywodraeth gwlad; ni allwn ddirprwyo’r baich hwn i neb. Gall ein hysgolion ddysgu crefydd i’n plant, ond ni allant ddysgu Crist. Nyni biau’r dasg hon, nyni a gafodd y gwaith hwn i’w gyflawni. Nid yw’r peth sanctaidd hwnnw a elwir yn ‘blentyn’ yn gwbl ddiogel heb ofal eglwys a’i phobl. Porthi ŵyn yw’r hawl cyntaf ar ein hegni a’n meddwl a’n calon.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (40) DYDD IAU DYRCHAFAEL

'Dyrchafael Crist', Pacino di Bonaguida (1280-1340)

Dychmygwch eich bod newydd ffarwelio ag un o’ch ffrindiau pennaf. Y mae hwnnw neu honno wedi dewis ymfudo i ben draw’r byd - annhebyg iawn iawn yw byddwch yn gweld eich gilydd byth eto. Sut felly i chi’n teimlo? Yn llawen? Llawen?! Ni fyddai neb call yn disgwyl i chi fod yn llawen â chithau’n wedi gorfod ffarwelio â chyfaill annwyl a da!

Ond, dyna’n union sut y mae Luc yn disgrifio’r disgyblion yn syth ar ôl esgyniad Iesu: ... dychwelsant yn llawen iawn i Jerwsalem (Luc 24:52 BCN). Sut mae deall hyn? Onid oeddent yn teimlo’n ddigalon, ar goll, wedi drysu? Onid oedd eu tristwch yn llethol wedi colli ohonynt gyfaill cu ac athro annwyl? Na, meddai Luc. ‘Roeddent yn llawen, ‘roeddent yn y Deml o hyd fyth, (Luc 24:53) yn mynegi’r llawenydd hwnnw i bawb a’u clyw.

Er bod Iesu wedi gadael ei gyfeillion unwaith o’r blaen, ‘roedd wedi dychwelyd atynt. Fe ymddangosodd iddynt drosodd a thro, ond y tro hwn, ‘roedd wedi mynd, byth eto i ddychwelyd atynt, ac fe wyddent hwythau hynny. Beth felly sy’n esbonio’r llawenydd hwn? Gwaelod a gwraidd eu llawenydd oedd eu hargyhoeddiad mai dechreuad oedd yr esgyniad. Er eu bod yn colli presenoldeb cig-a-gwaed-cnawd-ac-asgwrn Iesu, gwyddent y byddai ef gyda hwy o hyn allan mewn ffordd wahanol, newydd...a llawer iawn gwell. ‘Roedd y Iesu y daethant i’w adnabod a’i garu yng Ngalilea a Jerwsalem yn Iesu llond un lle, presennol yn un man, ond yn sgil yr esgyniad yr oedd bellach yn llond pob lle, fel meddai David Jones, Treborth, (1805-68; C.Ff:76), presennol ym mhob man.

Y gred hon oedd sail argyhoeddiad Paul: Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau ac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grëwyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd (Rhufeiniaid 8:38,39 BCN). Gyda’r sicrwydd hwn y dychwelodd y disgyblion i Jerwsalem mewn llawenydd. Boed i’w llawenydd hwythau ddysgu ein llawenydd ninnau.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

 

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (39)

‘Y Gwragedd wrth y Bedd Gwag’, Maurice Denis (1870-1943)

‘Y Gwragedd wrth y Bedd Gwag’, Maurice Denis (1870-1943); 1894. Musee Maurice Denis-Le Prieuré, Saint-Germain-en-Laye, Ffrainc.

‘Y Gwragedd wrth y Bedd Gwag’, Maurice Denis (1870-1943); 1894. Musee Maurice Denis-Le Prieuré, Saint-Germain-en-Laye, Ffrainc.

Mae Denis yn gosod drama fawr yr Atgyfodiad yn erbyn cefnlen Ffrainc wledig ei gynefin. Rhaid gosod yr Atgyfodiad yn y presennol - ein presennol. Dyna galon neges y Testament Newydd. Nid sôn a wna am Grist a fu unwaith yn Atgyfodedig, ond taeru fod Crist yn fyw heddiw, nawr. Y gyfrinach fawr yw gweld ac adnabod y Crist byw sydd ar waith ynghanol amrywiaeth pethau presennol, mawr a bach, ein byw a bod. Ond, lle mae’r Crist byw yn y llun hwn? Nid amlwg mohono ...

Fe ddilynodd y gwragedd oedd wedi dod gyda Iesu o Galilea, a gwelsant y bedd a’r modd y gosodwyd ei gorff (Luc 23:55 BCN)

Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd ... (Luc 24:1 BCN)

Yn ôl y pedair Efengyl, merched oedd y cyntaf i dderbyn y newydd am yr Atgyfodiad: yr olaf wrth y groes, a’r cyntaf wrth y bedd gwag. Ond, mae yma bedair; tair mewn oed, ac un ieuengach. Pam 4? Mae anghysondeb o ran enwau’r gwragedd hyn. Sonnir yn Luc am ... Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago (Luc 24:10 BCN); yn Marc, am ... Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome (Marc 16:1 BCN); Yn Mathew, dim ond Mair Magdalen a’r Fair arall (Mathew 28:1) ddaeth i’r bedd, ac yn ôl Ioan (Ioan 20:1 BCN), dim ond Mair Magdalen ddaeth y bore hwnnw. Awgrymir felly, fod Denis yn cynnwys Mair Magdalen, Joanna, Mair mam Iago a Salome.

... dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt mewn gwisgoedd llachar (Luc 24:4 BCN).

Dynoda gwisg y ddau ddyn mai angylion ydynt. Mae anghysondeb eto o ran manylion rhwng y gwahanol Efengylau. Dau ddyn a geir yma ac yn Efengyl Marc (16:5), Angel yr Arglwydd yn ôl Mathew 28:2 a dau angel yn ôl Ioan 20:12!

... dyma ddau ddyn, y naill a’r llall yn cyfeirio’n sylw at Grist - gwreichionen o Grist ydyw; yn wenfflam o fywyd! Crist yn mynd o’ch blaen chwi i Galilea ... (Marc 16:7 BCN).

Pwy yw hon, yr ei gliniau ar y llwybr, wrth y goeden honno yn wefr o flodau? Awgrymir gan rywrai mae’r Magdalen ddewr yw hon. Ceir sawl portread o’r Atgyfodiad felly, o fewn ‘ffrâm’ y llun hwn.

Awgrymir gan eraill, mai Mair, mam Iesu yw hon. Er mor ddieithr y traddodiad hwn i ninnau fel Anghydffurfwyr, gwelir sawl portread ohono. Gwelir isod, dehongliad Guercino (1591-1666) o’r cyfarfyddiad hwnnw.

'Crist yn ymddangos i'r Forwyn Fair', Guercino (1591-1666)

'Crist yn ymddangos i'r Forwyn Fair', Guercino (1591-1666)

Un sylw ychwanegol: y ffens. Beth yw ffydd yng ngoleuni’r Atgyfodiad? Chwilio am lwybrau newydd, agor gatiau; ac os nad oes gatiau, neidio dros ben y ffensys! Os oes ffensys rhyngom â Christ, rhyngom â’n cyd-Gymry, rhaid wrth eglwysi llamgar. Heb lamgarwch mae’r eglwys fel malwen yn ymlusgo neu bry lludw yn ymlwybro!

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

TYMOR Y PASG - 'DEUGAIN A DEG' (4)

Nid Sul, ond tymor yw'r Pasg: y deugain diwrnod a deg rhwng Sul y Pasg a'r Sulgwyn. ‘Rydym fel eglwys eleni yn cadw Tymor y Pasg, a hynny trwy gyfrwng myfyrdod byr beunyddiol ar y wefan, pwt o neges drydar, a phump o gyfarfodydd liw nos. Er bod y myfyrdodau beunyddiol yn newid cyfeiriad o hyd fyth, mae’r cyfarfodydd hyn yn dilyn trywydd penodol; heno: Iesu’n Ymddangos i’r Saith Disgybl; Adferiad Pedr a’r Disgybl Annwyl (Ioan 21), a hynny trwy gyfrwng y delweddau isod:

‘Crist wrth lan Môr Galilea’, Jacopo Tintoretto (1519-1594)

‘Crist wrth lan Môr Galilea’, Jacopo Tintoretto (1519-1594)

‘Miraculous Draught of Fishes’, John Reilly (1928-2010)

‘Miraculous Draught of Fishes’, John Reilly (1928-2010)

‘By the Beach’, Cody F. Miller (gan. 1972)

‘By the Beach’, Cody F. Miller (gan. 1972)

‘Cenhadaeth Pedr’, Jacob Jordaens (1593-1678)

‘Cenhadaeth Pedr’, Jacob Jordaens (1593-1678)

‘Circle’, Peter Funch (gan. 1974)

‘Circle’, Peter Funch (gan. 1974)

‘Peter and John Running to the Sepulchre on the Morning of the Resurrection’, Eugène Burnand (1850-1921)

‘Peter and John Running to the Sepulchre on the Morning of the Resurrection’, Eugène Burnand (1850-1921)

Yn ystod yr wythnos ddryslyd honno yn dilyn gosod corff Iesu mewn bedd, try Pedr at ei gyd-ddisgyblion, a dweud: Wn i ddim beth amdanoch chi, ond fedra i ddim goddef hyn ddim hwy, - mae’n rhaid i mi gael gwneud rhywbeth neu ddrysu - dwi’n mynd i bysgota. A ninnau, meddai’r gweddill, fe ddown hefyd, ac i ffwrdd â nhw ... ac wrth bysgota cawsant weledigaeth; cawsant weld Iesu.

Neges fawr Ioan 21 yw bod i waith ei weledigaeth arbennig ei hun - daw i’r sawl sy’n ymroi i wasanaeth dros ei Arglwydd gyfle arbennig i weld Iesu. Y mae rhai pethau na fedrwch chi mo’u deall nhw heb garu - amod deall yw caru. Ond, mae rhai pethau - pethau mawr ysbrydol a thragwyddol - na fedrwch chi mo’u deall nhw heb weithio! Amod y deall yw’r gweithio. Trwy wasanaeth y deellir. Bob tro y mae pobl Crist yn dal ar ystyr gwaith a gwasanaeth Cristnogol yr ydym yn derbyn golwg newydd -gwerthfawrogiad newydd - o Iesu, ein Harglwydd. Y mae pob mymryn o waith a wneir er mwyn Iesu a thros Iesu, yn dyfnhau’n hadnabyddiaeth o Iesu. Y mae gwaith yn addoliad - y mae ymegnio’n foliant, y mae llafurio’n weledigaeth, y mae gwasanaeth yn ddatguddiad.

Diolch am gyfarfod hyfryd iawn. Yng nghyfarfod olaf y gyfres byddwn yn bwrw golwg dros amrywiol bortreadau a dehongliadau o Atgyfodiad ein Harglwydd Iesu.

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (38)

‘The Road to Emmaus’, Daniel Bonnell (gan. 1954)

‘The Road to Emmaus’, Daniel Bonnell (gan. 1954)

‘The Road to Emmaus’, Daniel Bonnell (gan. 1954)

Mae Daniel Bonnell yn byw a gweithio yn yr Unol Daleithiau. Mae Bonnell yn gyson ymdrin â hanesion cyfarwydd y Beibl, a hynny yn effeithiol iawn.

Meddai wrthynt, "Beth yw’r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?" Safasant hwy, a’u digalondid yn eu hwynebau. Atebodd yr un o’r enw Cleopas, "Rhaid mai ti yw’r unig ymwelydd â Jerwsalem nad yw’n gwybod am y pethau sydd wedi digwydd yno y dyddiau diwethaf hyn." "Pa bethau?" meddai wrthynt. Atebasant hwythau, "Y pethau sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth ..." (Luc 24:17-19 BCN)

Sylwch ar liwiau’r llun: Du.

Du: Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael (Salm 22:1 BCN).

Du ein dyfnderau dynol; du'r enbydrwydd sydd mewn pobl.

Du tywyllwch dydd - nos dywyll o ganol dydd hyd dri o’r gloch y pnawn.

Du ymerodraeth Pilat

Du crefydd Caiaffas

Du breuddwyd Jwdas

Du dryswch Pedr

Du'r gweddill a’u pennau yn eu plu.

Du uchelgais Herod

Du'r bedd.

Du diwedd y daith.

Du'r tywyllwch.

Du'r tywyllwch anorchfygol.

Du, a ... coch.

Coch grym a thrais.

Coch y cynllwynio ... aeth un o’r Deuddeg ... at y prif offeiriad a dweud, beth a rowch imi os bradychaf ef i chwi (Mathew 26: 14 BCN).

Coch y tân golosg: ... yr oedd Simon Pedr yn sefyll yno yn ymdwymo. Meddent wrtho ... Tybed a wyt tithau’n un o’i ddisgyblion? (Ioan 18:25 BCN)

Coch cywilydd.

Coch y rhegi a thyngu.

Coch crib y ceiliog.

Gwadodd yntau ... Ac ar hynny, canodd y ceiliog (Ioan 18:27 BCN).

Gwin coch; yn goch fel gwaed yng nghwpan swper y Pasg.

Grawnwin coch wedi malu dan draed.

Coch gwaed; gwaedu...

Coch calon yn torri.

Ond ... hefyd, glas.

Glas yr annisgwyl?

Oni ddigwyddodd yr amhosibl?

Oni ddigwyddodd yr anhygoel?

Bore’r Trydydd Dydd. Daeth y croeshoeliedig o’i fedd!

Glas ... a melyn.

Melyn y golau: mae ynom oleuni sy’n anorchfygol.

Melyn: aur. Bu Duw'r alcemydd ar waith yn, a thrwy’r cyfan. Gyda gwawr glas y Pasg, fe drodd y coch a’r du yn aur pur a choeth.

"Mor ddiddeall ydych, a mor araf yw eich calonnau i gredu’r cwbl a lefarodd y proffwydi! Onid oedd yn rhaid i’r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i’w ogoniant?" (Luc 24:25 BCN)

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)