'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (49)

‘Resurrection’, William Blake (1757-1827)

‘Resurrection’ (1805), William Blake (1757-1827)

Mae William Blake yn gosod ni yn y bedd, gyda Christ a 3 angel. Tra bod un angel yn gwthio’r maen o’r neilltu, mae’r ddau arall yn gwarchod y Crist newydd-atgyfodedig, a chasglu'r llieiniau. Awgryma osgo'r Crist ei fod ar fin codi ar ei draed, ystwytho, a chamu i newydd fore’r trydydd dydd.

Perthyn i’r llun hwn rhyw lonyddwch hyfryd. Daeth Iesu o farw’n fyw - trowyd y byd a’i ben i waered, tu chwith allan i gyd - ond gwnaethpwyd hynny’n dawel daclus, heb gynnwrf. Mae’r cyfan oll yn llwyr o dan reolaeth.

Yr Iesu atgyfododd

mewn dwyfol, dawel hedd ...

(Thomas Levi, 1825-1916; C.Ff:553)

Aethant hwythau a diogelu’r bedd trwy selio’r maen, a gosod gwarchodlu wrth law (Mathew 27:66).

... selio’r maen ... nid oedd y sêl, mae'n debyg, ond darn o gortyn, a dau damaid o wêr. Credwyd mai’r disgyblion buasai’n dod i ymyrryd â’r bedd. Prawf pendant o hynny fuasai’r sêl doredig! ‘Roedd yr awdurdodau’n sicr mai o du pobl y deuai’r ymdrech i gael Iesu o’r bedd. ‘Roedd yr awdurdodau yn poeni am bobl yn torri i mewn oddi allan.

Cawn ein hatgoffa gan Blake, fod y grym yn y bedd. Tra bod yr awdurdodau’n trefnu i atal pobl rhag torri mewn i'r bedd, ‘roedd Bywyd yn dawel paratoi i dorri allan. Tu ôl i’r maen mae’r grym - digon, mwy na digon o rym i dorri’r sêl, treiglo’r maen a ... newid byd.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

 

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (48)

‘Anghrediniaeth Thomas’, Giovanni Battista Cima, neu 'Cima da Conegliano' (c.1459-c.1517)

'Anghrediniaeth Thomas', (1502-4), Giovanni Battista Cima, neu 'Cima da Conegliano' (c.1459-c.1517); Oriel Genedlaethol Llundain

Allorlun oedd hwn. Bwriadwyd i’r llun fod yng nghrog uwchben allor eglwys Sant Thomas yn Portagruaro, ger Fenis. Crëwyd y llun i sefyll dros yr allor, yng ngolau’r Offeren. Yn wreiddiol, goleuir y llun hwn gan "Gwnewch hyn er cof amdanaf ..." (1 Corinthiaid 11:24b BCN). Rhannwyd y bara a’r gwin - Corpus Christi - yng nghysgod: Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a’i rhoi yn fy ystlys (Ioan 20:27 BCN). Bu Pobl Dduw yn derbyn ‘corff Christ’ wrth weld Thomas yn cyffwrdd â’r corff hwnnw, gan ddatgan "Fy Arglwydd a’m Duw!" (Ioan 20:28 BCN)

Yn y llun … Crist gyhyrog, ymlaciedig a 11 disgybl, a 9 ohonynt yn canolbwyntio ar y Crist byw, bendigedig hwn. Ond, mae 2 yn syllu atom ni.

Crëir pont ganddynt - pont rhyngddynt hwy a ninnau. Pan oedd llun da Conegliano yn ei briod le, uwchben allor eglwys, ‘roedd y ddau hyn yn tynnu ni: y rhai a gredodd heb iddynt weld (Ioan 20: 29 BCN) a nhw: … yr oedd y disgyblion unwaith eto yn y tŷ, a Thomas gyda hwy (Ioan 20:26 BCN) ynghyd.

Llun: Alias Archie

Bellach, mae’r llun yng ngrog ar wal oriel. Golyga hynny fod y ddeinamig wedi newid yn llwyr, ond er mor fawr y newid, nid drwg mohono. Nawr, eiddo’r ddau hyn amgenach gweinidogaeth. Nid creu cysylltiad mo gwaith y ddau hyn nawr, ond codi cwestiynau: ‘Beth, felly a weli di fan hyn? A weli di lun, jest hen lun: lliw, llewyrch, osgo a thechneg? Neu a weli di gysgod olau o’r Crist byw?’

Beth weli di felly? Hen lun, neu:

Christ the uncrucified

Christ the discrucified, his death undone,

His agony unmade, his cross dismantled.

(The Transfiguration, Edwin Muir (1887-1959); Collected Poems 1960.)

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

 

 

 

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (47)

‘Noli Me Tangere’, Titian (m. 1576)

‘Noli Me Tangere’ (c.1510-15), Titian (m. 1576). Oriel Genedlaethol Llundain

Credir fod Titian yn ei ugeiniau cynnar pan gwblhaodd y llun hwn. Llun bychan ydyw, 109 x 91cm. Bwriadwyd y gwaith i ystafell, neu gapel, ond nid i eglwys fawr. Gwrthrych myfyrdod ydyw, cyfrwng defosiwn personol.

Sylwch ar hyn nad sydd i weld … Mae’r haul yn codi, o’r golwg, tu ‘nôl Crist. O’r golwg hefyd, tu ‘nôl Mair, mae’r bedd gwag. Felly, beth sydd i weld? Crist a Mair! Ie, a chymaint eto. Gellid crynhoi cynnwys y llun i ddau air: ‘Cariad’ a ‘Tirwedd’. Sylwch sut mae’r goeden a’r berth yn ‘adleisio’ Iesu a Mair. Hanfod yr hyn sydd yn digwydd rhwng Iesu a Mair yw cariad. Mae osgo’r naill a’r llall yn ymgorfforiad o gariad. Mae Mair ar ei gliniau; mae ei llaw chwith yn gosod y peraroglau o’r neilltu, tra bod ei llaw dde yn estyn at, ac am y Crist. Mae ei llygaid yn pefrio o adnabyddiaeth: gobaith newydd, rheswm newydd i fyw. Mae Iesu yn tynnu oddi wrthi wrth bwyso ati - cariad. Yn ei law, mae hof neu fath o raw. Pam? Gan feddwl mai’r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, "Os mai ti, syr, a’i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe’i cymeraf fi ef i’m gofal." (Ioan 20:15 BCN).

Gan ddeisyf maddeuant pob un llawchwith, dylid cymryd yn ganiataol mai bwriad Titian yw ein bod yn gweld a deall mai Mair lawdde yw hon. Mae’r peraroglau a fu ganddi’n ddiogel yn ei llaw dde, bellach yn cael ei gosod o’r neilltu gan y llaw chwith. Symudwyd yr anobaith a’r torcalon - y peraroglau - ganddi o’i llaw dde i’w llaw chwith. Gosodir yr anobaith y torcalon o’r neilltu, er mwyn iddi gael estyn am obaith newydd y bywyd newydd yng Nghrist.

Dychwelwn at yr hyn nad sydd i weld … dwy linell grom. Dyma’r cyntaf, yn symud o droed dde'r Crist (sylwch mor las y borfa sydd wrth ei draed. Lle bynnag mae hwn yn sefyll, mae bywyd yn ffynnu.), i fyny ar hyd ymyl mewnol ei gorff, i fyny eto at dalcen y tŷ sydd yn olau o haul newydd y bore, ac ymlaen i’r adfail ar dop y bryn.

Mae’r llinell grom arall yn dechrau lle mae gwisg Mair yn gorffen. Llifa i fyny at ei phen, cyn saethu fyny ar hyd ymyl y goeden.

Mae’r naill linell a’r llall yn cynnwys a chario cymeriad a thirwedd. Mae llinell grom y Crist byw yn symud tuag at, a thros le mae pobl yn byw a bod. Mae un o drigolion y pentre’ eisoes allan yn cerdded y ci. Nid peth arallfydol mor Atgyfodiad, ond grym i gynnal bywyd pob dydd. Grym ydyw a’n galluoga ni i ymgynnal bob dydd, o ddydd i ddydd.

Mae llinell grom Mair yn llifo o’r llawr (sylwch mor ddifywyd y pridd lle mae Mair yn lledorwedd), trwyddi, a chan gyffwrdd talcen Iesu, saetha’n syth i fyny. Mae taflwybr y naill gymeriad a’r llall yn dweud cyfrolau amdanynt. Llifa llinell bywyd y Crist byw tuag at, a thros bobl. Llifa linell bywyd Mair, o’r llawr - reit lawr yn y baw - i fyny. ‘Ar i fyny’ mae hon: …aeth Mair Magdalen i gyhoeddi’r newydd i’r disgyblion, "Yr wyf wedi gweld yr Arglwydd", meddai … (Ioan 20:18 BCN)

Un peth bach mawr arall - y peth: mae’r ddwy linell grom yn croesi, Coesant wrth dalcen Iesu. Lle mae’r llinellau’n croesi gwelir hanfod ein ffydd: meddwl Crist. … y mae gennym ni feddwl Crist meddai Paul (1 Corinthiaid 2:16 WM).

Rhaid derbyn goleuni Meddwl Crist. Pobl sicr eu cam, hyderus eu hosgo, doed a ddelo, yw'r sawl all ddweud mewn gwirionedd: … y mae gennym ni feddwl Crist. Gyda Meddwl Crist, gwyddom fod daioni’n gryfach na drygioni; mae goleuni’n gryfach na thywyllwch; bywyd yn gryfach na marwolaeth. Ni biau’r fuddugoliaeth yn a thrwy Crist Iesu.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (46)

‘La Resurrezione’,  Pericle Fazzini (1913 -1987)

‘La Resurrezione’ (1977), Pericle Fazzini (1913 -1987); Aula Paolo VI, Y Fatican

Mae’r cerflun ‘La Resurrezione’ gan Pericle Fazzini yn anferth! 20m × 7m × 3m! 8 tunnel fetrig! Crëwyd yr anferth hwn o gerflun o aloi efydd a chopr. Cyfleuir anferthedd yr Atgyfodiad: 'ffrwydrad' o fywyd ydyw. Gwrthgyferbynnwyd gan Fazzini dau fath o ffrwydrad: ffrwydrad niwclear - angheuol a dinistriol, â 'ffrwydrad' yr Atgyfodiad - 'ffrwydrad' o fywyd a bendith.

Gwelir y cerflun yn yr Aula Paolo VI. Campwaith concrit o eiddo’r pensaer Pier Luigi Nervi (1891-1979). Yn yr Aula Paolo VI cynhelir gwrandawiad wythnosol y Pab.

Mae’r ‘La Resurrezione’ yn ennyn ymateb! Prin fod yr un portread arall o’r Atgyfodiad yn destun y fath edmygedd ... ac atgasedd. Myn rhai mai demonig y cerflun hwn!

Hoffaf y 'ffrwydrad' hwn o gariad byw. Dyma rym sydd filwaith cryfach nag angau a phob anghariad. Nid grym i ddinistrio ac i reoli eraill mo hwn - nid grym arfau a phŵer milwrol - ond nerth Duw ydyw: grym yr Efengyl a rhin y Bywyd sydd yng Nghrist Iesu.

Mae anferthedd y cerflun hwn yn amlygu bychander pobl. O Ildio i rym 'ffrwydrad' hwn - ac ildio sydd raid - llifa’r grym adfywiol yr Atgyfodiad i’n byw a’n bod.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

TYMOR Y PASG - 'DEUGAIN A DEG' (5)

Nid Sul, ond tymor yw'r Pasg: y deugain diwrnod a deg rhwng Sul y Pasg a'r Sulgwyn. ‘Rydym fel eglwys eleni yn cadw Tymor y Pasg, a hynny trwy gyfrwng myfyrdod byr beunyddiol ar y wefan, pwt o neges drydar, a phump o gyfarfodydd liw nos. Daethom heno i’r olaf o rheini. Buom yn trafod her a gwefr yr Atgyfodiad trwy gyfrwng y delweddau isod:

‘Resurrection’, Alma Woodsey Thomas (1891-1978)

Yr ‘Anastasis’ (Atgyfodiad) 14 ganrif. Mosg Kariye, Istanbul

‘Cerdded i Emaus’, Ivanka Demchuk (gan. 1974)

‘La Resurrezione’, Pericle Fazzini (1913 -1987)

‘Noli Me Tangere’ (c.1510-15), Titian (m.1576)
 

Mair Magdalen oedd y tyst cyntaf i ffaith yr Atgyfodiad. Daeth miliynau ar ei hôl hi, ond hi oedd y cyntaf. "Yr wyf wedi gweld yr Arglwydd" … (Ioan 20:18 BCN), meddai hi wrth y disgyblion yn llawen, a dyna weld oedd hwnnw, gweld annisgwyl, gweld anhygoel, gweld ardderchog, gweld â llygaid ffydd a gweld dros dragwyddoldeb. Dyma gyffes pob Cristion: "Yr wyf wedi gweld yr Arglwydd", ei weld Ef ar ei newydd wedd, ei weld Ef fel gorchfygwr angau, ei weld Ef yn holl rym ei allu anferthol. Bu'r gyfres hon yn gymorth i'r 'gweld' hwnnw, a diolch amdani.