Wedi paned a sgwrs dros frecwast bach; y stondin nwyddau Masnach Deg, a chasglu nwyddau i Fanc Bwyd Caerdydd, ymlaen yr aethom i’r Oedfa Foreol. Ers mis Medi, buom yn dilyn cyfres o bregethau: 'Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc'.
Cytunir mai Marc yw’r Efengyl gynharaf, ac iddi gael ei hysgrifennu tua’r flwyddyn 70. Trowyd y byd Iddewig a’i ben i waered, tu chwith allan yn y flwyddyn 70. Cododd yr Iddewon mewn gwrthryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig ... a cholli. Bu methiant, siom ... a dial; dial enbyd. Dinistriwyd y Deml. Yr Ymerodraeth a orfu. Ysgrifennwyd y cynharaf o’r Efengylau yn yr un cyfnod â chwymp Jerwsalem a dinistr y Deml tua’r flwyddyn 70. Heddiw, yng nghyd-destun cwymp Jerwsalem a dinistr y Deml, bu’r Gweinidog yn dehongli Dameg y Winllan a’r Tenantiaid (Marc 12:1-12; cafwyd eisoes cofnod o’r bregeth ar y wefan). Beth ynteu a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha’r tenantiaid, ac fe rydd y winllan i eraill (Marc 12:9 BCN). Cawsom ein cyflyru i gredu mai nyni - yr Eglwys Gristnogol - yw’r eraill yn yr adnod hon. Eiddo ni'r winllan bellach. Yr Eglwys Gristnogol yw'r Israel Newydd. Mae’r dehongliad, a’r dull o ddehongli yn wenwyn. Bu Gwrth-semitiaeth yn amlwg yn ein crefydd a’n crefydda ninnau ers canrifoedd. Bu Cristnogion ar hyd y canrifoedd, yn y drwg a wnaethom, a'r da nas gwnaethom yn dilorni Iddewiaeth, ac erlid Iddewon. Troesom efengyl Cariad yn hunllef o hiliaeth a chreulondeb, a phenllanw enbyd y creulondeb hwnnw oedd Auschwitz-Birkenau.
Er pob tamaid o dystiolaeth - mewn cannoedd o lyfrau, dogfennau a chyhoeddiadau - erys gwers y gwersyll yn Auschwitz-Birkenhau heb ei ddysgu. Mae diwinyddion a phregethwyr yn hau gwenwyn Gwrth-semitiaeth o hyd fyth o bulpud ac mewn erthygl a llyfr. Mae Gwrth-semitiaeth yn fyw ac yn iach, a bellach yn ffynnu a lledu. Byddwn, felly fel unigolion, eglwysi ac enwadau ar ein gwyliadwriaeth rhag pregethu llac, cyfathrebu diog a diwinydda bas.
Beth ynteu a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha’r tenantiaid ... Gyda dinistr y Deml a chwymp Jerwsalem, - i raddau helaeth - diflannodd y Sadwceaid, Selotiaid, Eseniaid. Llwyddodd y Phariseaid i oroesi, ond nid hwythau, yn ôl Marc, mor tenantiaid rhagor. Rhoddwyd y winllan i eraill: yr Iddewon Cristnogol. Ffrae deuluol oedd hon; Iddew yn lladd ar Iddew. Heddiw, ym mhob enwad a thraddodiad, gwelir ôl ffrae deuluol debyg. Ceir trwch o wahanol enwau; ymhlith y mwyaf cyfarwydd mae ‘Efengylwyr’ a ‘Rhyddfrydwyr’. Myn ambell un mai Ffwndamentalwyr yw pob Efengylwr, tra myn arall nad Cristnogion yw’r Rhyddfrydwyr! Oni wna’r labeli hyn anghyfiawnder â daliadau didwyll y naill a’r llall? Onid yw’r pegynnu sydd mor amlwg ymhlith Cristnogion Cymreig yn bwrw ei wenwyn ar lif ein cenhadaeth i Gymru? Mae Cariad Duw yn fwy na’r deall Rhyddfrydol ac Efengylaidd Cristnogol ohono! Heb fod Efengylwyr a Rhyddfrydwyr Cristnogol Cymru yn meithrin parodrwydd i wrando ac i drafod safbwyntiau ei gilydd, onid gwastraffu ein hamser fyddwn yn gosod, ac ailosod cadeiriau, tra bod y llong yn brysur a sydyn suddo?
Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref y Tabernacl, yr Âis. Da gweld cynifer o bobl ifanc yr eglwys yn ymroi i’r gwaith hwn. Liw nos, am 6; da oedd ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys y Crwys. Oherwydd absenoldeb anorfod y Parchedig Megan Williams (Ynys Môn), gwahoddwyd y Parchedig Denzil John, Tabernacl, yr Âis i bregethu.
 ninnau yng ngwawl Dydd Iau Dyrchafael, aeth Denzil i’r afael â goblygiadau’r Esgyniad trwy gyfrwng adnodau agoriadol Philipiaid 2 (1-18), a thri phen trawiadol: Cynnal Awyrgylch; Cynnal Buchedd; Cynnal Credo. Gofynnwyd i ni ystyried sut awyrgylch a berthyn i’n heglwysi - rhaid Cynnal Awyrgylch groesawgar, agored a chynhaliol. Boed i weddi Paul gael ei wireddu yn, a thrwy awyrgylch ein heglwysi: ... ar i’ch cariad gynyddu fwyfwy ... (Philipiaid 1:9a BCN). Rhaid Cynnal Buchedd ... trwy fod o’r un meddwl, a’r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac unfarn (Philipiaid 2:2 BCN) Y Duw a wel eraill, yw’r Duw a welant ynom ni. Boed i’n ffydd fod yn ffordd o fyw; ein cyffes yn amlwg mewn cymwynas, ein credo mewn caredigrwydd. Yn olaf, mae rheidrwydd arnom i Gynnal Credo: Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd yn wir yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu (Philipiaid 2:5 BCN). Rhaid gwybod i bwy y credwn; beth a gredwn, pam ac i ba bwrpas. Diolch am bregethu meddylgar a phregeth werthfawr.
Hyfrydwch, fel eglwysi’r ddinas, yw cael y cyfle i gyd-addoli a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth.
Diolch am fendithion y Sul.