'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (40) DYDD IAU DYRCHAFAEL

'Dyrchafael Crist', Pacino di Bonaguida (1280-1340)

Dychmygwch eich bod newydd ffarwelio ag un o’ch ffrindiau pennaf. Y mae hwnnw neu honno wedi dewis ymfudo i ben draw’r byd - annhebyg iawn iawn yw byddwch yn gweld eich gilydd byth eto. Sut felly i chi’n teimlo? Yn llawen? Llawen?! Ni fyddai neb call yn disgwyl i chi fod yn llawen â chithau’n wedi gorfod ffarwelio â chyfaill annwyl a da!

Ond, dyna’n union sut y mae Luc yn disgrifio’r disgyblion yn syth ar ôl esgyniad Iesu: ... dychwelsant yn llawen iawn i Jerwsalem (Luc 24:52 BCN). Sut mae deall hyn? Onid oeddent yn teimlo’n ddigalon, ar goll, wedi drysu? Onid oedd eu tristwch yn llethol wedi colli ohonynt gyfaill cu ac athro annwyl? Na, meddai Luc. ‘Roeddent yn llawen, ‘roeddent yn y Deml o hyd fyth, (Luc 24:53) yn mynegi’r llawenydd hwnnw i bawb a’u clyw.

Er bod Iesu wedi gadael ei gyfeillion unwaith o’r blaen, ‘roedd wedi dychwelyd atynt. Fe ymddangosodd iddynt drosodd a thro, ond y tro hwn, ‘roedd wedi mynd, byth eto i ddychwelyd atynt, ac fe wyddent hwythau hynny. Beth felly sy’n esbonio’r llawenydd hwn? Gwaelod a gwraidd eu llawenydd oedd eu hargyhoeddiad mai dechreuad oedd yr esgyniad. Er eu bod yn colli presenoldeb cig-a-gwaed-cnawd-ac-asgwrn Iesu, gwyddent y byddai ef gyda hwy o hyn allan mewn ffordd wahanol, newydd...a llawer iawn gwell. ‘Roedd y Iesu y daethant i’w adnabod a’i garu yng Ngalilea a Jerwsalem yn Iesu llond un lle, presennol yn un man, ond yn sgil yr esgyniad yr oedd bellach yn llond pob lle, fel meddai David Jones, Treborth, (1805-68; C.Ff:76), presennol ym mhob man.

Y gred hon oedd sail argyhoeddiad Paul: Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau ac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grëwyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd (Rhufeiniaid 8:38,39 BCN). Gyda’r sicrwydd hwn y dychwelodd y disgyblion i Jerwsalem mewn llawenydd. Boed i’w llawenydd hwythau ddysgu ein llawenydd ninnau.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

 

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (39)

‘Y Gwragedd wrth y Bedd Gwag’, Maurice Denis (1870-1943)

‘Y Gwragedd wrth y Bedd Gwag’, Maurice Denis (1870-1943); 1894. Musee Maurice Denis-Le Prieuré, Saint-Germain-en-Laye, Ffrainc.

‘Y Gwragedd wrth y Bedd Gwag’, Maurice Denis (1870-1943); 1894. Musee Maurice Denis-Le Prieuré, Saint-Germain-en-Laye, Ffrainc.

Mae Denis yn gosod drama fawr yr Atgyfodiad yn erbyn cefnlen Ffrainc wledig ei gynefin. Rhaid gosod yr Atgyfodiad yn y presennol - ein presennol. Dyna galon neges y Testament Newydd. Nid sôn a wna am Grist a fu unwaith yn Atgyfodedig, ond taeru fod Crist yn fyw heddiw, nawr. Y gyfrinach fawr yw gweld ac adnabod y Crist byw sydd ar waith ynghanol amrywiaeth pethau presennol, mawr a bach, ein byw a bod. Ond, lle mae’r Crist byw yn y llun hwn? Nid amlwg mohono ...

Fe ddilynodd y gwragedd oedd wedi dod gyda Iesu o Galilea, a gwelsant y bedd a’r modd y gosodwyd ei gorff (Luc 23:55 BCN)

Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd ... (Luc 24:1 BCN)

Yn ôl y pedair Efengyl, merched oedd y cyntaf i dderbyn y newydd am yr Atgyfodiad: yr olaf wrth y groes, a’r cyntaf wrth y bedd gwag. Ond, mae yma bedair; tair mewn oed, ac un ieuengach. Pam 4? Mae anghysondeb o ran enwau’r gwragedd hyn. Sonnir yn Luc am ... Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago (Luc 24:10 BCN); yn Marc, am ... Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome (Marc 16:1 BCN); Yn Mathew, dim ond Mair Magdalen a’r Fair arall (Mathew 28:1) ddaeth i’r bedd, ac yn ôl Ioan (Ioan 20:1 BCN), dim ond Mair Magdalen ddaeth y bore hwnnw. Awgrymir felly, fod Denis yn cynnwys Mair Magdalen, Joanna, Mair mam Iago a Salome.

... dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt mewn gwisgoedd llachar (Luc 24:4 BCN).

Dynoda gwisg y ddau ddyn mai angylion ydynt. Mae anghysondeb eto o ran manylion rhwng y gwahanol Efengylau. Dau ddyn a geir yma ac yn Efengyl Marc (16:5), Angel yr Arglwydd yn ôl Mathew 28:2 a dau angel yn ôl Ioan 20:12!

... dyma ddau ddyn, y naill a’r llall yn cyfeirio’n sylw at Grist - gwreichionen o Grist ydyw; yn wenfflam o fywyd! Crist yn mynd o’ch blaen chwi i Galilea ... (Marc 16:7 BCN).

Pwy yw hon, yr ei gliniau ar y llwybr, wrth y goeden honno yn wefr o flodau? Awgrymir gan rywrai mae’r Magdalen ddewr yw hon. Ceir sawl portread o’r Atgyfodiad felly, o fewn ‘ffrâm’ y llun hwn.

Awgrymir gan eraill, mai Mair, mam Iesu yw hon. Er mor ddieithr y traddodiad hwn i ninnau fel Anghydffurfwyr, gwelir sawl portread ohono. Gwelir isod, dehongliad Guercino (1591-1666) o’r cyfarfyddiad hwnnw.

'Crist yn ymddangos i'r Forwyn Fair', Guercino (1591-1666)

'Crist yn ymddangos i'r Forwyn Fair', Guercino (1591-1666)

Un sylw ychwanegol: y ffens. Beth yw ffydd yng ngoleuni’r Atgyfodiad? Chwilio am lwybrau newydd, agor gatiau; ac os nad oes gatiau, neidio dros ben y ffensys! Os oes ffensys rhyngom â Christ, rhyngom â’n cyd-Gymry, rhaid wrth eglwysi llamgar. Heb lamgarwch mae’r eglwys fel malwen yn ymlusgo neu bry lludw yn ymlwybro!

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

TYMOR Y PASG - 'DEUGAIN A DEG' (4)

Nid Sul, ond tymor yw'r Pasg: y deugain diwrnod a deg rhwng Sul y Pasg a'r Sulgwyn. ‘Rydym fel eglwys eleni yn cadw Tymor y Pasg, a hynny trwy gyfrwng myfyrdod byr beunyddiol ar y wefan, pwt o neges drydar, a phump o gyfarfodydd liw nos. Er bod y myfyrdodau beunyddiol yn newid cyfeiriad o hyd fyth, mae’r cyfarfodydd hyn yn dilyn trywydd penodol; heno: Iesu’n Ymddangos i’r Saith Disgybl; Adferiad Pedr a’r Disgybl Annwyl (Ioan 21), a hynny trwy gyfrwng y delweddau isod:

‘Crist wrth lan Môr Galilea’, Jacopo Tintoretto (1519-1594)

‘Crist wrth lan Môr Galilea’, Jacopo Tintoretto (1519-1594)

‘Miraculous Draught of Fishes’, John Reilly (1928-2010)

‘Miraculous Draught of Fishes’, John Reilly (1928-2010)

‘By the Beach’, Cody F. Miller (gan. 1972)

‘By the Beach’, Cody F. Miller (gan. 1972)

‘Cenhadaeth Pedr’, Jacob Jordaens (1593-1678)

‘Cenhadaeth Pedr’, Jacob Jordaens (1593-1678)

‘Circle’, Peter Funch (gan. 1974)

‘Circle’, Peter Funch (gan. 1974)

‘Peter and John Running to the Sepulchre on the Morning of the Resurrection’, Eugène Burnand (1850-1921)

‘Peter and John Running to the Sepulchre on the Morning of the Resurrection’, Eugène Burnand (1850-1921)

Yn ystod yr wythnos ddryslyd honno yn dilyn gosod corff Iesu mewn bedd, try Pedr at ei gyd-ddisgyblion, a dweud: Wn i ddim beth amdanoch chi, ond fedra i ddim goddef hyn ddim hwy, - mae’n rhaid i mi gael gwneud rhywbeth neu ddrysu - dwi’n mynd i bysgota. A ninnau, meddai’r gweddill, fe ddown hefyd, ac i ffwrdd â nhw ... ac wrth bysgota cawsant weledigaeth; cawsant weld Iesu.

Neges fawr Ioan 21 yw bod i waith ei weledigaeth arbennig ei hun - daw i’r sawl sy’n ymroi i wasanaeth dros ei Arglwydd gyfle arbennig i weld Iesu. Y mae rhai pethau na fedrwch chi mo’u deall nhw heb garu - amod deall yw caru. Ond, mae rhai pethau - pethau mawr ysbrydol a thragwyddol - na fedrwch chi mo’u deall nhw heb weithio! Amod y deall yw’r gweithio. Trwy wasanaeth y deellir. Bob tro y mae pobl Crist yn dal ar ystyr gwaith a gwasanaeth Cristnogol yr ydym yn derbyn golwg newydd -gwerthfawrogiad newydd - o Iesu, ein Harglwydd. Y mae pob mymryn o waith a wneir er mwyn Iesu a thros Iesu, yn dyfnhau’n hadnabyddiaeth o Iesu. Y mae gwaith yn addoliad - y mae ymegnio’n foliant, y mae llafurio’n weledigaeth, y mae gwasanaeth yn ddatguddiad.

Diolch am gyfarfod hyfryd iawn. Yng nghyfarfod olaf y gyfres byddwn yn bwrw golwg dros amrywiol bortreadau a dehongliadau o Atgyfodiad ein Harglwydd Iesu.

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (38)

‘The Road to Emmaus’, Daniel Bonnell (gan. 1954)

‘The Road to Emmaus’, Daniel Bonnell (gan. 1954)

‘The Road to Emmaus’, Daniel Bonnell (gan. 1954)

Mae Daniel Bonnell yn byw a gweithio yn yr Unol Daleithiau. Mae Bonnell yn gyson ymdrin â hanesion cyfarwydd y Beibl, a hynny yn effeithiol iawn.

Meddai wrthynt, "Beth yw’r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?" Safasant hwy, a’u digalondid yn eu hwynebau. Atebodd yr un o’r enw Cleopas, "Rhaid mai ti yw’r unig ymwelydd â Jerwsalem nad yw’n gwybod am y pethau sydd wedi digwydd yno y dyddiau diwethaf hyn." "Pa bethau?" meddai wrthynt. Atebasant hwythau, "Y pethau sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth ..." (Luc 24:17-19 BCN)

Sylwch ar liwiau’r llun: Du.

Du: Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael (Salm 22:1 BCN).

Du ein dyfnderau dynol; du'r enbydrwydd sydd mewn pobl.

Du tywyllwch dydd - nos dywyll o ganol dydd hyd dri o’r gloch y pnawn.

Du ymerodraeth Pilat

Du crefydd Caiaffas

Du breuddwyd Jwdas

Du dryswch Pedr

Du'r gweddill a’u pennau yn eu plu.

Du uchelgais Herod

Du'r bedd.

Du diwedd y daith.

Du'r tywyllwch.

Du'r tywyllwch anorchfygol.

Du, a ... coch.

Coch grym a thrais.

Coch y cynllwynio ... aeth un o’r Deuddeg ... at y prif offeiriad a dweud, beth a rowch imi os bradychaf ef i chwi (Mathew 26: 14 BCN).

Coch y tân golosg: ... yr oedd Simon Pedr yn sefyll yno yn ymdwymo. Meddent wrtho ... Tybed a wyt tithau’n un o’i ddisgyblion? (Ioan 18:25 BCN)

Coch cywilydd.

Coch y rhegi a thyngu.

Coch crib y ceiliog.

Gwadodd yntau ... Ac ar hynny, canodd y ceiliog (Ioan 18:27 BCN).

Gwin coch; yn goch fel gwaed yng nghwpan swper y Pasg.

Grawnwin coch wedi malu dan draed.

Coch gwaed; gwaedu...

Coch calon yn torri.

Ond ... hefyd, glas.

Glas yr annisgwyl?

Oni ddigwyddodd yr amhosibl?

Oni ddigwyddodd yr anhygoel?

Bore’r Trydydd Dydd. Daeth y croeshoeliedig o’i fedd!

Glas ... a melyn.

Melyn y golau: mae ynom oleuni sy’n anorchfygol.

Melyn: aur. Bu Duw'r alcemydd ar waith yn, a thrwy’r cyfan. Gyda gwawr glas y Pasg, fe drodd y coch a’r du yn aur pur a choeth.

"Mor ddiddeall ydych, a mor araf yw eich calonnau i gredu’r cwbl a lefarodd y proffwydi! Onid oedd yn rhaid i’r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i’w ogoniant?" (Luc 24:25 BCN)

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (37)

‘La garde du Tombeau’, Jacques Joseph Tissot (1836-1902)

‘La garde du Tombeau’ (1886-1894), Jacques Joseph Tissot (1836-1902); Amgueddfa Brooklyn, UDA.

‘La garde du Tombeau’ (1886-1894), Jacques Joseph Tissot (1836-1902); Amgueddfa Brooklyn, UDA.

Ystyrir gwaith Jacques Joseph Tissot i fod braidd yn trite y dyddiau hyn, ond celfyddyd gywrain a da ydyw.

Yn sgil ailddarganfod gwerth a chymorth ffydd yn 1885, prif thema celfyddyd Tissot oedd y Beibl, ac yn fwyaf penodol bywyd Iesu. Perthyn y ddau lun sydd gennym o dan sylw heddiw i gyfres o 365 o luniau tebyg yn ‘cofnodi’ bywyd Iesu. Cafwyd ymateb brwd i’r gyfres gan y cyhoedd mewn arddangosfeydd ym Mharis (1894-5), Llundain (1896) ac Efrog Newydd (1898-9). Mae’r gyfres gyfan bellach yn Amgueddfa Brooklyn.

Cymerwch warchodlu; ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch (Mathew 27:66 BCN).

Trannoeth marw Iesu, daeth y prif offeiriaid a’r Phariseaid yn ôl at Pilat. ‘Roedd ofn mawr arnynt, ofn y buasai disgyblion Iesu yn dod a symud corff y Saer bregethwr a dweud wrth y bobl fod Iesu eto’n fyw. ‘Roedd yr arweinwyr crefyddol hyn yn fwy na chyfarwydd â phobl yn honni maen nhw oedd y Meseia. 'Roedd ryw siarad gwirion am wyrthiau yn troi o’u cwmpas bob un, ond diflannu a wnaethant, bob un, y naill ar ôl y llall. Felly, hyd yn oed pe bai’r disgyblion yn llwyddo i symud corff Iesu, a dweud wrth y bobl ei fod eto’n fyw, ni fuasai sibrydion am fywyd newydd yn ddigon i gynnal diddordeb y bobl. ‘Roedd yr arweinwyr crefyddol yn ymwybodol o hyn ... Ond, y tu ôl i’r ofn a fynegwyd ganddynt, ‘roedd arswyd real, dwfn - arswyd na fuasent wedi cydnabod i neb, dim hyd yn oed ymhlith ei gilydd. ‘Roedd arswyd arnynt fod yr hwn a groeshoeliwyd ganddynt YN Fab i Dduw! Arswydent y byddai Iesu YN dychwelyd o farw’n fyw! ‘Roedd arswyd arnynt y buasai Iesu YN symud eto yn eu plith yn fwrlwm o rym brawychus o fawr! Dychmygwch eu siom felly o glywed Pilat yn dweud: Cymerwch warchodlu; ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch (Mathew 27:65 BCN). Sylwch ar y cymal: mor ddiogel ag y gallwch. Yn ddiarwybod iddo, gyda’r cymal hwn, anelodd Pilat pelydr o olau cryf at ofn y prif offeiriaid a’r Phariseaid ac amlygu’u harswyd ... mor ddiogel ag y gallwch meddai Pilat wrthynt. Ni ellid gwneud rhai pethau’n ddigon diogel, byth. Mae arswyd arnynt! Gwyddant fod yna rym yn ymgasglu yn y bedd hwnnw a oedd y tu hwnt i bob rheolaeth (sylwch ar sut mae Tissot yn cyfleu’r grym hwnnw yn yr ail lun heddiw: ‘Madeleine et les saintes femmes au tombeau’).

Sut ellir rhwystro’r haul rhag codi, y llanw rhag troi?

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

‘Madeleine et les saintes femmes au tombeau’, (1886-1894), Jacques Joseph Tissot (1836-1902); Amgueddfa Brooklyn, UDA.

‘Madeleine et les saintes femmes au tombeau’, (1886-1894), Jacques Joseph Tissot (1836-1902); Amgueddfa Brooklyn, UDA.

NEWYDDION Y SUL

Mae’r ddaear yn glasu,

A’r coed sydd yn tyfu,

A gwyrddion yw’r gerddi:

Mae’r llwyni mor llon.

(John Howel)

Croesawyd y Mis Mwyn ag Oedfa Deuluol llawn hwyl a bendith. Yn sŵn y Salm (130:5;6) a’r weddi sy’n gweddu i bawb - F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf - derbyniwyd adnodau’r oedolion. ‘Llawenydd’ oedd y thema heddiw, a braf oedd gweld cynifer o oedolion ag adnod ar ein cyfer. Gwêl ein plant mai rhywbeth i dyfu iddo, nid tyfu ohono yw dysgu a rhannu adnod.

Mali oedd yn arwain y defosiwn heddiw. Dilyn ymlaen wnaeth Mali o ddefosiwn y Sul aeth heibio, gan sôn am Farathon Llundain, ac am bwysigrwydd dal ati i ddal ati mewn ffydd, gobaith a chariad.

Gwahoddwyd y plant ymlaen i’r Set Fawr, â hwythau’n nawr yn cael cyfle i rannu adnodau.

Echel yr Oedfa oedd y rhif ‘9’; a’r dasg gyntaf oedd chwilio yn ein Beiblau am Galatiaid 5:22: ... ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch; caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.

Ond, cyn troi at y 'ffrwyth', mynnai’r Gweinidog fod angen ystyried ychydig ar waith yr 'Ysbryd'!

Awgrymodd ein Gweinidog fod yr Ysbryd Glân yn NERTH i ni (Effesiaid 3: 16 a Luc 24: 49). Er mwyn amlygu hyn, ‘roedd ganddo ... 'AirZooka'!

'Pobl Dduw' yn yr 'AirZooka'!

'Pobl Dduw' yn yr 'AirZooka'!

Gosododd y plant peli bychain amryliw - rhain oedd pobl Dduw, pobl lliw a llun, sut a siâp o bobl - yn yr 'AirZooka', ac yna 'saethu' y teclyn a'r peli bychain felly'n drybowndian i bob cyfeiriad (truan â’r gofalwr!). Yn nerth yr Ysbryd Glân, meddai'r Gweinidog, aeth pobl Dduw, ac fe ant o hyd, i bob cyfeiriad i sôn am gariad mawr Duw.

Mae’n debyg fod un o’r peli bychain hyn wedi cyrraedd yr oriel!

Mae’n debyg fod un o’r peli bychain hyn wedi cyrraedd yr oriel!

Hanfod ail neges y Gweinidog am yr Ysbryd Glân oedd bod yr Ysbryd yn ein harwain i’r gwirionedd (Ioan 14:13). Mae Ysbryd Duw yn ARWAIN. Ffurfiwyd timau o bedwar neu bump i’r cwis; ac i’r cwis hwnnw, ‘roedd 9 cwestiwn! Dyma ambell un:

  • Pa lythyren sydd ar goll? A ... B ... ___ ... D ... E?
  • Pa flwyddyn yw hi?
  • Beth yw ‘MICE’?

Dyma’r atebion:

  • Nid 'C' ond 'G' - Gamma yn y wyddor Roegaidd.
  • Nid 2016 ond 5776 yn ôl y Calendr Iddewig, neu 1437 i’r Mwslim.
  • Nid llygod, ond Members of the Institution of Civil Engineers.

Mynnai’r Gweinidog nad oes neb o bobl Dduw yn gwybod yr atebion i gyd! Ychwanegodd fod siawns dda gennym - gyda’n gilydd - i ffeindio’r ateb. Mae’r Ysbryd Glân yn ein harwain - gyda’n gilydd - at y gwirionedd.

Wedi hyn fe ddaethom, o’r diwedd, at naw Ffrwyth yr Ysbryd! Man cychwyn yr homili oedd y cwestiwn: ‘Pam nad oedd Paul wedi sôn am 'Blodau’r Ysbryd'?’ Wedi’r cyfan mae blodau’n hyfryd, lliwgar a phersawrus.

Er braw i’r Gynulleidfa, mynegodd Owain ei fwriad i baratoi danteithion i’w cynnwys ar stondin gacennau ein ‘Dewch a Phrynwch’ er budd Cymorth Cristnogol (14/5). Ei fwriad, meddai oedd paratoi marigold meringue pie; cacen chrysanthemum; tarten fuschia a bisgedi aster, teisen gaws cennin Pedr, a chan gydnabod nad cacen mo treiffl: treiffl lupin a delphinium. Dyna pam mae Paul yn sôn am Ffrwyth yr Ysbryd! Mae blodau’n hyfryd a phersawrus, a buasai bywyd yn ddiflas hebddynt, ond mae ffrwythau’n ddefnyddiol! Gellid bwyta ffrwyth, a derbyn maeth ohono. Nid blodau mo cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanddisgyblaeth. Ffrwyth ydynt - ffrwyth i’w bwyta! Nid y dweud, ond y gwneud sydd bwysig. Rhaid i gariad, llawenydd, tangnefedd a goddefgarwch fod yn ffordd o fyw, fel y gwelir caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunan-ddisgybliaeth ar waith ynom, trwom a rhyngom.

Yn ei bregeth heno bu’r Gweinidog yn trafod Bendith ... Bendithio ... Bendithion. Defnyddir eleni y Fendith fawr o lyfr Numeri (6:22-27) yn ddiweddglo i’n hoedfaon, a honno oedd testun y bregeth. Gan fod cofnod o’r bregeth eisoes ar y wefan, dyma ychydig sylwadau ein Gweinidog wrth Fwrdd y Cymundeb. 'Roedd y sylwadau’n adleisio a chadarnhau neges y bregeth: Gwnaf di’n genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi’n fendith (Genesis 12:2).

Dyma addewid Duw i Abram, y cawr hwnnw ymhlith enwogion yr Hen Destament. Gwireddwyd yr addewid; fe aeth ei deulu yn genedl gref. Sylwch, ar y rhan hon o’r addewid: bendithiaf di ... a byddi’n fendith. Duw yn rhoi bendith, ac Abram yn rhoi bendith. Yr un fendith yn cael ei hestyn ymlaen ... bendithiaf di - Abram yn cael bendith; er mwyn ei hestyn ymlaen at eraill ... a byddi’n fendith. Afon redegog yw bendith Duw nid llun llonydd. Down ynghyd i bob Oedfa gyda diolch am y fendith, a gyda’r bwriad o estyn y fendith ymlaen: bendithiaf di ... a byddi’n fendith.

Wrth Fwrdd y Cymundeb, cawsom gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Aeth y Cymun Teithiol heno, gyda’n cofion anwylaf, at Nansi.

Diolch am amrywiol fendithion y dydd heddiw. Boed i ni dyfu yn ffrwythau’r Efengyl, i ymhyfrydu ym mendith ein Duw, i dystio iddo, ac i estyn y fendith honno i eraill.

Yng nghanol y cyfan oll, fe lwyddodd ein Gweinidog y gynnal Oedfa yng Nghanada heddiw! Deisyfwn wenau Duw ar ffyddloniaid, a Gweinidog Eglwys Dewi Sant, Toronto, y Parchedig Anne Hepburn. Boed bendith ar ei hymdrechion i ddefnyddio'r cyfryngau diweddaraf i sicrhau parhad ei gweinidogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. www.dewisant.com

Gan edrych ymlaen at y Sul nesaf: Owain fydd yn arwain y ddwy Oedfa foreol. Apêl Cymorth Cristnogol eleni fydd thema’r Oedfa Foreol Gynnar. Byddwn yn yr Oedfa 10:30 yn parhau â'r gyfres o bregethau 'Efengyl Marc a’r Flwyddyn 70'. Ein braint, pnawn Sul am 2:30 yw gweini te i’r digartref yn y Tabernacl, Yr Âis. Liw nos, am 6; byddwn yn ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys y Crwys: pregethir gan y Parchedig Megan Williams (Ynys Môn). Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street.