8:45 yr hwyr, â chwmni bychan yn y festri i gyfarfod o’r enw ‘Capernaum’.
'Capernaum'?
Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll...Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw dair neu bedair milltir, dyma hwy’n gweld hwy’n gweld Iesu...
(Ioan 6: 16,17 a 19)
Na, nid dod i rwyfo am ryw dair neu bedair milltir (Ioan 6:19) a wnaethom, ond dod yn hytrach i ymdawelu’n ar derfyn dydd: defosiwn, gweddi, llonyddwch a myfyrdod. Gweddi Habacuc (Habacuc 3: 1-2, 16-19) oedd testun ein sylw heno.
Un peth sydd wir yn blino Habacuc broffwyd! Pam mae pobl ddrwg a chenhedloedd drwg yn llwyddo, a’r diniwed yn dioddef? Pam, ac yntau wedi bod yn galw ar Dduw i achub cam y diniwed, fod Duw yn oedi cyhyd cyn gweithredu? Cyflwynir y blinder fel cwestiwn: ... am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth, a thithau heb wrando, ac y llefaf arnat, "Trais!", a thithau heb waredu? Pam y peri imi edrych ar ddrygioni a gwneud imi weld blinder? Anrhaith a thrais sydd o’m blaen, cynnen a therfysg yn codi. Am hynny, â’r gyfraith yn ddi-rym, ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo; yn wir y mae’r drygionus yn amgylchu’r cyfiawn, a daw cyfiawnder allan yn wyrgam. (1: 1-4 BCN).
Myn rhai ysgolheigion fod Habacuc yn proffwydo yng nghyfnod Jehoiacim frenin. Buasai hyn o gefndir yn esbonio gofid Habacuc. Daeth Jehoiacim yn frenin wedi marw'r brenin Joseia trwy law'r Eifftiaid. Brenin da oedd Joseia (Jeremeia 22: 15 a 16), brenin gwael oedd Jehoiacim, brenin a fu’n gorthrymu ei bobl (2 Brenhinoedd 24: 4). Credir, mae am y gorthrwm hwn y mae Habacuc y sôn yn yr adnod hon: Gwae’r sawl sy’n adeiladu dinas trwy waed, ac yn sylfaenu dinas ar anghyfiawnder (2:12 BCN).
Beth bynnag am gyfnod a sefyllfa Habacuc, mae’r gofid sydd yn pwyso mor drwm arno, wedi pwyso ar bobl Dduw ar hyd y canrifoedd. Pam y caiff pobl ddrwg orthrymu’r da? ... pam y goddefi bobl dwyllodrus, a bod yn ddistaw pan fydd y drygionus yn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun? (1:13b BCN).
Paratôdd Habacuc ei hun i dderbyn ateb i’w gwestiwn gan Dduw. Penderfynodd sefyll a disgwyl fel y gwna gwyliwr ar y tŵr. Aros, aros yn amyneddgar; aros gan wybod y daw rhywbryd, rhywsut ... ateb. Safaf ar fy nisgwylfa, a chymryd fy safle ar y tŵr; syllaf i weld beth a ddywed wrthyf, a beth fydd ei ateb i’m cwyn (Habacuc 2:1 BCN).
Gorchmynnodd Duw i Habacuc i sgrifennu’r ateb yn eglur ar lechen. Myn Duw fod balchder trahaus yr anghyfiawn yn siŵr o’u dinistrio, ond bydd y cyfiawn yn cael eu cadw, a’u cynnal trwy ei ffyddlondeb. Nid yw’r ateb yn datrys y broblem, nac yn dileu’r gofid, ond cyfrannodd Habacuc a gweddill y proffwydi i gyd, yn ymarferol, trwy helpu pobl i fyw yn dda, yn ffyddlon ac yn fentrus er gwaethaf y gofid. Mae gwobr y bywyd da ynddo’i hunan, yn y fraint o fyw bywyd da yn dda, ac yn y berthynas â Duw a ddiogelir ganddo. Duw ei hun yw gwobr y ffyddlon.
Penllanw’r broffwydoliaeth yw’r weddi fawr yn y bennod olaf (Habacuc 3: 1-2, 16-19):
O! ARGLWYDD, clywais sôn amdanat, a gwelais dy waith, O! ARGLWYDD. Adnewydda ef yng nghanol y blynyddoedd, ac yn dy lid cofia drugaredd ... Er nad yw’r ffigysbren yn blodeuo, ac er nad yw’r gwinwydd yn dwyn ffrwyth; er i’r cynhaeaf olew ballu, ac nad yw’r meysydd yn rhoi bwyd; er i’r praidd ddarfod o’r gorlan, ac er nad oes gwartheg yn y beudai; eto llawenychaf yn Nuw fy iachawdwriaeth. Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth; gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig, a phâr imi rodio uchelfannau.
Mynega’r weddi ymddiriedaeth lwyr y proffwyd yn Nuw er gwaethaf adfyd, gofid a thor calon. Llawenycha’r proffwyd a phobl ei ofal yn Nuw. Beth bynnag arall a gollir, mae Duw ganddi. Beth bynnag arall a gollir gennym, mae Duw gennym. Dyma hanfod gobaith pobl Dduw ym mhob oes a chyfnod.
 ninnau wedi croesi môr prysurdeb y dydd, cawsom, yng nghwmni’n gilydd gyfle i weld Iesu (Ioan 6: 19), a chanfod gobaith a chymorth yr Efengyl.