Wedi paned a sgwrs dros frecwast bach; y stondin nwyddau Masnach Deg, a chasglu nwyddau i Fanc Bwyd Caerdydd, ymlaen yr aethom i’r Oedfa Foreol. Ers mis Medi, buom yn dilyn cyfres newydd o bregethau, Ffydd a’i Phobl, yn seiliedig ar bennod 11 o’r Llythyr at yr Hebreaid. Hanfod y gyfres yw’r cwestiwn "Beth yw ffydd?" ac yn y bennod hon mae’r awdur yn mynd i’r afael â’r cwestiwn drwy sôn am 16 o Bobl Ffydd. Mae bob un yn cynnig rhan o’r ateb i’r cwestiwn, "Beth yw ffydd" ac o fis i fis buom yn ystyried cyfraniad y naill gymeriad ar ôl y llall i’r ateb. Mae pob un o’r 16 yn llun bychan, a phob llun bychan yn creu un llun - y llun mawr. Erbyn bore heddiw Dafydd a Samuel oedd yn cael sylw’r Gweinidog.
Beth yw ffydd?
Fe’n hatgoffir gan Abel mae byw’n ddiolchgar yw ffydd.
Amlyga bywyd Enoch mai ffydd yw meithrin y profiad o bresenoldeb Duw.
Dengys Noa mai gwres perthynas o gariad yw ffydd, ac yng ngwres y cariad hwnnw, parodrwydd i weithio a chydweithio er gogoniant i’r hwn sydd Gariad.
Fe’n hatgoffir gan Abraham mai ‘arwriaeth hardd’ a ‘dewrder gloyw’ yw ffydd.
Amlyga bywyd Isaac nad atodiad i fywyd yw ffydd, ond hanfod byw.
Dangos Jacob i ni mai ymrafael yw ffydd - Duw yn ymrafael â ni.
Dysgwn gan Sara mai ffydd yw derbyn fod gan Dduw ffydd ynom ni.
Fe’n hatgoffir gan Isaac ac Esau mai dygymod â siom yw ffydd.
Amlyga Joseff mai ffydd yw trosglwyddo’r ffydd mewn ffydd.
Dangos Jochebed ac Amram mai ymddiried yw ffydd - ni’n ymddiried yn Nuw, a Duw yn ymddiried ynom ni.
Fe’n hatgoffir gan Moses mai uniaethu ag eraill yw ffydd. Ofer siarad am y ‘rhai sy’n fyr o’n breintiau’ heb weld bod y llwybr sydd yn arwain atynt yn dechrau wrth ein traed.
Amlyga Moses mai ffydd yw gweld. Hanfod crefydd yw nid ‘gwna!’ a ‘na wna!’ ond ‘gwêl’!
Dangos Bitheia mai ffydd yw gweld cyfle i wneud yr hyn sy’n iawn; mynnu’r cyfle i ganfod y da sydd ym mhawb yn ddiwahân.
Mae Rahab yn dangos mai ffydd yw mentro. Pwysig bod yn eglwys fedrus; pwysicach bod yn eglwys fentrus.
Dangos Gideon mai ffydd yw ymroi ac ymddiried. Gwir fesur eglwys yw ymroddiad ac ymddiriedaeth ei phobl. Ymroddiad i ddarllen a thrafod y Beibl; ymroddiad mewn cefnogaeth, ffyddlondeb, a chysondeb; ymddiriedaeth yn Nuw trwy weddi, gwasanaeth dygn a chenhadaeth feiddgar.
Dafydd? Ym mhennod gynderfynol Llyfr Cyntaf Cronicl trosglwydda Dafydd ei orsedd i Solomon. Er bod y deyrnas yn unedig a llewyrchus, a ganddi safle a dylanwad arbennig, ychydig iawn o sôn sydd am y pethau hyn: Rhoddodd Dafydd i'w fab Solomon gynllun porth y deml ... Rhoddodd iddo gynllun o'r cyfan a gafodd (gan Dduw) ynglŷn â chynteddau tŷ'r Arglwydd, yr holl ystafelloedd o’i gwmpas ... (1 Cronicl 28: 12-13). Ag yntau ar derfyn ei fywyd sylweddolodd Dafydd mai ei gyfoeth pennaf oedd, nid yr arian a gasglodd, y fyddin gref a adeiladodd na’r system wleidyddol a sefydlodd, ond glasbrint y deml y methodd ei chodi ... Yna dywedodd Dafydd wrth ei fab Solomon, "Bydd yn gryf a dewr a dechrau ar y gwaith: paid ag ofni na digalonni, oherwydd y mae’r Arglwydd Dduw, fy Nuw i, gyda thi ... (1 Cronicl 28: 20-21). Mae’r neges yn amlwg, Nid diogelwch a threfn yw gwerthoedd uchaf bywyd. Yn hytrach, gwneud popeth er gogoniant i Dduw. Onid, dyna beth yw ffydd?
Boed fy nghalon iti'n demel,
boed fy ysbryd iti'n nyth:
ac o fewn y drigfan yma
aros, Iesu, aros byth
(William Williams, 1717-91; C.Ff. 698)
Neges syml oedd gan Samuel: cydio o’r newydd yn yr hen symledd. Bu Samuel yn galw am adfer symledd yr hen berthynas agos â Duw fel yr unig ffordd ymlaen. Dyma pam y bu mor wrthwynebus i ddymuniad y bobl am frenin. Nid brenin newydd oedd ei angen arnynt, ond dychwelyd at symled yr hen berthynas â Duw. Beth yw ffydd? ... an old fashioned way to be new. (Robert Frost, 1874-1963; Collected Prose, Vintage, 2001)
Ar ôl enwi 16 o bobl ffydd rhestrir naill ai o’r hyn a wnaeth eraill neu o’r hyn a ddigwyddodd iddynt: y rhai drwy ffydd ... a weithredodd gyfiawnder ... a ddaeth yn gadarn mewn rhyfel ... Derbyniodd gwragedd eu meirwon drwy atgyfodiad gwell (Hebreaid 11:33-35). Gweddill y bennod oedd testun ein sylw yn yr Oedfa Hwyrol. Pwy yw’r bobl hyn tybed? ... a oresgynnodd deyrnasoedd Josua? Arweinydd craff a oresgynnodd deyrnasoedd. a weithredodd gyfiawnder Solomon? Gŵr a ddaeth yn ddiarhebol am ei ddoethineb, Ni fu brenin tebyg iddo ... yn ffefryn gan ein Duw (Nehemeia 13:26a). Daniel? ... caed ynddo ef oleuni, a deall, a doethineb (Daniel 5:11). Esra neu Nehemeia afaelodd yn yr addewidion (Esra 10:5; Nehemeia 5:12;13)? Yn sicr, Daniel oedd yr un ... gaeodd safnau llewod. Sadrach, Mesach ac Abednego ... a ddiffoddodd angerdd tân. Gallai dihangodd rhag min y cleddyf fod yn gyfeiriad at Jeremeia (Jeremia 51:50). Ai Heseceia yw’r hwn a nerthwyd o wendid? ... aeth Heseceia’n glaf ... daeth y proffwyd Eseia a dweud, "... yr wyt ar fin marw; ni fyddi fyw’". Trodd Heseceia ei wyneb ... a gweddïo ar yr Arglwydd (2 Brenhinoedd 20: 1-2). O ganlyniad ychwanegwyd 15 mlynedd at ei oes. Omri, efallai ddaeth yn gadarn mewn rhyfel (1 Brenhinoedd 16: 16). Derbyniodd gwragedd eu meirwon drwy atgyfodiad gwell - y weddw o Sareffta (1 Brenhinoedd 17:17-24). Hawdd meddwl am y bobl hyn fel arwyr ffydd, ond awgrymodd ein Gweinidog nad dyna fwriad awdur yr Hebreaid; yn hytrach, myn yr awdur fod y bobl gyffredin hyn, trwy ffydd, wedi llwyddo i gyflawni gwasanaeth a gweinidogaeth anghyffredin! Pobl i’w hefelychu ydynt, nid arwyr i’w hedmygu. Â’r bennod ymlaen i nodi’r hyn a ddioddefasant er mwyn eu ffydd: ... eu harteithio ... brofi gwatwar a fflangell ... crwydrasant yma ac acw mewn crwyn defaid ... mewn tiroedd diffaith ... ac yn cuddio mewn ogofeydd (Hebreaid 11:36-38). Pobl ffydd yn cael eu herlid, yn aml gan bobl ffydd! Mae ddoe a heddiw’r Eglwys Gristnogol yn drwch o anoddefgarwch a rhagrith. Nid perffaith mo pobl ffydd! Lleda’r Eglwys Fawr, a ffynna’r eglwys leol, dim ond pan fyddwn yn cydnabod a chyhoeddi ein bod yn aelodau o’r Eglwys, nid am ein bod ni, na hithau’n berffaith, ond am ein bod yn gwybod nad perffaith mohoni nac mohonom.
Am hynny, gadewch i ninnau hefyd, gan fod cymaint torf o dystion o’n cwmpas ... a rhedeg yr yrfa sydd o’n blaen ... gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd (Hebreaid 12:1-2). Yma cymhwysa Paul esiampl y rhai a restrwyd ym Mhennod 11 at Gristnogion ei ddydd. Safwn ar ysgwyddau eraill. ‘Rydym yma heddiw oherwydd tystiolaeth, argyhoeddiad a dal-i-fyndrwydd y torf o dystion o’n cwmpas. Ymhlith y ‘dorf’ mae hefyd pobl ffydd na chododd bys, hyd yn oed pan ‘roedd angen codi llaw, llais a bloedd. Pobl ffydd na feddyliodd erioed am gynnal fflam, a throsglwyddo ffydd i’r genhedlaeth nesaf. Erbyn 2116 byddwn ninnau ymhlith y torf o dystion o’n cwmpas. Sut bydd y genhedlaeth nesaf yn ein cofio? Cofiwn mai gosod sylfaen a wnawn, creu dyfodol, sefydlu etifeddiaeth.
... i’r ‘fory newydd, O! ein Duw,
dy law i’n tywys dod,
dysg ni i gadw’r fflam yn fyw
er mwyn dy air a’th glod.
(T.R.Jones; C.Ff. 270)
Diolch am y gyfres hon ac am fendithion y Sul.