Awgrymodd fod Iesu’n Ganolwr: Oherwydd lle mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol (Mathew 18:20 BCN).
Weithiau, meddai, try’r adnod hon yn fwy o gwestiwn nag o osodiad: yr wyf yno yn eu canol?? Ti a minnau a’n tebyg, yn ffôl, gwan, gwamal fel ag yr ydym, a’n crefydd fach bigog ni: yr wyf yno yn eu canol?? Dirwasgiad, diweithdra, rhyfel a therfysg; newyn a phoen, difaterwch, difrawder: yr wyf yno yn eu canol??
Y Sul-pen-mis hwn, anogwyd ni i gofio cofio nad oes gofynnod yn perthyn i bresenoldeb Crist! Daeth Crist i’n plith! ... yr wyf yno yn eu canol! Gyda ni yng nghymhlethdod ac annibendod byw; gyda ni yng nghanol holl broblemau dyrys ein byd: ... yr wyf yno yn eu canol. Heddiw, yng nghanol ein llafur a’n lludded, yr helynt a’r helbul, yr hwyl a’r miri i gyd: ... yr wyf yno yn eu canol! Hwn yw ein gwaredwr. Dim gofynnod, ond ebychnod tragwyddol: yr wyf yno yn eu canol!
Yng nghanol byd y dolur, - yr angen,
A’r ingoedd didostur,
Y mae i’w gael falm i gur,
A Cheidwad i bechadur.
(Roger Jones Talybont)
Wedi ymdawelu cawsom gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd a gwerth y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, ac o’r herwydd i addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.
Braf iawn oedd gweld Daniel, Gruff, Sioned, Enlli a Huw adref yn ôl - dymunwn yn dda iddynt wrth ddychwelyd i’w astudiaethau a’i gwaith. Cawsom hefyd ymweliad gan ein cyfeillion o Benrhys: Hannah a Seren fach; Miara (o Fadagascar), Rebecca a'i brawd (o Mizoram). Hyfryd oedd cael eu cwmni wrth addoli’r Arglwydd heddiw - boed bendith weinidogaeth Eglwys Llanfair, Penrhys.
Diolch am hwyl a her yr Oedfa Deulu. Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar bore Sul nesaf (10/4) o dan arweiniad Dyfrig Parri.
Liw nos, cawsom gyfle i gydio o’r newydd yn y gyfres bregethau: Ffydd a’i Phobl - Hebreaid 11.
Yn yr unfed bennod ar ddeg o’r Llythyr at yr Hebreaid, mae’r awdur yn mynd i’r afael â’r cwestiwn oesol gyfoes, bythol newydd: ‘Beth yw ffydd?’ Sonnir ganddo am oddeutu un ar bymtheg o bobl ffydd. Awgrymu mae’r awdur fod bywyd yr un a’r bymtheg hyn, bob un gyda’i gilydd yn ateb y cwestiwn: ‘Beth yw ffydd?’ Mae pob un o’r un ar bymtheg yn llun bychan, a phob llun bychan yn creu un llun - y llun mawr. Byddwn yn mynd drwyddynt gyda’n gilydd eleni, fesul dau neu dri.
‘Rydym eisoes wedi hel meddyliau am Abel, Enoch a Noa; Abraham, Isaac, Jacob a Sara. Ym mis Tachwedd buom yn trafod Esau, Joseff, Amram a Jochebed, sef mam a thad Moses. Cawsom hoe fach dros gyfnod yr Adfent, ac ym mis Ionawr ailgydio gan ystyried Moses a merch Pharo - Bitheia. Ym Mis Chwefror Rahab a Gideon oedd testun ein sylw. Wedi hoe arall dros gyfnod y Grawys, heno cawsom gwmni Barac, Samson a Jefftha.
Beth, felly yw cyfraniad y pedwar hwn i’r ateb a geisiwn, ‘Beth yw ffydd?’
Beth yw cyfraniad Barac i’r ateb a geisiwn? Ffydd yn mentro mewn ffydd. Ffydd yw mentro mewn ffydd heb fod gennym ffydd i fentro! Gwnawn ein gorau! Gwnawn y gorau o’r ffydd, gyda’r ffydd sydd gennym. Mae gorau pobl Dduw yn drech na gwaethaf y gwaethaf ar eu gwaethaf! Pam? Sut? Duw. I fenthyg geiriau Paul yn ei lythyr ar yr Effesiaid, mae’r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni ... (3:20)
Ymlaen at Jefftha. Beth yw cyfraniad Jefftha i’r ateb a geisiwn? Ffydd yw sefyll yn y bwlch! Nid hawdd sefyll yn y blwch!
Dyma gyfraniad cyntaf Samson i’r ateb a geisiwn: Ffydd yw codi uwchlaw amgylchiadau anodd bywyd. Yr ail gyfraniad? Ffydd yw ennill buddugoliaeth drosom ein hunain. Roedd buddugoliaeth Samson dros ei amgylchiadau yn llwyr ddibynnol ar ei fuddugoliaeth drosto ef ei hun. Daeth gwir fawredd Samson i’r amlwg dim ond wrth iddo gydnabod ei fychander, pan sylweddolodd fod yn rhaid iddo ymddiried nid mewn nerth bôn braich ond yn Nuw.
Diolch am fendithion y Pasg Bach.