Rhwng y ddwy oedfa foreol, cynhaliwyd Brecwast Masnach Deg: gwledd o frecwast a chyfle euraid i flasu a phrofi’r newydd - jam hibisgws a the Chai! Mae ystod cynnyrch Masnach Deg yn syfrdanol. Wedi’r brecwast a’i sgwrs, prysurdeb y stondin Masnach Deg (y dewis yn helaethach o dipyn heddiw wrth gwrs); cyfrannu i Fanc Bwyd Caerdydd, daeth 10:30, a’i gyfle newydd i addoli, gan ddechrau yn sŵn Salm 85:8-11 a’r weddi syml, dreiddgar: F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf.
Thema pregethau’r Grawys eleni yw ‘Ffydd a Thrais’, ac yn yr Oedfa Foreol cydiwyd yn CONTEST - strategaeth gan Lywodraeth San Steffan fel ymateb i fygythiad brawychiaeth. Ceir iddi bedair ongl: Pursue, Prevent, Protect, Prepare … ymlid pob bygythiad, gweithredu i atal ymuno â mudiadau terfysg, cynnal a datblygu'r hyn sydd yn ein hamddiffyn a pharatoi ar gyfer ymosodiad. Hanfod y bregeth hon oedd yr alwad sydd arnom fel cymunedau ffydd i ymlid, atal, amddiffyn a pharatoi.
Bu ein cyfnod yn drwm o sôn am ddiogelu’r amgylchfyd, a dileu tlodi, anghyfartaledd, trais, rhyfel a therfysg. Erys y pethau hyn. Cuddiwn ein diffyg pendantrwydd, diffuantrwydd a dal-i-fyndrwydd o dan haenau o siarad, addewidion a bwriadau da. Try teimlad yn ddim amgenach na sentiment! Rhaid ymlid y sentimental.
Pa gymdeithas all magu’r dinasyddion sydd eu hangen ar ein gwlad a’n byd? Cymdeithas o gyd-addolwyr. Y gymdeithas hon a sicrha’r fagwrfa orau i bersonoliaeth rydd, ond cyfrifol. Rhaid atal pobl rhag cefnu arni.
Bloeddia’r penawdau trais a llofruddiaeth, rhyfel a therfysgaeth. Mae ofn arnom; mae ofn yn creu trais. Yr unig amddiffyn i ofn yw gobaith. Peidiwch ag ofni (Luc 2: 11) yw neges ein ffydd. ... mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn (1 Ioan 4: 18).
Mewn bywyd daw gofid, diflastod, unigrwydd a thorcalon. Ni ellir osgoi'r rhain ond gellir paratoi i wynebu eu canlyniadau a’u goblygiadau. Mae angen unigolion a chymunedau ffydd sy’n barod i wylo gyda’r rhai sy’n wylo (Rhufeiniaid 12:15b) ... y ffoadur, y tlawd, yr amddifad a’r galarus.
Yn yr Oedfa Hwyrol, daeth y gyfres Grawys i ben gydag ystyriaeth o’r adnodau rhain o’r Llythyr at yr Hebreaid: Unwaith eto yr wyf fi am ysgwyd nid yn unig y ddaear ond y nefoedd hefyd". Ond y mae’r geiriau, ‘Unwaith eto’, yn dynodi bod y pethau a siglir, fel pethau wedi eu creu, i gael eu symud, er mwyn i’r pethau na siglir aros (Hebreaid 12: 26-27). Cyfaddefodd ein Gweinidog nad geiriau cysurlawn mohonynt, ond mynnai fod cymorth ac arweiniad ymhlyg ynddynt.
Duw sydd yn ysgwyd. Nid oes unrhyw ymgais i sentimentaleiddio Duw yn y Llythyr at yr Hebreaid. Nid Duw meddal mohono: Duw sydd yn ysgwyd pobl a byd yw hwn! Ysgwyd y cyfan oll, i bwrpas - symud y pethau a siglir, er mwyn i’r pethau na siglir aros. Allweddol bwysig yw’r pethau na siglir; wrth y rheini y dylem lynu. Rhain yw sylfaen y deyrnas ddi-sigl.
Awgrymodd ein Gweinidog tri pheth na siglir mohonynt. Natur ddigyfnewid Duw. Mae Duw yn gyson. Duw y cariad nad yw’n oeri, Tad y gras nad yw’r lleihau (George Rees, 1873-1950; C.Ff. 586). Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth (Hebreaid 13:7).
Yr Eglwys: ... ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau angau y trechaf arni (Mathew 16: 18). Weithiau bu hon yn ddewr, ond nid pob amser! Weithiau, bu farw mewn cywilydd, llwch a baw. Bob tro, daeth bywyd newydd iddi oherwydd bod yr Hwn sydd ei phiau yn gwybod Ei ffordd allan o bob bedd.
Duw cariad yw (1 Ioan 4:8); tri gair yn warant o’n parhad. Wrth edrych ar y byd a’i phobl, ai posibl dychmygu creu rhywbeth mor anhygoel o gymhleth a phrydferth, dim ond i’w weld yn cael ei ddinistrio? O fethu dychmygu’r fath beth, sut ellir credu y gall Duw greu rhyfeddod yr hyn oll ydym, dim ond i’w weld yn darfod. O’n blaenau, mae Sul y Pasg, pryd y gwelwn gan fy mod yn fyw, byw byddwch chwithau hefyd (Ioan 14:19) - nid y bywyd hwn yw’r cyfan o fywyd.
Pan ysgydwir ein ffydd, ein diwylliant a’n crefydda, glynwn wrth y tri pheth hyn: mae Duw yn ddigyfnewid yn ei gariad; er iddi farw, nid marw bydd Eglwys Iesu Grist; a gan fod Iesu’n fyw, byw fyddwn ninnau hefyd.
Da a buddiol fu’r gyfres hon. Diolch amdani.
Bu i’r gymdeithas barhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Diolch am amrywiol fendithion y dydd.
Edrychwn ymlaen at gael croesawu’r Parchedig Ddr. Noel Davies yn ôl i’n plith bore Sul nesaf. Â hwythau’n cynnal ei gŵyl bregethu flynyddol, ein braint fel eglwys nos Sul, fydd cael ymuno â’n brodyr a chwiorydd yn y Tabernacl, Caerdydd i wrando neges y Parchedig Ddr. Densil Morgan. Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul.