Mae'r wybodaeth isod yn gywir yn unol â'r wybodaeth sydd gennym ar y pryd ond cofiwch ddarllen y Cyhoeddiadau ar y Sul er mwyn cadarnhau pob cyfarfod.
CYMDEITHAS DDIWYLLIANNOL EGLWYS MINNY STREET
Dathlu Gŵyl Dewi yng nghwmni ein Gweinidog ac aelodau PIMS
366
Mae’r geiriau ‘Nac ofna’, neu ‘Nac ofnwch’ yn ymddangos 366 o weithiau yn y Beibl. Unwaith i bob dydd o’r flwyddyn naid hon! Mae’r anogaeth ‘Nac ofnwch’, ‘nac ofna’ yn greiddiol i neges y Beibl.
A dywedodd yr angel wrthi, ‘Nac ofna, Mair; canys ti a gefaist ffafr gyd â Duw’ (Luc 1:30 WM).
... dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo mewn breuddwyd, a dweud, ‘Joseff fab Dafydd, paid ag ofni cymryd Mair yn wraig i ti ...’ (Mathew 1:20 BCN).
Yna dywedodd yr angel wrthynt, ‘Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd ...’ (Luc 2:10,11 BCN).
Dyma Iesu’n dweud wrth Simon, ‘Paid bod ofn, o hyn ymlaen byddi di’n dal pobl yn lle pysgod’ (Mathew 5:10b Beibl.net).
Ond dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw, ‘Mae’n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn’ (Mathew 14:27 beibl.net).
Nac ofna, braidd bychan; canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas (Luc 12:32 WM).
Yna meddai Iesu wrthynt, ‘Peidiwch ag ofni ...’ Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fe nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae’r byd yn rhoi yr wyf fi yn rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon, a pheidiwch ag ofni (Mathew 28:10/Ioan 14:27 BCN).
Mewn distawrwydd agorwch eich meddwl a’ch calon i Dduw...
Rhannwch ag ef yr ofn mawr, neu’r ofnau mân sydd heddiw’n pwyso arnoch.
Boed iddo ddileu ein hofnau; ein rhyddhau o’u gafael; ein hadfer i hyder, gan estyn i ni gyfle o’r newydd i’w wasanaethu.
Cofiwn am bobl eraill...
Boed i Dduw ymgeleddu hwythau hefyd; boed iddynt brofi’n helaeth o ddiddanwch ei gwmni a’i gariad.
Bendigedig fydd Duw a Thad
ein Harglwydd Iesu Grist,
y Tad sy’n trugarhau
a’r Duw sy’n rhoi pob diddanwch.
Y mae’n ein diddanu ni ym mhob gorthrymder,
er mwyn i ninnau,
trwy’r diddanwch y a gawn ganddo ef,
allu diddanu’r rhai sydd dan
bob math o orthrymder
(2 Corinthiaid 1:3-4).
(OLlE)
NEWYDDION Y SUL
Enghraifft o waith plant yr Ysgol Sul heddiw
Sul sawl ‘tro cyntaf’ bu hwn. Heddiw, am y tro cyntaf, bu Nia a Megan yn gyfrifol am ddefosiwn yr ifanc. Fe’n hatgoffwyd gan Nia mai Diwrnod y Llyfr yw dydd Iau nesaf (3/3). Hoff awdur Nia yw David Walliams (gan.1971)! Bu Nia a gweddill y teulu yn mwynhau addasiad llwyfan o Gangsta Granny yn y theatr yn ystod yr wythnos aeth heibio. Wrth nodi mae’r storïau tu mewn i glawr llyfr sydd yn bwysig, aeth yn ei blaen i sôn fod Iesu yn hoffi defnyddio storïau er mwyn dysgu pobl, a’n bod ninnau yn medru dod o hyd i’r storïau hynny rhwng cloriau’r Beibl. Yn yr un modd, roedd Dewi Sant hefyd yn defnyddio storïau, a ninnau'n medru mwynhau a dysgu o’r storïau a gawn am hanes Dewi gan gynnwys y pwyslais mawr ar wneud y pethau bychain.
Arweiniwyd ni mewn gweddi gan Megan, a’r weddi hyfryd honno’n adleisio neges Nia am bwysigrwydd gwneud y pethau bychain.
Heddiw hefyd, oedd y tro cyntaf i’r Parchedig Jill-Hailey Harries ymweld â ni. Yn naturiol felly, bu disgwyl eiddgar am y Sul hwn, a'r cyfle i wrando neges Jill-Hailey; clywsom am ei dull deniadol o bregethu. Gan ddechrau fel swyddog ieuenctid, mae Jill-Hailey Harries wedi bod yn weinidog gyda’r Annibynwyr am 30 mlynedd. Ers diwedd 2011, hi yw Gweinidog gofalaeth Bethel - Trinity sef eglwys Annibynnol Bethel Sgeti ac eglwys Bresbyteraidd Triniti, Parc y Sgeti ac ers dechrau’r mis mae hefyd wedi ychwanegu eglwysi’r Tabernacl a Bethania yn Nhreforys at ei gofalaeth. Mae Jill-Hailey hefyd yn ein cynrychioli fel Annibynwyr fel un o Ymddiriedolwr CWM Ewrop ac yn llais cyfarwydd i ddilynwyr y Munud i Feddwl boreol ar Radio Cymru.
Yn ei neges i’r plant, bu Jill-Hailey’n sôn am George Washington Carver (c.1860-1943; llun uchod). Wedi sylwi ar dlodi’r ffermwyr, penderfynodd George Washington Carver fod yn rhaid gwneud rhywbeth i’w cynorthwyo. Llwyddodd i amrywio ar eu cynnyrch, a’i hargyhoeddi i dyfu cnau mwnci (peanuts). Bu’r llwyddiant mor ysgubol nes creu gormod o lawer o gnau, a neb gwir yn siŵr beth i wneud â hwy. Felly, dyma Georgeyn dod eto i’r adwy! Gofynnodd Jill-Hailey i’r plant i ddyfalu beth ellir ei greu allan o gnau mwnci? Peanut Butter oedd yr unig awgrym, ond er mawr syndod i bawb, llwyddodd Washington Carver i gael pobl i greu - o gnau mwnci - llaeth, caws, blawd, sebon a ... byrddau ynysu (insultaing boards)! Hyn oll, nid er clod iddo ef ei hun ond er mwyn cynorthwyo pobl eraill. Wrth gloi, cydiodd Jill-Hailey yn nefosiwn ac anogaeth Nia: wrth wneud y pethau bychain yr ydym yn cefnogi a chynorthwyo eraill, a dilyn esiampl Crist.
Daeth yr amser i blant a phlantos yr eglwys fynd i’w gwersi. Dewi Sant yn naturiol ddigon oedd testun y gwersi rheini heddiw, a bu’r plant yn hel meddyliau am ystyr ‘Gwnewch y pethau bychain’ heddiw. Awgrymwyd caredigrwydd, helpu, creu a chadw ffrindiau, diolch, dangos parch at bobl. Paratowyd posteri trawiadol ganddynt i addurno wal y gegin adref, i atgoffa pawb yn y tŷ i wneud y pethau bychain. Yn gydiol wrth ein cynlyn Grawys - Solvitur Ambulando - bu’r plantos yn dysgu am Dduw yn galw Moses.
Duw yn galw Moses - gwaith y plantos.
Nodwyd Mawrth 1af gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ddydd o Eiriolaeth dros Gymru. Darperir, at eich defnydd gennym y diwrnod hwnnw, deunydd defosiwn tawel.
Testun sylw Jill-Hailey'r bore hwn oedd Pryder Nehemeia dros Jerwsalem (1:1-11). ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD...’ Ni chawn y fath ymadrodd o enau Nehemeia. Nid yr hyn a ddywedodd oedd yn bwysig ond yr hyn a wnaeth. Fe gofiwch mai rhyw lond dwrn yn unig o’r genedl a fanteisiodd ar y cyfle i ddychwelyd o’r gaethglud hir ym Mabilon i Jerwsalem. A pha ryfedd!? Dychwelyd i ganol llwyth o annibendod a phentwr o adfeilion. Beth oedd Gair yr ARGLWYDD ynghanol sefyllfa mor druenus? Gwelodd Nehemeia mai galwad i waith oedd yr unig aur perthnasol; torchi llewys, baeddu dwylo, casglu cerrig, cymysgu sment, cydio mewn trywel, chodi muriau’r ddinas, ie hyn oll, ond cyn cael ei bobl i weithio, mynnai Nehemeia weddïo. Ofer y bobl i ddychwelyd o Fabilon heb ddychwelyd at Dduw. Y weddi fawr honno oedd echel ein myfyrdod. Wedi gweld cyflwr torcalonnus Jerwsalem, cymaint oedd ei gonsyrn am ei bobl, fel bu’n rhaid i Nehemeia gyflwyno’r cyfan i Dduw. Mae gennym gonsyrn am Gymru, am eglwysi Cymru, a rhaid cyflwyno’r cyfan i Dduw, gan wybod mae ei fwriad mawr yntau yw cael ei bobl i gydweithio a’i gilydd i adfer cadernid y muriau. Gwaith mawr ydyw, a rhaid, fel Nehemeia, cyflwyno’n hunain a’r gwaith i Dduw, cyn mentro dechrau ar y gwaith. Gwnawn hynny gyda’r argyhoeddiad fod Duw yn abl a pharod i’n harwain yn y gwaith. Nid ein gwaith ni mohono, ond gwaith Duw, ac o’r herwydd gallwn bwyso ar addewid Duw o gymorth. Yn sgil ymroddiad Duw, ymrown. Gan fod Duw wedi ymrwymo i’n cynnal yn y gwaith, ymrwymwn i ddal ati yn y gwaith hwnnw.
Parhau, a datblygu neges pregeth y bore - pwysigrwydd gweddi - wnaeth ein cennad gwadd yn yr Oedfa Hwyrol. Testun ein sylw oedd hanes Solomon yn cysegru’r Deml o 2 Cronicl 7. Tynnwyd ein sylw at adnod agoriadol y bennod: Wedi i Solomon orffen gweddïo, daeth tân i lawr o’r nefoedd ac ysu’r poethoffrwm a’r aberthau a llanwyd y tŷ â gogoniant yr ARGLWYDD. Heb nacau dim ar bwysigrwydd gweddi, mynnai Jill-Hailey fod yn rhaid hefyd am y parodrwydd i ddyheu am bresenoldeb Duw, nid yn achlysurol, ond bob amser. Yn ein byw a’n bod, rhaid meithrin yr ymwybod o’r Duw sydd yn llond pob lle, presennol ymhob man. (David Jones, 1805-68). Man cychwyn pob gwir addoliad yw ymdeimlo â gogoniant Duw. A ydym yn y weithred o addoli yn ymdeimlo â goginiant Duw, fel Solomon gynt? Gogoniant brawychus ydyw, ond goginiant sy’n ennyn rhyfeddod, cariad, diddordeb, chwilfrydedd. Mae gogoniant Duw yn ein tynnu ato, yn ein gwahodd i gyfranogi ohono, a hynny bob amser, ac o dan bob amgylchiad.
Bu amryw o'n haelodau, rhwng y naill oedfa a'r llall, mewn gwasanaeth arbennig iawn i ddathlu pen-blwydd Llanfair yn 24 oed. Diolch i Dduw am 24 o flynyddoedd o genhadaeth, gwasanaeth ac addoliad yng nghymuned Penrhys.
Mawr ein diolch am holl fendithion y Sul.
Edrychwn ymlaen at Ddydd Gweddi Fyd-eang y Chwiorydd (4/3): gwasanaeth ar y thema Derbyniwch Blant, Derbyniwch Fi ym Minny Street - cymerir rhan gan chwiorydd o nifer o eglwysi Cymraeg Caerdydd gan gynnwys chwiorydd Minny Street. Paratowyd y trefn gwasanaeth eleni gan Chwiorydd Cristnogol Ciwba.
Bydd oedfaon y Sul nesaf (6/3) dan arweiniad ein Gweinidog. Cynhelir Oedfa Deulu am 10:30. Bydd paned, pice ar y maen a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa. Liw nos, am 6yh parhawn gyda chyfres pregethau'r Grawys 2016: 'Ffydd a Thrais’. Ystyrir y cysylltiad rhwng terfysgaeth â thlodi byd-eang (Mathew 25:31-46).
PYTHEFNOS MASNACH DEG: Chwefror 29 – Mawrth 13
Fe ddaw’r dydd, meddai Eseia (32:16-18), pan fydd barn yn trigo yn yr anialwch a chyfiawnder yn cartrefu yn y doldir; bydd cyfiawnder yn creu heddwch, a’i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth. Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon, mewn anheddau diogel a chartrefi tawel...Cawn gip olwg gan y proffwyd ar gymuned newydd byd-eang; cymuned wedi ei hadeiladu ar sylfaen o drugaredd mawr a chyfiawnder cadarn.
Gwyddom, un ac oll, fod y weledigaeth hon yn bell o gael ei gwireddu. Heddiw, yr un peth yn anad dim arall tarfu ar y gwaith o adeiladu gwell byd yw parodrwydd yr ychydig i ymelwa ar draul y mwyafrif. Mae ein brodyr a chwiorydd, ledled byd yn llafurio o dan amodau gwaith echrydus, a’m dâl sydd yn gwbl annigonol i sicrhau hyd yn oed y mesur lleiaf o’r diogelwch a moethusrwydd y cymerwn mor ganiataol. Mae Duw yn disgwyl i ni godi llais yn erbyn pob anghyfiawnder. Mae Duw yn galw arnom i ddefnyddio’r golud a rhoddwyd i ni i sicrhau gwell byd i bawb.
Mae newid y byd yn hawdd. Mae cynnyrch Masnach Deg yn gwneud hi’n hawdd i ti a minnau newid y byd. Wrth yfed te a choffi Masnach Deg, gallwch newid y byd, fesul paned. Wedi dewis siocled Masnach Deg, gallwch newid y byd trwy fwyta siocled - dychmygwch! Wrth agor potel o win Masnach Deg, gallwch newid y byd wrth ymlacio gyda ffrindiau dros bryd o fwyd. Mae sgidiau Masnach Deg ar gael - gallwch chi newid y byd wrth gerdded; mae pêl-droed Masnach Deg i gael - beth am newid y byd fesul gôl?
Nid chwarae bach yw Masnach Deg, nid hobi bach diniwed i rai Cristnogion yw Masnach Deg. Model economaidd amgen yw Masnach Deg yn seiliedig ar yr argyhoeddiad fod masnach a thegwch yn eiriau sydd heb orfod nacau’r naill y llall. Cofiwch felly, wrth yfed eich paned o de, neu goffi, eich bod chi mewn gwirionedd, o ddifri, yn helpu adeiladu gwell byd, un llymaid hyfryd ar y tro. Wedi gorffen y baned, mae hawl gennych felly i ddweud, ‘Ohh, mae paned yn gwneud byd o les weithiau!
(OLlE)
100% AVODAH
Gwaith, Addoliad, Gwasanaeth - un brethyn, un gwnïad ydyw!
Gwell esbonio efallai. Tueddwn i rannu bywyd yn faterol ac ysbrydol, yn gorff ac enaid, yn gysegredig a chyffredin, ac o’r herwydd creaduriaid y ‘rhwng’ ydym. 'Rydym yn byw a bod rhwng y materol a’r ysbrydol, rhwng y corff a’r enaid, rhwng y cysegredig a’r cyffredin; ar donfeddi cyfnewidiol; rhwng dau fyd, heb fedru dod a’r naill byth at y llall, nac ychwaith, yn iawn o’r naill byth at y llall.
Os gwehydd yw Duw, un ffrâm wau sydd ganddo. Brethyn diwnïad a gynhyrchir ganddo. Brethyn yn cynnwys bywyd i gyd, pob greddf, pob chwant, pob angen, pob dyhead, pob cri. I Dduw, nid oes rhwng yn bodoli i dorri’r materol o’r ysbrydol, y corff o’r enaid, y cysygredig o’r cyffredin. Mae enw i frethyn diwnïad Duw, oes: Avodah.
I ddechrau: Gwaith
Gwehydd oedd Duw o’r dechrau’n deg. Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a’i osod yng ngardd Eden, i’w thrin a’i chadw (Genesis 2:15). Gwelwn 'i'w thrin', a meddwl mai dyna fwriad Duw ar ein cyfer - trin y tir, gweithio. Mae trin - gweithio - yn gyfieithiad o’r gair Hebraeg: Avodah. Avodah a ddefnyddir hefyd yn Exodus 34:21: Am chwe diwrnod yr wyt i weithio, ond ar y seithfed dydd yr wyt i orffwys... Am chwe diwrnod yr ydym, ti a minnau, i Avodah.
Trown o Waith i Addoliad
Gwyddom mai bwriad Duw ar ein cyfer yw nid gwaith, a gwaith yn unig. Crëwyd ni hefyd i addoli Duw. Mae Exodus 3:12 yn sôn am alwad Duw i fywyd o addoliad:...wedi i ti arwain y bobl allan o’r Aifft, byddwch yn addoli Duw ar y mynydd hwn. ‘Addoli’ yw’r gair sydd gennym yn y cyfieithiad Cymraeg. Cyfieithiad ydyw o’r gair Hebraeg: Avodah. Mae’n fwriad gan Dduw ein bod yn ei Avodah, ei addoli.
Trown o Addoliad i Wasanaeth
Mae Duw yn ein galw i fwy, hyd yn oed, na gwaith ac addoliad. Mae Deuteronomium 10:12 yn cofnodi’r cwestiwn a’r ateb: Yn awr, O! Israel, beth y mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gennyt? Dy fod yn ofni’r ARGLWYDD dy Dduw trwy rodio yn ei ffyrdd a’i garu, a gwasanaethu yr ARGLWYDD dy Dduw a’th holl galon ac a’th holl enaid...’Gwasanaethu’ sydd gennym yn y cyfieithiad Cymraeg, yn yr Hebraeg ceir y gair Avodah. Mae’n ddymuniad gan Dduw ein bod yn ei Avodah, ei wasanaethu.
Neges y gair Avodah yn syml iawn yw hyn: Rhaid dysgu peidio tynnu brethyn ein bywyd yn ddarnau, rhaid dysgu peidio rhannu bywyd yn faterol ac ysbrydol, yn gorff ac enaid, yn gysegredig a chyffredin; er mwyn peidio gorfod llusgo byw rhwng y materol a’r ysbrydol, rhwng y corff a’r enaid, rhwng y cysygredig a’r cyffredin; rhwng dau fyd. Un peth, ac un peth yn unig a ddaw a’r materol a’r ysbrydol, y corff a’r enaid, y cysygredig a cyffredin y naill yn iawn at y llall: Avodah - gwaith, addoliad, gwasanaeth mewn uniad, y naill yn perthyn i’r llall, a hwnnw’r perthyn i’r lleill.
Yn union fel mae y mae’r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD (Deuteronomium 6:4), felly mae ein Duw yn gwau'r cyfan oll o fywyd ar un ffrâm wau, a dim ond un gair sydd yn iawn disgrifio’r bywyd, a’r ffordd o fyw a ddaw yn anochel o dderbyn hyn: Avodah. 100% Avodah.
(OLlE)
CYNGOR EGLWYSI CYMRAEG CAERDYDD - MYFYRDODAU’R GRAWYS
Cynhelir cyfres o fyfyrdodau dros gyfnod y Grawys dan nawdd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. Y thema eleni yw "Salmau: Gweddïau ar gyfer yr eglwys gyfoes".
‘Roedd yr ail yn y gyfres yng nghapel Bethel, Rhiwbeina dan arweiniad y Parchedig Allan Pickard. Gwrthrych ein myfyrdod a thrafod heno oedd Salm 130. Wedi cyflwyniad arbennig iawn, aethpwyd ati, yn dri grŵp, i drafod beth sydd gan y Salm hon i ddweud wrthym fel unigolion ac fel eglwysi? Pa neges sydd gan yr Eglwys i'n Cymdeithas am faddeuant a beth yw ystyr Disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD (ad.5)?
Cafwyd noson fuddiol a da.
Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.
MEDDE TI... MEDDE FI... (2)
Medde ti... Medde Fi.
'Yn awr, ynteu, ymresymwn â'n gilydd,' medd yr ARGLWYDD (Eseia 1:18a).