BETHSAIDA

Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).

Palet L.S.Lowry (1887-23/2/1976)'I use simple materials: Ivory Black, Vermilion, Prussian Blue, Yellow Ochre, Flake White ...'

Palet L.S.Lowry (1887-23/2/1976)

'I use simple materials: Ivory Black, Vermilion, Prussian Blue, Yellow Ochre, Flake White ...'

Y mae i’n berthynas â Duw ei wedd gyhoeddus a’i wedd bersonol; dibynna’r naill ar y llall. Mae ‘Bethsaida’ yn gyfle ac yn gyfrwng i ddyfnhau ein bywyd defosiynol.

Wedi cyd-ddarllen Salm 46, aethom i’r afael â’r cwestiwn mawr: A yw Duw bob amser yn ateb ein gweddïau? Aeth llawer gweddïwr i anobaith am iddo gredu nad oedd Duw yn gwrando.  Awgrymodd ein Gweinidog mai un o anhepgorion y ffydd yw bod Duw yn ymwybodol ohonom. O gredu hynny, ni ellid awgrymu fod Duw yn ein hanwybyddu! Mae Duw yn clywed a gwrando pob gweddi, ac yn ateb pob gweddi yn ôl ei ewyllys, ac yn ei amser ei hun.

Mae gennym enghreifftiau lawer o weddïau cywir a gonest, a’r rheini’n weddïau ar un olwg heb eu hateb. Ystyriwyd gennym heno'r ddwy enghraifft yma o’r Hen Destament: Cais Moses gerbron Duw am gael arwain ei bobl i Ganaan. Cais dyn da, a chais teg a rhesymol: Gad i mi fyned drosodd, atolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen (Deuteronomium 3:25). Ni chafodd mo’i ddymuniad. Nid croesi'r Iorddonen i Ganaan fu ei ran, ond esgyn i ben mynydd Pisga a marw yng ngolwg y wlad yr hiraethodd gymaint amdani.

Cais gwahanol a gawn gan Elias (1 Brenhinoedd 19:4 WM). Nid dymuno cael byw fel Moses, mae Elias, ond deisyfu cael marw: Eisteddodd dan y ferywen ac a ddeisyfiodd iddo gael marw. Ni chafodd yntau'r ateb a geisiodd. ‘Roedd gan Dduw ddarpariaeth well ar gyfer y ddau fel ei gilydd; darpariaeth a bendith nad oedd y naill neu’r llall yn gweld ar y pryd.

Aethom ymlaen i drafod yr enghraifft fwyaf adnabyddus o weddi nas atebwyd mohoni, eto ar yr olwg gyntaf: gweddi Iesu yng ngardd Gethsemane. Croesodd Iesu afon Cedron gyda’i ddisgyblion. ‘Roedd ei enaid yn athrist hyd angau (Mathew 26:38 WM) a gweddïodd boed i’r cwpan hwn fynd heibio i mi ... (Mathew 26:39 BCN). Dyma ddod at galon ac enaid gweddi: Ni roed i Iesu ei ddymuniad ond cafodd ei ateb - ateb Tad yn caru’r byd. Plygodd Iesu mewn gweddi, a phlygodd i ewyllys ei dad, ac felly cafodd nerth i wynebu’r Groes. Cafodd afael newydd ar ei Dduw, ac ystyr dyfnaf gweddi yw sicrhau hynny: dyfnder newydd i’n perthynas â Duw. Nid mynd â’n deisyfiadau at Dduw, a cheisio pethau penodol oddi wrtho yw gweddi yn ei hanfod, ond ceisio Duw ei hun. Os ydyw, ar adegau, yn ymatal rhag rhoi i ni’r pethau a geisiwn, nid yw byth yn ymatal rhag rhoi ei hun i ni.

Yn ei gyfrol Dyrchafwn Gri (Gwasg Pantycelyn; 1994) mae Lewis Valentine (1893-1986) yn awgrymu fel hyn:

A weddïaist ti erioed, ddarllenydd, heb dderbyn ateb i dy weddi? Afraid ydyw gofyn y cwestiwn; bu i bawb eu gweddïau nas atebwyd. Beth oedd dy brofiad yn wyneb y gweddïau hyn? A siglodd dy ffydd? Dylem ein hatgoffa’n hunain yn fynych nad erfyniad a deisyfiad a gofyn ydyw gweddi: o leiaf, nid hyn ydyw’r gweddïo mwyaf. Y mae hyd yn oed paganiaid wedi gweld hyn, canys dywed un ohonynt, ‘Nid ceisio cymell y duwiau i newid cwrs pethau ydyw gweddi, ond y rhodd a roir ganddynt o gymuno â hwynt’. Dyma fynd yn agos iawn at ystyr gweddi Gristnogol. Diflannai llawer o’n hanawsterau pe cofiem mai moddion i gymuno â’r Anfeidrol ydyw gweddi o flaen popeth arall.

Buddiol a brwd fu’r drafodaeth, a thrueni oedd ffrwyno ychydig arni er mwyn symud ymlaen i destun trafod arall: L. S. Lowry. Y dydd heddiw, yn 1976 bu farw Laurence Stephen Lowry (gan. 1887). Try ei waith o gwmpas trefi diwydiannol Manceinion a Salford. ‘Roedd gan y Gweinidog enghraifft o’i waith i ddangos i ni heno.

Dyma Snow in Manchester (1946). Mae’n debyg, mae palet o bum lliw fu gan Lowry o ddechrau ei yrfa hyd ei farw. Pum lliw, dim ond pump: ‘I am a simple man’ meddai, ‘I use simple materials: Ivory Black, Vermilion, Prussian Blue, Yellow Ochre, Flake White ...’ Y Flake White oedd o ddiddordeb i ni heno. Mae’n grefft defnyddio'r lliw gwyn wrth arlunio, ac ‘roedd Lowry yn feistr ar y grefft honno. Ers 1924 bu’n arbrofi gyda Flake White. ‘Roedd am weld sut oedd y lliw yn newid a datblygu gyda threigl y blynyddoedd: ‘From 1924 I conducted an experiment - to find the qualities of Flake White over long periods of time. I stood several boards painted with a number o coats of Flake White and kept them for many years. And I found what I was looking for - a perfectly beautiful tone of chalky grey white. So you see, the pictures I have painted today well not be seen at their best until I'm dead.’

Buddsoddiad mentrus yw gweddïo, addoli -  hawlio yfory er gwaethaf holl ansicrwydd heddiw - buddsoddwn ein ffydd gan gredu y bydd y ‘lluniau’ a beintiwyd gennym yn edrych ar eu gorau, ymhell wedi’n hamser ni.

Wedi cyfnod o weddi, daeth y 'Bethsaida' braf a buddiol hwn i ben.  

CAPERNAUM

Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll...Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw dair neu bedair milltir, dyma hwy’n gweld hwy’n gweld Iesu... (Ioan 6: 16,17 a 19)

Wedi awr a hanner o sŵn a miri PIMS, daeth cyfle i ymdawelu! Ffurfiwyd cylch clyd o gadeiriau: ymlonyddu yng nghwmni’r Proffwyd (Eseia 60:2-3;18-20) a’r Salmydd (Salm 8:3-8), a throi wedyn at destun ein sylw heno: Gweddi Daniel (Daniel 2: 14-23). Dyma emyn o gasgliad Robert Jones, Llanllyfni, 1851:

Ymgrymwn oll ynghyd i lawr

Gerbron gorseddfainc gras yn awr;

 pharchus ofn addolwn Dduw;

Mae'n weddus iawn - awr weddi yw.

 

Awr weddi yw, awr addas iawn

I draethu cwynion calon lawn;

Gweddïau'r gwael efe a glyw

Yn awr yn wir - awr weddi yw.

 

Dy Ysbryd, Arglwydd, dod i lawr

Yn ysbryd gras a gweddi nawr

I'n gwneud yn wir addolwyr Duw;

Mawl fo i ti - awr weddi yw.

Sylwch ar gwpled agoriadol yr ail bennill:

Awr weddi yw, awr addas iawn

I draethu cwynion calon lawn ...

Mae Robert Jones yn gwbl gywir: addas iawn, mewn gweddi yw traethu cwynion calon lawn ... ond, mae’r awr weddi hefyd yn gyfle a chyfrwng i draethu gorfoledd buddugoliaethus ein ffydd. Dyna a geir yn Llyfr Daniel. Ysgrifennwyd Llyfr Daniel tua chanol yr ail ganrif cyn Crist pan oedd brenin Syria wedi ymosod ar Jerwsalem. Nid oedd gorchfygu’r wlad yn ddigon iddo, rhaid hefyd oedd gorchfygu ysbryd y bobl, ac i’r diben hwnnw, fe waharddodd gadw’r Sabath a darllen yr Ysgrythurau; halogodd y Deml trwy godi yno allor i ddelw ac aberthu moch arni. Cynnal a chefnogi’r bobl, wrth iddynt geisio ymateb i hyn oll, oedd bwriad awdur llyfr Daniel. Gwna hynny trwy adrodd helyntion y ffyddloniaid dewrion gynt: Daniel a’i gyfeillion yn y gaethglud ym Mabilon; Daniel yn dehongli breuddwyd Nebuchadnesar; Daniel yn y ffau llewod; gwledd Belsassar a Sadrach, Mesach ac Abednego yn y ffwrnais dân. Wrth wraidd y storïau hyn, bob un, mae pobl Dduw, yn Nuw, yn goroesi. Dyna neges Llyfr Daniel, a neges ydoedd i bobl Jerwsalem, a hwythau dan bawen drom y Syriaid.

Yn y weddi hon o eiddo Daniel, mynegir hyder ffydd; traethu’r gorfoledd a llawenydd. Sylwch felly:

Mae Duw yn teyrnasu: Bendigedig fyddo enw Duw yn oes oesoedd; eiddo ef yw doethineb a nerth. Ef sy’n newid amserau a thymhorau, yn diorseddu brenhinoedd a’u hadfer ... Ceir adlais o hyn yn Emyn Mawl Mair: tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau ... (Luc 2:52a). Bob amser, er waethaf pob peth, a thrwy gyfrwng bob peth mae Duw yn teyrnasu.

Mae Duw yn arddel ei bobl: Diolchaf a rhof fawl i ti, O! Dduw fy nhadau, am i ti roi doethineb a nerth i mi. Bu Duw ar waith ddoe - fy nhadau - ond mae Duw ar waith yn y presennol; ei weithgarwch achubol ym mhob presennol yw gobaith ei bobl i bob dyfodol.

Arwain hynny at y peth olaf: Mae Duw yn ymyrryd i achub. Dangosais i mi yn awr yr hyn a ofynnwyd gennym, a rhoi gwybod inni beth sy’n poeni’r brenin. Cafodd Daniel wybod, gan Dduw beth oedd yn poeni’r brenin. O’r herwydd, daeth cyfle newydd, gobaith newydd, hyder newydd. Mae Duw yn ymyrryd i achub, ac wrth wraidd ein ffydd ninnau mae’r bennaf ymyrraeth: ... daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad (Ioan 1:14).

Awr weddi yw, awr addas iawn

I draethu cwynion calon lawn ...

Ie, ac awr addas iawn hefyd i draethu gorfoledd y galon lawen. Mae ein Duw yn teyrnasu. Mae Duw yn arddel ei bobl, a Duw ar waith ydyw, yn ymyrryd i’n cynnal a’n cadw. Daeth ein hegwyl o weddi i ben yn sŵn hyfryd eiriau Iesu (Ioan 15:13-15).

'Capernaum': diolch am gylch o gwmni a gweddi, a’r cyfan yn echelu’n esmwyth ar sicrwydd bendigedig y geiriau: Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt (Mathew 18:20 WM).

Testun ein sylw yn 'Tiberias' (7/3) fydd Proffwydi Baal a Phroffwyd yr Arglwydd yn gweddïo (1 Brenhinoedd 18:21-40).

PIMS

Parhau gwnaeth PIMS heno i drafod arwyddocâd y rhif ‘6’ gan ddechrau gyda chwilio am hanes Iesu’n troi’r dŵr yn win yn Efengyl Ioan. Gwyddai’r PIMSwyr a fu yn yr Oedfa Foreol bore ddoe beth oedd y cysylltiad rhwng y stori a thema’r mis - chwech o lestri carreg i ddal dŵr (Ioan 2:6). Bu’r aelodau hŷn - rhai hy ydynt! - yn tynnu coes y Gweinidog am natur brin y cysylltiad hwnnw! Ond, cysylltiad yw cysylltiad, a chyflwynwyd llun isod i’w sylw.

Llun:  Vie de Jesus Mafa

Llun:  Vie de Jesus Mafa

Wedi hollti’r cwmni’n grwpiau llai, aethpwyd ati i chwilio am y llestri, y briodferch a’r priodfab; Mair, mam Iesu, ac Iesu ei hun. Wedi hyn aethpwyd i’r afael â neges y llun: Pam oedd yr Iesu Affricanaidd hwn yn gwisgo nid gwyn, ond coch? Onid llesol yw gweld Iesu wedi ei bortreadu mewn ffordd cwbl wahanol a newydd? Nid llesol yw cyfarwyddo ac un ffordd o bortreadu Iesu, gan fod Iesu’n fwy nag unrhyw, a phob portread ohono. Rhaid i Iesu fod yn un ohonom, ac er bod y portread hwn ohono’n newydd i ni, cwbl gyfarwydd ydyw i bobl yr arlunydd Vie de Jesus Mafa yng Ngogledd Camerŵn.

Symudwyd y cwmni ymlaen, heb oedi dim, o’r naill weithgaredd i’r llall. Tri grŵp ac arweinydd i bob un. Y gamp? Defnyddio 6 gair i ateb y cwestiwn ‘Beth yw Gobaith?’; ‘Beth yw Cariad?’; ‘Beth yw Ffydd?’ Bu’n rhaid gweithio a thrafod yn galed i sicrhau cydsyniad, ond fe lwyddwyd.

Wedi’r gwaith caled, daeth syrpreis! Trefnwyd - gan fod y tywydd mor braf! - ymweliad â Coco Gelato, parlwr hufen ia lleol. Anodd oedd dewis, ond dewis bu’n rhaid! Mwynhad mawr a gafwyd!