• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

CALONOGI

February 16, 2016 Owain Evans
Joseph Grimaldi (1778-1837)

Joseph Grimaldi (1778-1837)

Fel rwyt ti’n gwybod, mae pawb yn nhalaith Asia wedi troi cefn arna i, gan gynnwys Phygelus a Hermogenes. Dwi’n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn arbennig o garedig at Onesifforws a phawb arall yn dy dŷ. Mae e wedi codi fy nghalon i lawer gwaith, a doedd ganddo ddim cywilydd fy mod i yn y carchar. Yn hollol fel arall - pan ddaeth i Rufain, buodd yn chwilio amdana i ym mhob man nes llwyddo i ddod o hyd i mi. Boed i’r Arglwydd fod yn arbennig o garedig ato y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod yn ôl! Rwyt ti’n gwybod cymaint o help fuodd e i mi yn Effesus (2 Timotheus 1:15-18; Beibl.net).

Mae Paul yn yr adnodau uchod yn dymuno i’r Arglwydd ddangos trugaredd at deulu Onesifforws oherwydd bod y dyn arbennig hwn wedi codi ei galon droeon. Mae perygl weithiau i ni anghofio fod angen codi calon y sawl sydd yn ein calonogi ninnau. Âi Paul o amgylch yn ysbrydoli ac yn calonogi, ond ceir awgrym bach yn yr hyn a ddywed fod ganddo ef ei ofidiau.

Pa mor llydan bynnag y wên ar wyneb rhywun heddiw, pa mor hapus bynnag y mae’r person hwnnw’n ymddangos, efallai fod angen rhyw Onesifforws arno i godi calon. Clywsoch efallai am Grimaldi - clown enwog. Aeth Grimaldi i ymweld â’r meddyg am ei fod yn teimlo braidd yn isel ei ysbryd, a mentrodd ofyn i’r meddyg am eli i’r dolur. Awgrymodd y meddyg, yn ei anwybodaeth, y dylai'r claf ymweld â’r syrcas yn y dref lle’r oedd clown o’r enw ‘Grimaldi’ yn perfformio. Fe fyddwch yn siŵr o deimlo’n well wedi gweld yr enwog Grimaldi! meddai. Fi yw Grimaldi meddai’r claf.

Cofiwn ei fod yn gyfrifoldeb arnom bob un, bob amser i galonogi'r calonogwyr, i gynnal y cynhalwyr, i weini ar y gweision.

Diolchwn O! Arglwydd am y bobl sy’n rhoi o’u hamser i’n calonogi, hyd yn oed pan gyst hynny’n ddrud iawn iddyn’ nhw eu hunain. Amen

 

(OLlE)

'A'R MWYAF O'R RHAI HYN YW CARIAD' - DEUNYDD DEFOSIWN TAWEL

February 15, 2016 Owain Evans
Delwedd: www.cwt-tatws.co.uk

Delwedd: www.cwt-tatws.co.uk

Y mae Cariad yn hirymaros.

O! Dduw, sut mae bod yn hirymaros â’n byd, ein gwlad, ein cymuned yn drwm o anghyfiawnder?

O! Dduw, dysg ni i fod yn amyneddgar, heb fod yn fud disymud a llwfr.

 

Y mae Cariad yn gymwynasgar.

O! Dduw, sut mae bod gymwynasgar â chymaint o atgasedd, dicter a chwerwedd o’n cwmpas?

O! Dduw, dysg ni i garu ein gelynion; dysg fi i garu fy nghelyn.

 

Nid yw Cariad yn cenfigennu.

O! Dduw, sut mae peidio cenfigennu wrth y rheini sydd â chymaint o gyfoeth, grym a dylanwad?

O! Dduw, dysg ni i gadw ein gwerthoedd yn gytbwys.

 

Nid yw Cariad yn ymffrostio.

O! Dduw, sut allwn ni beidio ag ymffrostio wrth gyhoeddi’r gwirionedd wrth y rheini sydd yn mynnu ymwrthod â’r gwirionedd hwnnw?

O! Dduw, dysg ni i wybod pryd i siarad, sut i siarad, a hefyd pryd i wrando, sut i wrando.

 

Nid yw Cariad yn ymchwyddo.

O! Dduw, sut mae peidio ymchwyddo yn achos cyfiawnder? Yr achos orau un - dy achos da di!

O! Dduw, dysg ni i fod yn ymwybodol o’n cyfyngiadau; ein bod weithiau yn gwneud camgymeriadau, gan nad ydym bob amser yn gweld yn iawn yr hyn oll sydd angen gweld.

 

Nid yw Cariad yn gwneuthur yn anweddaidd.

O! Dduw, sut mae bod yn rasol, yn gwrtais oddefgar ond hefyd yn ymrwymedig i'r hyn y gwyddom sy’n iawn?

O! Dduw, dysg fi, dysg ni i barchu ein brodyr a chwiorydd - ein brodyr a chwiorydd oll.

 

Nid yw Cariad yn ceisio ei eiddo ei hun.

O! Dduw, sut mae symud y tu hwnt i’r hyn sydd bwysig i ni; sut mae peidio ceisio diwallu ein dyheadau ac anghenion?

O! Dduw, dysg ni i weld y tu hwnt i’n anghenion ein hunain, a gweld anghenion pobl eraill, a gweld hefyd, fod ein ffyniant ni wedi ei blethu â ffyniant ein brodyr a chwiorydd drwy’r byd.

 

Ni chythruddir Cariad.

O! Dduw, mae pobl, dy bobl yn cythruddo pobl, dy bobl. Dwi’n cythruddo pobl, mae pobl yn fy nghythruddo i.

O! Dduw, dysg fi, dysg ni, nid dim ond i reoli tymer, a ffrwyno tafod, ond i ddysgu gan yr emosiynau tanbaid hyn mwy amdanom ni’n hunain, natur ein perthynas â Thi ac a’n gilydd.

 

Ni feddwl Cariad ddrwg.

O! Dduw, sut mae peidio meddwl yn ddrwg am bobl sy’n meddwl yn ddrwg amdanom ni? Sut mae peidio meddwl drwg am y bobl a’r systemau hynny sydd yn sarnu hawliau pobl?

O! Dduw, dysg ni i symud ymlaen o’r meddwl drwg a hynny er mwyn dechrau gwneud daioni.

 

Nid yw Cariad yn llawen am anghyfiawnderau, ond cydlawenhau y mae â’r gwirionedd.

O! Dduw, sut allaf ymatal rhag meddwl am yr hyn fydd yn ennill y ddadl i mi; yn sicrhau bod fy ochr i yn ennill, fy mhobl i yn fuddugol?

O! Dduw, dysg fi i arfer ac ymarfer Cariad - y cariad sydd eisiau i'r gwirionedd ennill, a hynny er lles dy bobl i gyd.

 

Y mae Cariad yn dioddef pob dim.

O! Dduw, sut mae ymdopi â'r pwysau, â chyfrifoldeb y cyfrifoldebau, yr ymdrechu diddiwedd i wneud hyn sy'n iawn?

O! Dduw, dysg ni i ymddiried yn dy ymddiriedaeth di ynom ni; yn dy ymddiriedaeth, ymddiriedwn; yn dy obaith, gobeithiwn, yn dy nerth, atgyfnerthwn.

 

Y mae Cariad yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim.

O! Dduw, sut all rhywun fel fi, rywrai fel ni garu fel hyn? ... bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati ... (Beibl.net)

Ein Duw, dysg fi, dysg ni nad ar fy mhen fy hun yr wyf yn caru, ond yn hytrach mewn cymuned â thi, ac â'm brodyr a chwiorydd oll, yma ac ym mhob man. Fy nghariad innau yn un don yn y môr hwn o gariad, yn un nodyn yn y symffoni, yn un seren mewn ffurfafen sêr lluosog!

 

Cariad byth ni chwymp ymaith.

O! Dduw, sut mae credu hyn â chymaint o fethiant ynom, ac o’n cwmpas.

O! Dduw, dysg ni, atgoffa ni, mae Cariad wyt ti.

... cariad mwy na hwn nid oes;

cariad lletach yw na’r moroedd,

uwch na’r nefoedd hefyd yw:

ymddiriedaf yn dragwyddol

yn anfeidrol gariad Duw.

(Mary Owen, 1796-1875)

Er pob methu yn ein cariad ninnau; dy Gariad, ein Duw byth ni chwymp ymaith.

 

 

(OLlE)

NEWYDDION Y SUL

February 14, 2016 Owain Evans

O fis i fis adlewyrchir holl ystod amrywiaeth ein haelodaeth yn a thrwy gyfrwng y gwahanol gyfeiriadau y cymer ein Hoedfa Gynnar; ceir ynddi enfys o wahanol bwyslais, thema a neges. Yr unig beth sydd gyson yw’r fendith a gawn fel eglwys. Yn arwain yr Oedfa Gynnar heddiw oedd Llŷr Gwyn Lewis a Heledd Lewis, a chawsom ganddynt oedfa hwyliog, berthnasol a chwbl Grist ganolog!

Yn sŵn hyfryd eiriau W. J. Gruffudd (CFf.:136)

Mae ei Ysbryd yn ymsymud

Eto dros y cread mawr,

Bendigedig fyddo’r Arglwydd,

Halelwia nef a llawr!

fe’n harweiniwyd ni gan Heledd at ddiwedd hanes y ddau yn cerdded i Emaus (Luc 24: 28-31). Cymerodd Llŷr yr awenau gan ddangos cyfres o luniau. Dyma’r cyntaf o ardal Magadan yn Rwsia. Beth i chi’n weld tybed?

Welwch chi rywbeth yn y llun isod?

Beth am y llun hwn gan Wenceslaus Hollar (1607-1677)? Chi’n gweld, tybed?

Beth pe bawn yn gwneud fel hyn?

Cafwyd ymateb da i’r lluniau hyn a sawl un arall, a phawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - yn trafod, a rhyfeddu wrth weld yr hyn oedd ynghudd ynddynt. Awgrymodd Llŷr fod yr hyn a ddylid ei weld, a’r hyn a welir, yn wahanol iawn i’w gilydd; ac wrth gwrs wedi gweld, mae’n amhosibl dad-weld! Mae enw i’r ffenomen hon, sef Pareidolia. Dyma’r duedd, sydd bron yn reddf ynom, i adnabod wynebau neu batrymau lle nad oes batrymau ac wynebau! Awgrymodd Llŷr fod rhywbeth tebyg yn digwydd yn ein hymwneud ag Iesu. Yng nghanol cymhlethdod cymhlethdodau ein byw a’n bod, mae’n anodd gweld y patrwm a phopeth yn ymddangos yn un cawdel anniben. O graffu’n ofalus, neu edrych ar rywbeth mewn ffordd wahanol daw wyneb Iesu i’r amlwg. Canfyddwn ei arweiniad a’i gynhaliaeth yn y sefyllfaoedd a phobl fwyaf annisgwyl. A ninnau bellach yng nghyfnod y Grawys yn troi’n golygon at y Pasg, cofiwn am Mair Magdalen yn gweld Iesu heb ei weld. Dywedodd y ‘garddwr’ hwnnw, ‘Mair’. Un gair, ‘Mair’, a gwelodd Mair mai Iesu ydoedd. Yr un modd, y ddau yn cerdded tuag Emaus; meddai Luc: rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef (24:16). Nid ydynt yn gweld y patrwm; mae wyneb Iesu wedi ei guddio rhagddynt. Wedi’r teithio, yn hwyr y dydd, mae’r ddau yn cymell y dieithryn hwn i aros gyda hwy, a gyda’r fendith a thorri bara: agorwyd eu llygaid hwy, ac adnabuasant ef (24:31). Maen nhw’n methu credu na welsant ef! 'Roedd yr holl arwyddion yno! Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro'r Ysgrythurau inni? (24:32)

Pan mae’r byd a’i bethau yn llawn sŵn a thrafferth, pan mae holl brysurdeb ein byw yn pwyso’n drwm arnom, dylem oedi, syllu eto, craffu o’r newydd, a gweld bod Iesu yno, yn gysur a chymorth i fyw. Unwaith y byddwn wedi gweld hynny, amhosibl fydd ei ddad-weld!

Wedi gair o weddi, fe’n harweiniwyd at eiriau J. Tywi Jones (1870-1948):

‘Rwy’n troi fy wyneb, Iesu da,

O bobman atat ti,

Ym merw blin y byd a’i bla

Dy wedd sy’n hedd i mi;

Ni chefais, naddo, mewn un man

Un balm i’m calon drist

Nac enw swyna f’enaid gwan

Ond enw Iesu Grist.

 

‘Rwyt ti i mi yn gadarn dŵr

Ym merw mawr y byd;

Cyfnewid mae meddyliau gŵr,

Tydi sy’r un o hyd;

Dan bwysau cynyrfiadau’r oes

Fe sudda f’egwan ffydd,

Ond yng nghadernid Crist a’i groes

Fy iachawdwriaeth sydd.

(CFf.:369)

Cafwyd budd a bendith o’r Oedfa hon, a mawr ein diolch i Heledd a Llŷr.

Rhwng y naill Oedfa fore a’r llall cafwyd cyfle am baned, sgwrs a brecwast ysgafn sydyn, heb anghofio’r nwyddau Masnach Deg a chyfrannu i’r Banc Bwyd.

‘Roedd ein Gweinidog yn dechrau heddiw ar gyfres pregethau’r Grawys. Y thema eleni yw Ffydd a Thrais. Wrth ddilyn newyddion y dydd, hawdd iawn ymollwng i ddigalondid ac anobaith; yn arbennig o glywed yr hyn a wna pobl yn enw crefydd. Canlyniad digalonni yw ymddieithrio, ymdawelu ac ymneilltuo.

Mae storm yn bygwth fflam ein ffydd heddiw. Amheuir crefydda a chrefyddwyr. Naturiol ddigon ymguddio - ymneilltuo. Mewn storm fel hon, mae mwy o alw arnom, nag erioed, i ddatgan mai pobl Dduw ydym.

Onid oes gwenwyn yn llifo yng ngwythiennau ein crefydd; onid dyna pam bod rhai yn ein plith yn pregethu casineb yn enw cariad? Ni thâl i’r un Cristion anwybyddu’r fath hwn o wyrdroi ar ein ffydd.

Pa bethau sydd yn rhaid i ni gydio'n dynn ynddynt er mwyn gweinidogaethu i fyd cas a gwaedlyd 2016? Gweddi ac addoliad, trafod ac ymdawelu! Gochelwn rhag ymddieithrio o gymdeithas a chynhaliaeth yr eglwys leol.

Er i’r Oedfa orffen; cafwyd cyfle i barhau ein gwasanaeth yn y Tabernacl, yr Âis. Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref.

Liw nos, Anobaith oedd testun ein sylw. Yn ddyddiol bron, cawn wybod faint o bobl a laddwyd, ymhle, a phwy oedd yn gyfrifol. Canlyniad anochel y gwybod hwn yw ymsuddo i anobaith tawel a dwfn. Awgrymodd y Gweinidog fod angen clywed neges profiad Primo Levi, 1919-87): Not only … selection for the gas chambers but also in the grind of daily life, believers lived better … Catholic and reformed priests, rabbis of various orthodoxies, militant Zionists, naive or sophisticated Marxists and Jehovah’s Witnesses - all held in common the saving force of their faith. Their universe was vaster that ours. They had a key and a point of leverage.

Soniai Levi am point of leverage: trosolbwynt. I bobl Dduw yng Nghrist, y trosolbwynt yw anogaeth Iesu: nac ofna, ond cred (Marc 5: 36). Mae ein hofnau yn real; mae trais, terfysg a lladd yn real. Mae’r Cristion â’i ofnau, ond nid oes ofn arno. Pam? Mae gennym echel a’n galluoga i symud holl bwysau ofn o’r neilltu: ... codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd (Ioan 16: 33).

Sul llawn a gafwyd - llawn bendith, llawn her. Bydd y Gweinidog y bore Sul nesaf (21/2), gyda’r plant a’r plantos, yn ystyried ychydig eto o arwyddocâd y rhif 6. Am weddill yr Oedfa, parhawn gyda’r gyfres Efengyl Marc a’r Flwyddyn 70 gan droi at Marc 3:31-35: 'Mam a Brodyr Iesu'.

Liw nos, parhawn gyda’r gyfres Ffydd a Thrais. Ideolegau mewn gwrthdrawiad (2 Corinthiaid 5:19) ffydd gwrthrych ein sylw y tro hwn.

Boed bendith.

PREGETH NOS SUL

February 14, 2016 Owain Evans

Grawys 2016: Ffydd a Thrais 2: yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd (Ioan 16:33)

Trais, terfysg, lladd. Efrog Newydd, Medi 2001 - 2996; Irac, 2007 - 796; Irac 2013 - 449; Iran 1978 - 422; Nigeria 2014 - 336; Beslan 2004 - 334; Beirut 1983 - 307; Lockerbie 1988 - 270; Angola 2001 - 252; Bombay 1993 - 252; Kenya 1998 - 224; Mumbai 2006 - 209; Bali 2006 - 202; Madrid 2004 - 191. Yn ddyddiol bron, cawn wybod faint o bobl a laddwyd, ymhle, a phwy oedd yn gyfrifol. Canlyniad anochel cael gwybod cymaint yw ymsuddo i anobaith tawel a dwfn. Mae’r anobaith hwn yn lladd; lladdir yr ysbryd o’n mewn gan anobaith. Mae angen eli i ddolur anobaith.

Yr Ail Ryfel Byd. Gellid dweud nad y drwg a orfu. Amhosibl dweud mai daioni a orfu; awgryma hynny fod y rhyfel yn wrthdaro syml, glân a thryloyw rhwng y da a’r drwg. Gwenwyna rhyfel pob daioni. Pam? Rhaid defnyddio’r union ddrwg a geisiwn ei ddileu i ddileu’r drwg. Bu’r Drydedd Reich yn ddygn, dyfal a dyfeisgar, a’r canlyniad yn Ewrop rhwng 1933 a 1945 oedd, nid casineb mympwyol tyrfa ddilywodraeth, ond ymgais fwriadus, systematig i ddifa’r Iddewon, yn ddynion a merched, hynafgwyr a phlant. Ni lwyddodd yr ymgais oherwydd dycnwch dyfal a dyfeisgar yr ysbryd dynol. Gall yr ysbryd hwnnw fod yn arwrol o fawr, ac yn rhyfedd o gadarn.

Not only …selection for the gas chambers but also in the grind of daily life, believers lived better … Catholic and reformed priests, rabbis of various orthodoxies, militant Zionists, naive or sophisticated Marxists and Jehovah’s Witnesses - all held in common the saving force of their faith. Their universe was vaster that ours. They had a key and a point of leverage. (Primo Levi, 1919-87) Mae angen clywed hyn! Pam? Primo Levi; awdur, dioddefwr, goroeswr, ond nid credadun. Ymwrthododd â chrefydda a ffydd ymhell cyn ei gyfnod yn Auschwitz. Ni fu’r hyn a welodd ar waith yn cynnal a chadw credinwyr yno yn ddigon i greu credadun ohono. Gwrthododd gredu, ymwrthododd â ffydd, ond gwelodd fod pobl ffydd yn meddu ar rywbeth nad oedd ganddo: Their universe was vaster … They had a key and a point of leverage. Ymlyniad i rywbeth fwy na’u hunain, a’r ymlyniad hwnnw yn gyfrwng i wynebu ar erchylltra Auschwitz a goroesi - mewn ysbryd, os nad mewn corff.

Bertrand Russell (1872-1970). Cafodd ei arwain i garchar am ei ran yn y brotest yn erbyn arfau niwclear. Pam mynd i’r fath drafferth? Pam oedd Bertrand Russell yn teimlo’r rheidrwydd i fynd i brotestio? To be truly human, meddai, it is necessary to care deeply for things which will not come to pass until long after we’re gone. Un o hanfodion ein dynoliaeth yw cydnabod ein dyled i’r gorffennol: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt (Ioan 4: 38). Nid digon cydnabod ein dyled i ddoe, rhaid hefyd diogelu, datblygu a throsglwyddo'r etifeddiaeth i’r dyfodol. Canlyniad anobaith yw peidio rhag-ddarparu, gan gredu nad oes dyfodol. Nid credadun Bertrand Russell. Anodd peidio gweld yn ei argyhoeddiad adlewyrchiad o’n hargyhoeddiad fel pobl ffydd.

Soniai Levi am point of leverage, trosolbwynt. I bobl Dduw yng Nghrist, y trosolbwynt yw anogaeth Iesu: nac ofna, ond cred (Marc 5: 36). Mae ein hofnau yn real; mae trais, terfysg a lladd yn real. Mae’r Cristion â’i ofnau, ond nid oes ofn arno. Pam? Mae gennym echel a’n galluoga i symud holl bwysau ofn o’r neilltu: ... codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd (Ioan 16: 33). Mae’r afael sicraf fry meddai Pedr Fardd (1775-1845; C.Ff.677). Y ffaith honno yw’r point of leverage. Nid dal gafael ar Dduw yw ffydd; ffydd yw credu, mynnu credu, annog-gredu fod Duw yn dal ei afael arnom ni, yn dal ei afael ar y byd, ar bawb o bob y byd, a bod ei afael yn oesol ddiogel.

‘Rydym yn byw mewn cyfnod o drais, terfysg a lladd. Mae ein hofnau yn real; ond nid oes ofn arnom. The arc of the moral universe is long, but it bends towards justice, freedom, equality and love (Martin Luther King, 1929-1968). Canlyniad anochel cael gwybod cymaint am gymaint o erchylltra yw ymsuddo’n raddol i anobaith tawel, dwfn. Canlyniad anobaith yw ofn. We have a key and a point of leverage. Yn wyneb uffern trais, terfysg a lladd, credwn fod yna un peth sy’n gallu mynd - fel dywedodd Pantycelyn (1717-1791) - yn is nag uffern ac yn uwch na’r nef: nac ofna, ond cred ... codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd.

PREGETH BORE SUL

February 14, 2016 Owain Evans

Grawys 2016: Ffydd a Thrais 1: Rhagymadrodd

Wrth ddilyn newyddion y dydd, hawdd iawn ymollwng i ddigalondid ac anobaith; yn arbennig o glywed yr hyn a wna a dywed pobl yn enw crefydd. Er cynnwys elfennau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol, tuedda crefydd i drydanu’r tensiynau - ei ‘sancteiddio’. Tensiwn a ‘sancteiddiwyd’ yw’r dyfnaf, cymhlethaf a pheryglaf? Oni cheir pwyslais cyson - a chamarweiniol - fod rhyfel sanctaidd wrth wraidd Islam? Na anghofiwn holl erchyllterau'r Croesgadau; hynny dan arwydd y Groes, ac er gogoniant i Dduw! Nid crefydd Islam sydd beryglus, crefydd sydd beryglus. O’r cychwyn, ysbrydolwyd pobl gan grefydd i ladd. Onid addolwyr oedd Cain ac Abel (Genesis 4:1-15); mae i’r allor a’r offrwm eu lle ym mywyd y ddau. Erchylltra oesol gyfoes yw bod y weithred o offrymu yn troi’n achlysur i ladd. Dros y canrifoedd bu crefydd, y grym a ddylai uno pobl gyda’i gilydd mewn cwlwm tangnefedd a gwasanaeth, yn gyfrwng i greu ymrafaelion a rhwygiadau. Yn ei Efengyl nid cynnig crefydd newydd a wna Iesu. Yn hytrach, cynnig fywyd newydd. Oni gorwedd yr un pwyslais wrth wraidd Islam ac Iddewiaeth? Cyfrwng yw crefydd, nid nod; y nod yw bywyd newydd. Pan dry crefydd yn nod, yr unig gyfrwng i gyrraedd y nod yw trais; cysegru gorthrwm, sancteiddio bom, gwn a chyllell. Ffydd yw crefydd fel cyfrwng; eilunaddoliaeth yw crefydd fel nod. Canlyniad digalonni o wrando ar y newyddion yw ymddieithrio, ymdawelu ac ymneilltuo.

Ymneilltuo: "I ddechrau daethant am yr Iddewon ac ni chodais fy llais - achos doeddwn i ddim yn Iddew. Yna daethant am y comiwnyddion ac ni chodais fy llais ... Yna daethant amdanaf - a doedd neb ar ôl i godi llais ar fy rhan i." Geiriau Martin Niemöller (1892-1984), diwinydd a fu’n ddraenen ym mhawen Adolf Hitler (1889-1945). Yn 1937, rhyw wythnos cyn ei garcharu gan y Natsïaid, pregethai Niemöller ar y testun: ... chwi yw goleuni'r byd (Mathew 5:14a). Meddai, "oni themtir ni weithiau i ddwyn y gannwyll i mewn a’i chadw’n ddiogel nes i’r storm fyned heibio ... Ond peidiwn â gwneud hynny! Oni ddywed Iesu ... Rhowch y gannwyll ar ganhwyllbren, a gadewch y canlyniadau i mi." (Dachau Sermons 1945; Harper & Brothers). Er yng nghanol storm enbyd, credodd Niemöller na allai gwyntoedd geirwon fygwth na diffodd y fflam a losgai ar gannwyll ei ffydd yn Nuw. Mae storm yn bygwth fflam ein ffydd heddiw. Amheuir crefydda a chrefyddwyr. Naturiol ddigon ymguddio. Hawdd ddigon, â’n ffydd allan mewn tywydd mawr, yw i grefydd greu ymneilltuwyr ohonom. Mewn storm fel hon, mae mwy o alw arnom, nag erioed, i ddatgan mai pobl Dduw ydym. Duw sy’n mynnu symud pob pellter i fod gyda ni i’n cymell i droi ein ffydd ynddo yn ffordd iach o ymwneud ag eraill. Ni yw cenhadon ei bwrpas cariadlawn, ei weithwyr mewn cymdeithas.

Enynnaist ynof dân perffeithiaf dân y nef

Ni all y moroedd mawr, ddiffodd mono ef ...

(William Williams, Pantycelyn,1717-91; C.Ff. 314)

Ymdawelu: Onid oes gwenwyn yn llifo yng ngwythiennau ein crefydd; onid dyna pam bod rhai yn ein plith yn pregethu casineb yn enw cariad. Er na thâl i’r un Cristion anwybyddu’r fath hwn o wyrdroi ar ein ffydd, ein tueddiad yw tawedogrwydd. Mae tawedogrwydd pobl ffydd yn llafar; mae ein hamharodrwydd ni i godi llais, i godi llaw a chodi ar ein traed yn erbyn rhywbeth yn cael ei weld a’i ddeall fel arwydd o’n cefnogaeth i’r peth hwnnw.

Ymddieithrio: Pan glywodd Iesu am lofruddiaeth Ioan Fedyddiwr bu iddo chwilio am le unig o’r neilltu (Mathew 14:13). ‘Roedd angen amser arno i geisio ymdopi â sioc ei golled. Ar yr union adeg pan oedd am iddo gael amser ar ei ben ei hun, glaniodd i ganol tyrfa o bobl! Tosturiodd wrthynt, ac iachau’r cleifion yn eu plith. Er diwallu anghenion y dyrfa, ni laciodd ei afael ar ei anghenion ei hun. Wedi anfon y disgyblion o’i flaen ... aeth i fyny’r mynydd o’r neilltu i weddïo (Mathew 14: 23). Wrth barhau ei weinidogaeth i fyd cas a gwaedlyd, mynnodd Iesu neilltuo amser i weddïo. Gweddi ac addoliad, trafod ac ymdawelu! Dyma’r union bethau sydd yn rhaid i ni gydio'n dynn ynddynt er mwyn gweinidogaethu i fyd cas a gwaedlyd 2016.

Gochelwn! Pethau peryglus yw ymddieithrio, ymdawelu ac ymneilltuo.

SANT FFOLANT

February 14, 2016 Owain Evans

O Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy’n caru wedi ei eni o Dduw ac yn adnabod Duw. Yr hwn nad yw’n caru, nid yw’n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw. Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom: bod Duw wedi anfon ei unig Fab i’r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef (1 Ioan 4:7-9).

Dydd Sant Ffolant - St Valentine’s Day. Ni wyddom pwy oedd Valentine ond ceir sawl chwedl amdano. Mae un o’r storïau’n dweud mai esgob oedd mewn cyfnod pan oedd yr ymherodr Rhufeinig yn llunio deddf i wahardd unrhyw filwr Rhufeinig rhag priodi. Credai’r ymherodr na fyddai ei filwyr yn ymladd eu gorau, yn ei ryfeloedd niferus, os oedden nhw’n ofni marw mewn brwydr oherwydd eu cariad mawr tuag at eu gwragedd a’u teuluoedd.

Dywed y stori bod yr Esgob Valentine wedi cyhoeddi fod deddf yr ymherodr yn anghyfiawn - ‘roedd gan ferched a dynion hawl i briodi a magu teuluoedd. Dechreuodd milwyr fynd i siarad â’r esgob a threfnodd eu priodi y tu ôl i ddrysau caeedig. Clywodd yr ymherodr am hyn ond safodd Valentine yn ddewr wrth amddiffyn ei hun o’i flaen. Rydw i wedi addo gwasanaethu Duw sy’n ein caru ni ac rydw i’n ufuddhau i’w ddeddf ef. Yn ôl y chwedl, taflwyd yr Esgob Valentine i garchar lle bu farw ar y diwrnod hwn.

O! Dduw, boed i’th gariad ddysgu ein cariad ninnau. Gwna ni’n gyfrangau dy deyrnas o gariad er mwyn Iesu Grist. Amen.

 

(OLlE)

ATEB POS PRYNHAWN GWENER

February 13, 2016 Owain Evans

Ymerawdwr a orchmynnodd i’r holl Iddewon fynd allan o Rufain - CLAWDIUS (Actau 18:2)

Gŵr a fu’n gysur i Paul yn Rhufain ac Effesus - ONESIFFORUS (2 Timotheus 19)

Putain; arwr ffydd - RAHAB (Hebreaid 11:31)

Cristion Rhufeinig y gyrrodd Paul ato ef, ynghyd â’i chwaer - NEREUS (Rhufeiniad 16:15)

Gŵr a ddaeth â rhoddion o un o eglwysi Macedonia i Paul - EPAFFRODITUS (Philipiaid 4:18)

Milwr Rhufeinig a achubodd fywyd Paul ddwywaith - LYSIAS (Actau 23:26 - 24:22)

Dinas lle bu’r Iddewon yn cyffroi meddyliau’r Cenhedloedd yn erbyn y Cristnogion - ICONIUM (Actau 14: 2)

Lle bu Abraham - UR (Genesis 11:31)

Aeth hwn gyda Paul ar un o’i deithiau - SECWNDUS (Actau 20: 4)

CORNELIUS - Actau 10

Yr oedd rhyw ŵr yng Nghesarea o’r enw Cornelius, canwriad o’r fintai Italaidd, fel y gelwid hi: gŵr defosiynol ydoedd, yn ofni Duw, ef a’i holl deulu (Actau 10:1).

Er mai Paul oedd Apostol y Cenhedloedd, Pedr oedd rhagflaenydd Paul; Pedr oedd y cyntaf i dderbyn cenedl-ddynion fel aelodau llawn o Eglwys y Crist byw.

Tydi sydd yn caru pawb, ac a ddanfonaist Dy Fab fel y datguddiai Dy gariad i’r byd, dysg i ninnau fyw yn y byd fel y byddom yn Dy ddatguddio i bobl. Amen.

(OLlE)

POS PRYNHAWN GWENER

February 12, 2016 Owain Evans

Ffurfia’r llythrennau cyntaf yn enwau’r bobl a llefydd hyn enw milwr:

Ymerawdwr a orchmynodd i’r holl Iddewon fynd allan o Rufain.

(Actau 18:2)

Gŵr a fu’n gysur i Paul yn Rhufain ac Effesus.

(2 Timotheus 19)

Putain; arwr ffydd.

(Hebreaid 11:31)

Cristion Rhufeinig y gyrrodd Paul ato ef, ynghyd â’i chwaer.

(Rhufeiniad 16:15)

Gŵr a ddaeth â rhoddion o un o eglwysi Macedonia i Paul.

(Philipiaid 4:18)

Milwr Rhufeinig a achubodd fywyd Paul ddwywaith.

(Actau 23:26 - 24:22)

Dinas lle bu’r Iddewon yn cyffroi meddyliau’r Cenhedloedd yn erbyn y Cristnogion.

(Actau 14: 2)

Lle bu Abraham.

(Genesis 11:31)

Aeth hwn gyda Paul ar un o’i deithiau.

(Actau 20: 4)

Daw’r ateb yfory.

Yn y cyfamser, mae croeso i chi gynnig ateb trwy gyfrwng dudalen 'CYSYLLTU' y wefan hon, neu @MinnyStreet

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021